Sgwrs gyda Gwydion a Catrin Lewis, Rheolwyr Presennol Bryn-y-Groes
Ar ol degawd o wasanaeth, mi fydd Gwydion a Catrin Lewis yn ffarwelio â Bryn-y-Groes yn 2023. Wrth i MEC fynd ati i ddod o hyd i reolwyr newydd, dyma flas o weithgarwch y degawd diwethaf a cipolwg o fywyd dydd-i-ddydd y rheolwyr presennol.
Soniwch ychydig am Fryn-y-groes a’r math o weithgareddau sy’n digwydd yno.
Efallai y byddwch yn synnu i’n clywed ni’n dweud nad oes dim byd arbennig am Fryn-y-Groes! Ond mae rhywbeth arbennig am yr hyn sy’n digwydd yma, am y bobl sy’n dod yma, ac am y Duw sydd yng nghanol y cyfan sy’n digwydd yma. Adeilad hyfryd ar gyrion y Bala yw Bryn-y-groes, yng nghanol gerddi hardd, mewn rhan arbennig o’n gwlad. Mae yma brif adeilad traddodiadol gydag ystafelloedd ymgynnull a nifer o ystafelloedd gwely o amrywiol faint i gyfanswm o 50 o bobl. Mae yma gaban chwaraeon sy’n boblogaidd gan y gwersyllwyr. Ers 2019 mae yma adeilad newydd o’r new Bryn Uchaf sy’n cynnig ystafelloedd gwely ychwanegol ac ystafell aml bwrpas a ellir ei ddefnyddio hefyd fel llety hunan arlwyol i grwp o hyd at 25. Mae yma hefyd fflat bychan hunan gynhwysol o’r new Noddfa. Mae amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yma. Bydd y mwyafrif o bobl yn ymwybodol o’r gwersylloedd haf, ond efallai na fyddant yn ymwybodol bod y ganolfan yn cael ei ddefnyddio am y rhan helaeth o’r flwyddyn. Rydyn ni’n lletya cynhadleddau i weinidogion a myfyrwyr, cyrsiau i ysgolion, gwyliau i Gristnogion a phenwythnosau i eglwysi.
Beth yw natur eich rôl ym Mryn-y-Groes?
Rheolwyr ydyn ni, ond efallai bod hynny’n cyfleu swydd ar model rôl busnes. Mewn gwirionedd rydyn ni’n gofalu am ochr weinyddol y gwaith ond hefyd am y ty a’r gerddi, am bawb sy’n lletya yma, ac am y staff a’r gwirfoddowyr. Mae ochr greadigol i’r gwaith ac mae agwedd ysbrydol i’r gwaith. Ar rai diwrnodau byddwn yn y swyddfa, ac ar ddiwrnodau eraill byddwn yn gweithio yn yr ardd, neu’n cynnal a chadw yn y ty! Weithiau mae’r lle yn llawn swn ymwelwyr sydd angen eu bwydo a’u croesawu, ac weithiau mae’r lle yn teimlo yn reit dawel a gwag a chyfle i ni fwrw mlaen a thasgau amrywiol!
Beth yw ethos Bryn-y-groes?
Rydyn ni’n ceisio rhoi croeso cynnes yn enw ein Gwaredwr, gan greu awyrgylch gartrefol, ddiogel, hael a chynnes, sy’n adlewyrchu cariad Crist. Gobeithio bod pobl yn teimlo eu bod yn gallu cicio eu ‘sgidiau i ffwrdd, gwisgo eu sliperi ac ymlacio yng nghymdeithas brodyr a chwiorydd yn y ffydd. Hoffen ni bod pawb yn teimlo mai eu hwythnos nhw ym Mryn-y-groes yw wythnos bwysicaf y flwyddyn i ni. Mae bywyd bob dydd yn brysur iawn i’r mwyafrif o bobl, a chredwn bod rhywbeth arbennig iawn am gael dod i ffwrdd o fwrlwm y byd, gan roi amser o’r neilltu i fod yn swn Gair Duw, gyda’i bobl Ef.
Beth ydych chi wedi ei ddysgu wrth weithio ym Mryn-y-groes?
Mae hwnna’n gwestiwn anodd! Wrth gychwyn ar y gwaith bron i ddeng mlynedd yn ol, roedd y ddau ohonom yn teimlo yn ddibrofiad ac ofnus. Ar adegau roedden ni’n teimlo mai dim ond jest cadw ein pennau uwchben y dwr oedden ni. Rydyn ni wedi dysgu bod gweddi yn hanfodol a bod Duw yn ein cynnal. Yn y pendraw fe sy’n rhoi pob dawn, pob nerth, pob gallu a phob doethineb. Ar adegau pan roedden ni wedi cyrraedd pen ein tennyn, mae Duw wedi adnewyddu ein nerth ac wedi’n helpu i ddatrys problemau – y tu hwnt i’n gallu naturiol ni. Rydyn ni hefyd wedi dysgu ein bod yn gallu ymddiried yn llwyr yn rhagluniaeth Duw. Rydyn ni’n ddiolchgar ei fod wedi bod yn garedig i ni mewn cymaint o ffyrdd. Hyd yn oed pan mae problemau wedi codi rydyn ni’n gallu olrhain ffyddlondeb Duw drwy’r cyfan. Mae Duw bob amser yn dda.
Gallwch chi sôn am ambell uchafbwynt o’r ddegawd ddiwethaf?
Rydyn ni wedi mwynhau’r gwaith yn fawr, ac er ei fod yn waith caled rydyn ni’n ei chyfri hi’n fraint fawr bod Mudiad Efengylaidd Cymru wedi ymddiried ynom i ofalu am Bryn-y-groes. Cyfraniad anuniongyrchol o’r golwg sydd gyda ni yn nifer o’r digwyddiadau, ond rydyn ni wedi cael boddhad mawr o wybod bod ein gwaith ni yn galluogi’r pethau yma i ddigwydd, a bod Duw, yn ei ras, yn bendithio ac yn achub pobl ym Mryn- y-Groes. Wrth edrych yn ol yr hyn sy’n sefyll allan yw’r holl bobl annwyl yr ydyn ni wedi cwrdd a nhw. Un uchafbwynt yw esiampl y Cristnogion aeddfed yn Spring Break, Autumn Break a Hafan sydd wedi byw y bywyd Cristnogol ac yn parhau i fod wrth eu bodd ym mhethau Duw. Uchafbwynt arall yw bwrlwm ieuenctid a myfyrwyr, o ddifri eisiau tyfu yn y ffydd a thystio i’w ffrindiau. Mae hynny’n beth anarferol yn yr hinsawdd sydd ohoni. Ac rydyn ni wrth ein bodd yn clywed y canu yn y cynhadleddau gweinidogion, gan hyderu bod Duw yn eu bendithio ac y bydd Duw yn adeiladu ei eglwys drwyddyn nhw wrth iddyn nhw ddychwelyd i’w cartrefi. Uchafbwynt hollol bersonol yw’r atgofion sy’n codi o fod wedi cael y fraint o alw Bryn-y-groes yn gartref i ni. Mae’n le hyfryd i fyw, gan fwynhau yr ardd a byd natur – byddwn yn gweld eisiau’r lle a’r gwaith yn fawr iawn.
Am fwy o wybodaeth am y swydd, a manylion ymgeisio, cliciwch yma: Swydd BYG