Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:
Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.
Polisi preifatrwyddBoed i chi gael blwyddyn newydd fendithiol Ond y mae’r rhai sy’n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio. Eseia 40:32 Tîm MEC
Mewn byd sydd yn newid yn barhaus, a lle gwelwn effeithiau pechod mewn gymaint o ffyrdd, rydym yn diolch am wir obaith y Nadolig hwn. Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau. Mathew 1:21 Diolch am eich partneriaeth yn yr Efengyl unwaith…
Bydd y Swyddfa ar gau tan 4ydd o Ionawr. Os ydych angen cysylltu gyda rhywun yn ystod y cyfnod yma, plis gyrrwch ebost i steffanjob@mudiad-efengylaidd.org Pob bendith
Gwyliwch ar YouTube Gweithgareddau am ddim ar gael ar y tudalen hwn Gyda diolch anferthol i Lois Adams, Bedwyr Lewis a Luned Gwawr Evans am eu holl gwaith.
Os hoffech archebu unrhyw adnoddau MEC ar gyfer cyfnod y Nadolig neu’r Blwyddyn Newydd, archebwch erbyn Dydd Iau 17 o Rhagfyr os gwelwch yn dda. Bydd y swyddfa ar gau rhwng 21ain o Ragfyr a 4ydd o Ionawr. Diolch yn fawr! Siop Llyfrau Arlein
Awr i Blant – Nadolig!! Dyma flas o’r hyn fydd yn cael ei ddarlledu am 3yh, pnawn Sul Rhagfyr 20 ar ein sianel YouTube neu ar Facebook.
Roeddem am gyfathrebu â’n ffrindiau a’n cefnogwyr ychydig o newyddion am ein tîm staffio yn swyddfeydd MEC. Fel y gwyddom i gyd, bu hwn yn gyfnod anodd i bawb sy’n byw yng Nghymru. Mae MEC hefyd wedi wynebu llawer o newidiadau a heriau gwirioneddol ac anodd, ac un ohonynt yw nad ydym wedi gallu cynnal…
Rhifyn Nadolig o Holi! Y Nadolig hwn mae MEC yn cynhyrchu cylchgrawn dwyieithog byr i rannu’r newyddion da am Iesu. Mae’r cylchgrawn hwn yn cael ei gynnig i Eglwysi, ac mae’r manylion isod: Cyflwyniad clir, cynnes heb unrhyw jargon Cristnogol o’r efengyl; Wedi’i ysgrifennu’n arbennig ar gyfer pobl Cymru; Tystiolaethau byr, erthyglau clir, tudalen plant,…
Bydd y cyfarfod Brawd nesaf yn digwydd Nos Lun (2il Tachwedd) am 8.00. Bydd hwn yn gyfle i rannu a gweddio eto – croeso cynnes i chi. Mae’n gymaint o gysur i fedru cyfarfod fel yma a chynnal breichiau ein gilydd.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynhyrchu rhifyn Nadolig o Ask! Y Nadolig hwn mae MEC yn cynhyrchu cylchgrawn dwyieithog byr i rannu’r newyddion da am Iesu. Mae’r cylchgrawn hwn yn cael ei gynnig i Eglwysi, ac mae’r manylion isod: Cyflwyniad clir, cynnes heb unrhyw jargon Cristnogol o’r efengyl; Wedi’i ysgrifennu’n arbennig ar gyfer pobl…
CALENDR HYFRYD GYDA LLUNIAU LLIW O OLYGFEYDD O BOB RHAN O GYMRU AC ADNOD DDYDDIOL Pris (yn cynnwys postio) 1 copi: £3.95 yr un Pecyn o 5: £17.50 (£3.50 yr un) Pecyn o 10: £30 (£3 yr un) Pecyn o 25: £62.50 (£2.50 yr un) Pecyn o 50: £100 (£2.00 yr un) Archebu…
Gan fod Ben Thomas wedi ei ddedfrydu heddiw rydym yn ail ryddhau’r datganiad a rannwyd wedi iddo bledio’n euog. Ar ddydd Gwener, 17 Gorffennaf 2020 plediodd Ben Thomas yn euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug i 40 cyhuddiad o natur rywiol yn erbyn oedolion a phlant a ddigwyddodd rhwng 1990 a 2019. Roedd yn…
Croeso i ddiwrnod olaf y Gynhadledd ar lein Dydd Mercher 8.30 – Clwb ‘Awr Blant’ yng ngofal Lois Adams a Bedwyr Lewis. Cyfle i ddysgu mwy am Iesu drwy storiâu, gweithgareddau a chanu. Yn arbennig i blant oed cynradd. (Gwylio hysbys yma) Adnoddau i lawrlwytho yma 9.00 – Cyfarfod Gweddi ar Zoom. Cyfle i alw…
Gwyliwch nawr ar YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=jruYjtSphmQ neu Wefan MEC: https://www.mudiad-efengylaidd.org/2020/08/nos-fawrth-bywyd-2020/
Gwyliwch yr oedfa agoriadol heno am 6.00y.h lle bydd Dafydd Job a Dewi Tudur yn ein harwain. Sut mae Gwrando, Gwylio a Chymryd rhan? Gellir gwylio’r oedfa heno yn fyw neu ar alw ar ein sianel YouTube. Defnyddiwch y ddolen hon, neu glicio ar y botwm isod. Gellir gwylio’r oedfa heno yn fyw neu ar…
Wel, rydym yn gwybod na fyddwn erioed yn gallu ail-greu’r profiad anhygoel rydych yn cael ar wersyll yr haf dros y we, ond rydym ond mynd i geisio creu gweithgareddau sydd bron yr un mor dda! Dros dri diwrnod, Awst 11-13, fyddwn yn rhoi fideos i fyny i chi sy’n llawn o atgofion o’r haf…
Go brin y byddai unrhywun wedi rhagweld beth fyddai’r sefyllfa ar gyfer Cynhadledd 2020 wrth i ni ffarwelio gyda’n gilydd ar nos Wener olaf Cynhadledd y llynedd! Mae hi wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn ac mi fyddwn ni’n sicr yn methu’r gymdeithas o fod gyda’n gilydd eleni yn Aberystwyth. Ond rydym yn gwybod fod…
Bob blwyddyn mae MEC yn cynhyrchu Calendr lliw gydag adnod ddyddiol a lluniau o olygfeydd o bob rhan o Gymru. Rydym yn gobeithio gwneud yr un peth eleni, ac mae’r adnodau yn eu lle, ond mae angen lluniau! Rydym yn chwilio am unigolion fyddai’n barod i rannu lluniau maent wedi eu tynnu o rannau gwahanol…
Bydd y Gynhadledd yn digwydd ar lein eleni gan gychwyn ar nos Sul (Awst 16) ac yn gorffen nos Iau (20Awst). Bydd oedfaon, gwaith plant, gwaith ieuenctid, cwrdd gweddi a sesiynau rhyngweithiol. Siaradwyr – Dafydd Job, Aron Treharne, Steffan Jones, John Treharne. Cyflwynwyr – Rhun a Lowri Emlyn Gwaith Plant – Lois Adams a Bedwyr…
Ni allem fyth ail-greu gwersylloedd ar-lein, ond nid oeddem am adael pobl ifanc heb unrhyw beth dros fisoedd yr haf – gwyddom fod y cyfnod cloi wedi bod yn arbennig o anodd arnynt. Dros fis Awst rydym yn cynllunio cyfnod o dair wythnos o sesiynau gwersyll ar-lein yn y ddwy iaith. Bydd y sesiynau hyn…
Mae Mudiad Efengylaidd wedi rhoi datganiad pwysig ar y wefan ar gyfer ein cefnogwyr – yma
Cyhoeddodd Mark Drakeford, o ddydd Llun ymlaen (13 Gorffennaf), y mannau addoli ddechrau ailagor ac ailddechrau gwasanaethau’n raddol pan fyddant yn barod i wneud hynny mewn modd diogel. Rydym wedi dysgu wedi’r cyfnod clo, ei bod yn dda i ni weithio gyda’n gilydd lle y medrwn. Dyma fi felly yn gyrru neges sydyn i roi…
Mewn ymateb i’r sefyllfa bresennol, mae MEC yn fwy argyhoeddedig nag erioed o’r angen am weddi ac rydym wedi cynhyrchu Galwad i Weddi ychwanegol i annog Cristnogion i ymuno â ni i weddïo dros Gymru yn ystod yr haf. Sut i gymryd rhan? Ymunwch â’n rhestr bostio gweddi trwy’r wefan i dderbyn diweddariadau dyddiol. Rhannwch…
Mae MEC wedi lansio gwefan newydd ddwyieithog i rannu’r efengyl. Mae’r wefan yn seiliedig ar y Cylchgrawn Holi, sydd wedi ei ddosbarthu gyda miloedd o bobl dros y blynyddoedd diwethaf. Gall eglwysi a Christnogion rannu’r erthyglau yn rhydd. Mae pedair adran i’r wefan: Storïau – Yn yr adran yma, fe gewch nifer o erthyglau a…
Gwneud Marc: Darllen a deall y newyddion da am y Brenin Iesu Bwriad yr astudiaethau hyn yw helpu Cristnogion ifainc i wneud yr hyn mae llawer o Gristnogion hŷn yn ei gael yn anodd, sef darllen a deall y Beibl! Byddwn yn cynhyrchu 55 o astudiaethau o Efengyl Marc. Bydd bod astudiaeth yn cynnwys darlleniad…
Mae MEC wedi lansio gwefan newydd i helpu eglwysi yn ystod y cyfnod anodd ond o gyfle hwn. Steffan Job sy’n esbonio… Rydym yn ymwybodol fod gymaint yn mynd ymlaen ar hyn o bryd ac mae llawer wedi cysylltu i ofyn am gyngor. Mae’n anodd i eglwysi dderbyn y newyddion diweddaraf ac mae llawer y…
Mae Defosiynau Dyddiol MEC bellach ar gael ar adran ‘Adnoddau’ y wefan. Cliciwch yma i weld yr un cyntaf. Maent hefyd yn cael eu cyhoeddi ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, a chofiwch fod modd tanysgrifio i’w dderbyn dros e-bost trwy ddilyn y ddolen hon.
Firws Corona – 19/3/2020 diweddariad i’r cyhoedd gan MEC Yn dilyn ein datganiad ddoe ynghylch y sefyllfa sydd wedi codi o ganlyniad i’r firws rydym yn gyrru diweddariad ynghylch digwyddiadau’r haf, ein sefyllfa ariannol a rhai o’r ffyrdd yr ydym am geisio helpu Cristnogion ac Eglwysi dros y misoedd nesaf. Wedi llawer o weddi ac…
Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae MEC wedi penderfynu gyrru defosiwn dyddiol allan dros ebost. I dderbyn y defosiwn, cliciwch yma
Firws Corona – 18/3/2020 diweddariad i’r cyhoedd gan MEC Fel y gwyddoch yn wyneb y firws COVID-19 rydym yn wynebu sefyllfa heriol sy’n newid yn ddyddiol. Diolchwn ein bod yn medru ymddiried yn ein Tad cariadus sy’n rheoli pob dim yn ystod y cyfnod ansicr yma. Rydym hefyd yn fwy argyhoeddedig nag erioed mai’r Efengyl…
Mae Rhifyn Gwanwyn y Cylchgrawn Efengylaidd ar y ffordd – tanysgrifiwch yma os hoffech dderbyn copi.
Mae MEC yn fwy argyhoeddedig nag erioed am yr angen am weddi ac felly rydym yn parhau gyda’r Alwad i Weddi ac yn annog Cristnogion i weddio dros Gymru yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth. Sut mae bod yn rhan? Ymuno a’r rhestr gweddi e-bost i dderbyn y newyddion diweddaraf. Lawrlwytho’r cynllun gweddi drwy’r wefan…
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y Mini Gwersyll wythnos nesaf ym Mryn-y-groes, y Bala. Cliciwch yma am fwy o fanylion.
Croeso i bawb yn Eglwys Gymunedol y Glannau, Abertawe, Dydd Sadwrn yma, ar gyfer diwrnod o hyfforddiant ac anogaeth. Ewch i’r dudalen hon am fwy o wybodaeth.
Croeso i bawb yn Eglwys Sure Hope, Bae Colwyn, Dydd Sadwrn yma, ar gyfer diwrnod o hyfforddiant ac anogaeth. Ewch i’r dudalen hon am fwy o wybodaeth.
7:30yh heno Siaradwr: Dr Eryl Davies Pwnc: A Biblical and Pastoral Response to Domestic Abuse Cofrestru yma
“Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, yn cysuro ei holl fannau anghyfannedd; bydd yn gwneud ei hanialwch yn Eden, a’i diffeithwch yn ardd yr ARGLWYDD; ceir o’i mewn lawenydd a gorfoledd, emyn diolch a sain cân.” Eseia 51:3 Mae’r Nadolig wedi mynd heibio ac rydym yn awr yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd o’n…
Byddwn yn derbyn llawer o anrhegion y Nadolig hwn dwi’n siwr, ond all dim un gymharu a’r rhodd mwyaf rhyfeddol erioed! Gweddiwn y byddwch yn profi bendith yr Arglwydd y Nadolig hwn wrth i chi gofio am Iesu. Nadolig Llawen gan bawb yn y Mudiad Mi fydd y swyddfeydd ar gau o’r 23ain o Ragfyr…
Yn anffodus oherwydd prinder archebion rydym wedi gorfod cymryd y cam anodd o ganslo’r digwyddiad ‘Blwyddyn Newydd Dda’ eleni. Mae’n wir ddrwg gennym am hyn, ac rydym yn ymwybodol y bydd yn siom fawr i’r rhai sydd wedi archebu. Bydd pawb sydd wedi archebu yn cael ad-daliad llawn (bydd yn cymryd rhwng 5 a 10…
Cynorthwy-ydd Gofal Tŷ & Arlwyo (Un swydd 32 awr yr wythnos, neu dwy swydd 16 awr yr wythnos) Mudiad Efengylaidd Cymru – Canolfan Gynadledda Bryn-y-groes, Bala Canolfan Gynadledda Gristnogol brysur yw Bryn-y-groes, y Bala. Mae’n eiddo i Fudiad Efengylaidd Cymru. Gall y ganolfan dderbyn hyd at 75 o bobl ar y tro. Mae’n darparu llety…
Calendr hyfryd gyda lluniau lliw o olygfeydd o bob rhan o Gymru ac adnod ddyddiol – anrheg Nadolig delfrydol! Ewch i’r dudalen hon am fwy o wybodaeth ac i archebu.
Wefan ar gyfer ieuenctid yw Llwybrau. Yn ystod y mis bydd nifer o erthyglau ar thema’r Nadolig, a bob dydd mae yna ddarlleniadau dyddiol yn ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer yr Adfent. Mae modd lawrlwytho’r cynllun darllen o’r wefan, neu dilynwch ni ar Facebook, Twitter neu Instagram i weld y darlleniadau yn ddyddiol.
Mis i fynd tan y gwyliau Blwyddyn Newydd Dda yn y Bala. Croeso cynnes i bawb i ymuno gyda ni. Ewch i’r dudalen hon am fwy o wybodaeth.
Mis sydd i fynd cyn i’r wersyllwyr o’r haf dod at ei gilydd unwaith eto ym mis Tachwedd. Mae’n gyfle gwerthfawr i’r wersyllwyr gweld ei ffrindiau a’r swyddogion, gan hefyd rhoi cyfle i blant newydd gael blas o sut mae’r gwersylloedd yn rhedeg. Gweddïwch dros y trefniadau terfynol ac i’r efengyl cael ei bregethu’n glir…
Thema’r gynhadledd eleni yw Undod a Christ Bore Mawrth: “Ymhlith holl ryfeddodau’r byd…” – Ioan 1:1-18 Bore Mercher: Crist ein Cynrychiolydd – Rhufeiniaid 5:12-21 Bore Iau: Marw a byw gyda Christ – Rhufeiniaid 6:1-14 Bore Gwener: Yn un â Christ, yn un â’i bobl – Effesiaid 2:11-22 Dyma’r llyfr croesawu
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at fod yn Y Gynhadledd o fewn pythefnos. Yn raddol rydym yn diweddaru’r wybodaeth am Seminarau Nos Fercher a sesiynau Caffi’r Gynhadledd. Ewch draw i’r dudalen hon i weld beth rydym efo’r cyfle i ddysgu am eleni.
Clywch a gwrandewch; peidiwch ag ymfalchïo, canys llefarodd yr ARGLWYDD. Rhowch ogoniant i’r ARGLWYDD eich Duw cyn iddo beri tywyllwch, a chyn i’ch traed faglu yn y gwyll ar y mynyddoedd; a thra byddwch yn disgwyl am olau, bydd yntau’n ei droi yn dywyllwch dudew, ac yn ei wneud yn nos ddu. Ac os na…
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Melltigedig fo’r sawl sydd â’i hyder mewn meidrolyn, ac yn gwneud cnawd yn fraich iddo, ac yn gwyro oddi wrth yr ARGLWYDD. Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch; ni fydd yn gweld daioni pan ddaw. Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch, mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo….
Oherwydd briw merch fy mhobl yr wyf finnau wedi fy mriwo, wedi galaru, ac wedi fy nal gan syndod. Onid oes balm yn Gilead? Onid oes yno ffisigwr? Pam, ynteu, nad yw iechyd merch fy mhobl yn gwella? Jeremeia 8:21-22 Gall gwaith yr efengyl yn aml fod yn waith caled ond cawsom ein calonogi’r wythnos…
11 Mehefin 2019 Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD, dyma’r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhŷ’r ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD ac i ymofyn yn ei deml. Rwyf ar hyn o bryd yn eistedd mewn ystafell fawr wag yn y Bala. Mae dynion wedi dechrau…
yma
Mae Llythyr Gweddi MEC yn newid Yn ein hymdrech i geisio hybu gweddi a gwasanaethu Cristnogion ac eglwysi yng Nghymru bydd y llythyr gweddi yn ymddangos yn wythnosol o fis Mehefin ymlaen. Bydd y llythyr ar gael dros e-bost a thrwy’r wefan ac fe fydd yn cynnwys pwyntiau gweddi byr am waith yr efengyl o…
Heddiw mae Eglwys Efengylaidd Bethesda, ‘Show Jesus’ a MEC yn cychwyn ar ymgyrch 4 diwrnod yng Ngŵyl y Gelli. Rydym wedi cychwyn ar y gwaith amser cinio. Ein thema yw STORI Rydym yn gofyn i bobl am eu storïau hwy (gwelwch y llun isod). Mae gennym gwestiwn bob diwrnod lle’r ydym yn gwahodd pobl i…
Rhifyn newydd ar gael – Haf 2019 Yn y rhifyn hwn: 3. Golygyddol 4. 70 Mlynedd ers Cychwyn y Cylchgrawn 6. Ararat (Nathan Munday) 8. Adolygiadau 10. Rwy’n Caru’r Arglwydd Iesu (Dafydd Ifans) 11. A Oes Heddwch? (Annie Williams) 12. Cipolwg ar y Byd 13. Gair yn ei le 14. Trobwynt (Eleri Trythall) 16. Crist…
Manylion llawn y Gynhadledd ar gael bellach – yma
Mae gweddi yn fraint ac yn holl-bwysig os ydym am ddilyn cyfarwyddyd yr Arglwydd wrth i ni weithio er Ei ogoniant yn Nghymru. Beth am ymuno gyda ni am un o’n cyfarfodydd ‘Gweddi dros Gymru’? Bydd pob cyfarfod yn cael ei arwain gan weinidog neu arweinydd eglwys leol a bydd cyfle i ymuno gydag eraill…
Byddwn yn croesawu: Trystan Hallam (anerchiadau’r bore) Mark Thomas (nos Lun), John Pritchard (Nos Fawrth), John Treharne (Nos Iau) a Steffan Jones (Nos Wener) Mwy o wybodaeth yma
Y diweddaraf “Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.” 1 Pedr 5:7 Dyna fendith yw gallu bwrw ein HOLL bryder ar Ein Tad Nefol– gan wybod bod gofal ganddo amdanom ni. Mae’n ein gwahodd ni i ddod â’r cwbwl ato fe – oherwydd does dim byd y tu allan i…
Mae MEC ers nifer o flynyddoedd wedi bod yn cyhoeddi Galwad i Weddi yn ystod mis Ionawr i annog gweddi dros Gymru. Rydym yn fwy argyhoeddedig nag erioed am yr angen am weddi ac felly rydym wedi ffurfioli’r Alwad i Weddi ac yn annog Cristnogion i weddio dros Gymru yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth….
Am fwy o fanylion am brosiect adeiladu Bryn y groes, cliciwch yma
Want the latest on the building project in Bryn y Groes? Click here
I gyd fynd gyda nifer o ymgyrchoedd a gwaith efengylu yn 2019 rydym wedi cychwyn cynllun newydd o’r enw ‘tim bywyd’. Cyfle yw hwn i ymuno gyda Christnogion eraill i weddio, datblygu doniau ac ymrwymo i rannu’r efengyl gyda phobl ein gwlad. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma
Calendr ar gael heddiw yma
Diolch i Dduw am ei ofal drosom ym Mryn-y-groes dros gyfnod yr haf. Bu’r gwersylloedd i gyd dan ofal a bendith Duw, ac roedd yn bleser treulio amser gyda’r timau gwych o swyddogion ac arweinwyr, gyda’r gwersyllwyr hwyliog, a gyda’n gwirfoddolwyr arwrol. Bu diwedd yr haf yn arbennig o brysur yn gwagio’r anecs er mwyn…
Ar Ddydd Sul 30 o Fedi, wedi brwydr hir gyda chancr, aeth y Parch. Gwynn Williams adref at ei Arglwydd. Cafodd gweinidogaeth bregethu Gwynn ei fendithio yn fawr ac mae ei gyfraniad i waith yr efengyl yng Nghymru wedi bod yn sylweddol. Roedd ei ymwneud a gwaith y Mudiad yn eang. Gweithiodd i’r Mudiad, gwasanaethodd…
Rhaglen y Gynhadledd ar gael yma
Mae’r gwyliau wedi cychwyn ac fe fydd y gynhadledd yma cyn i ni droi! Rydym yn edrych ymlaen yn ddisgwylgar i’n hamser gyda’n gilydd. Dros y ddwy wythnos nesaf fe fyddwn yn gyrru ebost bob yn ail ddiwrnod yn rhoi gwybodaeth am y gynhadledd… rhyw fath o 10 rheswm dros ddod i’r gynhadledd eleni! Yn…
Gwybodaeth am ein hymgyrchoedd eleni allan. Mwy o fanylion yma
Llythr Gweddi y Gwanwyn allan – cliciwch yma am fwy o fanylion
‘Revive’ – yn gweddïo ar i Dduw adfywio ei waith Oeddech chi’n gwybod fod cyfarfod gweddi reolaidd, yn ffocysu’n arbennig ar ddiwygiad wedi bod yn cwrdd yn Ne Cymru am y 50 mlynedd diwethaf? Ar gyfer hanner canmlwyddiant y cyfarfod hwn rydym yn ehangu’r gwahoddiad i unrhyw grediniwr sydd â baich dros y gwaith i…
Yr Oen ar ei Orsedd: Golwg ar Esgyniad Iesu Grist – yr ail lyfryn o bregethau Gwynn Williams ar gael nawr, am ddim. Ewch i’r dudalen hon am fwy o wybodaeth ac i archebu copi.
Un wythnos sydd i fynd tan y Mini Gwersyll eleni. Mae yna dal lefydd ar ôl, felly beth am archebu lle i’ch plant? Mae’n mynd i fod yn dridiau llawn weithgareddau hwyl a dysgu am Iesu Grist. Ewch i’r dudalen hon am fwy o wybodaeth.
Bydd angladd ein chwaer Rhian Middleton ar ddydd Mercher 24ain o Ionawr am: 1.45-2.45yh yn eglwys Litchard Mission (Taylor Road, Litchard, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1PP) Dilynir gan wasanaeth am 3.15yh yn Amlosgfa Llangrallo (Simonston Road, Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 6AB) Bydd swyddfeydd de a gogledd MEC ar gau am y diwrnod.
Gyda thristwch mawr rydym yn hysbysu holl gyfeillion a chefnogwyr y Mudiad o farwolaeth sydyn Rhian Middleton, rheolwr swyddfa’r de. Mae’n anodd darganfod y geiriau i ddisgrifio’r hyn a deimlwn o golli ein ffrind and cyd-weithwraig oedd yn rhan mor bwysig o’n tîm staffio. Er y byddwn yn ei cholli yn fawr, nid ydym yn…
Ar gael yma
Os nad ydych yn derbyn y cylchgrawn efengylaidd – beth am danysgrifio yma
Mae’r llythyr Gweddi diweddaraf allan yma
Disgrifia dy fywyd mewn tri gair. Dyma fideo o rai o ymatebion pobl yn y ‘steddfod. yma
Gan fod rhifyn yr Hydref o’r Cylchgrawn Efengylaidd wedi mynd i’r argraffwyr, rydym wedi llwyth rhifyn yr haf ar y wefan. Geillir ei weld yn yr adran adnoddau [yma] neu ar y wefan yn gyflawn [yma]
Mae’r daflen groesawu gyda’r holl weithgareddau ar y wefan nawr – cliciwch yma
yma Annwyl Gyfaill, A ninnau ar ddiwrnod olaf y tymor ysgol, dyma achub ar y cyfle i ysgrifennu atoch i ddymuno gwyliau hapus i bawb ac i ofyn i chi gofio am rhai o’n gweithgareddau dros y mis nesaf. ‘Cod, a dos i’r stryd a elwir Y Stryd Union, a gofyn yn nhŷ Jwdas am…
Mae’r gwyliau ysgol bron yma! Yn ein dyddiau ni mae gwyliau yn bwysig ac yn beth i’w drysori. Mae’n gyfle i gilio oddi wrth brysurdeb bywyd a gwaith, gan ymlacio gyda theulu neu ffrindiau mewn awyrgylch gwahanol. Wn i ddim sut y byddwch chi’n treulio’r haf, ond beth am ddod i’r gynhadledd yn Aberystwyth fel…
Anerchiadau J Elwyn Davies o Gynhadledd Flynyddol 1977 ar Ioan 17, ynghyd ag anerchiadau Sulwyn Jones o 2007 ar Joseff wedi’i rhoi i fyny ar y wefan heddiw. Ewch draw i’r adran adnoddau i wrando arnynt.
Mae Cylchgrawn yr haf allan heddiw – ewch draw i’ch siop llyfrau lleol i gael gafael a’ch copi. Ond i’r rhai sydd methu aros dyma un erthygl o’r rhifyn diweddaraf ar eich cyfer yma!
Mae’r llythyr gweddi allan. I’w weld cliciwch yma
Ein Siop Llyfrau ym Mhen-y-bont ar Ogwr Gyda chalon drom a thristwch rydym yn rhoi hysbysiad y byddwn yn cau’r siop llyfrau Cristnogol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r siop wedi profi colledion ariannol sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ac wedi ymgynghori gydag eglwysi lleol a choleg ‘Union’ (Bryntirion) penderfynwyd y bydd y siop yn cau…
Gwybodaeth newydd ein cyrraedd… Bydd y Daith Hanes eleni’n mynd i Landdewibrefi, rhwng Tregaron a Llanbedr Pont Steffan. Pentref bach gwledig yw hwn, ond mae iddo le amlwg yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Fel yr awgryma’r enw, roedd ganddo gysylltiad enwog iawn â Dewi Sant yn ôl yn y chweched ganrif. Yma hefyd y casglwyd…
Bara’r Bywyd – Diarhebion Mae’r gyfrol gyflawn ar y wefan yma
Fideo MEC Eisteddfod wedi ei llwytho ar y wefan – ewch draw i dudalen yr eisteddfod i’w gweld. Dolen yma
Rydym wedi llwytho anerchiadau Gwynn Williams o 1992 ar y nefoedd. Ar gael yma
A ninnau ar drothwy’r Pasg, dyma estyn ar y cyfle i ddymuno Pasg Hapus a bendithiol i chi. Fel rhan o ddathliadau’r Pasg, rydym wedi llwytho pregethau Gwynn Williams o Gynhadledd 2006 ar y thema ‘Croes fy Arglwydd’ ar y wefan. Gweddïwn y bydd y pregethau yn gymorth ac yn fendith i chi wrth i…
Sut mae’r Eglwys i wneud ei gwaith heddiw? – Ble yn union y mae ei gwendidau a ble mae angen cryfhau? – Ble mae’r frwydr wrth wynebu mileniwm newydd? – A ddylid gwneud rhywbeth ar wahan i obeithio a gweddio am adfywiad? Dyna oedd geiriau Gwynn Williams wrth iddo anerch cynhadledd flynyddol MEC yn 1998…
Am y tro cyntaf ers peth amser mae’n edrych yn debygol y bydd o leiaf un o’r gwersylloedd yn llawn eleni. Rydym felly yn awgrymu yn gryf eich bod yn archebu mor fuan a phosib fel nad ydych yn cael eich siomi. Ewch i’r dudalen yma i archebu lle nawr!
Nodaidau Beiblaidd Bara’r Bywyd ar Lefiticus gan Gwyn Davies ar lein yn ein hadran adnoddau.
Adnoddau Darganfod Cristnogaeth ar gael ar y wefan newydd yma
Bydd rhifyn Gwanwyn y Cylchgrawn Efengylaidd ar ei ffordd i chi erbyn diwedd yr wythnos hon! Os ydych eisiau gwybod mwy am y Cylchgrawn neu am danysgrifio, cysylltwch â Swyddfa’r Gogledd os gwelwch yn dda.
Mae’r wybodaeth allan am hafan, gan gynnwys taflen archebu. Ymunwch gyda ni ym Mryn-y-groes yn ystod Mis Mehefin am wyliau gwerth chweil yng nghwmni Geraint Morse.
Fel Cristnogion, rydym wedi ein hachub i bwrpas – i ddisgleirio fel goleuadau yn y byd! Bydd hyn yn rhoi clod i Dduw ac yn dangos i eraill y ffordd at Iesu. Nid tasg rwydd yw hyn heddiw, gan fod disgleirio yn golygu fod yn rhaid camu allan a bod yn wahanol, sy’n aml yn…
Mae’r Mini Gwersyll bron yma gyda criw da wedi archebu lle … ond mae digon o le ar ol! Os am fwy o wybodaeth, cliciwch yma
Lorem ipsum dolor sit amet.