Tyfodd gwaith Mudiad Efengylaidd Cymru allan o waith a wnaeth Duw mewn cymunedau yn y Gogledd a’r Gorllewin, a’r gwaith ymhlith y myfyrwyr ym Mangor ac Aberystwyth, yn y 1940au.
Yn 1948 sefydlwyd y Cylchgrawn Efengylaidd. O fewn deng mlynedd ymestynodd y gwaith i gynnwys cylchgrawn Saesneg (The Evangelical Magazine of Wales), cynadleddau, gwersylloedd ieuenctid a gweithgareddau eraill.
Rhestrwyd amcanion y gwaith yn y Cylchgrawn cyntaf:
- Yn gyntaf, i roi mynegiant i’r ffydd efengylaidd sydd wedi ei selio ar Air Duw.
- Yn ail, i arwain eraill o ffydd achubol yn yr Arglwydd Iesu Grist.
- Yn drydydd, i feithrin tyfiant ym mywyd ysbrydol credinwyr.
Dros chwedeg mlynedd yn ddiweddarach mae MEC yn parhau i gynnal a chalonogi eglwysi ac unigolion, gan eu harfogi i wneud gyda’u gilydd yr hyn na fyddai’n bosibl ei wneud ar ben eu hunain. Mae pwyslais cryf ar ail-efengylu y rhai sy’n anwybodus yn ein gwlad am yr efengyl, ac mae’r gwaith bellach yn cynnwys nifer o weinidogaethau gwahanol.
Mwy o wybodaeth:
- Cofio Hanner Canrif – Hanes Mudiad Efengylaidd Cymru 1948-98 gan Noel Gibbard. Cyfrol hynod ddiddorol yn olrhain hanes dechreuadau a datblygiad Mudiad Efengylaidd Cymru, 1948-98, a luniwyd gan un a gyfrannodd yn helaeth i dwf y mudiad fel pregethwr a thiwtor coleg. 14 ffotograff du-a-gwyn ac 13 ffotograff lliw (ISBN 9781850491736). Ar gael yma