Mae lles ac amddiffyniad corfforol, emosiynol ac ysbrydol pawb sy’n ymwneud â MEC o’r pwys mwyaf i ni. Mae hyn yn arbennig o wir am blant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth e/neu esgeulustod. Byddwn yn sicrhau bod yr arfer gorau ym maes diogelu yn rhan annatod o ddiwylliant MEC ar bob lefel, gan gydnabod bod diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb sy’n cynrychioli MEC, a byddwn yn cymryd camau os yw camdriniaeth yn cael ei amau, wedi digwydd neu’n debygol o ddigwydd.
- Os oes gennych wybodaeth ynglŷn ȃ sefyllfa ddiogelu lle mae plentyn neu oedolyn mewn perygl dybryd neu ag angen sylw meddygol ar frys, dylech alw’r gwasanaethau brys yn awr ar 999 – PEIDIWCH AG OEDI.
Rydym yn ymrwymedig i’r canlynol:
- Sicrhau amgylchedd sy’n diogelu rhag niwed, yn amddiffynnol, yn ofalgar ac yn ofalus o bawb sy’n ymwneud â’n gweinidogaethau, yn unol â’n hathrawiaethau a’n credoau fel yr amlinellir yn ein dogfennau llywodraethu.
- Ymateb i bryderon a honiadau yn gyflym ac yn effeithiol.
- Cynnal hawl pob unigolyn i gael eu trin mewn modd tryloyw a sensitif gyda chydraddoldeb, parch a gofal.
- Gwerthfawrogi a gwrando ar leisiau’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu, gan gynnwys y rhai sy’n agored i niwed.
- Sicrhau bod ein gweithwyr (cyflogedig a di-dâl) yn deall y gwahanol fathau o gamdriniaeth all ddigwydd a sut i ymateb.
- Gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau a sefydliadau lleol a chenedlaethol i hyrwyddo lles pob aelod o’n cymuned a’u gwarchod, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed.
- Gwerthuso sut rydym yn ymateb i sefyllfaoedd sy’n ymwneud â diogelu gan ddysgu gwersi.
- Sicrhau bod gennym bolisïau yswiriant priodol ar gyfer ein gwaith.
- Sicrhau bod ein gweithwyr yn deall eu rolau, yn enwedig cydnabod pan fyddwn yn gweithredu in loco parentis ar gyfer plant phobl ifanc.
- Sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau statudol, gan gynnwys dilyn Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol Cymru, ac atal radicaleiddio (Dyletswydd Atal 2015, a ddiweddarwyd yn 2021).
- Os ydych yn meddwl bod plentyn neu oedolyn mewn perygl o niwed nad yw’n ddybryd, dylech alw adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol.
Mae copi o’n polisi diogelu i’w weld ar waelod y dudalen we hon.
Mae gan EMW Dîm Diogelu y gellir ei gysylltu am gyngor a chymorth mewn perthynas â phryderon diogelu
- Swyddog Diogelu– Parry Davies (cysylltwch ar 01248 354653)
- Aelod o’r staff sy’n gyfrifol am Ddiogelu – Steffan Job (01248 354653; steffanjob@mudiad-efengylaidd.org) (swyddog Cynorthwyol – Deb Davies)
- Swyddog Gweinyddol Diogelu– Rebecca Gethin (01248 354653 rebeccagethin@mudiad-efengylaidd.org)
- Swyddog Iechyd a Diogelwch– Steve Webster
- Cadeirydd yr ymddiriedolwyr – David Norbury
Beth dylech ei wneud os oes gennych bryder ynglŷn ag unrhyw weithgaredd neu elfen o waith MEC?
Mae’n bwysig i ni ein bod yn ymdrin â phob agwedd ar ddiogelu mewn modd gonest a thryloyw. Felly, rydym yn darparu’r rhestr ganlynol i nodi sut yr ydym yn delio ag unrhyw bryderon neu gyhuddiadau.
- Pryder o ran Diogelu – mae hwn yn deimlad neu ofid (sydd wedi’i gadarnhau neu heb ei gadarnhau) bod plentyn, person ifanc neu oedolyn mewn perygl o gamdriniaeth a/neu esgeulustod wedi’i niweidio. Ceir gweithdrefnau ar sut yr ydym yn delio â phryder o ran diogelu yn adran 12.
- Cyhuddiad o ran Diogelu – mae hwn yn honiad neu bryder bod rhywun sydd â mynediad at bobl sy’n agored i niwed megis plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth a/neu esgeulustod wedi achosi niwed i unigolyn, wedi cyflawni trosedd yn ymwneud â pherson neu wedi ymddwyn mewn modd a all awgrymu eu bod yn anaddas i weithio gyda phobl fel hyn. Ceir gweithdrefnau ar sut yr ydym yn delio â chyhuddiadau o ran diogelu yn adran 13.
- Pryder am arfer – mae hwn yn bryder bod dulliau o weithredu a ddefnyddir o fewn y sefydliad yn rhoi (neu’n gallu rhoi) unigolion mewn perygl o gael eu niweidio. Ceir gweithdrefnau ar sut rydym yn delio â phryderon yn ymwneud ag ymarfer yn adran 15.
- Chwythu’r chwiban – golygai hyn godi pryderon yn allanol bod arferion neu weithdrefnau o fewn yr elusen yn rhoi pobl mewn perygl. Ceir gweithdrefnau ar sut yr ydym yn delio ag achosion o chwythu’r chwiban yn adran 16.
- Ceir gweithdrefnau am wneud cwyn yn erbyn aelod o staff/gwirfoddolwr a chyhuddiadau nad ydynt yn ymwneud â diogelu yn yr adran “Datrys Problemau” yn y Llawlyfr i Gyflogeion.
Copi o’r polisi
Evangelical Movement of Wales safeguarding policy 2023 Cymraeg
Copi o’r llawlyfr
I ddarganfod rhifau ffon diogelu Cymru – dilynwch y ddolen hon – https://www.safeguarding.wales/en/rsb-i/rsb-i-r1/r1-p1/