Datganiad Pwysig
Ar ddydd Gwener, 17 Gorffennaf 2020 plediodd Ben Thomas yn euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug i 40 cyhuddiad o natur rywiol yn erbyn oedolion a phlant a ddigwyddodd rhwng 1990 a 2019.
Roedd yn adnabyddus mewn cylchoedd efengylaidd yng Nghymru a thu hwnt, ac roedd yn bresennol ac yn wirfoddolwr yn rhai o’n digwyddiadau. Rydyn ni’n rhannu’r ymdeimlad o arswyd, galar, a brad ymddiriedaeth y mae llawer o bobl eraill yn ei brofi. Rydym yn arswydo bod pobl wedi cael eu twyllo ac wedi eu manteisio arnynt fel hyn.
Dymunwn gefnogi unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan weithgaredd troseddol Ben Thomas – mae ein calonnau’n estyn allan atynt yn eu trallod.
Cyn iddo gael ei arestio y llynedd, ni chodwyd unrhyw bryderon erioed ynghylch ymddygiad Mr. Thomas yn ein gwersylloedd ieuenctid, a fynychodd yn y 1990au a’r 2000au, ac roedd ei arestio yn sioc llwyr inni. Rydym wedi darparu gwybodaeth weinyddol i helpu’r heddlu gyda’u hachos ac rydym wedi gwerthfawrogi sensitifrwydd, proffesiynoldeb a chefnogaeth eu swyddogion arbennigol.
Mae diogelwch unigolion, yn enwedig plant, pobl ifanc a’r rhai sy’n agored i niwed bob amser wedi bod wrth wraidd ein holl waith, ac mae ein polisïau diogelu i’w gweld ar ein gwefan yma.
Rydym wedi sefydlu tîm profiadol i ddarparu cefnogaeth fugeiliol y gellir ei chyrraedd yn gyfrinachol ar 0800 0016 827 (neu 07856285827) neu drwy help@emw.org.uk. Yn ogystal, mae llinell gymorth gyfrinachol ar 0303 003 11 11 a ddarperir thirtyone:eight (Yn Saesneg), gwasanaeth cynghori ar ddiogelu, a fydd yn gallu cynnig cefnogaeth annibynnol.
Anogir unrhyw ddioddefwyr o’r math hwn o gam-drin i gysylltu â’r heddlu ar 101.
Rydym yn parhau i weddïo am gyfiawnder a thrugaredd ac y byddai’r Arglwydd yn cysuro pawb sy’n galaru ac yn brifo.
Yr Ymddiriedolwyr
23/7/2020