Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Credo a Blaenoriaethau

Ein Blaenoriaethau

Mae ymateb i anghenion yr eglwysi a Christnogion yng Nghymru yn mynnu hyblygrwydd yn y ffordd ‘rydym yn cyflenwi ein gweinidogaethau. Er nad yw pwy ydym na’r hyn ‘rydym yn ei gredu yn newid, rhaid i’r ffordd y gwethredir hyn ymateb i’r sefyllfa gyfredol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd credwn fod Duw eisiau i ni:

  • Cefnogi, hyfforddi a datblygu arweinwyr eglwysi drwy gynadleddau, cyrsiau, brawdoliaethau ac adnoddau.
  • Darparu adnoddau a chyhoeddiadau sy’n seiliedig ar y Beibl ac yn efengyl-ganolog.
  • Gwasanaethu eglwysi a Christnogion drwy drefnu cynadleddau a digwyddiadau sy’n dysgu’r Beibl ac yn hybu undod Cristnogol.
  • Gwasanaethu eglwysi a Christnogion ifanc drwy redeg gwersylloedd a gweinidogaethau eraill i ieuenctid.
  • Cefnogi eglwysi a Christnogion i efengylu a chenhadu gan hybu gweddi dros y gwaith.

Beth ydym yn gredu

Derbyniwn yr Ysgrythurau Sanctaidd, fel y’u rhoddwyd nhw gyntaf, yn Air anffaeledig Duw. Credwn mai Duw ei hun sydd wedi eu hysbrydoli; nhw, felly, yw ein hunig awdurdod o ran beth rydym yn ei gredu a sut rydym i fyw.

Yng ngoleuni Gair anffaeledig Duw, credwn fod y canlynol yn hanfodol i’r ffydd Gristnogol:

  1. Credwn yn yr unig wir a bywiol Dduw fel mae’n ei ddatguddio’i hun yn y Beibl. Un Duw sydd, yn Drindod Sanctaidd o dri Pherson dwyfol a thragwyddol. Mae Personau’r Drindod – Tad, Mab, ac Ysbryd Glân – yn gydradd â’i gilydd mewn undod perffaith a thragwyddol. Mae Duw yn teyrnasu dros bawb a phopeth, a gwelir ei benarglwyddiaeth ym mhob rhan o’i waith, gan gynnwys creu’r byd, llywodraethu dros a gofalu am fywyd ar y ddaear, ac achub pechaduriaid.
  2. Credwn yn Nuw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. Mae’r Tad yn sanctaidd a chyfiawn, ac yn llawn gras, trugaredd, a chariad. Yn ei gariad diderfyn anfonodd ei Fab i’r byd, er mwyn i’r byd gael ei achub trwyddo ef.
  3. Credwn yn yr Arglwydd Iesu Grist, Mab Duw a aned yn ddyn. Mewn modd dirgel mae ei wir ddyndod a’i dduwdod perffaith wedi eu cysylltu â’i gilydd yn undod ei Berson dwyfol. Credwn yn ei genhedlu gwyrthiol, yn ei fywyd dibechod, ac yn ei ddysgeidiaeth berffaith. Credwn hefyd yn ei farwolaeth ddirprwyol iawnol ar y groes, pan ddioddefodd y gosb oedd yn briodol i bechaduriaid er mwyn eu cymodi â Duw. Trwy’r farwolaeth hon fe drechodd Satan, pechod a marwolaeth. Credwn iddo atgyfodi’n gorfforol ac esgyn i’r nefoedd, lle yr eistedd yn awr mewn gogoniant ar ddeheulaw’r Tad.
  4. Credwn yn yr Ysbryd Glân, trydydd Person y Drindod. Mae gwaith yr Ysbryd Glân yn gwbl angenrheidiol i aileni pechadur, ei arwain i edifeirwch, a rhoi ffydd iddo yng Nghrist fel ei Waredwr. Mae’r Ysbryd Glân hefyd yn sancteiddio’r credadun yn ei fywyd fel Cristion ac yn ei helpu i fwynhau cymdeithas â Duw. Mae gweinidogaeth yr Ysbryd Glân yn hollol hanfodol er mwyn i’r Cristion unigol a’r Eglwys brofi grym ac effeithiolrwydd ysbrydol.
  5. Credwn fod pob person yn bechadurus wrth natur, o ganlyniad i’r Cwymp. Mae pobl dan lywodraeth pechod, ac mae’n llygru pob rhan o’u bodolaeth. Pechod sy’n gwneud pobl yn euog o flaen Duw sanctaidd. Oherwydd digofaint cyfiawn Duw yn erbyn pechod, mae pawb wrth natur dan ei gondemniad ac yn haeddu cael eu cosbi ganddo.
  6. Credwn mai trwy ffydd yn unig yn yr Arglwydd Iesu Grist yn unig y mae pechadur yn cael ei gyfrif yn gyfiawn o flaen Duw. Credwn fod marwolaeth Crist yn iawn perffaith dros ein pechodau ac yn cwrdd â holl ofynion cyfraith Duw drosom. O ganlyniad, yn lle cyfrif ein pechodau inni, mae Duw yn cyfrif cyfiawnder Crist inni ac felly mae iachawdwriaeth trwy ras yn unig, ac nid oherwydd unrhyw beth mae pobl yn ei haeddu.
  7. Credwn y daw’r Arglwydd Iesu Grist yn ôl yn bersonol, yn weladwy, ac yn ogoneddus i’r ddaear. Bryd hynny bydd pawb heb eithriad yn ei weld, a bydd ef yn cymryd ei saint ato’i hun. Fel y Barnwr cyfiawn bydd yn rhannu dynolryw yn ddau ddosbarth, sef y rhai cadwedig a’r rhai colledig. Achubir am byth y rhai sy’n credu yng Nghrist; byddant yn cael eu croesawu i ymuno yn llawenydd eu Harglwydd, gan rannu ag ef ei etifeddiaeth mewn nefoedd newydd a daear newydd. Condemnir y di-gred i uffern, i’w cosbi’n dragwyddol am eu pechodau o dan farn gyfiawn Duw.