Rhestr Prisau 2023:
Lawrlwytho yma Rhestr Prisiau BYG 2023
Amodau a Thelerau
1. Bryn-y-groes yw Canolfan Gynadledda Mudiad Efengylaidd Cymru. [Rhif Elusen 222407]
2. Cyfrifoldeb: Mae’r Ganolfan yn gyfrifol am ddarparu adnoddau ac amgylchedd ddiogel. Mae gan MEC Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus. Mae grwpiau yn gyfrifol am ganlyniadau eu gweithrediadau ar y safle.
3. Archebu: Gellir gwneud archebion cychwynol trwy gysylltu â ni, ac fe gadarnheir yr archeb gyda ffurflen archebu gyflawn a blaendal na ellir ei ad-dalu. Efallai y gweithredwn isafswm cost o £600 ar adegau prysur a gwyliau ysgol.
4. Taliadau: Bydd y cyfrif llawn yn daladwy ar gychwyn eich arhosiad. Rhaid rhoi gwybod i ni am bob canslad cyn gynted a phosibl, ac fe all wynebu’r costau canlynol:
- Mwy na 12 wythnos o rybudd – colli blaendal
- Rhwng 6-12 wythnos o rybudd – 50% o’r isafswm cost
- Llai na 6 wythnos o rybudd – 75% o’r isafswm cost
5. Niwed: bydd y person/sefydliad sy’n gyfrifol am yr archeb yn gyfrifol am niwed neu golledion bwriadol.
6. Disgwyliadau:
- Dim alcohol nac ysmygu ar y safle.
- Rydyn ni’n gofyn yn garedig i arweinydd y grwp i fod yn gyfrifol am sicrhau safon uchel o ymddygiad gan aelodau’r grwp.
- Rydyn ni’n disgwyl i o leiaf un oedolyn fod gyda phob 10 plentyn mewn grwpiau pobl ifanc/ysgolion (yn cynnwys oedolyn gwrywaidd a benywaidd gyda grwpiau cymysg).
- Rydyn ni’n cadw’r hawl i wahardd unrhyw ymwelydd/wyr sy’n ymddwyn mewn ffordd sy’n debygol o beryglu neu effeithio ar les ymwelwyr eraill neu staff.
- Dydyn ni ddim yn caniatau anifeiliaid anwes (onibai am Gŵn Tywys).
- Ystyriwch ein cymdogion, gan osgoi sŵn y tu allan neu yn y Caban ar ôl 10 yr hwyr.
- Gofynnwn i ymwelwyr gofio mai Canolfan Gristnogol yw hon, ac i beidio gweithredu mewn ffordd sy’n groes i’n ethos Gristnogol.
7. Bydd angen dod â: Dau gynfas gwely/cynfas a chas dwfet/ sach gysgu, cas gobennydd a thywelion – onibai eich bod wedi trefnu i’w heirio gennym ni.
8. Grwpiau Hunan Arlwyol:
- Mae’r holl offer sydd yn ein cegin at eich defnydd. Bydd y rheolwr arlwyo yn dangos yr offer i chi ac yn esbonio sut i’w defnyddio yn ôl yr angen.
- Dewch a thywelion sychu ac offer glanhau cegin gyda chi, a gwnewch drefniadau i ail-lenwi papur toiled.
- Mae grwpiau hunan arlwyol yn gyfrifol am holl agweddau hylendid bwyd.
- Gadewch y gegin a’r offer yn lân cyn i chi adael, os gwelwch yn dda, fel bod grwpiau eraill yn gallu mwynhau defnyddio’r gegin.
9. Gadael:
- Mae’n hwyluso pethau os gwnewch chi ganiatau amser ar eich amserlen i wagio biniau a sicrhau bod y safle yn cael ei adael yn dwt ac yn lân, ac nad oes eiddo wedi cael ei adael.
- Gallwch fenthyg hwfer os oes angen.
Mae croeso i chi symud dodrefn o gwmpas, ond gofynnwn i chi i’w dychwelyd cyn gadael.