Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cyfleusterau

Mae Bryn-y-groes yn cynnig hyblygrwydd a gofal arbennig i ddiwallu pob angen. Rydym yn cynnig arlwyo llawn neu hunan arlwyo. Mae ein bwyd o’r safon uchaf gydag opsiynau gwahanol ar gael (gan gynnwys bocsys bwyd). Mae yna WiFi drwy’r prif dŷ.

  • YSTAFELL GYFARFOD FAWR gyda system cylchwifren, system sain, taflunydd a sgrin.
  • DWY LOLFA LLAI, yn cynnwys teledu/DVD yn un.
  • PANEIDIAU ar gael trwy gydol y dydd.
  • NEUADD CHWARAEON gyda thenis bwrdd, pŵl, hoci aer, pêldroed bwrdd a chegin fach.  Gall hyd at 140 eistedd yn y neuadd hon ac mae’n gallu cael ei llogi ar wahân.
  • TIR ALLANOL yn cynnwys lle parcio, cae, pêl foli, llain pytio, cwrt caled ar gyfer tenis neu gemau, a gerddi atyniadol.
  • 17 YSTAFELL WELY o faint amrywiol, yn cynnwys ystafelloedd dwbl, ystafelloedd i ddau ac ystafelloedd teuluol, rhai ohonynt gyda chyfleusterau en-suite ac un ystafell addas i berson anabl. Mae sinc ym mhob ystafell.  Mae rhai o’r ystafelloedd mewn anecs.  Mae ‘duvet’ neu flanced, clustogau a charthenni traddodiadol Cymreig ar y gwelyau.
  • YSTAFELL FWYTA DRADDODIADOL gyda threfniadau eistedd hyblyg.
  • CEGIN FODERN gyda pheiriannau golchi llestri a darpariaeth hwylus ar gyfer grwpiau hunan-arlwyol.
  • Ceir Canolfan Chwaraeon gyda phwll nofio dros y ffordd i Fryn-y-groes.

Dyma gynllun o’r ystafelloedd…