Darllenwch y diweddaraf am aros ym Mryn-y-groes yma.
Mae Bryn-y-groes wedi ei leoli ar gyrion tref y Bala, tref farchnad brysur gyda hanes cyfoethog a siopau diddorol. Ar lan Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru, rydym wedi’n hamgylchynu gan fynyddoedd mawreddog a harddwch naturiol.
Cliciwch y ddolen hon er mwyn ddarllen y wybodaeth diweddaraf am y prosiect adeiladu.
Tŷ gwledig mawr yw Bryn-y-groes, yng nghanol gerddi, tir a choed. Gall ddarparu llety cyfforddus i hyd at 70 o bobl. Rydyn ni’n croesawu grwpiau o eglwysi, prifysgolion, pobl ifanc neu oedolion wedi ymddeol. Gall fod yn ganolfan i weinidogion i astudio neu i gael gorffwys. Gallwn gynnal cynadleddau undydd, diwrnodau hyfforddi neu ddarparu lle i gael pryd o fwyd ar gyfer taith ddiwrnod yn yr ardal.
Mae Bryn-y-groes yn hwylus ar gyfer gweithgareddau fel cerdded, dringo, chwaraeon dŵr, hwylio neu ymweliadau lleol. Gerllaw i ni mae cestyll, chwareli, melinau gwlân, canolfannau crefftau a llawer mwy. Mae arfordir Cymru o fewn llai nag awr i ni.
Mae’n ddelfrydol os fyddech chi’n dymuno dilyn ‘Llwybr Mari Jones’, sy’n olrhain taith y ferch ifanc 15 oed a deithiodd 26 milltir yn 1800 i brynu Beibl gan Thomas Charles yn y Bala.
Mae Bryn-y-groes yn hafan i gael gorffwys, neu gall fod yn ganolfan ar gyfer gwyliau anturus. Beth bynnag ddewiswch chi, rydyn ni’n hyderus y bydd eich arhosiad yn hapus a chofiadwy.
Os dewiswch ddod am ddiwrnod, penwythnos, wythnos lawn neu ychydig ddyddiau yng nghanol wythnos rydyn ni’n edrych ymlaen i’ch lletya a’ch gwasanaethu. Beth bynnag fydd eich dewis, rydym yn siŵr y bydd eich arhosiad yn un hapus a chofiadwy.
Gobeithiwn y bydd y wefan yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch, ond teimlwch yn rhydd i gysylltu gyda ni os ydych angen mwy o wybodaeth. Byddwn bob tro yn barod i wneud ein gorau i ofalu am eich anghenion.
Cofion Cynnes,
Gwydion a Catrin
(Rheolwyr y ganolfan)
Fideo Bryn-y-groes
Bryn-y-groes Canolfan Gynadledda Gristnogol, Y Bala from EMW/MEC on Vimeo.