Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Amdanom

Gwasanaethu'r Eglwys
Mae Mudiad Efengylaidd Cymru yn elusen gofrestredig sy’n gwasanaethu eglwysi a Christnogion, yn eu cynorthwyo i ogoneddu Duw, i efengylu Cymru, a nerthu credinwyr.

Beth yw MEC?

Mudiad o eglwysi, gweinidogion a Christnogion o wahanol fathau o sefyllfaoedd sy’n caru Iesu Grist, yn credu mai Gair Duw yw’r Beibl, ac sy’n argyhoeddiedig mai’r Efengyl yw’r unig obaith i’n byd colledig yw MEC. Rhannwn yr un daliadau craidd (a amlinellir yn natganiad ffydd MEC), a mynegwn ein hundod yng Nghrist trwy ddod at ein gilydd i’w wasanaethu Ef a’i bobl (yr Eglwys). Arweinir MEC gan arweinwyr eglwysi, felly, nid yw yn enwad neu yn gymdeithas, ond yn was i eglwysi’r efengyl.

Beth sy’n bwysig i MEC?

‘Rydym yn gwasanaethu eglwysi, arweinwyr eglwysi a Christnogion oherwydd mai gwaith Duw yng Nghymru sy’n cymryd ein bryd, yn y ddwy iaith. Gan fod Cristnogaeth yn athrawiaethol ac yn brofiadol, Y Gair a’r Ysbryd, ‘rydym yn argyhoeddedig fod:

  • Y Beibl yn Air anffaeledig Duw, ein hunig awdurdod ymhob mater o ffydd ac ymarfer. Dengys i ni ein hangen o iachawdwriaeth a datguddiad Iesu Grist.
  • Croes Iesu Grist, ble y gwnaeth iawn am bechodau’r byd cyn cael ei godi o’r meirw, yw canol a chalon yr efengyl. Heb y Groes nid oes gennym rym, gobaith, na neges i fyd colledig.
  • Gan y genedl Gymreig etifeddiaeth ysbrydol gyfoethog, ond mae nawr mewn angen dybryd. Mae’n sefyllfa genhadol. Mae angen i bob person yng Nghymru glywed yr efengyl a phrofi gwaith yr Ysbryd yn eu newid. Felly, gweddïwn yn frwd am ddiwygiad, a gweithiwn yn angerddol gydag eglwysi er efengylu’r genedl.
  • Undod rhwng Cristnogion yn waith hanfodol yr Ysbryd. Mae ein hundod yn seiliedig ar gyd-brofiad o Dduw, a chyd-argyhoeddiad mai Gair Duw yw’r Beibl. Gwelir yr undod hwn wrth gyd-weithio a chyd-weddïo fel y gwelwn Cymru’n cael ei thrawsnewid gan yr efengyl.
  • Angen bod yn ddibynnol ar Dduw ymhob ffordd. Ni fedrwn ni wneud unrhyw beth hebddo, eto medrwn wneud popeth trwyddo Ef sy’n ein nerthu.

Beth mae MEC yn gwneud?

Ar hyn o bryd mae MEC yn:

  • Cefnogi, hyfforddi a datblygu arweinwyr eglwysi drwy gynadleddau, cyrsiau, brawdoliaethau ac adnoddau.

Am gopi o’r adroddiad blynyddol diweddaraf dilynwch y ddolen hon, ac am gopi o’r llythyr gweddi diweddaraf dilynwch y ddolen hon.

Er fod MEC yn gweithio ym mhob rhan o Gymru drwy ganoedd o wirfoddolwyr, mae ganddom nifer o adeiladau gan gynnwys dwy swyddfa (De a Gogledd), Canolfan Gynadledda a 5 siop llyfrau.

Mae MEC yn gweinyddu nifer o ymddiriedolaethau sy’n hybu gwaith yr efengyl yng Nghymru a thu hwnt.