Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwyn ei fyd y sawl nad yw’n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr, ond sy’n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.

Y mae iachawdwriaeth yr Arglwydd yn gyflawn.

Mae’n fendith rhyfeddol gwybod fod ein pechodau wedi eu maddeu, ein bod wedi ein gwisgo â chyfiawnder Crist, a bod gennym berthynas adferedig â’n Tad yn y nefoedd. Nid yw’r byd yn gwybod dim am y rhyddid hwn.

Ac eto mae mwy i’r rhyddid a brofwn, oherwydd trwy’r Ysbryd, fe’n sancteiddir i fyw yng ngoleuni cyfraith Duw. Byddai llawer heddiw’n dadlau bod rhyddid i’w ganfod trwy hunan-archwilio a byw ein dyheadau dyfnaf, tywyllaf, ond dim ond pan fyddwn ni’n byw bywyd o addoliad ac ufudd-dod i’n Tad nefol, a roddodd ei Fab drosom ni, y profwn wir ryddid.

A ydych wedi teimlo yr Ysbryd yn eich arwain yn ôl at ei air yr wythnos hon, yn eich dwysbigo o bechod ac yn gofyn ichi ddychwelyd? Mae Duw mor rasol gan nad yw yn ein gadael yn ein ffug-ryddid caeth. Gwrandewch arno heddiw, a pheidiwch â chaledu eich calon.

Wrth i mi edrych ymlaen at yr wythnosau nesaf, rwy’n ddiolchgar am yr holl gyfleoedd y bydd yr Arglwydd yn eu rhoi inni i eistedd dan ei air a threulio amser gyda’i bobl. Bydded i’r Arglwydd ein bendithio wrth i ni gyfarfod yn Aberystwyth ar gyfer y cynadleddau. Rwy’n gweddïo y byddwn nid yn unig yn mwynhau’r rhyddid Cristnogol o wyliau gyda’n gilydd ond hefyd yn bobl o ddifrif ynglŷn â dysgu a bod y rhai y mae Duw eisiau inni fod.

Diolch am weddïo am bopeth sydd wedi bod yn digwydd. Mae adroddiadau o’r gwersylloedd yr wythnos diwethaf wedi bod yn galonogol gyda ffrwyth amlwg. Mae ymgyrch yr Eisteddfod wedi cychwyn ynghyd â thri gwersyll yr wythnos hon – parhewch i weddïo.

Yng Nghrist yn unig,

Steffan Job
Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol

Dydd Llun, 5 Awst – Yr Eisteddfod ym Mhontypridd

Ond yn hyn oll cadw di ddisgyblaeth arnat dy hun: goddef galedi; gwna waith efengylwr; cyflawna holl ofynion dy weinidogaeth. 2 Timotheus 4:5

Heddiw yw trydydd diwrnod yr ymgyrch yn yr Eisteddfod. Cafwyd llawer o sgyrsiau da a llawer o rai heriol yn barod. Gweddïwch dros y tîm wrth iddynt geisio rhannu’r efengyl gyda’r rhai yn yr ŵyl. Gweddïwch y bydd yr Arglwydd yn achub llawer.

Dydd Mawrth, 6 Awst – Cyhoeddi ‘Plant i Dduw’, llyfr gan Gwyn Davies

O wirfodd ei ewyllys fe’n rhagordeiniodd i gael ein mabwysiadu yn blant iddo’i hun trwy Iesu Grist. Effesiaid 1:5

Llyfr byr gan Gwyn Davies a gyhoeddwyd heddiw yw ‘Plant y Duw Byw’. Ynddo, mae Gwyn yn dangos i ni’r bendithion mawr a’r cyfrifoldebau o gael ein mabwysiadu’n blant i Dduw. Gweddïwch y byddai Duw yn defnyddio’r llyfr hwn i annog Cristnogion i fyw a rhannu eu ffydd.

Dydd Mercher, 7 Awst – Gwersyll Tri, Pedwar a Phump

Ceisiwch yr ARGLWYDD a’i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser. 1 Cronicl 16:11

Heddiw yw hanner ffordd gwersylloedd yr wythnos. Gweddïwch dros y gwersyllwyr os gwelwch yn dda. Gweddïwch y byddan nhw’n cael eu hachub ac y bydd y Cristnogion yn cael eu hannog a’u cryfhau yn eu ffydd i fod yn dystion i’r efengyl gartref ac yn eu hysgolion.

Dydd Iau, 8 Awst – Yr Eisteddfod ym Mhontypridd

Meddai Pedr wrthynt, “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd. Actau 2:38

Bydd y tîm wedi blino wrth iddynt ddechrau chweched diwrnod yr ymgyrch. Gweddïwch am ddoethineb ac amynedd wrth iddynt geisio gwasanaethu pobl, gan ddangos cariad a rhannu’r efengyl. Gweddïwch y byddai llawer yn cael eu hachub.

Dydd Gwener, 9 Awst – Y Gynhadledd Saesneg yn Aberystwyth

Oddi uchod y daw pob rhoi da a phob rhodd berffaith. Disgyn y maent oddi wrth Dad goleuadau’r nef; ac iddo ef ni pherthyn na chyfnewid na chysgod troadau’r rhod. Iago 1:17

Heddiw, os yw Duw yn caniatáu, bydd y stiwardiaid a’r timau technegol yn dod i Aberystwyth i baratoi ar gyfer y Gynhadledd Saesneg. Gweddïwch am ymarferoldeb a logisteg trefnu cynhadledd i dros fil o bobl. Yn anad dim, gweddïwch y bydd yr Arglwydd yn paratoi calonnau ei blant i wrando ar ei air ac ymateb iddo.

Dydd Sadwrn, 10 Awst – Gwersyll Naw a’r Gwersylloedd Cymraeg

Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith, ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia. Diarhebion 22:6

Mae’n ddiwrnod prysur arall, gyda thri gwersyll yn gorffen a thri yn cychwyn. Gweddïwch dros yr holl bethau ymarferol gyda bysiau a theithio, a gweddïwch dros y timau. Paul Daniel a Ruth Harris sy’n arwain gwersyll naw (Awyr Agored) gyda Jim Grindell yn gaplan yn siarad ar ‘Encountering God’. Cynhelir y gwersyll Iau Cymraeg yn Neuadd Pentrenant gydag Aled Lewis a Leri George yn arwain a Derrick Adams yn siarad ar y Diarhebion. Arweinir gwersyll hynaf ym Mryn-y-groes gan Ben Nuss, Angharad Jenkins, a’r caplan Rhodri Glyn yn siarad ar Colosiaid.

Yr wythnos nesaf gweddïwn dros

  • Sul, Awst 11 – Y Gynhadledd Saesneg yn Aberystwyth
  • Llun, 12 Awst – Lumina – fideo ‘Pam fod Duw yn gadael i bobl ddioddef?’ gan Steffan Job
  • Mawrth, 13 Awst – Clybiau Plant y Gynhadledd Saesneg
  • Mercher, 14 Awst – Gwersyll Naw a’r Gwersylloedd Cymraeg
  • Iau, 15 Awst – Cyfarwyddwr Bugeiliol MEC
  • Gwener, 16 Awst – Y Gynhadledd Saesneg yn Aberystwyth
  • Sadwrn, 17 Awst – Gwersyll Saith, Wyth a Deg
  • Sul, 18 Awst – Bryn y Groes a’r staff

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf