Bydd cymryd pethau un dydd ar y tro yn sicr yn rhywbeth y byddwn yn ei wneud dros yr Haf. Rydym hefyd eisiau byw bob dydd yn dda wrth i ni weithio drwy ddeuddeg gwersyll, dwy gynhadledd haf, dwy ymgyrch genedlaethol, tri chyhoeddiad ac wythnos o gwrs diwinyddol!
Gwyddom y bydd yr wythnosau nesaf yn bartneriaeth rhwng staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr. Byddwn yn ceisio anfon diweddariadau rheolaidd trwy ein cyfryngau cymdeithasol a rhestrau e-bost, ac rydym hefyd yn gobeithio anfon dyddiadur gweddi wythnosol i gynorthwyo eich gweddïau. Mae’r dyddiadur gweddi cyntaf isod a gellir ei lawrlwytho o’n gwefan.
Os gwelwch yn dda, felly, ymunwch â ni yn y fraint o weddi. Mae gennym Dad nefol sy’n sanctaidd, pwerus, a thrugarog. Cariad yw Duw, a gweddïwn y bydd yr Ysbryd yn gweithio yr haf hwn i ddod â llawer i ffydd achubol yn Iesu.
Steffan Job
Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol
Sadwrn, 20 Gorffennaf – Gwersyll Un yn Bryn y Groes
- Oherwydd myfi sy’n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol. Jeremeia 29:11
Gweddïwch dros y tîm wrth i Gwersyll Un gychwyn ym Mryn-y-groes. Gweddïwch dros David Roberts a Hannah Mitchell wrth iddyn nhw arwain y gwersyll a thros Matt Francis, y Caplan, a fydd yn pregethu ar lyfr Esther. Disgwyliwn dros hanner cant o wersyllwyr (16-18 oed).
Sul, 21 Gorffennaf – Lumina
- Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau’n union. Diar 3:5-6
Ddydd Gwener, lansiwyd prosiect Lumina i ddarparu adnoddau Beibl-ganolog, seiliedig ar yr Efengyl (erthyglau, cynlluniau darllen, fideos, a phodlediadau) i bobl ifanc. Gweddïwch y byddai Duw yn defnyddio’r adnoddau i achub pobl ifanc a chryfhau Cristnogion ifanc. Gweddïwch y byddai’r Astudiaethau Beiblaidd ar Colosiaid yn ddefnyddiol ac yn annog pobl ifanc i ddarllen eu Beiblau.
Llun, 22 Gorffennaf – Sioe Frenhinol Cymru
- Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser; ar gyfer adfyd y genir brawd. Diarhebion 17:17
Mae ein hymgyrch pedwar diwrnod yn Sioe Frenhinol Cymru yn dechrau heddiw. Andy Pitt sy’n arwain y tîm fydd yn ceisio rhannu’r efengyl gyda’r miloedd o ymwelwyr. Gweddïwch y bydd pobl yn ymateb i’r thema ‘Sut ydych chi’n byw bywyd i’r eithaf?’ ac y bydd pobl yn cael eu hachub.
Mawrth, 23 Gorffennaf – Canolfan Gynadledda Bryn-y-groes
- Profwch, a gwelwch mai da yw’r ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy’n llochesu ynddo. — Salm 34:8
Mae ein tîm ym Mryn-y-groes wedi bod yn paratoi ar gyfer cyfnod prysur yr haf ers wythnosau, a heddiw, byddant dridiau i mewn i’w gwersyll cyntaf. Gweddïwch dros Steve, Deb, Bethan, Andy, Ruth, Annette, Amy, a’r gwirfoddolwyr. Gweddïwch am nerth, stamina, amynedd, a llawenydd yng ngwasanaeth yr Arglwydd.
Mercher, 24 Gorffennaf – Gwersyll Un yn Bryn y Groes
- A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith. Rhufeiniaid 15:13
Heddiw yw pwynt hanner ffordd y gwersyll. Gweddïwch dros y gwersyllwyr, y mae llawer ohonynt yn Gristnogion ifanc. Gweddïwch y cânt eu hannog a’u cryfhau yn eu ffydd i fod yn dystion efengyl gartref ac yn eu hysgolion a’u prifysgolion.
Iau, 25 Gorffennaf – Sioe Frenhinol Cymru
- Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i. Philipiaid 4:13
Heddiw yw diwrnod olaf y genhadaeth. Edrychwch ar ein gwefan am y diweddaraf, a gweddïwch am ffrwyth. Bydd y tîm wedi blino ac angen tynnu’r holl offer i lawr ar ddiwedd y dydd. Gweddïwch am nerth a llawenydd yn yr Arglwydd.
Gwener, 26 Gorffennaf – Cyhoeddi’r Cylchgrawn
Oblegid yr ydych bawb, trwy ffydd, yn blant Duw yng Nghrist Iesu. Oherwydd y mae pob un ohonoch sydd wedi ei fedyddio i Grist wedi gwisgo Crist amdano. Galatiaid 3:26-27
Cyhoeddir y Cylchgrawn Cymraeg heddiw. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys erthyglau ar ysbrydolrwydd a llawer o erthyglau efengylu ar gyfer yr Eisteddfod (mwy o wybodaeth am yr ymgyrch yr wythnos nesaf). Gweddïwch y byddai’r Cylchgrawn yn fendith, yn enwedig i Gristnogion hŷn sy’n aml yn fwy ynysig.
Sadwrn, 27 Gorffennaf – Gwersylla Dau a Chwech
- Byddwch yn wyliadwrus, safwch yn gadarn yn y ffydd, byddwch yn wrol, ymgryfhewch. Popeth a wnewch, gwnewch ef mewn cariad. 1 Corinthiaid 16:13-14
Wrth i un gwersyll orffen, mae dau yn dechrau! Gweddïwch dros y timau os gwelwch yn dda. Bydd gwersyll dau ym Mryn-y-groes yn cael ei arwain gan Mark Gilmore a Rebecca Graham, gyda Dafydd Williams yn pregethu ar Rhufeiniaid 5. Mae gwersyll chwech yn digwydd yn Woodcroft gydag Andrew Norbury a Lianne Jones yn arwain a Dafydd Taylor yn pregethu ar ‘Y Newyddion Da Am Iesu yn ei Greadigaeth’.
Dod Wythnos Nesaf
- Sul, 28 Gorffennaf – Staff swyddfa
- Llun, 29 Gorffennaf – Siopau Llyfrau
- Dydd Mawrth, 30 Gorffennaf – Staff swyddfa
- Mercher, 31 Gorffennaf – Gwersylla Dau a Chwech
- Iau, 1 Awst – Eisteddfod Pontypridd
- Dydd Gwener, 2 Awst – Lumina – Trosolwg o’r Beibl rhan 2 sammy davies amanford
- Sadwrn, 3 Awst – Gwersylla Tri, Pedwar a Phump
