Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

‘Yr wyt ti …wedi costrelu fy nagrau’

14 Ebrill 2022 | gan Julie Rhys Jones

‘Yr wyt ti …wedi costrelu fy nagrau’

Cnoi cil wedi clywed pregeth John Pritchard yn y Gynhadledd eleni

Julie Rhys Jones

‘Dagrau’ oedd thema pregeth John Pritchard ar nos Fawrth y Gynhadledd ac wrth glywed y thema, daeth i’m meddwl nad oeddwn erioed wedi clywed pregeth ar y thema hon. Yn wir, ystyrir dagrau weithiau’n wendid, neu hyd yn oed yn arwydd o ddiffyg ffydd. A ydy hynny’n deg neu’n wir? Cawsom driniaeth gynhwysfawr ganddo wrth iddo ein harwain at wahanol rannau o’r Beibl ac wrth iddo ein cyfeirio at Iesu Grist, gŵr dagrau.

Mae dagrau yn rhan annatod o fywyd ac rydym yn falch o glywed cri’r babi sydd newydd ei eni – mae’n arwydd o fywyd ac yn wir, mae’n rhyddhad i’r rhieni newydd. Dagrau neu grio yw’r modd mae babanod yn cyfathrebu â ni cyn datblygu sgiliau lleferydd. Byddant yn crio pan fydd angen bwyd arnynt neu glwt glân. Maent yn crio ganol nos – ac efallai bod y rhieni’n teimlo fel crio pryd hynny hefyd! Wrth dyfu, nid yw dagrau’n peidio ac mae plant yn crio pan fyddant yn drist, wedi brifo, neu am resymau eraill hefyd. Rydym yn derbyn bod dagrau’n rhan o fywyd plant a bod angen inni eu cysuro.
Nid plant yn unig sydd yn crio. Mae dagrau yn rhan o fywyd bob dydd. Rydym yn byw mewn byd syrthiedig, hynny yw, byd amherffaith sydd wedi’i ddifetha gan bechod. Mae C. H. Spurgeon yn sôn am y byd hwn fel hyn:
‘This vale of tears is but the pathway to the better country; this world of woe is but the stepping stone to a world of bliss.’

Onid ydym yn gweld hyn bob dydd ar y teledu? Mae yna newyn, rhyfela, anghyfiawnder, trais, casineb, lladd. Nid gormodiaith, felly, yw cyfeirio at y byd yn ‘world of woe’. Heb amheuaeth, mae dagrau’n rhan o fywyd pawb.

Beth amdanom ni fel Cristnogion? Beth yw ein hagwedd ni at ddagrau? A ydym yn eu gweld yn arwydd o ddiffyg ffydd? Sefyllfa sy’n dod i’r meddwl yw dagrau profedigaeth. Wrth feddwl am weddw, rydym weithiau’n clywed rhai yn dweud ‘mae’n rhyfeddol o dda’ ac mae’n dda gwybod bod Duw yn cynnal mewn amser o golled, ond nid yw pawb yn ymdopi â phrofedigaeth yn yr un modd. Oes yna berygl y gallem fod yn stoicaidd ac ofni dangos ein dagrau? Mae’r Apostol Paul yn dweud nad ydym yn galaru fel y rhai ‘sydd heb ddim gobaith’(1 Thesaloniaid 4:13) ond sylwer, er hynny, fod yr adnod yn cydnabod ein bod yn galaru. Cyfeiriodd John Pritchard at hanes enwog Mair a Martha yn galaru oherwydd marwolaeth eu brawd, Lasarus. Wrth weld eu galar, beth oedd ymateb Iesu? Dyma’r hyn a geir yn Ioan pennod 11 adnod 35: ‘Torrodd Iesu i wylo’. Yr oedd yn gweld eu poen a’u galar, ond roedd hefyd yn gweld erchylltra marwolaeth sef ‘y gelyn olaf‘. Ymateb Iesu oedd dagrau.

Dro arall, mae Iesu yn tosturio wrth weddw sydd, nid yn unig wedi colli ei gŵr, ond yn awr mae ei hunig fab wedi marw. Yn naturiol, mae hi’n torri ei chalon. Mae wedi cael colled enfawr ac wrth weld ei dagrau, mae Iesu’n siarad â hi’n dyner – ‘Paid ag wylo’ cyn codi’r mab yn fyw eto. Mae Iesu yn ymateb i’w dagrau.

Aeth John Pritchard â ni i’r Hen Destament hefyd er mwyn gweld ymateb Duw i’n dagrau. Cyfeiriodd at hanes Heseceia yn 2 Brenhinoedd 20. Mae Heseceia newydd ddysgu ei fod ar fin marw. Mae ei ddagrau’n llifo ond mae Duw wedi gweld ei ddagrau ac mae’n anfon y proffwyd Eseia fab Amos yn ôl at Heseceia gyda’r neges hon: ‘Dos yn ôl, a dywed wrth Heseceia, tywysog fy mhobl, “Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau.”’ Mae’n tosturio wrtho ac yn ychwanegu pymtheng mlynedd at ei oes. Nid Duw di-hid sydd gennym ond Duw sy’n tosturio wrthym.

Sefyllfa wahanol a geir yn llyfr cyntaf Samuel lle y gwelwn Hanna, gwraig dduwiol, sy’n torri ei chalon am nad yw’n gallu cael plant. Mae hyn yn ofid mawr iddi. Nid yw ei gŵr yn deall ei dagrau. ‘Onid wyf fi’n well i ti na deg o feibion?’ yw ei ymateb ef. Yn ei gofid a’i phoen, mae’n troi at Dduw mewn gweddi. Mae Duw yn gweld ei dagrau ac mae’n deall ei phoen. Ar ben hynny, mae’n ymateb i’w dagrau ac yn rhoi iddi ddymuniad ei chalon. Mae bod heb blant yn gallu bod yn eithriadol o boenus i rai sy’n dyheu am fod yn rhieni. Rwy’n cofio gweld llyfr ar stondin Gristnogol pan oeddem ar ein mis mêl. Enw’r llyfr, os cofiaf yn iawn, oedd ‘Oh no Lord, not us!’. Llyfr i barau priod oedd yn methu â chael plant oedd hwn. Dychrynais wrth ystyried y peth. Sut buaswn i’n ymdopi pe na bawn yn gallu cael plant? Mae hyn yn realiti i rai Cristnogion ac efallai y bydd y boen yn parhau trwy gydol oes. Mae gwir angen sensitifrwydd arnom wrth geisio cysuro’r rheini sydd yn y sefyllfa hon. Fel pobl Dduw rydym i fod i gydymdeimlo â’n gilydd. Yng ngeiriau Paul, ‘Llawenhewch gyda’r rhai sy’n llawenhau ac wylwch gyda’r rhai sy’n wylo’(Rhufeiniaid 12:15).
Yn Salm 56 gwelwn y geiriau sy’n deitl i’r darn hwn ac maent yn eiriau sydd wedi rhoi cryn gysur i lawer ohonom, mae’n siŵr. Dyma’r geiriau fel y maent yn adnod 8: ‘Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau, ac wedi costrelu fy nagrau – onid ydynt yn dy lyfr?’ Meddyliwch fod y Duw mawr sydd wedi creu’r byd a’r cwbl sydd ynddo, yn cofnodi ein hocheneidiau! Meddyliwch ei fod, hyd yn oed, yn cadw ein dagrau mewn potel neu gostrel. Onid yw hyn yn dangos ei ofal amdanom a’i gonsýrn? Nid yw’n diystyru ein teimladau nac yn eu hanwybyddu. Os ydym yn blant iddo ef, mae’n ein caru. Sut gallwn ni fod yn sicr am hynny? Edrychwn at y groes.‘Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol’(Ioan 3:16). Mae’r Iesu hwn bellach yn y nefoedd yn eiriol drosom. Mae wedi profi stormydd bywyd. Mae’n gwybod am flinder, galar, poen, siomedigaethau, ffrindiau’n ffoi, gwatwar, creulondeb a marw erchyll ar groesbren. A defnyddio geiriau Spurgeon, mae wedi byw yn nyffryn dagrau- ‘this vale of tears…this world of woe’.‘Nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â’n gwendidau sydd gennym’(Hebreaid 4:15) felly gallwn ‘nesáu mewn hyder at orsedd gras, er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd’(Hebreaid 4:16).

Nid dyna ddiwedd y stori! Mae’n dda gwybod ble i droi am gymorth. Mae’n gysur i wybod fod Duw yn gweld ein dagrau, ond yn fwy na hynny, mae gan y Cristion‘obaith bywiol’(1 Pedr 1:3). Diwedd y daith inni yw Duw ei hun– y Duw sy’n ‘iacháu’r drylliedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau’(Salm 147:3). Mae’r darlun a geir ym mhennod 21 o lyfr Datguddiad yn odidog iawn. Yma cawn weld Duw gyda’i bobl. ‘Fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen’(adnod 4). Bydd dagrau yn peidio. Bydd pob peth yn newydd. Mae David Charles wedi mynegi hyn mewn modd arbennig yn ei emyn:

Cawn esgyn o’r dyrys anialwch
I’r beraidd baradwys i fyw,
Ein henaid lluddedig gaiff orffwys
Yn dawel ar fynwes ein Duw:
Dihangfa dragwyddol geir yno
Ar bechod, cystuddiau a phoen,
A gwledda i oesoedd diderfyn
Ar gariad anhraethol yr Oen.

Dros dro mae dagrau.