Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Y Tom Jones Arall

22 Ebrill 2022 | gan Gwyn Davies

Y Tom Jones arall

Gwyn Davies

 

Nage, nid Tom Jones y canwr – neu Thomas Woodward, a rhoi ei enw iawn iddo. Yn hytrach, mae 2020 yn gyfle inni gofio daucanmlwyddiant marw Thomas Jones arall – ar lawer ystyr, y Tom Jones pwysicaf oll yn ein hanes fel cenedl.

Sôn yr wyf am Thomas Jones, Dinbych. Fe’i ganwyd yn 1756 ym Mhenuchaf, Caerwys, sir y Fflint (mae’r tŷ yno o hyd) i deulu oedd mewn amgylchiadau gweddol gysurus. Derbyniodd addysg o safon uchel mewn ysgolion lleol – gan gynnwys ei drwytho yn y clasuron – a fyddai’n sail ardderchog i’w lafur helaeth maes o law.

Daeth i gredu yng Nghrist tra oedd yn ei arddegau, ond aeth saith mlynedd hir heibio cyn iddo brofi llawn hyder ffydd – saith mlynedd o ddyfnhau argyhoeddiad o bechod, o gael ei drechu gan euogrwydd ac ofnau ac amheuon. O’r diwedd daeth rhyddhad yng ngoleuni’r geiriau ‘Crist gallu Duw, a doethineb Duw’ (1 Corinthiaid 1:24). A chyda’r rhyddhau hwnnw, rhyddhawyd hefyd ei holl ynni i wasanaethu ei Arglwydd. Dechreuodd bregethu gyda’r Methodistiaid yn 1783, a bu’n gofalu am eu hachosion yn yr Wyddgrug a Rhuthun cyn ymgartrefu yn Ninbych.

Does dim digwyddiadau cyffrous i’w hadrodd amdano yn y mannau hyn. Serch hynny, gwyddai o’i brofiad personol am brofedigaethau bywyd. Bu farw ei wraig gyntaf ymhen dwy flynedd ac un mis o’r briodas. Priododd eto, ond bu farw ei ail wraig ymhen pymtheg mis. Priododd am y trydydd tro, ond ni phrofai fywyd esmwyth hyd yn oed wedyn, gan fod ei iechyd yn fregus iawn. Cerrig yn y bledren oedd ei broblem bennaf. Yn ei hunangofiant disgrifia’n fanwl lawdriniaethau poenus i’w tynnu, ac yntau’n effro trwy’r cyfan!

Beth, felly, oedd mor arbennig am y Thomas Jones hwn?

Ei emynau

I lawer mae ei enw’n gyfarwydd oherwydd ei emynau gwych. Ceir ynddynt gyfuniad cyfoethog o’r defosiynol a’r diwinyddol. A oes gwell crynodeb o’r efengyl na’r pennill hwn?
A oes gobaith am achubiaeth? . . .
Cofiwn wedyn am ei gyffes fawr bersonol, yn adleisio geiriau Job ac yn mynegi’n glir a chadarn ei hyder yng Nghrist:
Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw . . .
A chawn gip ar ei gariad gwresog at Grist mewn pennill fel hwn:
Fy Iesu hardd, hyfrydwch nefol lu,
Mor bêr i’r glust yw sain dy enw cu!
I’r genau mae fel mêl yn felys bur,
Fel nefol win i’r galon dan ei chur.
Mae ei emynau’n llawn diwinyddiaeth iach, wedi ei mynegi’n glir a syml. A da cofio fod ganddo ddoniau nodedig fel bardd. Ymhyfrydai yn y mesurau caeth, ac mae i’w ‘Cywydd i’r Aderyn Bronfraith’ werth arbennig. I Thomas Jones, Crist yw canolbwynt bodolaeth; ef felly sy’n rhoi pwrpas i bob rhan o fywyd – hyd yn oed i gân y fronfraith. Yn ei ffordd ei hun mae’r fronfraith – fel pob rhan o’r cread – yn canmol Crist.

Ei lyfrau

Roedd gweithiau rhyddiaith Thomas Jones hefyd o’r pwys mwyaf:
Yn gyntaf, cyfieithodd a chyhoeddodd lyfr enwog y Piwritan William Gurnall, Y Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth. Roedd dylanwad y llawlyfr hwn ar fyw fel Cristion yn bellgyrhaeddol. Y Beibl, Geiriadur Charles, Taith y Pererin, a llyfr Gurnall oedd ‘llyfrgell’ Gristnogol llawer aelwyd yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn ail, ysgrifennodd a chyhoeddodd Hanes Diwygwyr, Merthyron, a Chyffeswyr Eglwys Loegr, neu’r Merthyrdraeth. Dyma glamp o lyfr sy’n olrhain hanes yr Eglwys, gyda sylw arbennig i ddaliadau a dioddefiadau’r merthyron Protestannaidd. Chwedl Jonathan Jones yn ei gofiant i Thomas Jones, ‘Y mae y llyfr yn llawn o ddau beth – gwirionedd a gwaed yr Eglwys.’

Ei gyfraniad diwinyddol

Ond haedda sylw’n fwyaf arbennig oherwydd ei gyfraniad diwinyddol. Iddo ef (a Thomas Charles) yn anad neb y mae’r diolch i bulpud Cymru gael ei ddiogelu gyhyd rhag cyfeiliornad athrawiaethol. Wrth sefyll dros y ffydd a roddwyd unwaith i’r saint, fe’i cafodd ei hun yng nghanol brwydrau ynghylch rhai o athrawiaethau canolog yr efengyl. Nodwn dair brwydr benodol:
Yn gyntaf, dadleuon ynghylch Arminiaeth. Ymddangosodd Wesleaeth Gymraeg gyntaf yn 1800 yn ardal Rhuthun, lle roedd Thomas Jones yn byw ar y pryd. Dadleuai ei chefnogwyr yn frwd nad yw’r natur ddynol wedi ei llygru’n llwyr gan bechod, ac felly fod y gallu gennym ohonom ein hunain i gredu yng Nghrist. Ymateb Thomas Jones oedd ysgrifennu nifer o lyfrau i wrthwynebu’r syniadau hyn, gan bwysleisio mai Duw yn ei ras sy’n achub pechaduriaid. Ynddynt dengys ei wybodaeth feiblaidd a’i afael meistrolgar ar ddadleuon diwinyddol ar hyd y canrifoedd.

Yn ail, dadleuon ynghylch Uchel-Galfiniaeth, neu’n fwy penodol helaethrwydd yr iawn. Ym marn rhai – gan gynnwys John Elias a Christmas Evans – roedd ‘gwerth’ iawn Crist yn cyfateb yn union i ‘swm’ pechod yr etholedigion. Llwyddodd Thomas Jones i ddarbwyllo Elias mai Crist ei hun yw’r iawn dros bechod (1 Ioan 2:2). Gan fod Crist yn anfeidrol, rhaid felly fod ei iawn hefyd yn anfeidrol. Yn nhrefn y cadw mae’r iawn yn effeithiol ar gyfer yr etholedigion yn unig; ond ynddo’i hun mae’n ddiderfyn.
Yn drydydd, dadl ynghylch bwriad yr iawn. Daliai John Roberts, Llanbryn-mair, fod bendithion tymhorol cyffredinol hefyd yn tarddu o iawn Crist. Gwrthwynebwyd y syniad hwn yn gadarn gan Thomas Jones: iddo ef, hanfod bwriad yr iawn oedd dofi digofaint cyfiawn Duw yn erbyn pechod.

Thomas Jones a Thomas Charles

Mae pwysigrwydd Thomas Jones yn mynd tu hwnt i’w ddoniau mewn barddoniaeth a rhyddiaith. Cymerwch ei ddylanwad ar ei gyfaill Thomas Charles, er enghraifft. Bu’r ddau’n gyd-olygyddion arloesol Trysorfa Ysprydol – y cylchgrawn Cristnogol cyntaf yn Gymraeg (ac o ran ei safbwynt diwinyddol yn rhagflaenydd i’r Cylchgrawn Efengylaidd!). Bu Jones hefyd yn ddylanwadol yn y bwriad i gyhoeddi Geiriadur Charles; diwygiodd ddrafft cyntaf yr Hyfforddwr; a lluniodd gofiant i Charles. Roedd ei gyfeillgarwch yn gyfrwng i wneud Charles yn fwy o Gymro o ran ei agwedd gyffredinol a chywirdeb ei Gymraeg.
A bu dylanwad Jones ar Charles yn achos Methodistiaeth hefyd yn bwysig iawn. Gyda’i gilydd lluniasant Rheolau a Dybenion y Methodistiaid yng Nghymru (1801), gyda sylw arbennig i’r gofynion ar gyfer cael derbyniad i’r seiat. A Thomas Jones yn anad neb a ddarbwyllodd Charles y dylid ymwahanu oddi wrth Eglwys Loegr, gan sefydlu’r Methodistiaid Calfinaidd Cymreig fel enwad yn 1811.

Diwinydd mwyaf Cymru?

Gellid cyfeirio at gyfraniadau eraill Thomas Jones, megis ei argraffwasg (a brynwyd wedyn gan Thomas Gee), ei eiriadur Saesneg a Chymraeg (1800), ei gymorth gwerthfawr wrth baratoi argraffiadau o’r Beibl, ei gefnogaeth i Gymdeithas y Beibl a Chymdeithas Genhadol Llundain, ac ati. Ym mhob dim roedd yn eiddgar – fel y fronfraith – i ogoneddu Duw.
Swm a sylwedd hyn i gyd yw fod lle eithriadol o bwysig i Thomas Jones Dinbych yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru: Yn wir, gellid dadlau mai ef yw diwinydd mwyaf Cymru. Yn wahanol i’r Tom Jones arall, nid ‘The green, green grass of home’ oedd yn bwysig iddo, ond ‘Y Ganaan dragwyddol ei chân’. Nid oedd ‘Delilas’ y byd hwn yn medru ei demtio na’i dwyllo; yn hytrach, ‘Fy Iesu hardd, hyfrydwch nefol lu’ oedd ei hyfrydwch yntau hefyd. ‘It’s not unusual’ i ddod ar draws Cristnogion ardderchog yn hanes ein gwlad, ond mae Thomas Jones Dinbych gyda’r ardderchocaf ohonynt. Y Tom Jones arall sy’n cael sylw’r dorf a’r cyfryngau. Ond yn hanes Cymru, a hanes Cristnogaeth Cymru, Thomas Jones – dyn diwinyddol Dinbych – sy’n wir bwysig.