Y Gwaharddiad ar Smacio a’r Cristion
Gareth Edwards
Ar ddiwedd Ionawr pasiwyd Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) yn y Senedd. Mae’r Bil yn nodi newid arwyddocaol yn y berthynas gyfreithiol rhwng rhieni a’u plant, a hefyd rhwng y teulu a’r wladwriaeth. Ond beth mae’r Bil yn ei wneud, a beth mae’n ei olygu i Gristnogion yng Nghymru?
Beth mae’r Bil yn ei wneud?
Mae’r Bil yn newid deddfau presennol ar ymosodiad i ddileu cosb resymol yn amddiffyniad gan rieni sy’n rhoi smac ysgafn i ddisgyblu eu plant. Roedd eisioes yn anghyfreithlon rhoi smac oedd yn gadael mwy na marc coch dros dro ar y croen. Bellach, gall unrhyw fath o gosb gorfforol gan riant ar eu plentyn, pa mor ddiniwed bynnag, arwain at erlyniad am ymosod.
Mae Llywodraeth Cymru a chefnogwyr y Bil yn pwysleisio nad oes yma greu trosedd newydd yn y gyfraith. Er hynny, drwy ddileu amddiffyniad cosb resymol, bydd yn creu troseddwyr newydd fel mae’r gweinidog sy’n gyfrifol am y bil, Julie Morgan ei hun yn cydnabod.
Tra bod oddeutu 30% o 193 gwladwriaeth y byd wedi ‘gwahardd’ smacio, mae’r rhan helaeth ohonynt wedi defnyddio cyfraith sifil, a hynny mewn ffordd symbolaidd yn bennaf. Bydd Cymru ymysg nifer fach iawn o genhedloedd a fydd yn defnyddio’r gyfraith droseddol i gosbi smacio.
Beth yw’r Gofid?
Mae anawsterau’n codi o’r gwaharddiad, os credwch fod smacio yn ffordd effeithiol o ddisgyblu neu beidio. Ar lefel ymarferol, ni fydd yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol yn debygol o allu ymdopi â’r gwaith ychwanegol, yn enwedig os na chânt yr adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen. Mae gofid hefyd am effaith y gwaharddiad ar deuluoedd. Meddai Katie O’Connell sy’n arbenigwraig ar gyfraith teulu ‘Os bydd rhiant yn cael ei archwilio am drosedd fel hon, neu’n waeth, yn cael ei ddyfarnu’n euog am drosedd ymosod ar ei blentyn, gallai adael y teulu mewn cythrwfl dwys.’ Yn yr un modd, ofnir y bydd plant anfodlon yn cyhuddo eu rhieni ar gam, neu rieni’n cyhuddo’i gilydd o smacio yn arf mewn achos ysgariad.
I Gristnogion, y gofid pennaf fydd ymyrraeth y wladwriaeth â bywyd teuluol. Yn ei ddoethineb creodd Duw y teulu i fod yn garreg sylfaen cymdeithas. O fewn y teulu rhoddodd awdurdod i rieni i feithrin, gwarchod a disgyblu plant. (Salm 78:5-6; Diarhebion 1:8). Er bod gan y wladwriaeth hefyd awdurdod gan Dduw ( Rhufeiniaid 13:1-7; 1 Pedr 2:13-17), ni ddylai arfer y grym hwn dros fywyd teuluol oni bai fod achos o gam-drin neu esgeuluso plant. Yn anffodus, yn enw hawliau plant, mae rhai gwleidyddion ac ymgyrchwyr yn ceisio cyfyngu ar awdurdod rhieni. Mae hynny’n wir, nid yn unig gyda’r gwaharddiad ar smacio, ond hefyd mewn addysg lle mae hawl rhieni i eithrio eu plentyn o Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb dan fygythiad.
Mae rhai yn dadlau y dylid trin plant yr un fath ag oedolion. Ond mae hynny’n tanseilio’r berthynas rhiant-plentyn sy’n agwedd bwysig o drefn cread Duw. Nid oedolion ydi plant ac mae’r gyfraith a chymdeithas yn gywir i’w trin yn wahanol.
Mae Cristnogion yn cydnabod fod disgyblaeth gadarn yn rhan annatod o ddangos gwir gariad at blant. Mae Duw ei hun yn disgyblu ei blant mewn modd sy’n boenus yn y tymor byr er mwyn eu lles hir dymor. Dyma’r patrwm i rieni ei ddilyn wrth ddisgyblu eu plant (Hebreaid 12:7-11).
Mae gofyn i rieni ddisgyblu ac addysgu eu plant, ac i blant garu ac ufuddhau i’w rhieni (Effesiaid 6:1-4). Mae ymyrraeth ddiangen yn y berthynas hon gan y wladwriaeth yn gorymestyn y rôl a roddodd Duw iddi. Yn nhrefn Duw i gymdeithas, mae awdurdod yn y teulu yn aros gyda rhieni ac nid gyda’r wladwriaeth. Nid y wladwriaeth sy’n rhoi’r awdurdod hwn ond yn hytrach rhaid i’r wladwriaeth gydnabod mai dyma drefn Duw. Mae gwyrdroi’r drefn ddwyfol hon yn sicr o ddifrodi cymdeithas yn gyffredinol, a phlant yn neilltuol.
Beth fydd yn digwydd?
O nawr hyd 2022 bydd ymgyrch i addysgu rhieni am y gwaharddiad smacio. Unwaith y bydd y gwaharddiad mewn grym, bydd unrhyw ddisgyblu corfforol ar blentyn mewn perygl o arwain at erlyniad. Fel Cristnogion, credwn y dylem fod yn ufudd i ddeddfau’r wlad onid ydynt yn glir yn erbyn cyfraith Duw. O ganlyniad, er yn anghytuno â’r ddeddfwriaeth, bydd yn ofynnol i gredinwyr ddilyn y gwaharddiad neu wynebu’r posibiliad y bydd yr awdurdodau yn eu cyfrif yn euog o gam-drin plant.
Cyflwynwyd cyfraith debyg yn 2007 yn Seland Newydd, ac mae ymchwil ddiweddar wedi dangos fod rhieni cariadus, da wedi eu criminaleiddio. Awgrymodd Julie Morgan y bydd hyd at 2,740 o bobl yn cael eu harchwilio a’u hanfon i gynllun ailaddysgu’r Llywodraeth yn ystod pum mlynedd cyntaf y gwaharddiad. Crybwyllodd hefyd y gallai miloedd gael eu hychwanegu at Gronfa Ddata Genedlaethol Gorfodi’r Gyfraith gan efallai eu rhwystro rhag gweithio gyda phobl ifainc ac oedolion bregus.
Hefyd, mae llawer ohonom yn ein gwaith beunyddiol yn cadw at bolisïau gwarchod sy’n rhoi dyletswydd arnom i adrodd ar blentyn mewn perygl. O hyn ymlaen, bydd y cyffyrddiad ysgafnaf fel cosb yn cael ei gyfrif yn y categori hwnnw. Bydd aelodau’r cyhoedd hefyd yn cael eu hannog i adrodd ar rieni am smacio.
Beth ddylen ni wneud?
Mae’r Bil eisoes wedi ei dderbyn, ond nid yw hynny’n golygu y dylem roi’r gorau i geisio ennill y ddadl i gadw at drefn cread Duw. Gallwn barhau i ddatgan ein hanghytundeb â’r Bil wrth ein ACau. Bydd Sefydliad y Cristion yn sicr o gadw llygad ar y modd y bydd yn cael ei weithredu, ac yn asesu’r effaith fel y gallwn ddod â chanlyniadau negyddol i sylw’r awdurdodau Cynhelir etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf, ac efallai y bydd Senedd newydd yn ailystyried y ddeddfwriaeth. Mae’n annhebyg y byddai Senedd newydd yn ei newid, ond gallai gyfyngu ar ei effaith.
Wrth gwrs, dylem barhau i weddïo. Gweddïwch dros yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, gwasanaethau cymdeithasol ac eraill fydd yn ymwneud â gweithredu’r gwaharddiad, y byddant yn sensitif wrth ymdrin â theuluoedd. Gweddïwch na fydd rhieni cariadus yn cael eu clustnodi’n droseddwyr, plant yn dioddef a theuluoedd yn cael eu chwalu.
Hefyd, gweddïwn am ddoethineb wrth i ni ymateb i’r gwaharddiad o fewn ein teuluoedd ein hunain, ein heglwysi, ein gweithle a’n cymunedau.
Uwchlaw popeth arall, gofynnwn i’r Arglwydd ddefnyddio ein bywydau teuluol yn dystiolaeth i ddoethineb trefn ei gread ynghyd â’r gras sydd yn yr Arglwydd Iesu Grist.