Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Y Feirws Ofnadwy

20 Ebrill 2022 | gan John Treharne

Y Feirws Ofnadwy

John Treharne

Feirws corona a feirws pechod.

Un pwnc oedd ar feddwl pobl yn hanner cyntaf 2020, sef Cofid-19, y Coronafeirws. Ddiwedd Ionawr, cyhoeddodd y W.H.O. fod lledaeniad y feirws yn argyfwng. Yna, ar 11 Mawrth cyhoeddodd yr un corff ei fod yn bandemig. Mae hynny’n golygu ei fod yn haint byd-eang. Erbyn 13 Ebrill roedd 1,862,028 achos, a 114,980 wedi marw.
Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, cafodd llawer iawn o wledydd eu cau i lawr. Mae wed golygu cau ysgolion, colegau, llawer o siopau a busnesau, a chapeli hefyd. Roedd hynny’n golygu na ddylen ni gael grŵp sy’n fwy na dau berson gyda’i gilydd, heblaw am ein teulu sydd gartre. Os oes symptomau, dylen ni hunanynysu. Dyma’r symtomau: peswch newydd parhaus, llesgedd a thymheredd uchel. Bu lot fawr o ofn a phanig, a hynny’n naturiol oherwydd bod cymaint o bobl yn marw o’r feirws.
Er taw’r coronafeirws oedd ar feddwl pawb eleni, mae feirws llawer mwy difrifol ar led yn y byd ers miloedd o flynyddoedd – sef pechod.

Tarddiad
Mae’n debyg bod yr achos cyntaf o Covid-19 yn Nhachwedd 2019. Yr ardal oedd Wuhan – Tsieina, a marchnad anghyfreithlon yn gwerthu ystlymod ymhlith anifeiliaid anarferol eraill. Maen nhw’n dweud mai prin iawn yw’r adegau pryd mae feirws fel coronafeirws (sydd mewn anifeiliaid megis llygod mawr ac ystlumod) yn croesi i’r ddynoliaeth. Dyna sydd wedi digwydd wrth i rywun brynu a bwyta ystlumod, mae’n debyg.

Daeth pechod yn broblem ddifrifol i’r ddynoliaeth wrth iddo groesi o’r sarff, sef y diafol, yn Eden i Adda ac Efa. Roedd Satan wedi ei lygru gan wenwyn yn erbyn Duw eisoes, ond llwyddodd y pryd hwnnw i basio drwgdybiaeth a gwrthryfel yn erbyn Duw i’n rhieni cyntaf.

Pandemig
Ar 11 Mawrth – cyhoeddodd y W.H.O. fod y Coronafeirws yn bandemig. Daw’r gair o ddau air Groeg: ‘Pan’ (popeth, y cyfan) a ‘demos’ (pobl). Yr ystyr lythrennol, felly, yw ‘yr holl bobl’, er nad yw hynny’n llythrennol wir. Mae’n golygu ei fod yn effeithio ar fwyafrif y byd.

Ond mae’n llythrennol wir am bechod – ‘Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw’ Rhuf.3:23. ‘Nid oes neb cyfiawn, nac oes un, neb sydd yn deall, neb yn ceisio Duw. Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd; nid oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un’ Rhuf.3:10-12. Mae hyn yn cynnwys y Cenhedloedd a’r Iddewon, pobl o bob lliw a llun, pob statws a gallu, pob diwylliant a chefndir – ni.

Symptomau
Peswch, tymheredd, llesgedd, diffyg anadl. Dyma symptomau pechod: Drwgdybiaeth ac amheuaeth o Dduw, gwrthryfel yn erbyn Duw.
Dyma ein pechodau: anufudd-dod, methiant i garu Duw â’r holl galon, yr holl feddwl, yr holl enaid a’r holl nerth. Gwneud Duw yn fach; yn atebol i ni; ei fowldio i’n siwtio ni; hefyd – dweud nad yw’n bod.
Methiant i garu ein cymydog fel ni’n hunain. Lladd, (sydd yn cynnwys casineb, diffyg amynedd, enllib, awydd i symud eraill o’r ffordd); godineb, (teulu o bechodau rhywiol pan nad yw perthynas neu feddyliau rhywiol yn cael eu cadw i briodas dyn a menyw); lladrata, (e.e. dwyn eiddo, amser, diniweidrwydd eraill); cam-dystiolaeth, (e.e. dweud anwiredd, hanner gwir, i arbed ein hunain a rhoi eraill mewn golwg wael); chwennych, (y trachwant sydd yn codi fy nymuniad i uwchben llawenhau ym mendithion a doniau eraill.) Mae’r rhain yn effeithio meddwl, calon, gwefus, dwylo a thraed. Mae’n golygu gwneud yr hyn na ddylem, a gadael beth ddylem wneud.

Gofid
Pwysleisiodd y W.H.O. ein bod mewn argyfwng byd-eang. Dylem gymryd pob mesur posib i’w atal a’i rwystro. Difrifolodd agwedd llywodraeth Prydain wrth i amser fynd yn ei flaen.
Y gofid pennaf yw colli bywyd. Mae rhai yn amcangyfrif y gallai rhwng 250,000 a 1,500,000 farw drwy’r byd cyfan. Difrifoldeb pechod yw ei fod yn arwain at farwolaeth driphlyg. ‘Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd’ Rhuf.6:23.
Marwolaeth gorfforol – gwahanu corff ac ysbryd. Dyma pam rydyn ni’n gorfod wynebu marwolaeth o gwbl yn y lle cyntaf. Rhybuddiodd Duw Adda i beidio â bwyta ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg oherwydd:‘gan farw y byddi farw’.
Marwolaeth ysbrydol – gwahanu dyn a Duw: ‘ond eich camweddau chwi a ysgarodd rhyngoch a’ch Duw, a’ch pechodau chwi a barodd iddo guddio’i wyneb fel nad yw’n eich clywed’ Es.59 Cafodd ein rhieni cyntaf eu bwrw allan o baradwys Eden, ac rydyn ni’n dod i’r byd hwn heb berthynas agos â Duw. Dyma’r ynysu mwyaf difrifol i ni. Dyma wreiddyn ein holl drafferthion.
Marwolaeth dragwyddol i gorff ac enaid yn uffern. Mae Iesu’n sôn llawer am hyn. Mae’n sôn am ‘ddistryw’, ‘y tywyllwch eithaf’, ‘y tân tragwyddol’, ‘cosb dragwyddol’, ‘wylo a rhincian dannedd’. Mae’r apostol Paul hefyd yn cyfeirio at ddinistr tragwyddol: ‘Fe ddaw mewn fflamau tân, gan ddial ar y rhai nad ydynt yn adnabod Duw a’r rhai nad ydynt yn ufuddhau i Efengyl ein Harglwydd Iesu. Dyma’r rhai fydd yn dioddef dinistr tragwyddol yn gosb, wedi eu cau allan o bresenoldeb yr Arglwydd ac o ogoniant ei nerth ef’ 2 Thes.1:8-9.

Brechlyn
Gwaetha’r modd, does dim brechlyn ar gael eto i’r coronafeirws. Ond mae gwellhad i feirws pechod! Ffordd Duw o wella pandemig pechod oedd anfon ei Fab, oedd yn rhydd o’r haint, i ganol y feirws a’r cleifion oedd yn dioddef ohono. Wnaeth e ddim hunanynysu, ond daeth i fyd drwg, syrthiedig a llwyddo i fyw heb bechod. Ef oedd yr unig un erioed i fyw yn ddi-haint, yn ddi-bechod.
Bu farw o’r clwyf yn lle’r cleifion ac er mwyn eu gwella nhw. Profodd y tri math o farwolaeth ar y Groes a daeth trwy’r cwbl yn llwyddiannus! ATGYFODODD!

Mae ganddo awdurdod i dderbyn pechadur, i faddau iddo, a’i wella’n llawn yn y pendraw. Mae miliynau wedi dod ato yn eu pechod ac wedi cael iachâd – Gallwn feddwl am iachâd triphlyg:

  • maddeuant, glanhad – derbyniad llawn gan Dduw a’n hadfer i berthynas agos o gariad– yn sicrhau nad oes marwolaeth dragwyddol.
  • nerth i ymladd yn erbyn yr haint – calon newydd, nerth Duw gyda ni trwy fod Iesu Grist yn eiriol ar ddeheulaw Duw ac yn sicrhau bod gras i ni trwy’r moddion gras (Gair Duw, gweddi, cymdeithas, ordinhadau) a’r Ysbryd Glân yn eu cludo atom. Mae esboniad o’r cwbl ac addewidion gan Dduw ynglŷn â hyn yn yr Ysgrythur. Cawn ein nerthu i gynhyrchu ffrwyth yr Ysbryd a dod yn debycach i Iesu Grist.
  • gwellhad llwyr – yn yr Ailddyfodiad. Erbyn hynny ni fydd unrhyw bechod yn yr enaid, byddwn yn cael corff newydd heb lygredd na sgileffeithiau pechod – Iachâd llwyr!

Beth a ddylem wneud?
Y cyngor ynglŷn â’r Coronafeirws yw: hunanynysu a dim ond galw 111 os oes rhaid. Mae rhai yn cael prawf, a rhai yn mynd i’r ysbyty.
Yn ôl yr efengyl caiff pawb ddod at y meddyg, beth bynnag ei gyflwr. Nawr! ‘Bydd pob un y mae’r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi, ac ni fwriaf allan byth mo’r sawl sy’n dod ataf fi’ Ioan 6:37.
Rhaid peidio â chuddio’r cyflwr na’r symptomau: y llesgedd a’r gwendid o fethu â charu Duw na dynion yn iawn, y gwres uchel yn ein tymer, ein hunanoldeb, ein trachwant a’n balchder naturiol, heb sôn am lygredd ffiaidd ein calonnau, ein meddyliau a’n genau hefyd.
Rhaid cyffesu ac edifarhau, rhaid dod at Iesu Grist er mwyn mwynhau gwellhad ei faddeuant yn ein bywydau.
Rhaid credu yn yr un fu farw dros ein pechod ar groes Calfaria.
‘Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych fod y sawl sy’n gwrando ar fy ngair i, ac yn credu’r hwn a’m hanfonodd i, yn meddu ar fywyd tragwyddol. Nid yw’n dod dan gondemniad; i’r gwrthwyneb, y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd’ Ioan 5:24.
Rhaid dod ato am wellhad a derbyniad – rydyn ni’n siŵr o’i gael!
Beth amdanat ti?
Wyt ti’n gallu gweld y symptomau?
Wyt ti wedi cael gwellhad?

Heddiw yw’r amser i ddod yn bersonol at Iesu Grist. Mae’n galw arnom i droi ato ac i gredu yn yr un sydd wedi marw drosom ar y groes i ni gael gwellhad.