Y Cristion a’r Amgylchedd
Planetwise: Dare to Care for God’s World gan David Bookless, (IVP, 2008)
adolygwyd gan Gwilym Tudur
Ni ellir gwadu nad newid hinsawdd yw un o bynciau llosg ein hoes a’n cymdeithas. O areithiau tanllyd Greta Thunberg i’r Cenhedloedd Unedig; i brotestiadau lliwgar Extinction Rebellion ar strydoedd Llundain; i wellt papur McDonalds – mae gofal amgylcheddol bellach yn cael sylw dyddiol gennym. Yn 2019, cyhoeddodd 25 o wledydd y byd ein bod yn wynebu ‘argyfwng hinsawdd’ ac mae un arolwg diweddar yn dweud fod 70% o genhedlaeth ein hieuenctid—Cenhedlaeth Z—yn pryderu am ganlyniadau newid hinsawdd ar eu bywydau. Heb os, gofal amgylcheddol yw un o bynciau mawr ein hoes—ac mae’n debyg y bydd yn dod yn bwnc pwysicach fyth wrth i 2020 fynd yn ei blaen.
Y cwestiwn mawr sydd ar feddwl llawer ohonom ydy sut y dylem ni, fel Cristnogion, ymateb i’r diddordeb newydd hwn mewn gofal amgylcheddol a newid hinsawdd? Mae cyfrol David Bookless, Planetwise: Dare to Care for God’s World, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008, yn fan cychwyn da i gael ateb i’r cwestiwn hwn. Yn y llyfr hwn, mae Bookless—cyn-gyfarwyddwyr yr elusen amgylcheddol Gristnogol A Rocha UK—yn amlinellu gweledigaeth Gristnogol dros ofalu am yr amgylchedd. Etyb ef y cwestiwn uchod drwy egluro fod Duw yn galw ei bobl i edrych ar ôl y blaned hon.
Cryfder mawr y gyfrol yw ei bod hi’n hynod o Feiblaidd. Mae’r awdur yn gyson yn gwreiddio’r hyn mae yn ei ddweud yn nhystiolaeth y Gair. Trosolwg o stori fawr y Beibl yw rhan gyntaf y gyfrol lle mae Bookless yn egluro sut mae pob rhan o gynllun Duw—o Eden i’r Ailddyfodiad—yn ein hannog i edrych ar ôl ei greadigaeth. Cychwynna’r awdur drwy edrych ar y ffordd a wnaeth Duw greu byd da a chreu Adda ac Efe ar ei lun a’i ddelw ei hun a’i gosod yng Ngardd Eden yn stiwardiaid neu arddwyr i ofalu am y ddaear. Wedi hynny, eglura mai Cwymp dynoliaeth i bechod yw tarddiad holl broblemau’r byd gan gynnwys yr holl broblemau hinsawdd yr ydym yn eu hwynebu heddiw. O ganlyniad i effaith y Cwymp a phechod, mae dynoliaeth wedi dinistrio ac ecsbloetio’r amgylchedd ar hyd y blynyddoedd.
Uchafbwynt y llyfr, fodd bynnag, yw’r penodau hynny lle mae Bookless yn siarad am ddyfodiad ac Ailddyfodiad Iesu Grist a pherthynas y digwyddiadau hynny â’r amgylchedd. Mewn un bennod, manyla’r awdur ar yr adnod honno yn Ngholosiaid 1 lle mae’r Apostol Paul yn sôn fod Iesu wedi dod i ‘gymodi pob peth ag ef ei hun’ (Col. 1:20) gan egluro fod Duw, trwy groes ac atgyfodiad Iesu, wedi cychwyn ar y gwaith o adfer y greadigaeth. Mewn pennod arall, esbonia Bookless fod y greadigaeth syrthiedig hon yn mynd i gael ei hadnewyddu’n llwyr pan ddaw Iesu i sefydlu’r Ddaear Newydd a’r Nefoedd Newydd ar ddiwedd amser (Dat. 21). Mae’r holl ddiwinyddiaeth Feiblaidd goeth yn argyhoeddi’r darllenydd fod gofal amgylcheddol yn ddyletswydd Gristnogol.
Cymhwyso’r ddysgeidiaeth hon i’n bywydau ni a wna’r awdur yn ail hanner y llyfr. Yn y penodau hyn, mae Bookless yn annog ei ddarllenwyr i weld gofal amgylcheddol yn rhan hanfodol o’u bywydau fel Cristnogion. Fel dilynwyr i’r Arglwydd Iesu, dylem ymdrechu i ailgylchu ein sbwriel, i leihau ein gwastraff wythnosol, ac i brynu bwyd gan fusnesau lleol. Yn ôl yr awdur, yn hytrach nag anwybyddu’r diddordeb newydd mewn materion amgylcheddol, dylem fod ar flaen y gad yn ymgyrchu dros atal newid hinsawdd.
Er bod llawer o gryfderau i’r llyfr hwn, mae hefyd yn cynnwys ambell wendid. Un o wendidau pennaf y llyfr yw methiant yr awdur i egluro’n ddigonol ym mha ffyrdd mae gweledigaeth secwlar ynglŷn â materion amgylcheddol yn wahanol i’r weledigaeth Gristnogol. Yn wir, mae rhai o syniadau ac egwyddorion y mudiad amgylcheddol secwlar yn groes i’r weledigaeth Gristnogol. Er enghraifft, yn ôl rhai ymgyrchwyr amgylcheddol, nid yw bodau dynol yn bwysicach nag anifeiliaid, ac mae rhai ohonynt yn mynd mor bell ag awgrymu mai peth da fyddai cael gwared ar y ddynoliaeth er mwyn edrych ar ôl yr amgylchedd. Mae’r Cristion, fodd bynnag, yn credu fod bywydau pobl yn fwy gwerthfawr nag anifeiliaid a bod ganddynt rôl ganolog yng nghreadigaeth Duw—nid i’w dinistrio ond i ofalu amdani. Yn wir, er bod llawer o bethau y gellir eu cymeradwyo am ddiddordeb cymdeithas mewn gofal amgylcheddol, nid yw Bookless yn mynd ati’n ddigonol yn y llyfr hwn i nodi’r hyn y mae’n rhaid i ni ei gwestiynu am weledigaeth secwlar ein cymdeithas.
Ond, er gwaetha’r gwendid hwn, erys Planetwise gan David Bookless yn gyfrol arbennig o ddefnyddiol a gwerthfawr wrth i ni —fel pobl yr Arglwydd Iesu Grist— ystyried sut y dylem ninnau ymateb i un o faterion pwysicaf ein hoes mewn modd sy’n ffyddlon i’r hyn mae Duw wedi ei ddatguddio i ni yn y Beibl.