Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Y Bil Addysg Newydd yng Nghymru

25 Ebrill 2022 | gan Gareth Jones

Y Bil Addysg Newydd yng Nghymru

Gareth Jones

Oes bell, bell yn ôl, enw’r pwnc a astudiais i ar amserlen yr ysgol oedd (yn syml) ‘Ysgrythur’. Roedd y gwersi i gyd a maes llafur lefel ‘O’ yn y pwnc yn gwbl seiliedig ar astudiaeth o’r Beibl. Anodd credu erbyn hyn! Ymhen amser newidiwyd y teitl i fod yn ‘Addysg Grefyddol’ a chyda threigl y blynyddoedd troes yn wir nid i fod yn astudiaeth o Gristnogaeth yn unig ond o amryw grefyddau eraill hefyd. Rhan o fwriadau’r Bil Addysg sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd yw ei newid ymhellach, a’r teitl a ddynodir iddo yw ‘Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg’.

Gall rhywun feddwl mai mater eithaf diniwed yw hynny, ond pan ystyrir yr hyn sydd eisoes wedi digwydd gyda newidiadau i faes llafur y pwnc, fel y gwelwn uchod, mae angen deffro i ba mor bellgyrhaeddol y mae’r goblygiadau. Y diben yw bod yr elfen newydd hon yn cwmpasu gwersi gorfodol ar anffyddiaeth a safbwyntiau ‘di-grefydd’ i bob disgybl. Felly, yn yr un gwynt ag y mae elfennau ysbrydol yn cael eu cynnwys yn y cwricwlwm, mae’n fwriad tanseilio hynny drwy eu gosod mewn cyd-destun gwrth-ysbrydol! Tybed a fyddid yn ystyried am funud cyflwyno unrhyw ‘bwnc’ arall mewn ysgolion lle cynhwysir elfennau sy’n gwrthweithio hanfodion y pwnc hwnnw! Dyma unwaith eto ymgais i secwlareiddio ymhellach ar ein plant ac i’w hamddifadu o‘u hetifeddiaeth ysbrydol. Ac mae’n rhaid cofio nad yw’r ‘seciwlar’ yn gyflwr neu’n safbwynt niwtral. Gwyddom o brofiad chwerw mai proses barhaus yw hon i lastwreiddio ffydd neu hyd yn oed i’w difetha’n gyfan gwbl. Bydd Cristnogaeth yn sicr o gael ei gwthio ymhellach i’r ymylon drwy agenda fel hon. Peidiwn â digalonni, serch hynny – mae gennym Dduw sy’n rheoli pob peth. Nid yw ei Deyrnas Ef fel teyrnasoedd y byd: ni ellir ei chyfyngu, nid yw’n deyrnas anghyfiawn na gormesol fel rhai’r byd, ac nid oes mynd a dod iddi chwaith, oherwydd y mae’n deyrnas dragwyddol, anghyfnewidiol.

Mae’n greiddiol i unrhyw gwricwlwm gyffwrdd â phrif brofiadau ein dynoliaeth. Ac yn wir, mae’r cwricwlwm yn draddodiadol wedi gwneud hynny, gan gwmpasu llythrennedd a rhifedd, iaith a llên, gwyddoniaeth, arlunwaith, y celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, hanes a daearyddiaeth, chwaraeon ac ymarfer corfforol, ac elfennau eraill. Nid llai pwysig – pwysicach yn fy mhrofiad i yn y maes addysg, yn enwedig o ran ymarweddiad plant a phobl ifainc tuag atynt eu hunain a thuag at eraill – yw’r wedd ysbrydol. Dyna’r holl fwriad dros gynnwys ’crefydd’ yn y cwricwlwm, oherwydd y mae’n greiddiol i ni, ac yn cyffwrdd â ni fel person, nid yn unig o ran ein bod yn gorff o gig a gwaed, ond oherwydd bod gan bob un ohonom hefyd enaid ac ysbryd. Mae’n fynegiant o’n dynoliaeth ni yn ei hagweddau dyfnaf, mwyaf chwyldroadol, o ran – fel yr awgrymais – gwerthoedd, ymagweddiad ac ymddygiad. Yn awr, yn hytrach na rhoi eu lle haeddiannol i’r rheini, ymddengys mai’r diben yw cyflwyno’r pethau aruchel hyn mewn cyd-destun o negyddiaeth a sinigiaeth. Gwnaethpwyd datganiadau gan ddyneiddwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn mai eu bwriad – a chymryd eu geiriau nhw eu hunain – yw ‘to debunk religion’ ac i danseilio’r olwg Dduw-ganolog ar y byd a’n bodolaeth ninnau. Yn ôl cyfrifiad 2011, gyda llaw, 815 o ddyneiddwyr oedd yng Nghymru o’u cymharu â 8,259 o Jedi Knights! Ni ellir ond gofyn sut yn y byd y medrir disgwyl i athrawon o ran eu hintegriti a’u hygrededd gwmpasu’r pethau croesweithiol hyn wrth addysgu’r pwnc.

Rhaid bod yn glir hefyd. Nid yw anffyddiaeth ac agweddau ‘digrefydd’ mewn gwirionedd yn perthyn i ffydd. Nid credo mohonynt, ond yn hytrach athroniaeth. Anathema yw meddwl amdanynt yn cael eu cynnwys o dan yr un ymbarél â ffydd a chred.
Yn gyfochrog â hyn i gyd, yn ôl a ddeallaf, mae’n fwriad gwyrdroi hawl rhieni i eithrio eu plant o wersi, hawl sydd erioed wedi cydnabod rôl ganolog egwyddorion ffydd rhieni ym magwraeth eu plant. Yn awr, gan fod anffyddiaeth i’w chynnwys, mae’n fwriad dileu’r hawl sylfaenol hon. A fydd penderfyniad o’r fath yn esgor ar ganlyniadau annisgwyl? Eisoes mae 1,682 o blant yn cael eu haddysgu gartref yng Nghyrmru, ffigur sydd ar gynnydd, gyda chanran ohonynt o leiaf mewn cartrefi Cristnogol. Oni allai mwy o Gristnogion yn sgil hyn benderfynu – gan nad oes hawl ganddynt i dynnu eu plant o wersi ‘Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg’ – eu tynnu allan o’r system addysg yn gyfan gwbl? Byddai hynny’n golled enbyd i bob ysgol, gallaf eich sicrhau chi.

Ar drywydd arall, o dan y thema newydd ‘Addysg Rhyw a Pherthynas’, disgwylir rhoi lle amlwg i elfennau LGBT yn y cwricwlwm. Mae’r materion hyn eisoes wedi peri cryn anesmwythyd yn Lloegr lle mae ysgolion megis wedi defnyddio’r elfennau – amwys yn aml – i broselyteiddio plant a’u drysu’n llwyr o ran rhyw a rhywedd (gender). Mae ofnau bod hyn yn normaleiddio LGBT ac yn annog plant i’w ddathlu. Bu peryglon mawr cysylltiedig hefyd ynghylch deunyddiau anaddas, a gwyddom am y pryderon cynyddol sy’n ymwneud â’r holl fater o unigolion yn cael eu cymell a’u helpu i newid rhywedd (gender unwaith eto.) Fe gofiwch, efallai, fod Keira Bell, sydd erbyn hyn yn 23 oed, wedi ennill achos yn erbyn Clinig Tavistock (a gafwyd yn ‘annigonol’ gan Arolygwyr yn ddiweddar) am y modd y cafodd ei thrin tra yn eu gofal yn ystod ei harddegau: rhoi iddi puberty blockers pan nad oedd hi’n ddigon hen i ystyried y risgiau a’r canlyniadau hirdymor. Mae hi nawr yn dymuno newid yn ôl i’w rhyw gysefin ond yn wynebu problemau mawr yn ei bywyd. Mae’r cyfan hyn felly megis agor bocs Pandora.

Mater arall o bwys yw’r broses ymgynghori a fabwysiedir gan y Senedd. Fe gofir, er bod mwyafrif mawr wedi anghytuno â’r bwriad i atal rhieni rhag smacio eu plant beth amser yn ôl, fod y mesur hwnnw wedi ei basio’n ddiwrthdro. Gyda’r Bil Addysg bu gwrthwynebiad clir i rai o’r bwriadau uchod. Roedd 62.2% o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn erbyn y newidiadau i Addysg Grefyddol, a chymaint ag 86.9% yn erbyn dileu hawl rhieni i dynnu eu plant allan o’r gwersi. Eto, mae’r union elfennau hyn yn dal i fod yn rhai amlwg yng nghorff y Bil. Gallwn ofyn felly: beth sydd mewn gwirionedd yn digwydd i’r broses ddemocrataidd yng Nghymru?

Un pwynt arall. Mae hi’n fater o bryder fod y Bil hwn yn cael ei dywys drwy’r Senedd ar adeg mor gythryblus i bawb, ac yn arbennig felly i’r byd addysg. Arweiniodd y cyfnodau clo yn dilyn Covid-19 at heriau digynsail i ysgolion ac awdurdodau addysg, gyda phlant yn colli misoedd o ysgol a’r drefn arholiadau ac asesu’n cael ei drysu’n llwyr. A dyma’r union bryd pan fo’r Bil Addysg newydd yn mynd drwy’r Senedd. A oes posib gwneud cyfiawnder ag ef a’i gyflwyno’n Fesur Addysg yn yr amser prin sydd ar ôl cyn etholiadau’r Senedd eleni, a’r byd addysg a’r wlad yn gyffredinol o dan y fath straen anarferol? A ellir ymddiried yn y broses graffu a gwir bwyso a mesur y Bil hwn o dan y fath amgylchiadau? Gweddïwch y bydd ystyriaethau fel hyn yn gallu helpu dwyn perswâd ar y Senedd.

Cofier dyfarniad Duw arnom: ‘Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod’ (Diarhebion 14:34).