Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Wyt ti wedi cael dy aileni?

25 Ebrill 2022 | gan Emyr James

Wyt ti wedi cael dy aileni?

Emyr James

 

Cwestiwn rhyfedd, efallai, ond cwestiwn pwysig. Wrth i Iesu drafod gydag athro Iddewig nodedig o’r enw Nicodemus, rydyn ni’n darllen y geiriau canlynol:

Atebodd Iesu ef: ‘Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o’r newydd ni all weld teyrnas Dduw.’ Meddai Nicodemus wrtho, Sut y gall neb gael ei eni ac yntau’n hen? A yw’n bosibl, tybed, i rywun fynd i mewn i groth ei fam eilwaith a chael ei eni?’ Atebodd Iesu: Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o ddŵr a’r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn sydd wedi ei eni o’r cnawd, cnawd yw, a’r hyn sydd wedi ei eni o’r Ysbryd, ysbryd yw. Paid â rhyfeddu imi ddweud wrthyt, ‘Y mae’n rhaid eich geni chwi o’r newydd.’ Y mae’r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei sŵn, ond ni wyddost o ble y mae’n dod nac i ble y mae’n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi ei eni o’r Ysbryd.” (Ioan 3:3-8)

Yn syth fe welwn ni Iesu’n pwysleisio fod yr angen i berson gael ei aileni yn gwbl ganolog. Ac felly, mewn ffordd does dim cwestiwn pwysicach y gellir ei ofyn na, ‘Wyt ti wedi dy aileni?’

Ystyr y term

Mae tipyn o ddryswch wedi tyfu am y term hwn a’i ystyr, gyda chynnydd mawr dros y blynyddoedd yn y sôn am ‘born-again Christians.’ Ond beth yn union yw’r ‘geni o’r newydd,’ neu’r ‘geni oddi uchod’? Wel, yn syml iawn, yr hyn a olygir yw gwaith yr Ysbryd Glân yng nghalon person sy’n rhoi bywyd ysbrydol newydd, lle roedd gynt yn farw. Nid yr aileni ynddo’i hun sy’n achub person. Yn hytrach, mae’r enedigaeth ysbrydol hon yn gwneud i berson ddod yn ymwybodol o lais Duw yn ei alw, ac yn ei alluogi i edifarhau o’i b/phechod a rhoi ei ffydd yn aberth yr Arglwydd Iesu yn eu lle.
Ac fel genedigaeth naturiol, sy’n gallu amrywio’n fawr – weithiau’n gyflym, weithiau’n araf, ar adegau yn rhwydd ac ar adegau eraill yn gymhleth – mae’r aileni ysbrydol yn gallu edrych ychydig yn wahanol ym mhrofiadau unigolion. Weithiau daw person i gredu fwy neu lai yn syth, ac ar adegau eraill gall cyfnod hir fynd heibio.
Felly, sut mae gwybod a wyt ti wedi dy aileni? Mae sawl ffordd o ateb y cwestiwn hwn ond hoffwn i gymharu genedigaeth ysbrydol â genedigaeth gorfforol. Hynny yw, ystyried beth sy’n digwydd pan fydd babi’n cael ei eni yn naturiol, ac wedyn holi a ydyn ni’n gweld rhywbeth tebyg yn ein profiad ysbrydol.

Babi yn galw allan

Os ydych chi erioed wedi gweld plentyn yn cael ei eni ar raglen deledu byddwch chi’n gwybod mai’r ffordd gyson o ddangos fod y baban wedi cyrraedd yw gwaedd! Mae’r babi yn dechrau galw allan. Ac felly mae hi gyda’r aileni hefyd. Wrth i ni ddod yn ymwybodol o’n sefyllfa ysbrydol, yr ymateb naturiol yw gweiddi allan. Gwelwn enghraifft glir iawn o hyn ar ddydd y Pentecost. Wrth i Pedr gyhoeddi’r efengyl, mae’r Ysbryd Glân yn gweithio yng nghalonnau’r gwrandawyr:

Pan glywsant hyn, fe’u dwysbigwyd yn eu calon, a dywedasant wrth Pedr a’r apostolion eraill, ‘Beth a wnawn ni, gyfeillion?’ Meddai Pedr wrthynt, ‘Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd.’ (Actau 2:37-38)

Ac yn wir dydy’r galw allan yma ddim yn rhywbeth sy’n digwydd unwaith yn unig. Fel plentyn i Dduw, y peth mwyaf naturiol yn y byd yw ein bod ni’n galw allan arno fe o hyd. Yn ei lythyr at y Rhufeiniaid mae’r apostol Paul yn disgrifio’r peth fel hyn:
Y mae pawb sy’n cael eu harwain gan Ysbryd Duw yn blant Duw. Oherwydd nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto’n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo yn llefain,‘Abba! Dad!’ Y mae’r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod yn blant i Dduw. (Rhufeiniaid 8:14-16)
Felly dyma’r arwydd cyntaf. Wyt ti’n galw allan ar Dduw, fel babi newydd ei eni?

Babi yn cael ei olchi

Mae genedigaeth yn beth digon gwaedlyd. A’r peth cyntaf sydd angen ei wneud wrth i’r babi gael ei eni yw cael ei olchi (neu o leia ei lanhau gyda thywel!)

Ond dyma rywbeth cyffredin i’r ailenedigaeth. Rydyn ni’n dod yn ymwybodol o’n brynti a’n heuogrwydd a’r angen am ein golchi. Mae disgrifiad eithaf cignoeth o hyn yn llyfr y proffwyd Eseciel. Mae’n disgrifio’r ffordd roedd Duw wedi gweithio ym mhrofiad cenedl Israel. I ddechrau roedd fel plentyn gwaedlyd:
‘Yna fe ddeuthum heibio iti, a’th weld yn ymdrybaeddu yn dy waed, a dywedais wrthyt yn dy waed, ”Bydd fyw.”’ (Eseciel 16:6)
Yna pan ddaeth yr amser i’w cymryd nhw’n bobl arbennig iddo ef, neu fel gwraig:
Deuthum heibio iti drachefn a sylwi arnat, a gweld dy fod yn barod am gariad; taenais gwr fy mantell drosot a chuddio dy noethni. Tynghedais fy hun iti, a gwneud cyfamod â thi, medd yr Arglwydd DDUW, a daethost yn eiddo imi. ‘Golchais di mewn dŵr a glanhau’r gwaed oddi arnat, a’th eneinio ag olew.’ (Eseciel 16:8)

Mae Duw wedi trefnu ffordd i’n golchi ni a chuddio ein noethni trwy aberth yr Arglwydd Iesu Grist ar y groes. Felly dyma arwydd arall. Wyt ti’n ymwybodol o dy bechod ac yn gweld mai dim ond Duw a all dy lanhau?

Babi yn bwydo

Unwaith eto, rhywbeth hollol nodweddiadol o fabi newydd ei eni yw ei fod eisiau bwydo. Yn wir, os nad yw plentyn yn chwilio am laeth, yna mae’r meddygon yn pryderu. Ac er mai dim ond ychydig maen nhw’n gallu ei yfed ar y tro, mae babi eisiau bwyd yn gyson, ac mae ei chwant bwyd yn cynyddu!

Yn ei lythyr cyntaf mae Pedr yn dweud bydd yr un peth yn wir am berson sydd wedi ei aileni:
Fel babanod newydd eu geni, blysiwch am laeth ysbrydol pur, er mwyn ichwi drwyddo gynyddu i iachawdwriaeth, (1 Pedr:2:2)
Mae Duw wedi trefnu bwyd ysbrydol ar gyfer ei bobl – ei Air. Yr Arglwydd Iesu Grist, y Beibl sy’n sôn amdano, esboniad ffyddlon o’r pethau hyn – dyma’r llaeth ysbrydol pur mae Pedr yn ei olygu. Oes syched arnom ni? Ydyn ni eisiau clywed mwy, darllen mwy, deall mwy?

Babi yn rhan o deulu

Wrth i blentyn gael ei eni mae’n dod yn rhan o deulu. Dyna lle mae’n perthyn. Mae cysylltiad clos gyda’r rhieni, fydd yn datblygu ac yn dyfnhau dros amser. Byddan nhw’n tyfu’n fwy tebyg i’w rhieni. Ac fe fyddan nhw’n rhan o deulu ehangach hefyd.
Unwaith eto dyma fydd i’w weld ym mywyd person sydd wedi ei aileni.

Yn ei lythyr at yr Effesiaid, mae’r apostol Paul yn ysgrifennu’r geiriau hyn:
Byddwch, felly, yn efelychwyr Duw, fel plant annwyl iddo, (Effesiaid 5:1)
Os ydyn ni wedi ein haileni, yna fe fyddwn ni’n tyfu’n fwy tebyg i Dduw ein Tad. Byddwn ni’n dymuno dyfnhau yn y berthynas honno. Ond os yw Duw yn dad i ni trwy ffydd yn Iesu, mae hynny hefyd yn golygu fod yr Arglwydd Iesu yn frawd i ni, a bod Cristnogion eraill yn frodyr a chwiorydd i ni!

Yn Galatiaid 6 cawn yr anogaeth hon:
Felly, tra bydd amser gennym, gadewch inni wneud da i bawb, ac yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd. (Galatiaid 6:10)

Felly dyma’r arwydd olaf – ein bod ni’n caru pobl eraill sydd wedi eu haileni!

Wyt ti wedi dy aileni? Mae llawer mwy y gellir ei ddweud, ond beth am ddechrau trwy edrych am yr arwyddion hyn yn dy fywyd? Wyt ti wedi galw allan, wedi gweld dy fryntni a’th noethni, yn sychedu am Dduw ac eisiau tyfu yn dy berthynas ag ef a Christnogion eraill?