Wynebu’r Coronafeirws: gwersi gan yr Eglwys sydd dan erledigaeth
Matthew Rees
Nid yw cael eich rhoi mewn cwarantin yn eich cartref eich hun oherwydd y coronafeirws yr un peth â chael eich carcharu am eich ffydd, mae’n wir, ond mae’n dal i fod yn fath o unigedd a gallwn ddysgu oddi wrth y rhai sydd wedi bod yn y carchar, wedi cael eu carcharu yn eu tai eu hunain neu wedi cael eu halltudio.
Mae Cristnogion sy’n cael eu herlid ledled y byd yn feistri ar y grefft o fyw bywydau Cristnogol yn wyneb unigedd llethol.
Mae’n debyg mai’r enghraifft fwyaf eithafol yw’r rhai sy’n byw bywyd Cristnogol yng Ngogledd Corea. Mae hon yn wlad lle mae gallu rhywun i feddwl drosto’i hun wedi’i gyfyngu’n ddifrifol gan wyliadwriaeth y wladwriaeth a’i hymyrraeth mewn bywyd cyhoeddus a phreifat.
Anaml y bydd Cristnogion yng Ngogledd Corea yn cael y cyfle i gwrdd â’i gilydd i addoli. Os bydd y wladwriaeth yn darganfod eich bod yn grediniwr, carchar fydd y canlyniad yn aml. Os ydych yn fwy ffodus, cewch eich alltudio i bentref anghysbell.
Gwnaeth Hannah ddianc o Ogledd Corea dros y ffin i Tsieina lle y daeth hi’n Gristion. Ond pan gafodd ei darganfod gan yr awdurdodau, fe’i hanfonwyd yn ôl i Ogledd Corea a’i rhoi yn y carchar ar ôl iddi gyfaddef ei ffydd Gristnogol. Wrth gofio ei hamser yn y carchar, meddai:
Roeddwn i’n teimlo fy mod i ar fin marw. Cefais fy nadhydradu a’m curo nes fy mod yn anymwybodol. Pan ddeffrais, cefais fy llusgo yn ôl i gell gyda fy merch a charcharorion benywaidd eraill. Yna fe guron nhw fi o’u blaenau. Y cyfan y gallai fy merch ei wneud oedd crio’n dawel, a gwnaeth hynny ddydd a nos.
Ond hyd yn oed ar ganol yr erlid hwn, roedd ganddi un peth ar ei meddwl: yr Eglwys. Roedd hi’n gweld eisiau ei theulu eglwysig yn Tsieina. Gweddïodd ‘Dduw, newidia’r carchar hwn yn eglwys’.
Mae hon yn stori gyfarwydd ymhlith yr Eglwys sy’n cael ei herlid. Pan orfodwyd dinas Tsieineaidd Wuhan i fod y ddinas gyntaf i’w rhoi ‘dan glo’, penderfynodd y gweinidog Huang Lei na fyddai ei gynulleidfa yn trefnu eglwys ar-lein yn unig, ond y byddent yn dysgu bod yn eglwys ar-lein. Wrth sôn am yr hyn a wnaethant, meddai:
Yn gyntaf, mae gennym ni fwy na 50 o grwpiau. Mae bron pob un o’r grwpiau’n cyfarfod trwy’r rhyngrwyd. Gweddïo, astudio’r Beibl, rhannu, tystio, canmol ac addoli. O’r 50 hyn, mae gennym fwy na 30 o grwpiau sy’n treulio dwy awr bob dydd yn gweddïo, addoli, rhannu a thystio gyda’n gilydd! Mae hynny’n llawer amlach na’n cyfarfodydd arferol.Wrth gwrs, nawr mae gennym ni fwy o amser rhydd; mae pawb yn aros gartref, felly mae hynny wedi rhoi cyfle inni wneud hyn. Ond fel arfer rydyn ni’n cael y grwpiau yn cyfarfod yn wythnosol a nawr rydyn ni’n gwneud hyn yn ddyddiol – weithiau hyd yn oed yn fwy, felly rydyn ni’n ddiolchgar iawn am hynny.’
Mae eglwys Huang Lei wedi dysgu sut i adeiladu cymuned gryfach yng nghanol yr argyfwng sy’n datblygu o amgylch eu dinas. Yn wir, mae Duw yn gwneud pethau anghyffredin dan amgylchiadau anghyffredin. Ac ni ddylem wastraffu’r argyfwng hwn trwy ddifyrru ein hunain yn unig nes bod hyn drosodd. Gallwn brofi Duw mewn ffyrdd digynsail. Fel y dywedodd Cristion yn yr India yn ystod y cyfnod clo: ‘Ni ellir rhoi cariad Iesu mewn cwarantin.’ Gallwn brofi ei gariad a rhannu ei gariad yn ystod yr amser unigryw hwn yn ein hanes.
Mewn llawer o wledydd ledled y byd, mae creu eglwys dros y rhyngrwyd yn hen stori. Yn wir, mae’r cyfryngau eisoes wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd yr Eglwys sy’n cael ei herlid. Mae Open Doors yn darlledu rhaglenni radio i Ogledd Corea, yn defnyddio rhaglenni teledu yn Algeria i gefnogi Cristnogion sy’n methu â mynychu’r eglwys, ac mae’n darparu ‘ap’ anogaeth sy’n caniatáu i Gristnogion yn y Gorllewin gefnogi Cristnogion sy’n byw dan bwysau ar draws y Dwyrain Canol.
Er enghraifft, rhannodd Kamal*, crediniwr o gefndir Mwslimaidd, â gweithwyr maes Open Doors sut y daeth i adnabod Duw’r Beibl trwy’r cyfryngau cymdeithasol:
Roedd fy nghysylltiad cyntaf â Christnogaeth ar-lein; yno des i o hyd i fideos o bobl a esboniodd yr efengyl i mi. Ar ôl imi roi fy mywyd i Grist, roeddwn yn teimlo bod Duw yn fy ngalw i ddod yn weithgar mewn gweinidogaeth ar-lein i estyn allan at eraill.
Trwy Open Doors, mae Kamal wedi dysgu sut i adeiladu strategaeth cyfryngau cymdeithasol, sut i ganolbwyntio ar grŵp targed penodol a sut i gyrraedd y grŵp hwnnw trwy ddefnyddio Facebook, YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae wedi penderfynu canolbwyntio ei ymdrechion ar gefnogi menywod Cristnogol ynysig, gan nodi:
Ni all y mwyafrif o ferched sy’n dilyn Crist ddod i’r eglwys yn aml, yn enwedig y rhai o deuluoedd Mwslimaidd. Mae’n rhaid iddynt aros gartref gyda’u perthnasau ac ni allant fynd allan yn hawdd. Mae gweinidogaeth y cyfryngau cymdeithasol yn ein helpu i estyn allan atynt oherwydd bod ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd.
Ond mae’n rhaid i Kamal droedio’n ofalus ar-lein. ‘Gallaf gael fy anfon i’r carchar dim ond am ateb cwestiwn am Iesu ar Facebook,’ nododd. ‘Dyna pam rwy’n ceisio peidio â chymryd rhan mewn dadleuon a chanolbwyntio yn lle hynny ar feithrin perthynas â phobl. Mae perthynas yn fwy effeithiol na thrafodaeth.’
O amgylch y byd, mae’r Eglwys sy’n cael ei herlid yn newid ei siâp yn gyson, yn addasu ei ffyrdd o weithredu ac yn chwilio am Iesu yn y sefyllfaoedd mwyaf ynysig.
Wrth i ni fyw ein bywydau o dan glo, ac wrth i ni geisio creu eglwys ar ffurf wahanol i’r arfer, mae yna lawer y gallwn ei ddysgu gan yr Eglwys sydd dan erledigaeth.
* Ffugenw a ddefnyddir at ddibenion diogelwch