Trafod yr Efengyl gyda Gwyddonwyr
Emyr Macdonald
Y cam cosmig
‘Y mae’r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a’r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo. Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd, a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos. Nid oes iaith na geiriau ganddynt, ni chlywir eu llais; eto fe â eu sain allan drwy’r holl ddaear a’u lleferydd hyd eithafoedd byd. (Salm 19:1-4).
Mae Dafydd yn frenin ar genedl fechan Israel, cenedl sydd wedi ei charu gan Dduw ac wedi derbyn datguddiad ohono trwy ei Air gwerthfawr (Salm 19:7-14). O’u hamgylch mae nifer fawr o genhedloedd eraill nad ydynt yn adnabod Arglwydd nefoedd a daear. Oes gan y rhain unrhyw ddatguddiad ohono o gwbl? Mae Dafydd yn mynegi’n glir bod y bydysawd yn darparu tystiolaeth huawdl o’i chreawdwr – tystiolaeth y gellid ei gweld a’i chlywed ar draws y byd i gyd. Dywed Paul fod tystiolaeth y bydysawd yn gwneud pawb, boed yn Iddewon neu’n Genedlddynion, yn ddiesgus wrth iddynt fygu’r wybodaeth am Dduw sydd wedi ei harddangos yn y bydysawd (Rhufeiniaid 1:18-20). Mewn byd o eilunaddoliaeth a phlwraliaeth, mae natur unigryw Duw a’i awdurdod drosom i’w gweld yn glir yn ei greadigaeth, a gwelwn mai ef yw tarddiad ein bodolaeth a’n bywyd.
Ond rydyn ni’n byw mewn cymdeithas sydd, ar y cyfan, wedi derbyn yr honiad bod y bydysawd hwn yn rhoi tystiolaeth gadarn, neu hyd yn oed yn profi, nad oes ganddo greawdwr. Rhaid i ni wrthwynebu’r her gosmig hon yn erbyn person, hunaniaeth ac awdurdod Duw! Mae nifer o’n cymdogion, ffrindiau a chyd-weithwyr yn gwrthod Duw a’i efengyl oherwydd yr honiad hwn y maent yn credu bod iddo seiliau cadarn.
Beth am wyddoniaeth?
Mae nifer fawr o drafferthion wrth geisio trafod y dystiolaeth wyddonol ar gyfer dechreuadau pethau gyda gwyddonwyr, gan fod y dystiolaeth berthnasol yn croesi sawl disgyblaeth. Un o’r trafferthion yw bod nifer o wyddonwyr atheistaidd yn dal eu safbwynt ar wahanol faterion heb archwilio’r dystiolaeth yn agored, ac ar ben hyn gall llyfrau ar ddwy ochr y ddadl dueddu i ddewis a dethol y dystiolaeth maent yn ei chyflwyno.
Rhaid cofio mai naturolaeth (naturalism), sef rhagdybiaeth nad oes unrhyw beth yn y bydysawd tu hwnt i brosesau naturiol, yw’r meddylfryd sydd wrth wraidd ffordd o feddwl y rhan fwyaf o wyddonwyr atheistaidd. Fel y mynegodd Carl Sagan, ‘The cosmos is all that is or ever was or ever will be.’ Gall yr atheist wrthod rhai theorïau penodol am ddechreuadau popeth ond nid y rhagdybiaeth waelodol hon. Gan fod astudio prosesau naturiol sy’n ailddigwydd yn rhan annatod o wyddoniaeth, mae’n hawdd drysu tystiolaeth a rhagdybiaethau yn aml. Pan fydd fy nghydweithwyr yn hapus i drafod y dystiolaeth, bydd y sgwrs, fel arfer, yn cloi gyda chwestiwn tebyg i, ‘Ydych chi’n meddwl bod eich atheistiaeth yn deillio o dystiolaeth wyddonol? Neu ydych chi’n edrych ar dystiolaeth wyddonol trwy lens eich atheistiaeth?’ Mae pob cell fyw, boed mewn bacteria, gwair neu anifeiliaid, yn cynnwys peiriannau trydanol, sy’n arddangos technoleg uwch, yng nghraidd eu system egni, ynghyd â pheirianwaith molecwlaidd ar gyfer darllen ac ysgrifennu gwybodaeth ddigidol. Mae’r dystiolaeth hon yn gwneud yr honiad bod celloedd byw wedi tarddu o gemeg organaidd yn anodd i’w amddiffyn o safbwynt gwyddonol.
Sut y dylwn drafod materion felly gyda fy ffrindiau?
Os bydd ffrind o atheist neu un sy’n secwlar ei feddwl yn cyflwyno gwrth-ddadl i’r efengyl, gan honni bod gwyddoniaeth wedi gwrthbrofi Duw, sut y gallaf i ymateb? Efallai nad oes gennyf ddigon o afael ar y dystiolaeth i’m galluogi i ddadlau ynghylch y manylion gwyddonol, ac efallai fod gwrthwynebiad fy ffrind yn fwy seiliedig ar ragfarn nag ar dystiolaeth. Un ffordd syml o fynd ati yw cwestiynu credoau fy ffrind ynglŷn â bywyd, yn hytrach na chychwyn dadl ynglŷn â thystiolaeth wyddonol. Gall fod o ddefnydd i’w cynorthwyo i weld bod gwadu Duw yn dileu unrhyw sail go iawn ar gyfer gwerthoedd, pwrpas a moesoldeb. Fel y dywedodd Jaques Monod, enillydd y Wobr Nobel, yng nghasgliad ei lyfr Chance and Necessity:
‘The ancient covenant is in pieces; man at last knows that he is alone in the unfeeling immensity of the universe, out of which he emerged only by chance. Neither his destiny nor his duty have been written down.
Mae’r rhan fwyaf o atheistiaid yn credu ein bod ddim ond yn anifeiliaid fel unrhyw rywogaeth arall, heb werth na phwrpas unigryw. Serch hynny, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn rhoi gwerth ar eu gyrfa a’u breuddwydion ac yn teimlo’n rhwystredig pan gânt eu hanwybyddu neu’n flin pan deimlant wedi eu dibrisio. Dyma gyfle wedyn i archwilio’r gwrthdrawiad rhwng bywyd eu meddwl (beth maent yn ei gredu amdanynt eu hunain) a’r bywyd y maent yn ei fyw (eu teimladau, profiad ac amcanion). Mae’r rhan fwyaf yn ddigon hapus i esbonio beth maent yn ei gredu am ein sefyllfa hollol ddinod yn y bydysawd. Gall cwestiwn caredig tebyg i ‘Ydy hynny’n golygu..?’ arwain at sgyrsiau cynyddol anghyffyrddus iddynt, sy’n aml yn dod i ben pan geisiant newid y pwnc yn sydyn.
Pwnc arall i’w archwilio gydag atheistiaid yw bodolaeth da a drwg. Mae atheistiaid yn dilyn egwyddorion, weithiau yn angerddol, ond yn aml does dim seiliau i’r rhain y tu hwnt i’w teimladau personol neu ddymuniad i amddiffyn eu hanwyliaid. Er enghraifft, rydw i weithiau’n defnyddio enghraifft llewod, neu grŵp o lewod, yn lladd epil llew arall wrth gymryd rheolaeth dros gnud o lewesau. Ydy’r ymddygiad hwn yn gywir neu’n anghywir? Mae’n glir nad yw na’r naill na’r llall: dydy gwerthoedd moesol felly ddim yn berthnasol i fyd anifeiliaid yn gyffredinol. Ond buasai babanladdiad felly ymhlith bodau dynol yn cael ei gydnabod yn ddrygioni gan bawb. Beth sydd mor wahanol amdanom ni? Mae rhagdybiaeth yr atheist mai dim ond math arall o anifail ydym ni, heb fod yn unigryw, yn bwysig iddo neu iddi – ac mae yna sawl ffordd o herio’r gred greiddiol hon.
Wrth drafod, mae’n bwysig nad ydym yn gwadu gwerthoedd yr atheist, ond yn hytrach ein bod yn cwestiynu sail y gwerthoedd. Mae’n bwysig i ni gofio bob amser mai ein nod yw herio sylfeini ei atheistiaeth yn hytrach nag ennill dadl. Ni all hwn ar ei ben ei hun ddod â iachawdwriaeth, ond gall fod yn gam cyntaf tuag at ddenu’r person i drafod materion go iawn sy’n cyfri.
Ar beth y dylem fod yn canolbwyntio?
Ni wnaiff rhesymeg ar ei ben ei hun ddod ag unrhyw un i ffydd achubol. Rhaid i’n ffrindiau sy’n atheistiaid edifarhau a rhoi eu ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist trwy waith yr Ysbryd Glân. Rhaid i’n neges bwysleisio newyddion da marwolaeth ac atgyfodiad Iesu; defnyddiwn resymeg i herio’r gwrthwynebiad atheistaidd i Dduw er mwyn iddynt ystyried ei efengyl o ddifri. Law yn llaw â hyn mae angen i ni eu caru ac arddangos Crist yn ein bywydau ac wrth dystiolaethu.
Does dim byd newydd ynglŷn â defnyddio rhesymeg i herio credoau ac ymddiriedaeth sylfaenol. Gwelwn fod Paul wedi rhesymu yn berswadiol gyda’r Iddewon (Actau 9:22,29;17:2-4; 18:4-6,19; 19:8-10; 28:23-8) a’r cenhedloedd (Actau 14:11-18; 17:18-31;19:26-7; 2 Cor. 5:11). Heriodd argyhoeddiadau’r Iddewon ei bod hi’n amhosib mai Iesu oedd y Meseia a’u bod yn gallu dibynnu ar eu tras a threftadaeth Iddewig. Wrth siarad â’r cenhedloedd heriodd eu heilunod, gan gyflwyno Duw fel y creawdwr unigryw yr ydym yn dibynnu arno. Yn Effesus, rhesymodd gyda’r Iddewon am dri mis ac yn ehangach yn narlithfa Tyrannus yn ddyddiol dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae’n annhebygol ei fod wedi ailadrodd yr un neges o ddydd i ddydd: yn hytrach roedd yn mynd i’r afael â’u gwrthwynebiadau amrywiol – ac yn ceisio dod â nhw wyneb yn wyneb â’r Arglwydd Iesu, ei fywyd ei atgyfodiad a’i hawl dros eu bywydau (e.e. Actau 17:18,31). Ni all apologeteg resymegol fod yn nod ynddo’i hun; mae’n ffordd o wneud cysylltiadau, herio credoau gau a’r rhwystrau mae pobl yn eu codi – yn fwriadol neu beidio – i osgoi ystyried yr efengyl. Ein hamcan yw gwrthwynebu’r rhain a chyfeirio pobl yn glir tuag at yr Arglwydd Iesu, unig obaith pob un ohonom.