Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Timothy Richard (1845-1919) a’i strategaeth ddadleuol

14 Ebrill 2022 | gan Geraint Lloyd

Timothy Richard (1845-1919) a’i strategaeth ddadleuol

Geraint Lloyd

Ar 10 Ebrill, ynghanol cynnwrf ysbrydol Diwygiad 1859, arhosai 52 o bobl i’w bedyddio ger y grisiau a arweiniai at yr afon a lifai heibio i fferm y Ddôl-wen, yn mherfeddwlad Sir Gaerfyrddin. Y cyntaf i ddisgyn i’r dŵr oedd Timothy Richard, yr ieuengaf o naw o blant gof Ffaldybrenin. Wrth ei fedyddio, holodd y gweinidog, y Parchedig John Davies, ‘Beth, tybed, ddaw o’r bachgen hwn?’

Beth, yn wir? Yn 1866, ar ôl clywed pregeth ar 1 Sam. 15:22 (‘gwrando sydd well nag aberth’) yng Nghapel Salem, Caeo, teimlodd alwad i waith cenhadol, ac ar ôl tair blynedd yng Ngholeg y Bedyddwyr yn Hwlffordd, hwyliodd am Tsieina yn 1869. Cyrhaeddodd yn 1870 a dechrau ar ei waith yn Yantai (Chefoo) yn nhalaith Chandong. Daliodd ati am bron hanner canrif, nes iddo orfod ymddeol i Lundain ar sail iechyd yn 1916 lle bu farw ganrif yn ôl.

Arweiniodd yr ymdrechion i leddfu effeithiau’r newyn enbyd yng ngogledd y wlad yn 1876-9. Wedyn daeth yn adnabyddus am ei adroddiadau ar gyflwr Tsieina yn ohebydd i’r misolyn dylanwadol, Adolygiad yr Amseroedd, gan ddod yn arwr i nifer yn nosbarth llywodraethol Tsieina. Yn 1891 fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol a Chyffredinol ymhlith y Tsieineaid. Ef yn anad neb oedd yn gyfrifol am sefydlu Prifysgol Shansi, un o brifysgolion modern cyntaf Tsieina, yn 1902, lle gwelir ei gerflun hyd heddiw. Erbyn troad y ganrif, llywiai bolisi addysg uwch Ymerodraeth Tsieina, a Gwyddoniadur Cymru sy’n datgan: ‘bu ganddo fwy o rym gwleidyddol na’r un Cymro heblaw am David Lloyd George’. Yn wahanol i’r cenhadon sydd wedi diflannu i ebargofiant dros y blynyddoedd, mae llyfrau ar Timothy Richard yn ymddangos o hyd, a hynny nid yn gymaint oherwydd ei weithgarwch, ond oherwydd ei feddwl cenhadol.

Cristnogaeth Tsieineaidd

Pan gyrhaeddodd Timothy Richard Tsieina, efelychodd yr arloeswr cenhadol James Hudson Taylor trwy wisgo a thorri ei wallt yn y dull Tsieineaidd a mabwysiadu enw Tsieineaidd, Li T’i-mo-tai. Fodd bynnag, ni fu ei ymdrechion cychwynnol i efengylu’r Tsieineaid yn llwyddiannus dros ben, a gwnaeth hyn iddo ailfeddwl ei strategaeth. Gwelodd fod angen deall crefyddau’r Tsieineaid a chyflwyno’r efengyl mewn ffyrdd a fyddai’n ddealladwy i bobl o’r cefndir hwn. Gyda hyn, gwnaeth un o bregethau Edward Irving ar Math. 10:11 argraff fawr arno, a daeth i gredu y dylai’r cenhadon adael y gwaith o efengylu’r bobl gyffredin i’r Tsieineaid eu hunain a chanolbwyntio eu hymdrechion ar haenau uchaf cymdeithas.

Addysg

Ym myd addysg Tsieina y gwnaeth Timothy Richard ei farc, ac ystyriai ei ddiwygiadau addysgol yn rhan bwysig o’i waith cenhadol. Roedd yn ymwybodol iawn o’r drwgdeimlad tuag at y cenhadon a oedd wedi cael rhyddid i efengylu yn Tsieina trwy rym milwrol Prydain. Er bod ymdrechion y cenhadon (a Timothy Richard yn amlwg yn eu plith) yn ystod newyn 1876-9, a dylanwad Timothy Richard ar aelodau’r llywodraeth, wedi gwella agweddau’r Tsieineaid atynt, ni ddiflannodd yr elyniaeth at ‘y diafoliaid estron’ yn llwyr a ffrwydrodd yng Ngwrthryfel y Dyrnwyr (1899-1901) pan lofruddiwyd 159 o genhadon a 30,000 o Gristnogion Tsieineaidd. Wrth gyfieithu llyfrau Ewropeaidd, un o amcanion Timothy Richard oedd goresgyn rhagfarnau ac agor meddyliau arweinwyr Tsieina i syniadau newydd a Christnogaeth yn eu plith. Roedd hyn hefyd yn rhan o swyddogaeth Prifysgol Shansi lle ceisiodd gyflwyno technoleg a gwyddoniaeth y Gorllewin gyda’r cwricwlwm Conffiwsaidd traddodiadol.

Beirniadaeth

Roedd dull cenhadol Timothy Richard yn wahanol i un Hudson Taylor a daeth y gwahaniaethau hyn i’r pen pan waharddodd Hudson Taylor genhadon y China Inland Mission (CIM) rhag cydweithio â Timothy Richard yn Shansi. Roedd yr ymwahanu’n anffodus am fod gan y ddau bethau i’w dysgu oddi wrth ei gilydd. Tarddai strategaeth Hudson Taylor o ymwybyddiaeth o angen presennol 400 miliwn o Tsieineaid am Grist, ac a welwyd yn nheitl prif gyhoeddiady CIM, China’s Millions. Ar y llaw arall, Conversion by the Million in China (oedd yr adlais yn fwriadol?) oedd y teitl a roddwyd ar dair cyfrol o ysgrifeniadau cenhadol Timothy Richard a gyhoeddwyd yn 1907, gan addo llwyddiant y genhadaeth yn y dyfodol. Rhaid wrth y ddau bwyslais wrth genhadu, wrth gwrs, am fod angen i’r cenhadwr ddangos egni a sobrwydd y milwr (2 Tim. 2:3, 4) a dyfalbarhad disgwylgar yr amaethwr (2 Tim 2:6). Ar ei orau, gallai hyder Timothy Richard yn y cynhaeaf oedd i ddod galonogi cenhadon eraill i ddal ati. Yn ei dro, gallai Timothy Richard ddysgu gan genhadon eraill fod angen hau, a hau yn eang, er mwyn cynaeafu. Byddai’r cenhadon eraill yn cytuno, fwy na thebyg, mai’r Tsieineaid eu hunain fyddai’r efengylwyr gorau, ond roedd angen i’r cenhadon tramor gyhoeddi’r efengyl iddynt yn y lle cyntaf (Rhuf. 10:13-15). Er yr anawsterau, roedd peth ffrwyth i’w weld trwy lafur y cenhadon tramor hyn, ac roedd hi’n drueni i Timothy Richard ddewis diystyru hynny.

Un o gryfderau Timothy Richard oedd ei unplygrwydd, ac un o’i wendidau hefyd. Mynnodd seilio strategaeth genhadol gyfan ar un adnod (Math. 10: 11: ‘I ba dref neu bentref bynnag yr ewch, holwch pwy sy’n deilwng yno, ac arhoswch yno hyd nes y byddwch yn ymadael â’r ardal’; ond beth am Math 28:18-20; Luc 24:46-49; Ioan 20:21-3; Actau 1:4-8; Rhuf. 1:14-7; 1 Cor 1:17-31, neu hyd yn oed gweddill Math. 10?) ac ar ddehongliad amheus o’r adnod honno (ai’r arweinwyr crefyddol a gwleidyddol oedd y rhai ‘teilwng’?).

Dangosodd gryn dreiddgarwch deallusol wrth astudio systemau cred cymhleth y Tsieineaid, a gall fod yn esiampl wrth i ni geisio deall ein cymdeithas secwlar, faterol, amlddiwylliannol. Eto i gyd lled arwynebol oedd ei ymdriniaeth â Christnogaeth. I raddau helaeth, deilliai hyn o’i strategaeth genhadol. Er mwyn cymeradwyo Cristnogaeth i arweinwyr Tsieina, pwysleisiodd ei heffeithiau cymdeithasol a’i chysylltu’n arbennig â goruchafiaeth dechnolegol y Gorllewin. Rhoddodd heibio wisg Tsieineaidd a mynd yn lladmerydd dros addysg Ewropeaidd. Wrth wneud hyn, troes Cristnogaeth yn ddiwylliant, ac esgeuluso gwaith yr Ysbryd Glân, a’r alwad i ffydd bersonol. Wrth feithrin cysylltiadau ag arweinwyr crefyddol Tsieina, chwiliai Timothy Richard am yr hyn a oedd yn gyffredin rhyngddynt, a throi Cristnogaeth yn batrwm o ymddygiad yn unig, neu’n ffordd o gyflawni diffygion crefyddau’r Tsieineaid. Wrth wneud hyn, collwyd min yr efengyl. Pan aeth Paul i Athen, dechreuodd gyda chrefyddoldeb yr Atheniaid cyn dod at athrawiaeth y creu, y farn a’r atgyfodiad, er mor ddieithr oedd y cysyniadau hyn i’w wrandawyr (Actau 17:22-31 ). Rhaid dod i’r gwahaniaethau rhwng Cristnogaeth a chrefyddau eraill os yw’r efengyl yn mynd i ddangos ei gallu mewn gwirionedd (Rhuf. 1:16). Efallai na ddylem synnu clywed i nifer o gefnogwyr blaenaf Timothy Richard barhau’n Fwdhyddion.

Gwireddwyd gweledigaeth Timothy Richard o Eglwys lewyrchus yn Tsieina â miliynau o aelodau lai na deugain mlynedd ar ôl ei farwolaeth, ond nid yn y ffordd a ragwelai, na Hudson Taylor o ran hynny. Roedd Timothy Richard wedi gobeithio y byddai dylanwad arweinwyr o Gristnogion yn graddol lefeinio’r wlad gyfan. Dymunai Hudson Taylor weld byddin o genhadon hunanaberthol yn sefydlu rhwydwaith o orsafoedd efengylu ar draws mewndir Tsieina. Nid felly y bu hi (Eseia 55:8, 9). Erbyn dechrau’r 1950au, roedd comiwnyddion gwrthgrefyddol a gwrthorllewinol Mao wedi cipio’r awenau a gyrrwyd yr holl genhadon o’r wlad. Wedyn, yn un o’r penodau mwyaf syfrdanol yn holl hanes yr Eglwys, dyma Gristnogaeth yn bwrw gwreiddiau yn Tsieina ac yn ffynnu, yn fudiad gwerinol ‘oddi isod’, nad oedd yn hollol wahanol i adfywiad 1859. Yn ôl rhai amcangyfrifon, gall fod rhwng 60 a 100 miliwn o Gristnogion yn Tsieina heddiw, o dan arweiniad Tsieineaid, a nifer helaeth o‘r rhain wedi dioddef tân erledigaeth. Beth bynnag, tybed nad yw diddordeb Timothy Richard yn y dosbarth llywodraethol yn bwysig os yw Cristnogaeth Tsieina i droi yn fendith i wledydd eraill (1 Tim. 2:1-6)? O dan yr amodau cywir, does wybod pa gyfraniad y gallai’r eglwysi hyn ei wneud i waith yr efengyl yn ein byd.