Teyrnged i Joan Alice Hughes 1927-2020
Arwel Jones
Wrth osod y cyhoeddiad am farwolaeth Joan yn y papur newydd, roedd yn fy nharo ei fod yn syml a moel iawn, yn ôl ei chyfarwyddyd hi, ac yn rhoi’r argraff bod dim byd arbennig amdani. Ond ni allai hynny fod yn llai gwir! Roedd yn ddynes arbennig iawn mewn cymaint o ffyrdd.
Gyda diolchiadau mawr i Megan Williams am wybodaeth a rannodd yn nathliad pen blwydd Joan yn 90 oed, dyma ’chydig o’i hanes. Ganwyd Joan yn Angorfa, Trefor ar 22 Ebrill 1927, yn ferch i Henry Hughes (oedd yn chwarelwr) a Margaret Mary Hughes. Symudodd Joan gyda’r teulu i’r Groeslon ac wedyn oddi yno i Lanfaglan, pan aethant i fyw i Dŷ Capel, Pen-y-graig. Yn y cyfnod hwnnw, daeth i ’nabod Megan a hefyd Mair (Y Parch. Mair Bowen) a bu’r tair yn ffrindiau mynwesol, yn Ysgol Gynradd Bontnewydd, Ysgol Ramadeg, Caernarfon ac yn cyd-fynychu’r capel a’r seiat. Collodd ei thad yn ddyn ifanc yn 1944 a’i mam wedyn ym 1963, pan oedd Joan yn 36 oed. Bu’n byw yn Llwyn Beuno, Bontnewydd ac wedyn symud i Gaernarfon, yn gyntaf i Cae Bold ac wedyn i Stryd Wesle nes iddi symud oddi yno i Gartref Foelas, Llanrug.
Mae Megan yn cofio Joan (yn 17 oed) yn sôn yn y seiat ei bod wedi derbyn Iesu Grist i’w bywyd ar ôl mynychu cyfarfodydd arbennig yng Nghaernarfon. Clywsom dystiolaeth Joan o’r profiad hynny droeon yng Nghaersalem. Am gyfnod hir cyn hynny, bu’n ymgodymu â’r ffaith ei bod yn bell oddi wrth Dduw ac yn chwilio am y gobaith a sicrwydd o gariad Iesu yr oedd wedi ei weld yn fwyaf amlwg ym mywyd ei nain, Jane Roberts. Dyma eiriau Joan ei hun am y noson yng nghyfrol goffa’r Parch Elwyn Davies:
Roedd Elwyn yn arwain ymgyrch yng Nghaernarfon gyda’r Mudiad, a’r Parch. Emyr Roberts yn pregethu. Cefais brofiad o’r Arglwydd y noson honno, a chefais fy arwain i weddïo. Cerddodd Elwyn gyda mi at y bws i fynd adref ….. yr hyn a gofiaf yw nad oedd yn tynnu sylw ato’i hun ond yn cyfeirio sylw at yr Arglwydd. Ei frawddeg olaf i mi oedd, ‘Cofiwch ofyn i’r Arglwydd am adnod i sylfaenu eich profiad arni.’ Dyna a wnes, a bu’r Arglwydd yn drugarog yn ateb y bore wedyn. Ers y dyddiau hynny, bu Joan yn cyfeirio’n rheolaidd at yr adnod – ‘Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oedd gynt ymhell a wnaethpwyd yn agos trwy waed Iesu Grist’ (Effesiaid 2:3).
Didwyll – Dyna’r peth cyntaf arbennig am Joan. Gwrthododd fodloni ar grefydda arwynebol a mynnodd ‘adnabod y Gair’ ac nid dim ond ‘gwybod y geiriau’. Ni phylodd ar hyd y blynyddoedd. Doedd dim ffalsio yn perthyn i unrhyw ran o’i bywyd! Roedd hynny’n amlwg yn ei gyrfa lwyddiannus yn y Gwasanaeth Sifil; cafodd ei gwobrwyo am hyn ym 1987 pan dderbyniodd OBE am ei gwasanaeth gyda Megan yn mynd gyda hi i Balas Buckingham i dderbyn yr anrhydedd!
Gweddigar – Mae ansawdd perthynas rhywun â’r Arglwydd yn dod yn amlwg yn eu gweddïau; nid ym mha mor huawdl na pha eiriau hir a ddefnyddir ond yr ymdeimlad yna o gariad a pherthynas. Gan ei bod yn byw ar ei phen ei hun, byddai Joan yn dweud bod siarad â’r Arglwydd yn rhan naturiol o batrwm ei bywyd bob dydd. Roedd hynny’n amlwg. Pan fyddai Joan yn gweddïo, roedd yn siarad efo Arglwydd a oedd hefyd yn ffrind yr oedd yn ei garu a wedi llwyr ymgolli ynddo. Yn y blynyddoedd diwethaf, pan oedd yn heneiddio ac yn doredig yn ei chorff, byddai ei gwedd yn newid pan oedd yn gweddïo. Yng nghwmni Iesu, roedd hi’r ferch 17 mlwydd oed a roddodd ei bywyd iddo yng Nghaernarfon unwaith eto.
Gweithgar – Ble mae dechrau? Rhoddodd flynyddoedd o waith diflino i eglwys Iesu Grist: i’r Mudiad Efengylaidd yn gwneud gwaith gweinyddol a hefyd yn cyfieithu a pharatoi deunydd plant; bu’n Flaenor ac Ysgrifennydd yng Nghapel Siloam, Bontnewydd am flynyddoedd lawer; yn gweithio efo’r Chwaer Emily Roberts yn Noddfa, Caernarfon; yn mynychu’r Ganolfan Iacháu yng Nghaernarfon, ac Ysgol Haf y Weinidogaeth Iacháu; a hefyd yn weithgar gyda Senana a Mudiad Chwiorydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon. I ni yng Nghaersalem, Caernarfon, roedd yn gyd-aelod ffyddlon, yn Ddiacon, Trysorydd a wedyn yn Ysgrifennydd diwyd ac effeithiol o dan weinidogaeth y Parchedigion Ioan Davies, John Treharne a Rhys Llwyd.
Doniol – Nid person sych-dduwiol oedd Joan. Roedd yn gymeriad a hanner. ‘Wariar o ddynes!’ fel y sgwennodd un o’i chyn gyd-weithwyr yn y Weinyddiaeth Amaeth ar ôl darllen y cyhoeddiad am ei marwolaeth. Roedd gwrando ar Joan yn gwneud y cyhoeddiadau yn adloniant pur ac fel teulu, cawsom oriau o hwyl yn chwerthin gyda hi pan oedd yn ffonio gyda’r nos gyda chwestiynau nad oedd yn medru ateb yng nghroeseiriau ‘Take a Break’! Fe ddysgodd lot am fyd adloniant, cerddoriaeth a ffilm ac roedd ei chlywed yn ceisio deall ac ynganu pethau anghyfarwydd yn ddifyrrwch mawr – ‘Dwi ddim yn dallt y cliw yma – The blank of the Jedi (wedi ei ynganu mewn ffordd cwbl ryfeddol) – Pwy ‘di rheini dŵad?’
Didwyll, Gweddigar, Gweithgar, Doniol. Dyna rai geiriau i ddisgrifio Joan. Ond, wrth gwrs, bydd unrhyw un a oedd yn ’nabod Joan yn gwybod y byddai hi’n pwysleisio mai’r peth arbennig amdani hi oedd ei bod wedi dod i ’nabod Arglwydd arbennig yn Iesu Grist. Bydd colled enfawr ar ei hôl. Roedd y blynyddoedd olaf yn anodd wrth iddi wanio yn ei chorff a’i meddwl ond mae ‘na ddau hanesyn diweddar yn haeddu cael eu hadrodd. Rhai misoedd yn ôl, â niwl dementia wedi disgyn yn drwm arni, galwodd Rhys, ei gweinidog, i’w gweld yn Nghartref Foelas a chael ar ddeall gan y staff, er mawr syndod iddyn nhw, ei bod wedi gofyn am bapur a beiro rai dyddiau ynghynt.
Dyma’r geiriau a sgwennodd:
Diolch i’r Arglwydd am wasanaeth yr ifanc i’r Arglwydd a diolch am eu gwasanaeth gwerthfawr, llawer heb ofyn na chwennych canmoliaeth. Bendith yr Arglwydd arnynt; maent yn dangos cyfiawnder i’r Arglwydd, mor dawel a hefyd yn gadarn.
– geiriau oedd yn adlewyrchu ei chariad a’i chonsyrn dros waith Duw a’r ifanc hyd yn oed yn ei gwendid.
Yn olaf, roedd yn ofid i lawer ohonom na welsom ddim ohoni yn ei hwythnosau diwethaf gan na allai’r cartref dderbyn ymwelwyr oherwydd pryderon am ledaenu’r feirws. Felly yr unig ffordd y gallem ei chefnogi oedd mewn gweddi. Ar y noson y bu farw, roedd gennym gyfarfod Grŵp Cymuned dros y We ac, ar derfyn y cyfarfod, buom yn gweddïo dros Joan. Roedd yn rhyfeddol deall wedyn gan y cartref mai o gwmpas yr adeg honno y bu Joan farw. Er ein bod wedi ein gwahanu yn gorfforol, cawsom y fraint o’i hebrwng mewn gweddi i freichiau ei Harglwydd, yr Un y bu yn ei garu a’i wasanaethu am 73 o flynyddoedd. Dyna anrhydedd; braint oedd cael ’nabod, cydweithio a chydaddoli ag un yr oedd yr Arglwydd mor annwyl iddi, yr Arglwydd y mae yn awr yn ddiogel yn ei gwmni.