Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Teyrnged i Joan Alice Hughes 1927-2020

20 Ebrill 2022 | gan John Treharne

Teyrnged i Joan Alice Hughes 1927-2020

John Treharne

Ganwyd Joan yn Nhrefor, Sir Gaernarfon, ond symudodd y teulu yn fuan i Lithfaen. Ar ôl hynny bu’n byw yn Llanfaglan, Bontnewydd a Chaernarfon, a’r blynyddoedd olaf hyn mewn cartref gofal yn Llanrug. Wrth feddwl am daith ei bywyd a’i phererindod ysbrydol, hoffwn grynhoi’r sylwadau hyn o dan dri phen:

Cefndir
Roedd dylanwadau ysbrydol ar fywyd Joan o’r cychwyn. Cafodd ei magu i ddweud y Pader yn y bore a phennill yn cyflwyno’i hun i’r Arglwydd Iesu cyn cysgu:
Rhof fy mhen i lawr i gysgu,
Rhof fy hun i’r Arglwydd Iesu;
Os byddaf farw cyn y bore,
Iesu, cymer f’enaid inne’.
Roedd y pennill bach yn ei hatgoffa fod bywyd dros dro a bod marwolaeth yn real. Tanlinellwyd hyn drwy iddi golli ei thaid pan oedd hi’n saith oed, a’i thad ddeng mlynedd wedyn. Roedd dylanwad ei nain arni hefyd, un oedd wedi cael profiad yn Niwygiad 04/05. Roedd hi wedi annog Joan pan yn ferch fach i weddïo i dderbyn Iesu i’w chalon, ond heb sôn am bechod nac edifeirwch. Byddai’n mynd gyda’i nain i’r cwrdd ac yn codi pennau’r bregeth a rhai pwyntiau trawiadol, a byddai’n gwneud yr un peth yng Nghynhadledd Flynyddol y Mudiad – ond erbyn hynny yn cofnodi’r pregethau’n fanwl ac yn teipio’r cynnwys i’w ffrindiau wedyn.
Roedd yr Ysgol Sul yn rhan annatod o’i magwrfa a chafodd ei tharo un Sul gan eiriau Iesu wrth Nicodemus yn Ioan 3, bod rhaid cael ein haileni. Gofynnodd i’r swyddogion beth oedd ystyr hynny, ond chafodd hi ddim ateb. Aeth blwyddyn heibio gyda Joan yn teimlo’n bell iawn oddi wrth Dduw heb wybod sut i ddod yn agos. Gwelodd, wrth edrych yn ôl, fod Duw yn dangos iddi fod rhaid dod ato trwy Iesu Grist yn unig.

Cymod
Yn Hydref 1949 aeth Joan i oedfa ieuenctid gyda’r Parch Emyr Roberts yn pregethu. Pwysodd ar unrhyw un oedd yn awyddus i wybod rhagor am berthynas â Duw i aros ar ôl. Gwnaeth Joan hynny, a chafodd gyngor gan y pregethwr a’r Parch Elwyn Davies. Anogodd hi i gyffesu ei hangen am faddeuant. Wrth fynd adre ar y bws gwnaeth hynny, a phrofi gorfoledd Duw yr un pryd.
Y bore drannoeth, agorodd ei Beibl a darllen Eff.2:3: ‘Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist.’ Daeth geiriau Iesu Grist ar y groes – ‘Fy Nuw, Fy Nuw, paham y’m gadewaist’ fel fflach o oleuni i’w meddwl. Gwelodd fod Iesu Grist wedi dioddef yn ei lle y pellter dychrynllyd rhwng sancteiddrwydd Duw a’i phechod hi.

Cariad Crist
Roedd Joan wedi syrthio mewn cariad â’r Arglwydd Iesu Grist ei Phrynwr. Roedd ei gariad yn llosgi ynddi ac yn disgleirio drwyddi. Iesu Grist oedd gwrthrych ei serch; roedd ei gobaith, ei hyder a’i sicrwydd i gyd ynddo fe – ei fywyd ef, ei aberth iawnol ef a’i fuddugoliaeth ef.
Roedd yn caru ei Air; roedd yn gwybod ei Beibl ac yn awchu am dyfu mewn gras ac adnabyddiaeth ohono – boed mewn seiat efengyglaidd yng Nghaernarfon, mewn oedfa ar y Sul, mewn dosbarth Beiblaidd ac Ysgol Sul, mewn cynhadledd neu Ŵyl Gristnogol. Roedd hi’n dwlu chwilio i wirioneddau’r Gair nes dod o hyd i’r Ceidwad. Roedd ganddi barch diwyro at weinidogion y Gair hefyd.
Roedd yn caru ei bobl. Doedd gan Joan fawr o deulu naturiol, ond roedd cymdeithas â theulu’r ffydd yn bwysig iddi, p’un ai gyda’r Presbyteriaid, gan gynnwys y Weinidogaeth Iacháu ac achos Noddfa Caernarfon yn y dyddiau cynnar, y Pentecostiaid, y Bedyddwyr neu’r Mudiad Efengylaidd. Roedd yn wylo gyda’r sawl oedd yn wylo ac yn llawenhau gyda’r sawl oedd yn llawenhau. Roedd yn hael ei rhodd, ei hamser a’i gweddïau dros frodyr a chwïorydd yng Nghrist, neu eraill oedd heb ei ‘nabod eto. Gweddïodd dros genedlaethau o blant a phobl ifanc, ac roedd wrth ei bodd yn gweld Cristnogion ifanc yn dilyn yr Arglwydd.
Roedd yn awyddus i’w wasanaethu yn ei gwaith bob dydd gyda’r Weinyddiaeth Amaeth yng Nghaernarfon, lle bu’n sylfaenydd a phennaeth y Pŵl Teipio, a chael cydnabyddiaeth gan y Frenhines. Bu hefyd yn athrawes Ysgol Sul ac yn ddiacones mewn mwy nag un eglwys, ac yn Ysgrifenyddes yng Nghaersalem Caernarfon am nifer o flynyddoedd. Bu’n gwneud gwaith swyddfa i’r Mudiad ar ôl ymddeol am ddeng mlynedd. Meistrolodd gyfrifiadur a bu’n cyfieithu ac yn addasu deunydd Ysgol Sul – ‘Dewch i Ddysgu’ – am flynyddoedd hefyd.
Roedd yn berson byrlymus, agored a chynnes. Roedd yn mwynhau bywyd a holl roddion Duw yn ei ras cyffredinol. Roedd ei thraed ar y ddaear a Iesu Grist oedd ei hangor.
Roedd yn ymbaratoi i gwrdd â’r Arglwydd bob nos. Byddai’n gwneud yn siŵr bod ei desg yn glir yn y gwaith, byddai’n rhoi trefn ar ei materion personol, ac roedd yn barod yn ysbrydol, wrth gwrs.
Nawr mae gyda’r Arglwydd yn yr ysbryd, gan ddisgwyl atgyfodiad y corff heb lygredd, poen na llesgedd, i fod gyda’r Arglwydd a’i saint mewn nef newydd a daear newydd i dragwyddoldeb.

Rhaid diolch yn fawr iawn i’r Arglwydd am ei waith ym mywyd Joan a thrwyddi hefyd. Roedd cydweithio, cydgerdded a gweinidogaethu iddi yn fraint aruthrol, ac yn waith hynod o hawdd, pleserus a bendithiol.