Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Symud ymlaen i’r normal newydd

26 Ebrill 2022 | gan Steffan Job

Symud ymlaen i’r normal newydd yn dilyn esiampl yr Eglwys Fore

Steffan Job

 

Cysur mawr yw edrych yn ôl a gweld llaw ragluniaethol Duw ar waith. Cymrwch y flwyddyn yr ydym newydd ei chael. I rai, hawdd fyddai gweld y pandemig yn arwydd ein bod yn byw mewn byd ansicr, di-drefn a di-bwrpas gyda bywyd ar fympwy feirysau, llywodraethau a phwerau y tu allan i’n rheolaeth. Eto, i’r Cristion, gwyddom nad yw hyn yn wir, fel y dywedodd Paul, mae gennym bersbectif hollol wahanol:

Yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, fod y pethau a ddigwyddodd i mi wedi troi, yn hytrach, yn foddion i hyrwyddo’r Efengyl, yn gymaint â’i bod wedi dod yn hysbys, trwy’r holl Praetoriwm ac i bawb arall, mai er mwyn Crist yr wyf yng ngharchar, a bod y mwyafrif o’r cyd-gredinwyr, oherwydd i mi gael fy ngharcharu, wedi dod yn hyderus yn yr Arglwydd, ac yn fwy hy o lawer i lefaru’r gair yn ddi-ofn (Philipiaid 1:12-14).

Er nad yw’n profiadau diweddar ni i’w cymharu â’r erlid ofnadwy a ddigwyddodd i’r Eglwys Fore, does dim dwywaith nad oes peth tebygrwydd. Fel ni, roedd yr Eglwys yn Jerwsalem yn sefydlog ac yn cyfarfod yn rheolaidd, ond yna daeth y digwyddiadau mawr gyda’r erlid, a bu’n rhaid i’r Eglwys newid ei threfn gan ddygymod â phwysau rhyfeddol. Gwyddom, gyda phersbectif amser, fod yr erlid mawr hwn yn rhan o gynllun Duw i ledaenu’r efengyl o Jerwsalem i Samaria ac i weddill y ddaear, a phwy a ŵyr beth yw cynllun Duw ar gyfer ei Eglwys drwy’r pandemig heddiw? Gadewch inni felly edrych yn ôl ar esiampl ein brodyr a chwiorydd o’r ganrif gyntaf gan geisio dysgu gwersi a fydd yn ein helpu i symud ‘mlaen i’n normal newydd gan ddwyn ffrwyth er gogoniant i Dduw.

Crist a neges yr efengyl yn ganolog.
Yr wyf am eich atgoffa, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethais i chwi ac a dderbyniasoch chwithau, yr Efengyl sydd yn sylfaen eich bywyd ac yn foddion eich iachawdwriaeth. A ydych yn dal i lynu wrth yr hyn a bregethais? Onid e, yn ofer y credasoch. Oherwydd, yn y lle cyntaf, traddodais i chwi yr hyn a dderbyniais: i Grist farw dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau; iddo gael ei gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau (1 Corinthiaid 15:1-4).
Hawdd, yng nghanol trafferthion a chyfnod ansicr yw troi’r ffocws ar ein hanghenion ni, eto gwelwn y gwrthwyneb yn yr Eglwys Fore – Crist oedd yn bwysig. Mae Duw, drwy’r cyfnodau clo, wedi tynnu i ffwrdd lawer o’r pethau allanol ym mywyd ein heglwysi ni gan ddangos mai Crist yw’r cyfan y mae arnom ei angen. Gadewch inni beidio anghofio hyn wrth i fwrlwm bywyd eglwysig ailddechrau – Crist yw ein hachubwr, ein brenin a’n brawd!

Aberth yn rhan o fywyd.
Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i’ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol (Rhufeiniaid 12:1).
Ar y cyfan nid ydym, fel cymdeithas orllewinol yn ffeindio aberth yn beth hawdd. Bod yn gyfforddus, rhwyddineb a chael pethau heb oedi sy’n ein nodweddu, ac eto mae hyn yn wahanol iawn i’r Cristnogion cynnar. Mae aberth, dros Dduw a dros ein cyd-Gristnogion yn rhan annatod o fywyd y Cristion ac yn ffordd o ddangos ein cariad dros Grist. Diolchwn fod gennym Un i aberthu ar ei gyfer, a gweddïwn na fyddwn yn ceisio bywyd cyfforddus ar draul gwir addoliad a bywyd ysbrydol.

Cymdeithas a chariad yn rhan annatod o’u ffydd.
Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da, heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â’ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos. Hebreaid 10:24-25
Ar ôl blwyddyn yn ein cartrefi yn gwylio oedfaon YouTube yn ein slipers ac yn trefnu’n bywyd oddi amgylch ein hanghenion, rhaid inni wylio nad ydym yn llithro i’r meddylfryd anghywir. Hyd yn oed yn wyneb erlid ofnadwy roedd ein brodyr a chwiorydd cyntaf yn gwneud pob peth posib i gyfarfod ac annog ei gilydd. Boed i ninnau hefyd ddangos yr un cariad tuag at ein gilydd gan sylweddoli pa mor hanfodol a bendithiol yw rhannu bywyd gyda’n gilydd, ar y Sul, ac yn ystod yr wythnos.

Ffocws ar estyn allan i’r colledig.
Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd amser (Mathew 28:19-20).

Wrth i mi ysgrifennu’r erthygl hon, mae’r ffigyrau swyddogol yn dweud fod tua 6,000 o bobl Cymru wedi marw o Cofid-19 ac wedi mynd i wynebu eu Crëwr. Rwy’n mawr obeithio fod pob un ohonynt wedi cael y cyfle i glywed yr efengyl, wedi ymateb i wahoddiad grasol Duw, ac felly wedi derbyn maddeuant llwyr o’u pechodau. Ond dylai’r cyfnod diwethaf fod wedi serio ar ein calonnau yr angen i rannu’r newyddion mwyaf pwysig erioed fod Crist wedi marw ac atgyfodi trosom. Un o fendithion y cyfnod clo yw’r ffordd y mae Duw wedi dangos pa mor rhwydd yw cyrraedd pobl gyda neges yr efengyl.

Yr Eglwys yn dibynnu ar Dduw ym mhob dim.
Gweddïwch yn ddi-baid (1 Thesaloniaid 5:17).
Efallai mai’r wers fwyaf yr ydym wedi ei dysgu dros y flwyddyn ddiwethaf yw ein hanallu ni i wneud dim o wir werth yn ein nerth ein hunain. Mae’r feirws bychan wedi dod â’n cyfarfodydd, ein prosiectau a’n cynadleddau i gyd i ben – eto mae Duw wedi parhau â’i waith. Wrth symud ymlaen rhaid dibynnu yn llwyr ar yr Arglwydd ym mhob dim. Boed i weddi nodweddu pob rhan o’n bywyd, yn bersonol ac fel eglwys.

Nid rhestr gyflawn mo hon yn sicr – mae cymaint mwy y gallwn ei ddysgu oddi wrth y Cristnogion cynnar – ac eto mae’n gychwyn ac yn gymorth wrth inni gamu ‘mlaen i’r normal newydd. Diolchwn fod Duw yn gweithio drwy bob dim, a gweddïwn y bydd Duw yn defnyddio trafferthion y flwyddyn ddiwethaf, fel y gwnaeth gyda’r Eglwys Fore, er lledaenu’r efengyl er clod i Iesu.

Adnodd diwethaf