Symud ‘mlaen!
John MacKinnon
Wrth inni baratoi’r rhifyn hwn o’r Cylchgrawn ar y thema ‘Symud ʼmlaen’, dechreuon ni feddwl am yr holl gysylltiadau sydd gennym lle nad ydym wedi cael y cyfle i rannu’r efengyl â phobl. Ffrindiau, cymdogion, cydweithwyr ac aelodau estynedig o’r teulu – O! mor braf fyddai medru symud y sgwrs ymlaen at yr efengyl. Dyna felly ofyn i John MacKinnon, sy’n gyfrifol am hyfforddi gwaith efengylu ar gyfer ymgyrch ‘A Passion for Life 2022’ (fydd yn digwydd yng Nghymru flwyddyn nesaf – gweler Cipolwg ar Gymru) i rannu stori i’n hannog.
Ar ddechrau mis Ionawr 2020, ychydig cyn i ni i gyd gael ein plymio i heriau pandemig byd-eang, cynhaliais wasanaeth angladd ffrind annwyl. Roedd Jim yn dipyn hŷn na mi, ond trwy ras Duw daeth yn ffrind a daeth yn frawd; ac wrth imi edrych ar y llun ohono a dynnwyd yn ei fedydd, ac sy’n eistedd ar fy silff lyfrau, mae’n fy atgoffa bob dydd o bwysigrwydd taith amyneddgar efengylu personol.
Roedd Jim yn gymeriad mawr mewn sawl ffordd, yn dal yn gorfforol ac yn dŵr cadarn llythrennol, roedd yn chwarae pêl-droed yn lled broffesiynol ac yna fel amatur nes ei fod yn 60 oed. Dyn dosbarth gweithiol oedd e, yn fedrus yn ysgol fywyd gwaith caled, yn gweithio’n galed dros ei deulu, ac yn arddangos haelioni aruthrol i bawb.
Roedd yn ŵr i un o aelodau’r eglwys y bûm yn weinidog arni, ond nid oedd ef ei hun yn mynychu. Hoffais Jim yr eiliad y cyfarfûm ag ef, ac wrth edrych yn ôl gallaf weld pwysigrwydd symlrwydd cysylltu â phobl, gwrando ar eu stori, a chymryd diddordeb gwirioneddol yn eu bywyd. Mae’n hyfryd gallu olrhain y gwahanol bobl y gwnaeth Duw eu defnyddio i hau had yr efengyl a helpu Jim i symud i ffydd fyw yn Iesu. Yn greiddiol i hyn oedd ei wraig Gristnogol ffyddlon a oedd yn gweddïo ac yn ei wahodd yn fynych i ymuno â hi yn yr eglwys.
Dechreuodd Jim dorri’r gwair ar dir yr eglwys o ganlyniad i salwch ei ffrind, Malcolm, Cristion a oedd yn gorfod rhoi’r gorau iddi. Arweiniodd hyn ato’n picio i mewn i’n clwb cinio canol wythnos lle byddai’n rhannu bwrdd â mi a dynion eraill – roedd ein perthynas yn dyfnhau wrth rannu straeon, ac wrth gwrs roedd Jim y math o berson fyddai’n aros wedi’r cyfarfod i glirio byrddau ac ysgubo’r lloriau.
Ar ôl hyn y dechreuais ei wahodd i wahanol weithgareddau fel brecwastau dynion neu gyfarfodydd arbennig, ac roedd bob amser yn dweud y byddai’n dod, oherwydd bod ei wyrion bellach yn rhan o’r gweithgareddau plant. Ar yr un pryd, roedd yn fy ngwahodd i chwarae golff, ac roeddwn yn gwneud yn fawr o’r cyfle i ddod i’w adnabod yn well ac i adael i’n cyfeillgarwch ddyfnhau (croeso i chi alw hyn yn ‘efengylu gwyrdd’!). Roedden ni’n cael prydau bwyd gyda’n gilydd ac ar restr gwesteion ein gilydd ar gyfer swper Burn’s, ciniawau chwaraeon, a diwrnodau golff.
Wrth i’n cyfeillgarwch ddyfnhau, weithiau byddai ein sgwrs yn troi o faterion cyffredinol bob dydd i’r efengyl, byddai’n dweud sut y gall Duw faddau i ddyn fel fi? Sut alla i fyth fod yn ddigon da i Dduw? Dyna pryd y byddwn, wrth egluro’r efengyl, yn dweud wrtho na allwn ni ynom ni ein hunain fyth fod yn ddigon da a dyna pam mae’r efengyl yn ras anhygoel, yn anrheg anhygoel!
Ar ôl y sgyrsiau hyn y dechreuodd fynychu’r eglwys yn rheolaidd ond un dydd Sul, ac yntau wedi gwisgo i fyny ac yn barod i ddod gyda’i wraig i’r gwasanaeth, fe glywodd ei fod yn wasanaeth cymun. Gwrthododd ddod, a rhannodd ei wraig hyn â mi wrth ddrws yr eglwys ar ddiwedd y gwasanaeth. “Jeanette”, meddwn i, “mae Duw yn gwneud gwaith ym mywyd Jim ac mae’n mynd i’w gael”. Doedd gennym ni ddim syniad, ar ddiwedd y cyfarfod yr wythnos ganlynol, wedi i ni apelio at bobl i droi at Iesu, y byddai Jim, yn ddrylliedig ac yn ddagreuol, yn dod i gymod â Iesu.
Roedd ei wasanaeth bedydd yn orlawn, roedd ei dystiolaeth yn glir ac roedd ei ddylanwad a’i effaith ar grŵp sylweddol o ddynion dosbarth gweithiol yn ddwys. Roedd Jim yn ffrind ffyddlon, a gwnaeth yr hyn y mae gwir ffrindiau yn ei wneud, fe’u gwahoddodd i’w fyd newydd o frecwast dynion, gwasanaethau eglwysig a digwyddiadau arwyddocaol, ac yn ei dro, roedd gyda nhw hefyd yn eu holl gynulliadau rheolaidd ac yn rhan o’u bywyd.
Mae’r eiliadau y mae Duw yn eu rhoi inni yn drwm o botensial tragwyddol, ac wrth i mi eistedd i lawr i ysgrifennu’r erthygl hon, ffoniais weddw Jim i ofyn am ei chaniatâd i adrodd y stori. Rhywbeth yr oedd hi’n hapus iawn i’w roi, gan ddweud y byddai Jim wedi bod wrth ei fodd, pe bai’n helpu rhywun arall i fuddsoddi’r amser i symud rhywun arall ar hyd taith ffydd.
Rwy’n falch fy mod wedi cymryd yr amser i sylwi ar Jim a bod cyfeillgarwch wedi codi rhyngom, ces i’r fraint i dreulio amser yn ei gwmni a mynychu ei ddigwyddiadau ef yn ogystal â fy rhai i. Rwy’n gwybod, wrth wneud ffrindiau, weithiau gallwn fod mor werthfawrogol o’r cyfeillgarwch fel na fyddem efallai’n rhannu ein ffydd oherwydd rhywfaint o ofn y gallai newid pethau. Fodd bynnag, siawns nad yw gwir ysbryd cyfeillgarwch yn cynnwys goresgyn ein hofnau neu ein lletchwithdod a dechrau siarad am Iesu, y bywyd y mae ef yn unig yn ei roi, a’r gwahaniaeth y mae ef yn unig yn ei wneud.