Beth sydd mor arbennig am Iesu dy fod wedi bod yn fodlon mynd i Slofenia yn bell o dy deulu a llawer o ffrindiau er mwyn ei wasanaethu?
Gan mai Iesu yw’r unig ffordd at Dduw (fel mae’n dweud yn y Beibl) mae’n wirioneddol bwysig fod pobl yn clywed amdano. Dylai hynny chwarae rhan allweddol yn mywyd pob Cristion, yn rhan o nod ein bywydau. Nid yw’n golygu y dylai pob Cristion fynd yn weithiwr Cristnogol amser llawn; gall rhannu am Iesu gymryd llawer ffurf. Ond nid hobi yw rhannu’r efengyl, ac nid swydd i genhadon yn unig yw. Mae’n alwad ar fywyd pob Cristion i sôn am Iesu. Ddylai hynny ddim bod yn rhy anodd gan mai Iesu yw’r person pwysicaf i ni, ein ffrind gorau, ein gobaith, ein hachubwr, ein brenin a’r peth gorau amdanom ni. Fodd bynnag, mae lle i wneud gwaith cenhadol amser llawn, a braint i mi yw cael gwneud hyn yn Slofenia. Oes mae yna gost; mae ceisio dod â’r efengyl i fyfyrwyr Slofenia wedi golygu fy mod i’n byw ymhell o’m teulu, mewn gwlad ddieithr, heb allu cyfathrebu, yn gorfod ymdopi ag unigrwydd a llawer o rwystrau. Ond nid dyma lle mae fy nghartref, nid wyf i fod i setlo lawr a chael bywyd cyfforddus tra rwyf yn y byd. Mae pawb sy’n ceisio dilyn Iesu yn gorfod aberthu pethau, a dydw i ddim yn wahanol i unrhyw Gristion arall.
Beth yw’r egwyddorion sy’n bwysig wrth fynd ar genhadaeth i wlad arall?
Mae’r ffordd rydyn ni’n rhannu’r newyddion da yn dweud llawer wrth bobl am y newyddion a geisiwn eu rhannu. Cenhadwr oedd Iesu, ac rydyn ni eisiau rhannu’r newyddion da yn yr un modd ag a wnaeth ef. Daeth Iesu i’r byd ar ffurf dyn, gwisgodd yn unol â diwylliant ei wlad a siaradodd ieithoedd y bobl o’i gwmpas. Gwnaeth bopeth fel y byddai’r neges yn cael ei deall yn ddirwystr. Yn 1 Corinthiaid 9:12 gwelwn fod Paul yn copïo esiampl Iesu, ‘yr ydym yn goddef pob peth, rhag inni osod unrhyw rwystr ar ffordd Efengyl Crist.’ Mae’n disgrifio sut mae hyn yn edrych yn adnodau 19-23 lle y dywed ei fod am fod fel Iddew i gyrraedd yr Iddewon, yn wan i ennill y gweiniaid ‘Yr wyf wedi mynd yn bob peth i bawb, er mwyn imi, mewn rhyw fodd neu’i gilydd, achub rhai.’ Rwyf am ddod fel person Slofenaidd er mwyn eu hennill hwy. Mae hynny’n golygu dysgu’r iaith, dod i adnabod eu diwylliant a’u hanes, eu hofnau, eu harwyr, eu hunaniaeth, eu gwerthoedd, a dod i adnabod pobl yn dda. Dwy i ddim ond yn dechrau ar y daith hon. Gweddïwch am ras gan Dduw i’m helpu i ddeall y bobl, i siarad eu hiaith a chyfathrebu’r newyddion da heb rwystr.
Rwyt ti’n gweithio ar dy ben dy hun llawer o’r amser, ac yn gorfod trefnu dy amserlen dy hun ac ati. Ydy e’n waith unig, a sut wyt ti’n ymdopi?
Ydi mae’n waith unig ar adegau. Dwi’n gorfod gwneud ymdrech ychwanegol i wneud ffrindiau gan nad yw’n digwydd yn naturiol mewn gwlad ddieithr gyda fy nghydweithiwr mewn dinas arall. Gan fy mod mewn gwaith Cristnogol, rwy’n ei chael yn anodd cwrdd â phobl ddi-gred mewn ffordd naturiol. Weithiau dwi’n teimlo bod fy malchder yn ei gwneud hi’n anoddach derbyn help a bod yn agored efo eraill gan mai fi gan amlaf sydd yn ceisio gwasanaethu eraill. Gallwch weddïo fy mod i’n llyncu’r balchder hwnnw.
Ydy byw fel Cristion yn Slofenia yn brofiad gwahanol iawn i fod yng Nghymru? Oes yna bethau rydyn ni’n gallu eu cymryd yn ganiataol yma yng Nghymru?
Ydi mae bod yn Gristion yn Slofenia yn wahanol. Mae gan eglwysi bob gwlad eu brwydrau unigryw. Mae dod i ddeall gras yn beth anodd (i bawb) ond yn arbennig yma oherwydd y dylanwad Catholig. Hefyd, nid yw dylanwad yr Eglwys Gatholig ddim wastad wedi bod yn un positif iawn yma ac mae llawer o bobl wedi cael eu brifo. Daw hynny o gam-drin pŵer, ariannol neu rywiol, neu weld rhagrith bywydau pobl sy’n dweud eu bod yn credu ond sy’n byw’n wahanol. Mae yma ddiffyg adnoddau Cristnogol da; gall llawer ohonom dystio fod llyfr neu adnodd Cristnogol wedi bod yn help mawr i’n tyfiant personol. Un rhwystredigaeth fawr sydd gen i yw’r diffyg eglwysi Protestannaidd mewn rhannau mawr o Slofenia. Mae’n anodd iawn na allaf gyfeirio rhywun sydd wedi dod yn Gristion at eglwys yn eu hardal leol, ac os oes eglwys, dim ond un sydd fel arfer a rheiny weithiau yn rhai sydd ag arferion y byddwn i’n anghyfforddus â nhw heb sôn am Gristion ifanc.
Mae’n siŵr dy fod ti weithiau’n gwneud llawer o waith ond heb weld unrhyw beth yn digwydd a dydy e ddim fel arfer yn bosib i fesur yr effaith mae’r gwaith yn ei gael. Beth sy’n dy helpu di i ddal ati?
I fod yn onest mae’n frwydr gyson imi geisio dal ati yn y ffordd iawn. Rwy’n brwydro gyda chymharu fy ngwaith â mudiadau eraill, a mor aml tydi Zveš ddim yn edrych mor dda. Ond rhaid i mi gofio mai dim ond tri ohonom sydd ar y tîm a dim ond beth mae Duw yn ei feddwl o’r gwaith sy’n bwysig, nid fy marn i na barn pobl eraill. Mae mor hawdd gwneud gwaith sy’n edrych yn ffrwythlon iawn, megis digwyddiadau gyda niferoedd uchel ond heb lawer o gynnwys Cristnogol ynddo. Neu roi pwysau ar bobl i efengylu neu ymateb i’r efengyl yn hytrach na disgwyl i Dduw wneud y gwaith y mae angen iddo ddigwydd yn eu calonnau. Mae mor hawdd syrthio i ddibynnu ar ffyrdd allanol o fesur ein gwaith, fel cyfri faint sy’n gwneud proffes, cyfri’r oriau y buom yn gweithio a’r myfyrwyr rydyn ni yn eu mentora ac ati (ac anwybyddu’r rhai sy’n gadael y ffydd). Mae dameg yr heuwr yn ein rhybuddio y gall pobl dderbyn Iesu’n sydyn ond peidio dal ati. Rydym am gael disgyblion gydol oes i Iesu nid gwaith dros dro, ac mae mesur hynny’n anodd. Rhaid i ni ddilyn arweiniad Duw, gweddïo am ddoethineb a thrystio bod Duw ar waith er gwaethaf ein gwendid ni.
Allet ti rannu stori am y bobl rwyt ti’n gweithio gyda?
Cwrddais â Gracija a Neža tua phedair blynedd yn ôl yng nghyfarfod grŵp Undeb Cristnogol cyntaf Koper. Ni fu U.C. yno erioed o’r blaen, a wyddwn i ddim lle i ddechrau! Fe gwrddon ni’n wythnosol fel grŵp a’u mentora a cheisio’u hannog. Un o’r trobwyntiau mawr oedd mynd i gynhadledd Presence a chofiaf y daith yn ôl yn enwedig. Roeddwn i wedi dreifio 10+ awr gyda’n gilydd a siarad sut y gallen nhw rannu eu ffydd â’u ffrindiau. Roedden nhw’n betrusgar iawn ac yn trio meddwl am y ffordd leiaf brawychus o wneud hynny. Doedden nhw ddim yn ddigon hyderus i fynd ar y stryd ond yn fodlon ceisio rhannu pe bai rhywun yn gofyn beth oedden nhw’n ei gredu.
Ymhen ychydig cafodd Neža yr hyder i wahodd Maja i ddod i’r capel gyda hi – roedd ychydig o gefndir Catholig ganddi. Er mawr syndod iddo fe aeth a dywedodd Maja wedyn nad oedd hi erioed wedi teimlo ei bod hi wedi cael ei derbyn gan bobl fel yna o’r blaen. Roedd yn sioc iddi gymaint o gariad a ddangosai pobl tuag ati. Dechreuodd Neža ddarllen efengyl Ioan gyda hi ac roedd Maja mor frwd fel y gofynnai a gâi gwrdd yn amlach! Dywedodd ei bod wedi dod yn Gristion, ond ymhen rhyw flwyddyn cafodd gariad nad oedd yn Gristion a bellach nid yw’n dilyn Iesu. Gweddïwch amdani.
Aeth Neža gyda fi i gynhadledd IFES World Assembly yn Ne Affrica. Ces i fy synnu wrth ei gweld yn llawn hyder, hyd yn oed yn rhannu o flaen dros gant o bobl ac yn ôl yn Koper mae’n helpu i arwain y grŵp ac yn weithgar yn yr eglwys. Awgrymodd ein bod yn gweud ymgyrch yn Koper a threfnodd bopeth ac oni bai am y Pandemig byddem wedi cynnal yr ymgyrch gyntaf yno yn mis Mawrth.
Ar ôl Presence cafodd Gracija gyfle i rannu ei ffydd â’i ffrind Patricija. Daeth Paricija yn Gristion wedi i Gracija rannu mwy a darllen y Beibl gyda’i gilydd. Dim ond un eglwys sydd yn ardal Patricija yn Slofenia, a cheisiais ei helpu i gysylltu â nhw. Roedd ganddi hi gariad hefyd nad oedd yn Gristion ac roedden nhw’n byw gyda’i gilydd. Ond gyda help yr eglwys a Christnogion eraill ceisiodd fyw yn unol â beth mae’r Beibl yn ei ddweud am berthynas, gwahoddodd ei rhieni a’i chariad i ddod i’r eglwys a daeth yr holl deulu a’i chariad yn Gristnogion. Ces i’r fraint o fod yn ei bedydd, lle cafodd y teulu cyfan eu bedyddio ar unwaith. Yn ddiweddar, ces i gyfle i wrando arni yn rhannu gyda’r merched yn ei pharti plu beth mae Duw wedi bod yn ei wneud yn ei bywyd a pha mor anodd oedd ceisio bod yn bur cyn priodi gyda phwysau’r teulu a chymdeithas o’i hamgylch.