Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Sêt yn y Seiat: Siwsi Swil

26 Ebrill 2022 | gan Dewi Tudur

Sêt yn y Seiat: Siwsi Swil

(Cymeriad dychmygol ond sefyllfa real iawn)

Mae Siwsi Swil wedi cysylltu yn gofyn am help. Meddai:

‘Dwi’n Gristion ers rhai blynyddoedd, ond dwi’n swil iawn i siarad am fy ffydd. Dwi wedi bod yn meddwl am sut oedd hi yn y gwaith cyn y COVID a dwi’n edrych ymlaen at weld pawb eto, ond mae gen i broblem. Mae chwech o bobol yn gweithio yn yr un swyddfa â fi ac amser paned a thros ginio, bydd y sgwrs yn mynd weithiau i sôn am Dduw ac am y Beibl, ac weithiau am farwolaeth, neu rywbeth felly. Siarad yn ysgafn am y pethau hynny mae nhw fel arfer cofiwch, ond dwi’n dal i deimlo’n llwfr gan nad ydw i’n gwybod beth i’w ddweud”.

Ateb

Yn gyntaf, diolch i Siwsi am rannu ei phryder. Mae’n ofnadwy o bwysig yn y bywyd Cristnogol i ni rannu ein pryderon hefo brodyr a chwiorydd yn y Ffydd. Mae Duw wedi rhoi Teulu’r Ffydd i ni ac maen nhw yno i’n helpu. Gallaf eich sicrhau hefyd, Siwsi, fod hwn yn gwestiwn sydd ar feddwl llawer o Gristnogion – sut allwn ni fod yn well tystion i’r Arglwydd Iesu Grist?
Fel hefo pob cwestiwn, dylem edrych i ddechrau, ar yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud ar y mater. Dwi’n meddwl yn arbennig am eiriau’r Gwaredwr yn Mathew 5:16. ’Felly, boed i’ch goleuni chithau lewyrchu gerbron eraill er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd.’ Mae’r Arglwydd Iesu Grist yn estyn anrhydedd mawr i’w ddisgyblion ym mhob oes. Dyma’n union ddywedodd andano’i Hun: ‘Myfi yw Goleuni’r byd’ ond wedyn yn Mathew 5:14, ‘Chwi yw goleuni’r byd’. Yn lle ein bod yn meddwl amdano fel rhyw gyfrifoldeb anodd, efallai y dylem feddwl mwy amdano fel braint! Ni yn cael dod â goleuni i fyd tywyll. Ni yn cael gwneud gwaith tebyg i’n Gwaredwr annwyl! Wedi’r cwbwl, yr unig obaith sydd i bechaduriaid ydi eu bod yn clywed am y Gwaredwr ac yn credu ynddo. A’n braint ni ydi cael dweud amdano.

Sylwch hefyd fod yr Arglwydd Iesu Grist yn rhoi’r fraint a’r cyfrifoldeb ar bob Cristion. Mae’r ’chwi’ yn y bregeth ar y mynydd yn cynnwys yr Apostolion, ond roedd llawer mwy o ddisgyblion yno na dim ond y deuddeg. Nid ydym i fyw bywyd mynachaidd – neu leianaidd, yn eich achos chi, Siwsi! Nid encilio ddylen ni, ond byw yng nghanol y byd a bod yn oleuadau ar fryn – yn amlwg i bawb. Sylwch hefyd nad yw’r Gwaredwr ddim yn sôn am ddweud dim ond yn hytrach am weithredoedd. Pan ydan ni’n siarad am ’dystiolaethu’ nid dim ond sôn am siarad ydan ni. Y gwir ydi ein bod yn tystiolaethu trwy’r amser! A bod ein ’tystiolaeth’ yn dystiolaeth dda neu ddrwg, yn dibynnu ar ein gweithredoedd. Ac os nad yw’n gweithredoedd yn cyd-fynd hefo’n tystiolaeth, does dim ond un gair i’n disgrifio – rhagrithwyr.

Dwi’n siŵr nad yw hynny’n wir amdanoch chi. Dwi’n deall eich bod yn weithwraig gydwybodol a gonest. Mae hynny’n dystiolaeth ynddo’i hun. Gweddïwch am gael cadw a chryfhau’r dystiolaeth honno ac na fyddwch, ar air nac mewn gweithred, yn dwyn anfri ar yr efengyl nac ar y Gwaredwr. Gweddïwch hefyd am y cyfle i gael rhannu’r efengyl. Weithiau mae Duw yn agor drws i ni gael siarad amdano. Fe ddywedodd rhywun rywdro fod ’yr efengyl fawr yn hawlio ein bod yn dystion ffyddlon iddi ac os oes rhaid, rydym yn barod i ddefnyddio geiriau’.

Dywedwch hefyd yn eich llythyr fod rhai materion crefyddol yn codi weithiau, ond mai mewn ffordd ysgafn y gwneir hynny a’ch bod chithau’n teimlo’n llwfr ac yn methu ymateb.

Unwaith eto mae’r Beibl yn help i ni. ‘Byddwch yn barod bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch’ (1 Pedr 3:15). Os dwi’n deall y geiriau yma yn iawn, dweud maen nhw am i ni ateb yn briodol i gwestiynau am y Ffydd. Pan mae pobol yn cymryd gair Duw yn ysgafn, mae peryg mawr i ni roi perlau o flaen y moch wrth geisio ymateb i hynny. Cofiwch, mae rhai pobol wedi eu donio yn arbennig i ddelio hefo pobol ryfygus – ond nid pawb. I’r rhelyw ohonom, pobol y Ffydd, cadw’n dawel a cherdded allan ydi’r ymateb cywir. Nid bod yn llwfr ydych chi o gwbwl, ond bod yn ddoeth.

Gweddïwn, Siwsi, dros ein cydweithwyr a thros bawb y gwyddom amdanynt sydd y tu allan i Deyrnas Iesu Grist. Gweddïwn y byddan nhw’n gofyn ‘Beth a wnaf i fod yn gadwedig?’ A gweddïwn drosom ein hunain a thros ein cyd-Gristnogion ein bod yn byw bywydau sy’n dwyn tystiolaeth dda i’r Arglwydd Iesu Grist ac y byddwn yn cael help yr Ysbryd Glân i wybod pryd a beth i’w ddweud. (Luc 12:12; Luc 21:14-15).

Diolch i Siwsi am ei chwestiwn. Os hoffech chi ’sȇt yn y seiat’, anfonwch eich cwestiwn ac fe geisiwn ei drafod.