Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Sêt yn y Seiat: Emyr Amheuon

25 Ebrill 2022 | gan Dewi Tudur

Sêt yn y Seiat: Emyr Amheuon

(Cymeriadau dychmygol ond sefyllfa real iawn)

Mae Emyr Amheuon wedi cysylltu yn gofyn am help. Meddai:

‘Rydw i yn aelod mewn capel ac wedi proffesu ffydd ers blynyddoedd. Rydw i’n clywed Cristnogion yn siarad am eu profiad o gael tröedigaeth ac mae’n ymddangos i mi nad ydyn nhw yn cael unrhyw amheuon. Erbyn hyn, mae’n argyfwng arna i. Dwi’n ofni nad ydw i wedi credu ac mae pob math o amheuon yn gallu llenwi fy meddwl. Dwi’n ofni mai rhagrithiwr ydw i a dwi ddim yn gwybod lle i droi.’

Ateb

Diolch yn fawr, Emyr, am gysylltu ac am gael cyfle i drafod y mater hwn. Galla i dy sicrhau di fod llawer o Gristnogion wedi gorfod ymgodymu hefo’r cwestiynau hyn dros y blynyddoedd ac nid rhyw fath o Gristnogion chwaith, ond pob math – a gweinidogion amlwg yn eu plith. Felly, dyna’r peth pwysig cyntaf, i’w ddweud. Er dy fod ti’n teimlo felly, o bosib, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun yn ceisio delio hefo’r ansicrwydd a’r amheuon hyn.

Yr ail beth pwysig ydi ein bod ni’n gallu rhoi gormod o bwyslais ar y profiad o gael tröedigaeth fel mai’r profiad ohoni ac nid y dröedigaeth ei hun yw’r peth canolog yn ein meddwl. Gad i mi esbonio. Fedr neb ddod i ffydd wirioneddol yn yr Arglwydd Iesu Grist heb droi (Mathew 18:3, Actau 11: 21). Mae’n rhaid troi oddi wrth ein pechod ac at Dduw. Ond mae pryd a sut mae hynny’n digwydd yn gallu bod mor amrywiol â bocs licris-olsorts! Dychmyga berson yn gyrru car ar gylchfan. Mae cannoedd o exits ac mae’r gyrrwr yn chwilio am yr exit cywir. Yn y diwedd, mae wedi bod o gylch y gylchfan cynifer o weithiau nes nad yw’n cofio pa exit a gymerodd – nid yw’n cofio’r rhif na beth roedd yr arwydd yn ei ddweud, ond mae’n gwybod ei fod ar y ffordd iawn oherwydd mae’n cyrraedd pen y daith. A dyna’r gwir yn aml ym mhrofiad Cristnogion. Pryd y digwyddodd y troi? Sut y digwyddodd? Mae’r manylion yn brin ond rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n credu. A dyna’r cwestiwn pwysig. Beth bynnag oedd fy mhrofiad, ydw i’n credu heddiw?

Unwaith eto, fel gyda phob mater ysbrydol, mae’n rhaid i ni droi at Air Duw – hwn ydi’r ‘llusern i’n traed [a’r] llewyrch i’n llwybr’. Yn gyfleus iawn i ni, mae Epistol cyntaf Ioan yn delio’n benodol hefo’r cwestiwn ‘Beth yw Cristion’? Mae’n amlwg fod pobol nad oeddan nhw’n Gristnogion yn ceisio dylanwadu ar y darllenwyr gwreiddiol i’w perswadio eu bod hwythau hefyd, y gaubroffeswyr, yn Gristnogion. Mae Ioan yn canolbwyntio ar dri pheth.

  1. Credu yn yr Arglwydd Iesu Grist (1 Ioan 4:15; 5:1, 5:21). Mae’r Cristion yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist! Mae hynny’n golygu credu yn yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddysgu amdano – ei fod yn Fab Duw ac yn Dduw ei Hun a’i fod wedi rhoi ei hun yn aberth dros ein pechodau ar y groes a thrwy hynny wedi cymryd ein cosb ni arno’i hun. Mae credu ynddo yn golygu ymddiried ynddo ef yn unig am faddeuant a derbyniad ger bron Duw glân a chyfiawn.
  2. Mae Ioan hefyd yn ein dysgu fod gan y gwir Gristion olwg arbennig ar bechod. Mae’n casáu pechod a’r pechod sydd yn ei galon ei hun yn fwy na’r un (1 Ioan 1:6, 1:8; 3: 9-10). Efallai ei bod yn bwysig dweud, yng ngoleuni’r ddau gyfeiriad olaf, mai dweud y mae o nad yw’r Cristion yn byw mewn stad o bechu parhaus, dilyffethair yn erbyn Duw. Mae Cristnogion yn pechu ond maen nhw hefyd yn edifeiriol (1 Ioan 2:1-2). Y pwynt ydi, mae’r gwir Gristion yn edifarhau am ei bechod a ddim yn ceisio byw yn y tywyllwch.
  3. Gair pwysig gan Ioan yn y llythyr hwn ydi ‘cymdeithas’. Y gymdeithas gyntaf ydi ein cymdeithas bersonol ni, drwy ffydd, hefo’r Arglwydd Iesu Grist. Ond mae’r gymdeithas honno’n esgor ar gymdeithas arall sef hefo pobol eraill sy’n Gristnogion (1 Ioan 1:3, 2:9, 3:14, 5:1). Mae gan y gwir Gristion berthynas â’i frodyr a’i chwiorydd yn y Ffydd ac mae yn eu caru am fod Duw yn eu caru. Mae ein hagwedd at bobol sy’n credu yn yr Arglwydd Iesu Grist yn arwydd o’n hagwedd at Y Gwaredwr.
    Wel, dyna fo. Diolch am y cwestiwn. Darllena Epistol cyntaf Ioan – yn fyfyrgar a gweddigar. Os wyt ti’n dal yn ansicr, cofia fod drws y nefoedd ar agor a bod gwaith yr Arglwydd Iesu Grist yn byw drosom ac yn marw yn ein lle yn sefyll o hyd a chred ynddo – am y tro cyntaf neu am y canfed tro. Y peth pwysicaf ydi ein bod ni’n credu oherwydd ei fod yn fater o dragwyddol bwys.
Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf