Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Rhannu’r Ffydd gyda rhieni di-gred

14 Ebrill 2022 | gan Louise Morse

Rhannu’r Ffydd gyda rhieni di-gred

Louise Morse

Pan ddaeth Dafydd i ffydd yn y brifysgol credai ei rieni mai chwiw dros dro ydoedd. Ond, yn lle hynny, priododd ferch o Gristion o’r enw Marian, a chawsant bedwar o blant, a daeth y pedwar yn gredinwyr yn ystod eu harddegau.

Bob tro y ceisiai Dafydd rannu ei ffydd gyda’i rieni byddent yn dangos yn glir nad oedd ganddynt rithyn o ddiddordeb, hyd yn oed pan benodwyd ef a’i wraig i swyddi allweddol gyda chenhadaeth efengylaidd ryngwladol.
Er gwaethaf hynny, roedd ei rieni yn gariadus iawn tuag at eu hwyrion, gan ymweld yn aml, ac o ganlyniad ceid cyfleon naturiol i drafod eu gwaith, ond byddent bob amser yn ofalus iawn rhag ‘dyrnu’r Beibl’ gan ddisgwyl am gyfleodd addas a chan amseru unrhyw dystiolaeth yn ofalus.

Wedi i fam Dafydd farw’n annisgwyl, tyfodd Dafydd a’i dad yn nes o lawer, er bod y muriau rhyngddynt yn dal cyn uched â muriau Jericho. Roedd yn caru ei wyrion a byddai’n gwrando ar eu hanesion am eu hymwneud â’r ffydd, ond nid oedd dim fel petai’n creu argraff arno.
Bu tad Dafydd fyw nes ei fod yn 99 oed ac yn ystod ei wythnosau olaf, bu ei wyrion a’u rhieni yn gweddïo’n daer y byddai’n dod i gredu yn yr Arglwydd Iesu. Yna, yn ystod un ymweliad, synhwyrodd Marian fod yr Ysbryd Glân yn creu cyfle, felly gofynnodd i’w thad yng nghyfraith os oedd ganddo wrthwynebiad iddi siarad am yr Iesu. Cytunodd, a gwrandawodd, a chroesawodd Ef i fod yn Waredwr iddo. Cawsant gyfle i weddïo gyda’i gilydd, a gyrrodd hi a Dafydd adre’n gyda heddwch yn eu calonnau.

Nid yw’r siwrne ysbrydol fel arfer mor hir â hon, ond yn yr hanesyn uchod ceir nodweddion sy’n addas i blant a’u rhieni o bob oed, sef:

  1. Bu Dafydd a Marian bob amser yn anrhydeddus wrth ei dad (Exodus 20:12). Byddent yn aros nes bod yr Ysbryd Glân yn creu cyfle i siarad ag ef. Nid oeddent fyth yn dadlau eu hachos, ac wrth hynny byddent yn osgoi iddo fagu gwrthwynebiad a chaledu ei galon.
  2. Byddai eu gweithredoedd yn adlewyrchu’r hyn a ddywedid ganddynt. Mae credoau pobl hŷn yn fwy tebyg o fod wedi eu seilio ar dystiolaeth, yn wahanol i’r genhedlaeth iau. Dylanwadwyd ar y tad gan ganlyniadau ffydd y mab, ei ferch yng nghyfraith a’r wyrion.
  3. Byddent yn tystio iddo o fewn i berthynas gadarn. Roedd gan Dafydd a Marian a’u plant berthynas dda a’r hynafgwr. Mae tystio effeithiol yn dod drwy gysylltiadau ac ymwneud â phobl hŷn. Os oes tensiwn o fewn perthynas, y mae’r rhiant yn llai tebygol o wrando.
  4. Arferent weddïo’n ddi-baid, hyd yn oed pan na fyddai dim i’w weld yn digwydd. Ni wnaeth Dafydd a Marian, na’u plant yn ddiweddarach, roi mewn o gwbl.
  5. Roeddent yn ei garu. Er ei bod yn siwrnai hir, mae eu hanes yn esiampl o’r ffordd nad yw cariad byth yn methu (1 Corinthiaid 13:8-11).

[Cyhoeddwyd y gwreiddiol yn The Pilgrims’ Magazine (Haf 2019) a diolchir am ganiatâd i’w gyfieithu.]

Adnodd diwethaf