Pwysigrwydd 1620
E. Wyn James
Eleni rydym yn dathlu un o’r digwyddiadau pwysicaf yn hanes Cymru a’r diwylliant Cymraeg, oherwydd 400 mlynedd yn ôl, yn 1620, ymddangosodd y fersiwn o’r Beibl a fyddai’n destun safonol y Beibl yn y Gymraeg o hynny hyd at gyhoeddi’r Beibl Cymraeg Newydd yn 1988.
Dan ddylanwad Protestaniaeth a’i phwyslais ar yr angen i bobl ddeall y Beibl a’r gwasanaethau eglwysig yn eu hiaith eu hunain, newidiodd iaith crefydd yn Lloegr o’r Lladin i’r Saesneg erbyn teyrnasiad y Frenhines Elisabeth I. Am fod Cymru wedi ei huno â Lloegr erbyn hynny, daeth y Saesneg hefyd yn iaith gwasanaethau’r Eglwys Wladol yng Nghymru.
Ond nid oedd y rhan fwyaf o’r Cymry yn deall Saesneg. Felly, aeth rhai Protestaniaid Cymreig pybyr ati i bwyso am gael y Beibl a gwasanaethau’r Eglwys yn y Gymraeg. Ymhlith yr amlycaf o’r rheini roedd William Salesbury, Humphrey Llwyd a’r Esgob Richard Davies – tri, yn sicr, y gellid cymhwyso geiriau Waldo Williams atynt: ‘Mawr ac ardderchog fyddai y rhain yn eich chwedl,/ Gymry, pe baech chwi’n genedl.’
Argyhoeddwyd y Frenhines Elisabeth o’r angen, a’r canlyniad fu pasio deddf seneddol yn 1563 yn gorchymyn cyfieithu’r Beibl a llyfr gwasanaethau’r Eglwys Wladol, sef y ‘Llyfr Gweddi Gyffredin’, i’r Gymraeg. Nid yn unig hynny, ond fe fynnai’r ddeddf hefyd y dylid eu defnyddio’n gyson yn yr eglwysi ym mhob man lle y siaredid y Gymraeg yn gyffredinol – sef, ar y pryd, yn y rhan fwyaf o Gymru ynghyd â rhannau o’r Gororau.
Dyma’r ddeddf bwysicaf erioed yn hanes y Gymraeg. Rhaid cofio fod disgwyl i bawb yn y cyfnod hwnnw fod yn aelod o’r Eglwys Wladol a mynychu ei gwasanaethau’n rheolaidd. Felly, canlyniad deddf 1563 oedd, nid yn unig roi statws swyddogol i’r Gymraeg ym myd crefydd, ond hefyd beri ei chlywed yn gyson mewn gwasanaethau ar hyd a lled y wlad – a hynny lai na 30 mlynedd wedi i Ddeddf Uno 1536 wneud y Saesneg yn iaith swyddogol y gyfraith a gweinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Cymerodd dros 50 mlynedd i’r Beibl Cymraeg gyrraedd ei ffurf derfynol. Erbyn 1567 roedd William Salesbury, gyda chymorth yr Esgob Richard Davies yn bennaf, wedi cyfieithu’r Testament Newydd a’r Salmau. Yna aeth William Morgan ati erbyn 1588 i ddiwygio gwaith Salesbury a chyfieithu gweddill yr Hen Destament.
Yn 1611 cyhoeddwyd y fersiwn ‘awdurdodedig’ o’r Beibl Saesneg, y ‘King James Version’. Yn sgil hynny penderfynodd yr Esgob Richard Parry baratoi fersiwn diwygiedig o ‘Feibl William Morgan’. Yr un a ysgwyddodd ben tryma’r gwaith diwygio oedd un o ysgolheigion gwychaf y Gymraeg, Dr John Davies, Mallwyd. Cyhoeddwyd y fersiwn diwygiedig hwnnw yn 1620, a dyna fu Beibl y Cymry am y 350 mlynedd nesaf.
Anodd gorbwysleisio pwysigrwydd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Am ganrifoedd bu ei ddylanwad yn drwm ar bob agwedd ar fywyd Cymru, ac nid ar ei bywyd ysbrydol yn unig. Aeth ei arddull a’i ymadroddion i fêr esgyrn yr iaith. Yn wir, pe na bai’r Beibl wedi ei gyfieithu y pryd hwnnw, mae’n amheus a fyddai’r Gymraeg wedi goroesi.
Roedd cyfieithwyr Beibl 1988 yn llygad eu lle wrth alw Beibl 1620 ‘yn brif drysor crefyddol, diwylliannol a llenyddol ein cenedl’. Heb os, roedd ymddangosiad y Beibl hwnnw 400 mlynedd yn ôl i eleni yn garreg filltir o’r pwys mwyaf yn hanes Cymru, ac yn ddigwyddiad sy’n haeddu dathlu mawr!
Fersiwn diwygiedig yw’r erthygl hon o’r ‘Rhagair’ a gyhoeddwyd yn nhaflen y gwasanaeth cenedlaethol i ddathlu 400 mlwyddiant Beibl 1620 a gynhaliwyd yng nghapel y Tabernacl ar yr Ais yng Nghaerdydd, 5 Mawrth 2020.