Pwy yw hon?
Meirion Thomas
Pwy oedd y ddynes ddienw yn y llun? Roedd y llun wedi bod ym meddiant y myfyriwr diwinyddol ers iddo glywed gyntaf am bobl y Laarim yn Ne Sudan. O dan y llun roedd crynodeb byr o hanes pobl y Laarim ac anogaeth i weddïo dros y llwyth leiafrifol hon. Roedd yna gais hefyd i fentro drwy ymweld â’r ardal i gynorthwyo’r unigolion a fu’n gweithio yno er 2011. Ar ôl graddio, aeth Andrew o Uganda i ymuno â’r tîm. Wrth ddechrau dysgu iaith, crefydd a diwylliant y bobl, daeth yn gyfarwydd â nifer o blant a phobl ifainc trwy ddysgu mewn ysgol a chynnal ysgol Sul. Roedd nifer wedi dod i gredu yn Iesu Grist o gychwyn y gwaith gan ddod yn weithgar yn yr eglwysi newydd.
Ers y dechrau, efengylu yn y pentrefi oedd un o brif amcanion yr arweinwyr ifainc. Un noson mewn pentref anghysbell dangoswyd ffilm o fywyd yr Iesu. Ar ôl y ffilm, cafwyd sgwrs fer yn pwysleisio beth oedd edifeirwch a ffydd. Wedyn, cafwyd gwahoddiad i aros a thrafod os oedd diddordeb pellach.
Daeth tair gwraig ymlaen i ofyn ymhellach sut i gredu yn yr Arglwydd Iesu. Trefnwyd i gwrdd â’r gwragedd y bore trannoeth. Wrth ddarllen y Beibl ac esbonio ffordd iachawdwriaeth daeth yn amlwg fod yr Arglwydd wedi agor calonnau’r gwragedd lleol hyn. Estynnodd Andrew y cerdyn o’i boced a sylweddoli wrth edrych ar y llun cyfarwydd o’r wraig ddienw, ei bod yn eistedd o’u blaen! Yn 2010 aeth tîm o genhadon i archwilio’r posibiliadau o sefydlu gwaith ymysg y Laarim. Wrth deithio trwy nifer o bentrefi, cyfarfu’r tîm â nifer o bobl leol a thynnu lluniau rhai o’r pentrefwyr a’u plant. Y dasg gyntaf oedd cynllunio cerdyn gweddi er mwyn annog eiriolaeth fyd-eang dros y fenter hirdymor hir o gyrraedd y Laarim gydag efengyl Iesu Grist. Penderfynwyd ar ambell lun a fyddai’n addas i grynhoi neges y cerdyn gweddi. Regina Lino oedd enw’r wraig a ddaeth i gredu y noson honno. Gwraig ddienw i laweroedd, ond enw a oedd eisoes wedi ei gofnodi yn y nefoedd (Luc 10:20)! Tra roeddent yno yn casglu ffeithiau ac yn gwyntyllu posibiliadau, clywsant nifer yn eu hannog i beidio ag anghofio amdanynt a phrysuro i ddod yn ôl. Meddai un o arweinwyr y pentref: ’Nid eich nwyddau na’ch arian ond eich neges yw’r peth pwysig i ni!’
Mae ffocws bwriadol nifer o gymdeithasau cenhadol wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf. Cyrraedd pobl sydd eto heb glywed yr efengyl yw’r nod bellach, plannu eglwysi newydd lle na fu sôn am Grist erioed o’r blaen, a hyfforddi arweinwyr lleol sy’n siarad yr iaith leol ac yng nghanol diwylliant a sefyllfa uniongyrchol y bobl. Dyna benderfyniad Cenhadaeth Fewndirol Affrica (AIM ) wrth bartneru ag arweinwyr eglwysi a cholegau diwinyddol. Fel nifer o gymdeithasau cenhadol bu llwyddiant dros ganrif a mwy wrth weld eglwysi’n ffynnu dros y cyfandir. Ond ymysg y 900 o wahanol bobloedd, mae nifer fawr heb glywed am Iesu Grist a heb un darn o’r Beibl yn eu hiaith frodorol. Yn Ne Sudan mae dros 70 o bobloedd gwahanol. Er mai Cristnogaeth yw’r ffydd fwyafrifol, mae nifer eto heb glywed yr efengyl.
Yn 2011 gwelwyd cyfle i ddechrau gwaith o gwmpas Bryniau Boya yn nhalaith Kapoeta, De Sudan. Erbyn 2016 roedd y tîm wedi datblygu a chyfrannu’n sylweddol at safonau addysgiadol, meddygol, amaethyddol ac ysbrydol yr ardal. Gyda ffocws clir ar gyflwyno’r efengyl mewn gair a gweithred, maent yn profi cynnydd yng ngwaith y deyrnas. Profodd y tîm dristwch mawr y flwyddyn ddiwethaf wrth golli aelod ifanc brwdfrydig. Yn 35 mlwydd oed, bu farw Anna Beckam a gadael gŵr a phlentyn ar ei hôl. Roedd yn feddyg yn arbenigo’n ym maes clefydau heintus ac wedi sefydlu clinigau arbennig arloesol i wragedd y Laarim a dechrau cyrsiau syml i hyfforddi bydwragedd.
Ond fe wnaeth adael ar ei hôl fodel o werth gofal Cristnogol a grym gobaith yr efengyl. Mae nifer o ferched a gwragedd ifanc wedi eu hysbrydoli i weithio ym myd gofal a gwasanaeth meddygol.
Mae ffrwyth a chynhaeaf ysbrydol yn gofyn am arweinyddiaeth glir trwy waith a thystiolaeth yr eglwysi lleol sy’n datblygu ar draws yr ardal. Cynhelir cyrsiau syml sylfaenol o ddysgu’r Beibl ar aelwydydd credinwyr ar draws y pentrefi. Mae nifer yn teithio oriau i gyrraedd y gwersi Beiblaidd hyn ac yn dychwelyd adre’n llawen i rannu’r weinidogaeth ag eraill. Trwy ffyrdd syml, mae’r dystiolaeth yn ehangu a chryfhau. Gwireddir dymuniad Beiblaidd yr emynydd Morgan Rhys:
Helaetha derfynau dy deyrnas a galw dy bobol ynghyd.
Datguddia dy haeddiant anfeidrol i’th eiddo, Iachawdwr y byd….
Eheda, efengyl dros wyneb y ddaear a’r moroedd i gyd,
A galw dy etholedigion o gyrrau eithafoedd y byd.