Pechodau Parchus: Pryder
Andrew Davies a Pam Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn y Cylchgrawn Efengylaidd Saesneg, Gorffennaf 2017.
Rydych yn wynebu arholiad pwysig, canlyniadau meddygol, eich tro cyntaf mewn awyren neu gystadleuaeth chwaraeon, ac rydych chi’n poeni amdano. Mi fyse’r rhan fwyaf o bobl yn poeni amdano. Does dim rhaid bod yn un sy’n pryderu am bob dim er mwyn teimlo’n bryderus. Efallai y bydd rhai pobl yn teimlo eu bod wedi eu llethu gan bryder nes bod angen iddyn nhw gael cymorth proffesiynol. Efallai nad ydych yn un o’r bobl hynny, ond pa un ohonom sydd heb erioed brofi pryder go iawn am y dyfodol?
Ai pechod yw hwn? Mae teimlo’n gynhyrfus yn un peth, ond mae pryderu yn fater arall.
Mae rhai pobl yn naturiol yn pryderu’n fwy nag eraill o ganlyniad i’w natur bersonol hwy. Dyna sut maen nhw. Ond pan fydd Cristion yn llawn pryder am nad yw’n ymddiried yn Nuw, nac yn derbyn bod Duw yn rheoli amgylchiadau, beth yw hynny ond pechod?
Yn y Bregeth ar y Mynydd, dywedodd Iesu ‘peidiwch â phryderu am eich bywyd, beth i’w fwyta na’i yfed, nac am eich corff, beth i’w wisgo’ (Mathew 6:25). Mae’n cyfeirio at ‘bryder’ chwech o weithiau felly mae’n rhaid ei fod yn bwysig.
Sut gallwn ni beidio â phryderu?
Does dim diben esgus nad yw consyrn ynglŷn ag iechyd, arian, gwaith, teulu a’r dyfodol yn rhywbeth go iawn. Dydy difaterwch Stoicaidd ddim yn help i ni chwaith. Dydy clywed rhywun yn dweud wrthych ‘pull yourself together’ ddim yn help pan mae dyna yw’r peth olaf y gellwch ei wneud.
Ond mae yna o leiaf dri pheth y gallwn eu gwneud er mwyn ein helpu i beidio â phryderu.
Derbyn mawredd sofraniaeth Duw
Yn 1 Pedr 5:7 darllenwn ‘Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.’ Gorchymyn yw hwn. Efallai na fedrwn wneud unrhyw beth ynglŷn â’n hamgylchiadau, ond fe fedrwn ni wneud rhywbeth ynglŷn â’n pryder.
Daw’r gorchymyn i fwrw ein holl bryder arno ef yng nghyd-destun darostwng ein hunain o dan law nerthol Duw (1 Pedr 5:6). Mae Pedr yn ein hatgoffa fod Duw yn rheoli popeth, yn cynnwys manylion ein bywydau o ddydd i ddydd.
Yn ei lythyrau, ysgrifennodd John Newton mai un o nodweddion aeddfedrwydd Cristnogol yw ‘an acquiescence in the Lord’s will founded in a persuasion of his wisdom, holiness, sovereignty, and goodness’. Onid dyma pam rydyn ni’n gweddïo? Rydyn ni’n cyflwyno ein hamgylchiadau i Dduw trwy weddi. Wrth gwrs ei bod hi’n addas i ni ofyn i Dduw ein cadw’n ddiogel trwy’r amgylchiadau, ond rhaid i ni hefyd fod yn fodlon i Dduw wneud ei ewyllys, beth bynnag yw goblygiadau hynny. Er enghraifft, mae’n iawn i ni ofyn am iachâd pan rydyn ni’n sâl, ond mae’n rhaid i ni hefyd fodloni ar beidio cael ein hiacháu os mai hynny a ddigwydd. Pam? Oherwydd ewyllys Duw yw’r ffordd orau.
Os ydy gwybod fod Duw yn sofran ac yn dda yn mynd i’n rhwystro rhag pryderu’n ddiangen, rhaid i ni sicrhau fod ein meddyliau yn rheoli’n teimladau, nid y gwrthwyneb. Dyna pam y ceir gorchymyn Pedr i fwrw ein holl bryder ar Dduw yng nghyd-destun yr angen ar gyfer disgyblu ein meddyliau (1 Pedr 5:7, 8). Gwelwn enghraifft o hyn yn hanes Iesu yn cwrdd â’r ddau ddisgybl ar y ffordd i Emaus. Gwrandawodd Iesu yn astud ar eu tristwch ond dywedodd wrthyn nhw eu bod yn ddiddeall ac yn araf eu calonnau. Cywirodd Iesu eu ffordd o feddwl. Dywedodd nad trychineb oedd ei farwolaeth, ond rhan o fwriad Duw (Luc 24:26).
Petai’r disgyblion wedi deall hyn, byddai dim achos iddyn nhw fod yn ddigalon na’n bryderus. Os ydyn ni am ennill ein brwydr gyda’n pryder, rhaid i ni hefyd feddwl yn y ffordd gywir.
Derbyn gras aruthrol yr Arglwydd Iesu Grist
Roedd angen i’r disgyblion ar ffordd Emaus ddeall pam y bu farw Crist, ond roedd rhaid iddyn nhw hefyd ymddiried ynddo yn Arglwydd byw a Gwaredwr. Dangosodd Iesu ei hun iddyn nhw; roedd angen iddyn nhw ymddiried ynddo a chredu’r Ysgrythur a oedd yn sôn amdano.
Onid dyma ein problem ni hefyd? Rydyn ni’n wynebu temtasiwn i bryderu ac yn syrthio i demtasiwn yn lle ymddiried yn ein Gwaredwr a dibynnu ar ei ras.
Yn Rhufeiniaid 8 mae Paul yn siarad am ddaioni Duw sy’n gweithio ym mhopeth er lles ei blant. Rydyn ni’n gwybod mai pwrpas cariadus Duw yw ein trawsffurfio i fod yn debyg i’w Fab. Rydyn ni’n gwybod bod Duw o’n plaid oherwydd ‘nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef?’ (Rhufeiniaid 8:32). Os ydy Duw eisoes wedi gwneud y peth mwyaf drosom, mi fydd hefyd yn gwneud popeth arall ac yn rhoi’r gras yr ydym ei angen. Mae e’n gofalu amdanom ni.
Dychmygwch eich bod yn canfod eich bod yn dioddef o salwch a dydych chi ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd. Beth dylech chi ei wneud? Taenu gras yr Arglwydd Iesu Grist a doethineb eich Tad dros bob canlyniad posib. Rydych yn gofyn cwestiynau, yn neidio o’r naill bosibiliad i’r llall. Ydy fy salwch yn angheuol? Mi fydd fy nheulu’n drist, ond mi fyddaf gyda fy Ngwaredwr. Oes rhaid i mi gael llawdriniaeth ddifrifol? Rydw i yn llaw fy Nhad yn y nefoedd ac ef sy’n gwybod orau. A fydd angen triniaeth boenus? Mi fydd yr Arglwydd yn rhoi gras i mi ddyfalbarhau. Beth os nad yw e mor ddifrifol â hynny? Mi fydd Duw yn fy ngalluogi i ymdopi.
Mae gras Duw yn addas i bob angen ac yn hollddigonol.
Ymddiried yn narpariaeth yr Ysbryd Glân
O’r fath gysur sydd o wybod ein bod wedi derbyn yr Ysbryd Glân ac nad ydym ar ein pennau’n hunain! Mae’n ein cynorthwyo yn ein gwendid. Mae’n ein cynorthwyo i weddïo. Nid ydym yn gaeth i ofn ond rydym wedi derbyn Ysbryd mabwysiad. Mae’n eiriol drosom yn ôl ewyllys Duw. Ef yw’r ernes a’n blaendal o’n hetifeddiaeth ogoneddus!
Mae pryder yn gyfle felly i ni roi ein hunain yn nwylo ein Tad yn y nefoedd, ymddiried yn ein Gwaredwr a cherdded yn yr Ysbryd. Os ydym yn gwneud hyn, gall fod yn fodd i ni dyfu mewn gras, ffydd a gobaith. Fel y dywed y Salmydd, ‘bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac fe’th gynnal di; ni ad i’r cyfiawn gael ei ysgwyd byth.’ (Salm 55:22)