Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Pechodau Parchus: Hunanoldeb

25 Ebrill 2022 | gan Andrew Norbury

Pechodau Parchus: Hunanoldeb

Andrew Norbury

Gadewch i mi sôn wrthych chi am Narcissus. Roedd yn ddyn trahaus a balch, a chanddo obsesiwn llwyr gyda’i hunain a’i ymddangosiad. Doedd ganddo ddim diddordeb mewn eraill a doedd e ddim yn caru nac yn cael eu garu gan unrhywun arall. I dorri stori fer yn fyrrach fyth, cafodd ei felltithio a’r canlyniad oedd iddo ddisgyn mewn cariad â’i adlewyrchiad ei hun. Edrychodd ar ei adlewyrchiad yn y dŵr a’i chwennych. Un diwrnod fe welodd ei adlewyrchiad ei hun mewn ffynnon a neidio i’w gyrraedd, a boddi.

Mae’n stori dywyll, on’dyw hi?

Mae pob un ohonom mewn peryg o golli mas ar fywyd a’n dinistrio ein hunain trwy ein hobsesiwn â’n hunain. Y peth mwyaf arswydus yw ein bod ni’n hollol anymwybodol o’n peryg.

Y rheswm dros ein hunanoldeb
Rydyn ni wedi cael ein twyllo gan gelwydd sy’n dweud mai’r ffordd i fywyd, boddhad a llawenydd yw gofalu amdanom ni ein hunain, gwneud beth bynnag sydd raid er mwyn diogelu ein cysur ein hunain, a rhoi ein holl amser ac arian i’n gwasanaethu ni ein hunain. Nid celwydd newydd yw hwn; gallwn ei olrhain bob cam yn ôl i Eden. Gwnaeth Satan ddarbwyllo Adda ac Efa i feddwl yn fwy am gynyddu eu pleser a’u doethineb eu hunain nag ymddiried yn Nuw a’i ddilyn ef. Yn 2 Corinthiaid 5:15 mae Paul yn diffinio pechod yn fyw ein bywyd i’n plesio ni ein hunain. Mae pob un ohonom yn euog o hyn.

Sut gallwn ni fyw er mwyn Duw ac er mwyn eraill? Sut gallwn roi’r gorau i fyw drosom ni ein hunain?

Moddion i iacháu ein hunanoldeb

Yn gyntaf, rhaid i ni ddod i ddeall gwirionedd paradocsaidd yr efengyl. Mae’r celwydd yn dweud wrthym fod bywyd i’w gael trwy ein diogelu ein hunain. Ar y llaw arall, mae Iesu yn dweud wrthym fod bywyd i’w gael trwy ymwadu â ni ein hunain, ‘Yr un sy’n ennill ei fywyd a’i cyll, a’r un sy’n colli ei fywyd er fy mwyn i a’i hennill.’ (Matthew 10:39).

Pam felly? Ydych chi’n cofio sut rydyn ni wedi cael ein dylunio? Rydym wedi ein creu ar lun a delw Duw. Rydyn ni wedi ein creu i ogoneddu Duw, ei addoli ef, i fyw er ei fwyn a gwasanaethu eraill. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n ffynnu ac yn fwyaf bodlon pan fyddwn ni’n rhoi Duw ac eraill yn gyntaf. Os byddwn ni’n rhoi ein hunain yn y lle blaenaf, rydyn ni’n mynd yn groes i’n natur ni ein hunain. Mae hunanoldeb yn arwain at farwolaeth, nid bywyd. Pen draw hunanoldeb yw anobaith, gwacter a digalondid. Os byddwn ni’n rhoi Duw ac eraill o’n blaen ni ein hunain, mi gawn ni fywyd yn ei lawnder – bywyd fel y bwriadwyd ef! Yn union fel y mae pysgodyn wedi ei greu ar gyfer y môr, felly rydyn ni wedi ein creu i fyw i Dduw ac i eraill.

Yn ail. rhaid i ni weld a gwerthfawrogi anhunanoldeb ein Gwaredwr. Gwelwn yn Philipiaid 2 sut y rhoddodd Iesu ei les ei hun o’r neilltu er mwyn ein gwasanaethu ni. Rhoddodd ein hanghenion ni cyn ei anghenion ef. Gadawodd gysur, diogelwch a gogoniant y nefoedd er mwyn dioddef cywilydd, gwendid a dirmyg y groes. Gwnaeth hynny er dy fwyn di. Pan fyddwn ni’n amgyffred y rhyfeddod hwn, mi fydd yn trawsnewid ein calonnau.

Roedd Cristion newydd wisgo ei sliperi a’i wn nos, ac ar fin rhoi ei draed i fyny o flaen tân cynnes. Roedd y glaw yn arllwys a’r gwynt yn rhuo tu fas. Wrth i’w hoff raglen gychwyn ar y teledu, daeth sŵn curo ar y drws. Er bod temtasiwn i’w anwybyddu, agorodd y drws a theimlo’r awyr oer yn rhuthro i mewn. Yn sefyll tu fas, yn wlyb ddiferol, roedd aelod o’i eglwys. ‘Mae rhywbeth wedi mynd o’i le gyda fy nghar, ewch chi â fi at yr orsaf drenau?’ A’r ateb? ‘Os daeth fy Arglwydd yr holl ffordd lawr o’r nefoedd er fy mwyn i, fedra i fynd yr holl ffordd i’r orsaf er dy fwyn di!’

Pan fyddwn ni’n amgyffred dyfnder hunan-aberth ein Gwaredwr drosom ni, fe fydd yn trawsnewid ein calonnau i fyw bywydau llawen, rhydd ac anhunanol, er gogoniant i Dduw!