Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Pechodau Parchus: Balchder

21 Ebrill 2022 | gan John Funnell

Pechodau Parchus: Balchder

John Funnell

Barn ddisymwth Duw ar Ananias a Saffeira yw un o hanesion mwyaf brawychus y Beibl (Actau 5:1-11). Gwerthodd y pâr ddarn o dir a honni eu bod wedi rhoi’r holl elw i’r eglwys. Fe’u holwyd am hyn, ac fe wnaethon nhw barhau â’u twyll, nes i ergyd Duw eu dymchwel wrth draed yr apostolion.

Mae’n arswydus darllen yr hanes, ond er mwyn deall beth yn union sy’n digwydd yn yr adnodau hyn rhaid i ni eu hystyried yng nghyd-destun y bennod flaenorol (Actau 4:32-7). Wrth gamu yn ôl, gwelwn fod Luc yn dangos y cyferbyniad rhwng y cwpl dan farn Duw a’r credinwyr oedd ‘o un galon ac enaid’ ac ‘yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin’. Gwelwn hefyd nad oedd gorfodaeth ar unrhyw un i werthu eiddo a rhoi’r holl arian i’r eglwys. Roedd gan bob aelod yr hawl i gadw meddiant ar eu heiddo ond, o ganlyniad i fendith fawr Duw, teimlent symbyliad i ddefnyddio eu hadnoddau i gefnogi’r gwaith. Canlyniad hyn oedd bod pobl weithiau’n dod â rhoddion hael dros ben.

Gadewch i ni fod yn glir. Doedd y farn sydyn a ddaeth ar Ananaias a Saffeira ddim o ganlyniad i faint eu rhodd. Petaen nhw wedi rhoi cyfran o’u harian, yn weddïgar, tuag at waith Dduw, mi fuasai’r eglwys wedi ei dderbyn â diolch. Yn lle hyn, daeth Ananias a Saffeira a’u rhodd gan ddweud mai dyma’r holl arian a gafwyd trwy werthu’r tir, gan gadw cyfran yn ôl i’w hunain. Roedden nhw’n ceisio twyllo’r Ysbryd Glân.

Mae Luc yn cofnodi hanes barn Duw ar Ananias a Saffeira yn syth wedi iddo sôn am Joseff y Lefiad (Actau 4:36-7). Nid cyd-ddigwyddiad yw hwn. Gwelwn fod Joseff y Lefiad (Barnabas) wedi gwerthu darn o dir ac wedi dod â’r arian a gafodd amdano yn rhodd i’r eglwys. Gallwn fod yn siŵr y gwnaed hyn gyda chydwybod iach; ddaeth barn Duw ddim yn erbyn Barnabas fel y daeth yn erbyn Ananias a Saffeira ac fe gafodd Barnabas wedyn ei ddefnyddio gan Dduw. Yng ngoleuni’r gymhariaeth frawychus o fewn y naratif, fe welwn mai craidd y digwyddiad a arweiniodd at gollfarnu Ananias a Saffeira oedd eu balchder.
Roedd Ananias a Saffeira yn ceisio prynu eu lle yn yr eglwys. Trwy dwyll, fe wnaethon nhw gynllwynio gyda’i gilydd i ennill statws ymhlith pobl Dduw, gan ddymuno cael eu gweld yn arbennig, yn debyg i Barnabas, felly dyma nhw’n cyflwyno eu rhodd yn yr un modd ag y gwnaeth ef.

Rydw i’n gwybod o brofiad fod tactegau brwnt fel hyn yn gweithio’n dda iawn yn y byd; gall didwylledd ffug sydd wedi ei chymysgu â balchder agor llawer o ddrysau i chi. Ond fel yr ydym wedi ei ddarllen, yn achos Ananias a Saffeira, dydy’r agwedd hon ddim yn llwyddo yn yr eglwys.

Nid busnes yw’r eglwys lle gallwch ddringo i lwyddiant a dydy gwasanaethu’r Arglwydd ddim yn fath o ddyrchafiad. Nid clwb cymdeithasol yw’r eglwys lle mae’r rhai sy’n cyfrannu fwyaf yn ennill mwy o freintiau. Priodferch Crist yw’r eglwys; rydym ni i gyd yn bechaduriaid y mae Ef wedi eu prynu. Wrth i ni gyfarfod â’n gilydd rhaid i bob un adael ein balchder wrth y drws a darostwng ein hunain yn ostyngedig i Iesu, yn un corff.

Yn eu balchder roedd Ananias a Saffeira yn hapus i gyfranogi o fendith Duw ac o haelioni eraill, ond wrth geisio eu llwyddiant personol, fe wnaethon nhw gadw cyfoeth bydol i’w hunain. O ganlyniad, daeth barn Duw arnyn nhw’n syth, ac fe ddylai’r digwyddiad hanesyddol hwn (do, fe wnaeth e ddigwydd mewn gwirionedd) ein herio wrth i ni frwydro gyda’r balchder sydd ynom.
Gall yr hanes brawychus hwn hefyd fod yn anogaeth i ni wrth i ni gofio fod Duw yn amddiffyn ei Eglwys rhag y rhai sy’n defnyddio tactegau bydol i geisio ennill statws o’i fewn. Barnwyd y ddau yn addas am eu balchder a’u huchelgais. Gallwn hefyd ddiolch i Dduw ei fod yn parhau i godi arweinwyr tebyg i Barnabas i’w bobl, gweision gostyngedig nad ydynt yn dibynnu ar eu hunain (balchder) ond sy’n dibynnu ar nerth Duw yn unig, sy’n rhoi popeth i waith Duw er Ei ogoniant.​