Pandemig, Pla a Duw
Dafydd Job
Go brin y byddai unrhyw un wedi sôn am bandemig cyn eleni, ond bellach mae pawb yn gwybod ei ystyr. Mae termau megis Cofid-19, hunanynysu, ymbellhau cymdeithasol a Coronofeirws i gyd yn rhai y byddwn yn cofio amdanyn nhw tra byddwn byw. Wrth i’r haint ymledu o Tsieina i weddill y byd, mae holl ffordd o fyw gwledydd cyfain wedi cael ei herio, a phobl wedi gorfod newid eu hymddygiad er mwyn diogelu’r gwasanaethau iechyd, y rhai bregus eu hiechyd, a hyd yn oed rhai ymddangosiadol iach wedi cael eu taro i lawr a marw.
Ond nid peth newydd yw heintiau fel hyn. Ym 1918 daeth y ‘Ffliw Sbaenaidd’ i daro miliynau’n farw; bu farw 60% o boblogaeth Ewrop drwy haint y Pla Du yn yr Oesoedd Canol; bu farw llaweroedd mewn gwahanol blâu ddaeth yn ystod canrifoedd cynnar Ymerodraeth Rufain. Ar ben hyn, gallwn sôn am achosion mwy lleol o afiechyd yn taro un wlad, neu un ardal. Rydym yn byw mewn byd syrthiedig, lle mae afiechyd yn un o ganlyniadau cyffredinol y Cwymp. Ond mae gan y Beibl fwy i’w ddweud am adegau fel hyn, a gallwn ninnau ddysgu oddi wrth yr hanesion a gawn yno.
Peidio brysio i gasgliadau
Clywsom rai yn syth pan drawodd y pandemig presennol yn cyhoeddi’n hyf mai barn Duw ar annuwioldeb ein byd oedd hwn. Brysiodd eraill i ddweud nad oes gan Dduw ddim byd i’w wneud â’r haint, ac na ddylem sôn amdano’n barnu’r byd o gwbl. Fodd bynnag rydym yn gweld yn y Beibl fod yna bob math o wahanol resymau pam mae trychinebau a heintiau fel hyn yn digwydd.
Os ydym yn credu mewn Duw hollalluog sy’n Benarglwydd ar y greadigaeth, yna fedrwn ni ddim osgoi’r canlyniad fod Duw o leiaf wedi caniatáu’r haint hwn. Y cwestiwn sy’n dilyn yw pam na wnaeth ymyrryd i’w atal? Dywed rhai nad ydi Duw yn ymyrryd yn ein byd fel rhywun yn weindio cloc a’i adael i redeg. Ond nid dyna ddarlun y Beibl o Dduw na’r byd; mae Duw yn bresennol ac ar waith ym mhob man a phob amser. Ond nid yw hynny’n dweud ein bod ni’n deall beth mae’n ei wneud na beth yw ei bwrpas ym mhob sefyllfa.
Pla yn farn Duw
Gwyddom fod yna adegau pan roedd pla yn farn Duw ar annuwioldeb. Gwyddom fod trychinebau naturiol fel y Dilyw yn amser Noa, a’r tân a’r brwmstan yn disgyn ar Sodom a Gomorra yn cael eu datgan yn farn Duw ar ddrygioni. Yna gallwn feddwl am farn ar Pharo a’r Aifft am ormes ar genedl Israel, a gwrthod rhyddid iddyn nhw. Ond cyn cyrraedd y pwynt hwnnw daw’n amlwg fod gan Dduw resymau eraill dros anfon gwaeau i’r Aifft.
Gogoniant Duw
Yn gyntaf, roedd Duw am ddangos ei ogoniant i’r byd. Roedd yr Aifft yn llawn duwiau – gyda nifer ohonyn nhw’n seiliedig ar fyd natur. Roedd Sobec, er enghraifft yn dduw yr Afon Neil – afon oedd, mewn gwirionedd, yn rhoi bywyd i’r wlad fel y brif ffynhonnell ddŵr. Wrth i Moses droi’r afon yn waed, roedd yn dangos nad Sobek ond Ef oedd arglwydd yr afon. Hecet oedd duwies geni plant, a phortreadwyd hi gyda phen llyffant, ond o’r afon lle ceisiodd Pharo foddi holl feibion Israel fe ddaeth llyffaint yn bla ar y wlad.Yr un modd Ra oedd duw’r haul – ac eto roedd yr Arglwydd yn anfon tywyllwch i guddio’r haul o’u golwg. Felly wrth iddo anfon Moses at Pharo fe ddywedodd Duw wrtho ‘Bydd yr Eifftiaid yn gwybod mai myfi yw’r Arglwydd pan estynnaf fy llaw yn erbyn yr Aifft a rhyddhau’r Israeliaid o’u plith’ (Exodus 7:5).
Mewn ffordd llawer mwy tyner pan ddywedwyd wrth Iesu fod Lasarus yn wael, fe gyhoeddodd ‘Nid yw’r gwaeledd hwn i fod yn angau i Lasarus, ond yn ogoniant i Dduw; bydd yn gyfrwng i Fab Duw gael ei ogoneddu drwyddo’ (Ioan 11:4).
Cawn ein hatgoffa nad ydym ni’n dduwiau, rydym ni yn nwylo Duw. Nid yw’r pethau rydym yn ymddiried ynddyn nhw o ddydd i ddydd yn gallu ein cadw ar adeg fel hon.
Breuder dyn
Yn ail, mae pla yn gallu ein hatgoffa o’n breuder. Yn sicr, doedd neb â mwy o awdurdod na Pharo yn nyddiau Moses. Doedd neb yn ei herio a’i air yn ddeddf yn yr Aifft. Felly, pan aeth Moses ato i alw ar iddo adael ei bobl yn rhydd, ei ymateb oedd ‘Pwy yw yr Arglwydd? Pam y dylwn i ufuddhau iddo?’(Exodus 5:2). Yn wir, yn yr Aifft, cyfrifid Pharo fel duw ei hun, yn ymgnawdoliad o Horus – duw’r awyr. Ond deallodd nad oedd hyd yn oed ei balas brenhinol yn ddigon cadarn i ddiogelu ei gnydau, ei bobl, na hyd yn oed ei fab ei hun.
A ninnau’n byw mewn oes sydd wedi gweld cymaint o ddatblygiadau ym myd technoleg, a gallu dyn i gyflawni cymaint, mae’n hawdd iawn credu geiriau William Ernest Henley yn ei gerdd ‘Invictus’ a gyhoeddwyd yn 1888: I am the master of my fate, I am the captain of my soul.
Ond fe welsom ninnau gydag argyfyngau megis terfysgaeth Isis, Twymo byd-eang, ac yn fwyaf diweddar Covid-19, nad ni sy’n ben. Mae bywyd yn frau a ninnau’n ansicr o’n dyfodol.
Hiraeth am fyd gwell
Peth arall mae plâu fel hyn yn eu dangos i ni yw fod gan bob un ohonom reddf sydd am ddweud nad fel hyn mae pethau i fod. Byd syrthiedig yw hwn, ond fe’n crëwyd i hiraethu am fyd perffaith, byd fel y disgrifir yn nechrau Genesis, cyn i’n rhieni cyntaf droi oddi wrth eu Crëwr. Rhywsut, fedrwn ni ddim peidio â dweud ‘Na!’ i ddigwyddiadau fel y pandemig. Mae hiraeth ynom am fyd pur, dibryder, heb afiechyd na phechod. Eglurhad y Beibl ar hyn yw ein bod wedi ein creu er mwyn bod mewn harmoni â’n Crëwr, mewn perthynas berffaith o gariad diddiwedd, neu fel mae Llyfr y Pregethwr yn ei ddweud ‘rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl’ (Pregethwr 3:11).
Rhybudd o’r farn i ddod
Rydym yn byw mewn cymdeithas sy’n barod iawn i gondemnio rhai pobl – dyna chi’r rhai sy’n cam-drin plant yn rhywiol, neu derfysgwyr ISIS, neu ddynion sydd wedi treisio merched. Gelwir am gyfiawnder i’r dioddefwyr, a dial ar y troseddwyr. Ond ychydig sy’n barod i feddwl ein bod i gyd, ryw ddydd, yn mynd i sefyll gerbron yr Un sy’n barnu’n gyfiawn. Mae hi mor hawdd gweld beiau eraill, ac esgusodi ein beiau ni ein hunain trwy eu galw’n gamgymeriadau neu’n wendidau. Ond dyma un sy’n barnu’n deg. Yn wir, mae Iesu ei hun yn hawlio mai ef, ryw ddydd, fydd yn dweud wrth rai ‘Nid adnabûm erioed mohonoch; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr’ (Mathew 7:23). Felly pan welwn bla yn ymledu, sy’n ein peryglu ni a’n diogelwch, rhaid ystyried apêl yr apostol Paul: ‘Deisyf yr ydym dros Grist, cymoder chwi â Duw’(2 Corinthiaid 5:20).
Iachawdwriaeth
Gyda gofal a gostyngeiddrwydd mae rhaid ystyried y pwynt hwn. Daw pla ar adegau fel cyfle i Dduw achub ei bobl. Dyma oedd canlyniad y pla mwyaf dychrynllyd a ddisgynnodd ar yr Aifft, wrth i feibion cyntafanedig Pharo a theuluoedd yr Aifft gael eu cipio ymaith, agorwyd drws i ryddhau Israel o’u caethiwed. Flynyddoedd ynghynt, fe ddaeth newyn mawr yn gyfrwng i symud teulu Jacob i’r Aifft, a’u hachub rhag ymdoddi i gymdeithas annuwiol gwlad Canaan. Yn aml, bu plâu yn gyfrwng i ddifrifoli pobl yr Arglwydd, ac yn wir yn gyfrwng i eraill droi oddi wrth eu hannuwioldeb a cheisio Duw.
Galwad yn ôl
Ond efallai mai’r peth mwyaf amlwg mae’r Beibl yn ei ddweud wrthym yw fod Duw, trwy’r pethau hyn, yn galw arnom i droi ato. Trasiedi mawr Israel yn nyddiau’r proffwydi oedd eu bod wedi gwrthod gwrando arno. Mae Duw, trwy Amos, yn egluro’r cyfan yn y modd hwn: anfonwyd newyn, sychdwr, haint a rhyfel, y naill ar ôl y llall, ond y gytgan drist ar ôl pob trychineb yw ‘er hynny ni throesoch yn ôl ataf, medd yr ARGLWYDD’ (Amos 4:6, 8-11). Mae Duw bob amser yn ein galw i droi ato, ond mor aml yr adegau tywyll hynny yn ein hanes sy’n peri i ni wrando ar ei lais. Yng ngeiriau enwog C. S. Lewis: ‘mae Duw yn sibrwd wrthym yn ein pleserau, yn siarad yn ein cydwybod, ond yn gweiddi yn ein poen; dyma ei fegaffon i ddeffro byd byddar.’
Wn i ddim pam mae Duw wedi caniatáu i’r pandemig presennol daro’n byd, ond fe wn ei fod yn galw arnom i gyd i oedi, a throi ein sylw i geisio deall beth mae’n ei ddweud wrthym ni, bob un ohonom.
Y Pla mawr
Cyn gorffen, rhaid cyfeirio at un pla arall – y pla gwaethaf erioed i ddisgyn ar ein byd. Digwyddodd ar brynhawn Gwener y tu allan i furiau Jerwsalem. Gorchuddiwyd y ddaear â thywyllwch wrth i’r haul guddio ei wyneb mewn cywilydd. Ar groesbren creulon Rhufain, disgynnodd digofaint y nef ar bechod y byd wrth i’r Oen di-fai ddioddef y tywyllwch eithaf. Yno, cawsom ein prynu gan Grist oddi wrth y felltith sydd arnom am ein beiau a dod yn felltith trosom (Galatiaid 3:13). Daeth yn lloches i ni ym mhob storm ac yn ddiogelwch ym mhob pla.
Mae heddiw yn ddydd gras – dydd i ni wybod am ddiogelwch tragwyddol trwy brofi trugaredd Duw yn Iesu Grist. Fe ddywedodd Iesu: ‘Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth’ (Ioan 11:25-6). Ac wrth ddweud hynny fe ychwanegodd y cwestiwn sydd angen i ni gyd ei ateb: ‘A wyt ti’n credu hyn?’