Newydd bob bore
Derrick Adams
Does dim cymaint o sôn am ddyn llefrith yn ein dyddiau ni. Mae’r archfarchnadoedd wedi gosod y rhan helaeth ohonynt allan o fusnes, ond rwy’n cofio fel plentyn sut yr oedd y poteli llefrith yn cael eu gosod o’r newydd pob bore tu allan i’r drws. Yn y gaeaf os oedd hi’n dywydd oer iawn, byddai’r llaeth yn rhewi ac yn gwthio‘r topiau i fyny. Mae Duw yn cael ei ddisgrifio fel rhyw ddyn llefrith ysbrydol, yn rhoi bendithion newydd inni bob bore,
‘Yn sicr ni phalla Ei dosturiaethau,
y maent yn newydd bob bore,
a mawr yw dy ffyddlondeb.’
Galarnad 3:22-23
Sylwn yn gyntaf ar ei ffyddlondeb. Dyma’r adnod sy’n sail i emyn enwog Thomas Chisholm.
‘Mawr dy ffyddlondeb di, Mawr dy ffyddlondeb di,
Newydd fendithion bob bore a ddaw.’
Pan ddechreuodd Mike Perrin y Ganolfan Ddringo Gristnogol yn Nhremadog fe weithiodd am gyfnod fel postmon hefyd er mwyn talu ffordd. Cafwyd gaeaf caled ac roedd dosbarthu’r llythyrau yn ardal Beddgelert yn anodd iawn oherwydd yr eira ond dosbarthodd Mike Perrin y llythyrau ar ei skis! Am y tro cyntaf mae’n debyg ni chollwyd un dydd o ddosbarthu llythyrau yn yr ardal. Ni all unrhyw beth ein gwahanu oddi wrth gariad ffyddlon a chyson Duw sydd yn dosbarthu ei dosturiaethau i ni doed a ddelo heb golli’r un diwrnod.
Ni all trychinebau bywyd atal tosturiaethau Duw. Mae hyn yn amlwg o ystyried cefndir yr adnod. Dinistriwyd Jerwsalem, caethgludwyd pobl Israel i Fabilon. Mae Jeremeia, yr awdur yn ôl pob tebyg, mewn gwewyr o alar. Serch hynny mae’n dweud y daw trugareddau Duw bob dydd. Mae Duw’n ffyddlon i’w bobl ac fe ddosbartha ei fendithion. Ni all ddim ei atal.
Sylwch yn ail bod y tosturiaethau yn newydd bob bore. Rydym ni erbyn hyn yn prynu ein llefrith mewn poteli plastig 4 peint, ac yn prynu tua thri ar y tro. Weithiau, os am ryw reswm ein bod wedi yfed llai nac arfer, neu’r tywydd yn boeth yn yr haf, mae’r llefrith wedi mynd yn rhy hen ac wedi suro. Nid felly gyda thosturiaethau Duw, maent yn ffres yn dod o’r newydd pob bore.
Ystyriwn faddeuant Duw. Mae’n wir unwaith y mae person yn dod yn Gristion mae ei holl bechodau, gorffennol, presennol a dyfodol yn cael eu maddau ar unwaith ac am byth. Mae’n dda cofio hynny. Ond mae Duw’n eneinio’n cydwybod â balm maddeuant yn ddyddiol. Syrthiwn i bechod, ac yn gorfod cydnabod eto gwympo ganwaith i’r un bai, eto mae ysbryd maddeugar Duw yn lleddfu ein tristwch, yn gwneud i ni werthfawrogi aberth Crist yn fwy ac yn adfer nid yn unig heddwch ond llawenydd ysbrydol. Mae’r profiad yma yn un cyson o ddyfnhau ein rhyfeddod at faddeuant Duw.
Mae’r broses o sancteiddhad yn broses o Dduw yn yn ymdrin â ni yn ddyddiol. Nid yw, wrth ein hail-eni, yn ein weindio i fyny fel clockwork ac wedyn yn ein gadael i fynd ar ein pen ein hunain. Ond perthynas gyson yw sancteiddhad. Duw yn ein dysgu, goleuo, cysuro, caru, disgyblu a’n harwain, yn gostwng ein balchder ac yn ein codi i addoli. Pe bai’n ein gadael am un diwrnod byddem wedi cilio ymhell.
Mae’r ffaith fod ei dosturiaethau yn newydd yn golygu eu bod yn addas i’n cyflwr ar y foment. Dychmygwch ddoctor a oedd wedi rhoi rhyw foddion i glaf, ac ar ôl hynny byth yn bodloni ar unrhyw newid i’r presgripsiwn er i’r claf wella, er iddo ddioddef o glefyd gwahanol! Rhaid yn hytrach ddeall y sefyllfa yn gyson a rhoi’r hyn sy’n addas. Mae Duw’n gweld yn union ein hanghenion dyddiol. Dydi e byth tu ôl i’r amseroedd. Ac felly does dim diben gofidio am y dyfodol a’r problemau i ddod. Sut alla i wynebu hyn neu’r llall? Daw Duw a’i dosturiaethau addas pan fo eu hangen.
Yn olaf ystyriwn sut y dylai bendithion newydd Duw ein hadnewyddu ni. Mae ffaith fod y fendith yn newydd yn awgrymu ei bod yn ein hadnewyddu ni. Dydi bwyta un pryd ddim i fod i bara oes. Rydym i fwyta’n ddyddiol. Mae’r tosturiaethau yn dod yn ddyddiol. Mae’n hen natur bechadurus ni yn codi ei phen yn ddyddiol. Mae problemau bywyd yn dod yn ddyddiol ac mae Duw yn ein bwydo a’n disychedu yn ddyddiol. Yfwn o fendithion Duw yn ddyddiol.
Gyda’r bendithion dyddiol hyn fe allwn wynebu’r dyfodol gyda hyder. Beth os daw problemau newydd ar ein traws? Sut mae wynebu problemau’r oes fodern? Ym mha ffordd bydd y pandemig wedi effeithio ar ein dull o gwrdd ac efengylu? Ai iechyd neu salwch sydd o’n blaen? A yw fy swydd yn ddiogel? Peidiwn â gofidio’n ormodol oherwydd, HWRE, mae tosturiaethau Duw yn dod o’r newydd hefyd, ac yn sicr o gynnal ac adnewyddu Ei bobl.
‘Y maent yn newydd bob bore,
A mawr yw dy ffyddlondeb.’`
Galarnad 3:23