Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Newid yr Hinsawdd a’r Efengyl

21 Ebrill 2022 | gan Carwyn Graves

Newid yr Hinsawdd a’r Efengyl

Carwyn Graves

Y newid yn yr hinsawdd yn 2020
Ces i sgwrs yn ddiweddar â Peter Harris, sylfaenydd yr elusen efengylaidd ryngwladol ‘A Rocha’, sy’n gweithio ym maes cadwraeth a’r amgylchedd – fis yn unig cyn i’w wraig Miranda gael ei lladd mewn damwain car erchyll. Wedi hanner ymddeol, mae’n treulio cyfran helaeth o’i amser gyda biliwnwyr (anghristnogol) Llundain. ‘Mae llawer ohonyn nhw wedi eu parlysu gan ofn’, meddai wrthyf. ‘Mae llawer o’r rhai iau wedi penderfynu peidio â chael plant, a sawl un dwi’n eu nabod, er y biliynau yn y banc, yn ystyried cymryd eu bywydau eu hunain’. A’r cwbl, meddai, oherwydd y bygythiad argyfwng yr hinsawdd (fel y’i gelwir yn gynyddol bellach).

Fe’n llenwir â thosturi wrth glywed pethau felly. Fel y dywed Paul, dyma bobl sydd ‘heb obaith a heb Dduw yn y byd’ (Effesiaid 2:12). A dyma deimladau sy’n codi yn fwyfwy cyffredin ymhlith y bobl o’n cwmpas, gydag arolygon yn 2018-19 yn dangos erbyn hyn bod y mwyafrif o’r boblogaeth yn pryderu am y newid yn yr hinsawdd, a chyfran gynyddol uwch o’r to iau yn pryderu amdano ‘yn fawr’1. I gyfran sylweddol o’r boblogaeth, mae’n fater moesol a hyd yn oed ysbrydol bellach, ac mi eith yn fwy felly.
Ym mis Gorffennaf 2019, rhoddodd y darlledwr David Attenborough dystiolaeth i Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin. Ymhlith yr hyn a ddywedodd oedd y byddai ‘cenedlaethau’r dyfodol yn gweld diffyg gweithgarwch dros yr hinsawdd yn yr un ffordd ag ydyn ni’n edrych yn ôl yn awr ar y sawl oedd yn berchen ar gaethweision yn y ddeunawfed ganrif.’ Yn wyneb hyn, a chyda golwg i’r dyfodol, sut dylem ni ddarllen yr amseroedd, a pha fath o ymateb fydd ei angen gennym ni Gristnogion yn y blynyddoedd a’r degawdau i ddod? Un wedd bellgyrhaeddol o dystiolaeth cenhedlaeth Wilberforce a Wesley yn Lloegr oedd eu bod wedi ymateb i her foesol yr oes gyda bydolwg Beiblaidd cadarn, a hynny heb gymysgu craidd yr efengyl gyda’r materion cymdeithasol pwysig hyn. Byddai’n dda i ni ymdrechu, yn wylaidd, i wneud yr un fath.

Y Beibl
Yn hytrach na gadael i’r byd lywio ein hymateb i’r problemau amgylcheddol, dylem geisio arweiniad Duw (Rhufeiniaid 12:2). O edrych ar y cwestiynau hyn trwy lens Beiblaidd, gallwn weld mai gwreiddyn y materion i ni yw dysgeidiaeth y greadigaeth, a’n perthynas â hi.

Yn y Beibl y ceir y weledigaeth gliriaf, oleuaf a gorau oll o werth a phwysigrwydd y byd naturiol, a hynny er syndod llwyr i’r byd o’n cwmpas. Fe fethon ni Gristnogion hefyd â chymryd sylw o hynny. Ar y mater hwn, rhaid i ni ‘ddal lan’ â’r byd yn gyflym – a gweinidogaethu iddo.

Cawn yn y Beibl ddysgeidiaeth hynod gyfoethog a chyflawn o’r byd creedig: Yr Arglwydd Dduw a’i gwnaeth, a neb arall (Genesis 1). Iddo ef y perthyn, a neb arall (Salm 24:1). Gofala amdano yn feunyddiol (Salm 145: 9 ac 13, Salm 65:9-13). Mae’r greadigaeth yn dioddef effeithiau pechod, ac nid o’i gwirfodd ei hun (Rhufeiniaid 8:20). Fe gaiff ei hadnewyddu a bydd presenoldeb Duw yn ei llenwi (Colosiaid 1:19-20, Datguddiad 21:1-5). Ond eisoes mae’r cread yn moli’r Arglwydd gyda’r saint (Salm 66:4, Datguddiad 5:13). Mae’r byd wedi ei roi i bobl lywodraethu drosto o dan Dduw (Genesis 1:26-28, 2:15)- a gwyddom yn iawn siâp llywodraeth dda yn ôl Duw, sef teg, graslon a hunan-nacaol ac nid rheibus, barus, na hunanol (Hosea, Micha, Nahum).

Ond mae perthynas dyn â’r cread wedi ei thorri oherwydd y cwymp (Genesis 3:17-19) yn union fel y mae perthynas pobl â’i gilydd, ac yn bwysicaf oll â Duw, wedi ei thorri. O ganlyniad, mae pobl yn tueddu addoli’r cread, ac nid y Creawdwr (Eseia 44:6-20), ac maent yn sefyll o dan gondemniad (Salm 135:18). Fe ddaw y dydd hwnnw pan adnewyddir pob peth a bydd gwaith Crist yn gyflawn (Datguddiad 19:11-21), ac yn y dydd hwnnw daw Eden newydd, gwell lle bydd pobl Dduw yn llywodraethu ym mhresenoldeb Duw am byth mwy (Datguddiad 22:1-5).

Yng ngoleuni hyn gwelwn fod y Beibl yn ein harwain mewn dwy ffordd benodol. Does dim rhaid i ni anobeithio ar y naill law fel y gwna’r byd oherwydd y dinistr y gwelwn yn ein hoes, a hynny am y gwyddom fod y byd o dan felltith, ond y gwnaiff Duw ei adnewyddu. Ni ddylem, chwaith, ymateb gyda naw wfft i’r holl beth, am y gwyddom fod y ddaear yn perthyn i’r Arglwydd, a’i fod yn gofalu amdani ac wedi rhoi cyfrifoldeb i ni drosti hefyd. Dylem, fel Cristnogion, arddel ymagweddiad aeddfed a gofalus tuag at y greadigaeth allan o barch a chariad at y Creawdwr; ac fe ddylai hynny, mewn gwirionedd, ar sail tystiolaeth y Beibl ar y mater, fod yn wir ymhob oes – argyfwng ai peidio. (Ar eu gorau bu i Gristnogion gydnabod hyn mewn sawl oes a gwlad yn hanes yr eglwys – gweler meddwl Luther ar ddysgeidiaeth y cread2, campau garddwriaethol ac amaethyddol mynachlogydd yr Oesoedd Canol a Ffransis o Assisi, Pantycelyn a’r bumed bennod yn Golwg ar Deyrnas Crist lle’r esbonia sut mae’r greadigaeth gyfan wedi’i chreu er mwyn dod â gogoniant i Iesu – a gellid parhau â’r rhestr.)

Y newid yn yr hinsawdd i’r dyfodol
Ond yn yr oes sydd ohoni, byddai’n dda i ni fynd gam ymhellach a myfyrio ar effaith hyn ar ein tystiolaeth fel Cristnogion. Yn benodol, dwi’n credu y gallai fod o fudd i ni feddwl am ein hymateb i’r ‘newid yn yr hinsawdd’ fel rhan o’n tystiolaeth ac fel mater bugeiliol a chenhadol yn anad dim.

Mater o dystiolaeth i ni fel Cristnogion yw hyn bellach. Mae pwysau trwm arnom ni fel unigolion i fyw mewn ffyrdd llawer mwy cynaliadwy a llai niweidiol i’r cread. Mae effeithiau ein ffordd anghynaliadwy o fyw yn y Gorllewin yn pentyrru fwyfwy ar y tlodion a’n cymdogion yn fyd-eang ac ar rai yn nes at adre; a dydyn ni ddim yn anymwybodol o hyn, mwyach. Ni ddylem ddychmygu nad oes penderfyniadau anodd a dwys i’w gwneud yn hyn o beth, fodd bynnag. Bydd Cristnogion yn dod i gasgliadau gwahanol mewn sefyllfaoedd gwahanol ar bob math o bethau ac yn gwbl ddilys felly. O’u harferion bwyta (figaniaeth oherwydd allyriadau carbon? Cigysiaeth er mwyn cefnogi cymdogion o ffermwyr lleol?) i’w gwyliau a’u dulliau teithio beunyddiol, rhaid i bob unigolyn, teulu ac eglwys fod yn barod i newid os oes angen. Dylem geisio gwneud penderfyniadau gan ystyried sut maent yn effeithio ar ein gallu i ‘garu ein cymydog fel ni ein hun’. Ond rhaid cofio nad oes ateb syml bob tro, a bod penderfyniad sy’n ffordd dda o wasanaethu Mrs Jones lawr y ffordd yn medru niweidio Abdul yn Liberia. Diolch byth y gwyddom nad ar sail hyn y cawn ein barnu ond ar sail perffeithrwydd yr Arglwydd Iesu yn unig, ac y gallwn ofyn iddo Ef am arweiniad ym mhob sefyllfa.
Mater bugeiliol yw hyn erbyn hyn hefyd. Mae’r pryder enbyd mae carfanau o’r boblogaeth yn ei deimlo, ac yn enwedig felly oedolion ifanc yn rhannol, yn realiti ysbrydol a da fyddai i ni feddwl amdano felly. Pryder yn deillio o ofn dioddefaint, ofn colled, ofn marwolaeth yw hwn – ac ateb Duw i holl broblemau dynolryw yw’r efengyl. Ochr arall y geiniog hon yw bod y newid yn yr hinsawdd (a hefyd rhai o broblemau amgylcheddol eraill ein hoes) eisoes yn rhoi pobl mewn sefyllfaoedd anodd o golled a phrofedigaeth – a hynny hyd yn oed yng Nghymru. Meddylier nid yn unig am lifogydd y blynyddoedd diwethaf ond hefyd am gymuned Fairbourne yng Ngwynedd, sydd wedi ei gadael i’r elfennau gan Gyngor Sir Gwynedd. Bydd holl drigolion y pentref yn colli eu cartrefi o fewn y blynyddoedd nesaf, ac eisoes wedi colli cymaint yn faterol trwy eu bod yn methu gwerthu eu tai ac ati. Dim ond cynyddu fydd yr effeithiau hyn – dylem fod yn barod am hynny, a chydnabod bod angen ymateb i hyn yn fugeiliol.
Yn drydydd ac o bosib yn fwyaf pellgyrhaeddol, mater cenhadol yw hyn erbyn hyn, ac felly y bydd hi o bosib dros y blynyddoedd a’r degawdau i ddod. Mae’n ddigon posib yr edrychwn ni nôl ar y cyfnod hwn a dweud mai dyma pryd y newidiodd yr hinsawdd ddiwylliannol – ac ysbrydol – o’n cwmpas mewn sawl ffordd arwyddocaol, o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd. Dyma rai o’r materion sydd o bosib ar y gorwel, ac sy’n dechrau brigo ymhlith rhannau o’r boblogaeth:

  • Pechod gwreiddiol. Efallai y bydd y ddysgeidiaeth hon yn taro tant dwfn o’r newydd o fewn ein diwylliant wrth i genhedlaeth Greta Thunberg ddod yn oedolion. Gwelsant fod holl ogoniant dynolryw, gyda’i dechnoleg a’i wyddoniaeth yn ddim – bod rhywbeth ynom sy’n ein gyrru i greu dinistr. Gall hyn fod yn gyfle bendigaid i rannu’r newyddion da â chenhedlaeth sydd eisoes yn anobeithio – ond hefyd yn glynu i obaith di-sail y gellir rywsut ‘achub y ddaear’. Ni yw’r rhai a ŵyr na all dynolryw fyth adfer y ddaear; dim ond Iesu Grist a all wneud hynny pan fydd yn dychwelyd. Cofiwn felly fod y byd ar goll, ac yn chwilio am atebion, a bachwn ar ‘bob cyfle i roi cyfrif am y gobaith sydd ynoch chi’.
  • Materoliaeth. Faint yw pris ein ffordd o fyw? Wrth i rod amser droi, mae’n bwysig i ni Gristnogion fod yn glir yn ein meddyliau ein hunain ac i’r byd, fod popeth materol yn gwywo (Salm 103:15), ac mai’r unig beth digyfnewid yw Duw ei hun. Ni ddylem gael ein hadnabod fel y sawl sy’n frwd o blaid rhyw ffordd benodol o fyw, ond yn hytrach, dylem fod yn barod i newid honno er mwyn yr efengyl. Mae’n glir iawn mai gwreiddiau cymdeithasol yr argyfwng yw materoliaeth – sef awch di-baid am fwy a mwy o eiddo, neu yr hyn mae’r Beibl yn ei alw yn drachwant. Gallem ystyried ffyrdd i gefnu ar fateroliaeth remp ein cymdeithas bresennol, ac wrth i ni weld y gymdeithas o’n cwmpas yn gwneud hynny hefyd, mae’n bosib iawn y cawn gyfle i rannu doethineb digymar yr Arglwydd gyda byd sy’n awchu amdano. ‘Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon’.
  • Yr estronwr. Yn y dyfodol, bydd rhaid gofyn sut ydyn ni’n gweld pobl o dramor – a’r amgylchedd o’n cwmpas yn ei wneud, o bosib, yn gynyddol anodd i Gristnogion nofio yn erbyn y llif a dal gafael ar olwg Beiblaidd ar dramorwyr. Mae’n anodd peidio â rhagweld tonnau mawr a chynyddol o ffoaduriaid yn heidio tua gogledd y byd (h.y. Prydain, Gogledd Ewrop ac ati) yn y degawdau i ddod. Bydd llawer o’r rheiny yn frodyr a chwiorydd i ni yng Nghrist, a llawer mwy yn eneidiau colledig. Mi allai sefyllfa yn hawdd godi lle bydd prif ffrwd y diwylliant yn galw am godi’r pontydd ac amddiffyn ein praidd ein hunain rhag ‘bygythiadau’r moroedd a’r drycin’. Yr her i ni fel Cristnogion trwy’r cwbl fydd dal gafael ar weledigaeth amgen ar ffoaduriaid a thramorwyr, sydd wedi ei siapio gan yr efengyl.

Efallai mai ymgais ffôl yw siarad am y dyfodol, a bûm yn hir bendroni ynglŷn â rhoi pin ar bapur i ysgrifennu hyn. Gwnaf hynny gan fawr obeithio fod yr hyn a ragwelaf yn anghywir; ond gobeithio, yn y cyfamser, i mi o leia ddechrau sgwrs rhyngom ynglŷn â’n hymateb i lifeiriant y materion hyn yn ein cymdeithas. Boed i ni wneud yn wylaidd a chan fod yn ddisgyblion craff o air Duw.

Bu Carwyn yn gweithio gyda A Rocha France yn 2013, ac mae’n weithgar o blaid cadwraeth hen fathau o afalau yng Nghymru fel gwirfoddolwr gyda’r Ardd Fotaneg Genedlaethol, gan gyhoeddi Afalau Cymru yn 2017. Mae’n aelod ym Mhenuel Caerfyrddin ac yn gweithio i Wycliffe: Cyfieithwyr y Beibl er 2016.

Nodiadau
1https://www.vox.com/2019/1/28/18197262/climate-change-poll-public-opinion-carbon-tax
https://www.millenniumkids.com.au/wp-content/uploads/2019/02/Young-People-and-Climate-Change.pdf
https://www.bbc.co.uk/bbcthree/article/b2e7ee32-ad28-4ec4-89aa-a8b8c98f95a5
2 https://oxfordre.com/religion/view/10.1093/acrefore/9780199340378.001.0001/acrefore-9780199340378-e-329
https://oxfordre.com/religion/view/10.1093/acrefore/9780199340378.001.0001/acrefore-9780199340378-e-329