Neges yr Amgylchedd
Hywel George
Mae pryderon amgylcheddol yn bwysig. Ni yw goruchwylwyr y ddaear ac mae Duw wedi rhoi cyfrifoldeb i ni i ofalu am ein hamgylchedd. Felly ni fydd Duw yn ein cyfri’n ddi-fai am ymddwyn yn anghyfrifol. Ond, pan yw’r Beibl yn sôn am ein dyletswyddau tuag at ein hamgylchedd, mae’r prif bwyslais ar ‘wrando!’ yn hytrach na ‘diogelu’. Dywed Paul fod llid Duw wedi disgyn, nid ar y rhai sy’n ffracio, ond ar y rhai sy’n ‘atal y gwirionedd’ a ddatguddir iddynt gan eu hamgylchedd. Mae Duw yn fwy parod i fod yn ddig tuag at y sawl sy’n anwybyddu pregeth y greadigaeth nag at y sawl sy’n camddefnyddio ei fyd.
Y mae digofaint Duw yn cael ei ddatguddio o’r nef yn erbyn holl annuwioldeb ac anghyfiawnder pobl sydd, trwy eu hanghyfiawnder, yn atal y gwirionedd. Oherwydd y mae’r hyn y gellir ei wybod am Dduw yn amlwg iddynt, a Duw sydd wedi ei amlygu iddynt. Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a’i dduwdod, i’w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd. Am hynny, y maent yn ddiesgus. Oherwydd, er iddynt wybod am Dduw, nid ydynt wedi rhoi gogoniant na diolch iddo fel Duw, ond yn hytrach wedi troi eu meddyliau at bethau cwbl ofer; ac y mae wedi mynd yn dywyllwch arnynt yn eu calon ddiddeall (Rhufeiniaid 1:18-21).
Yn rhyfeddol, mae geiriau Paul ar ddechrau Rhufeiniaid wedi cael eu defnyddio droeon er mwyn bychanu cyn lleied mae’r amgylchedd yn ei ddatguddio i ni am y Drindod; ond nid dyma sy’n cael ei gyfleu gan yr adnodau hyn o bell ffordd! Mae Paul yn dyrchafu cymaint mae ein hamgylchedd yn ei ddweud wrthym am Dduw; dywed fod neges yr amgylchedd mor glir, mor amlwg a thoreithiog, fel ei bod yn condemnio pawb ac yn datgan nad oes un ohonom yn ddiesgus!
Gwelir hyn yn glir yn adnod 19. Yn llythrennol mae’r ‘wybodaeth am Dduw’ yn amlwg oddi mewn i bob person gan fod Duw wedi ei hamlygu oddi mewn iddo. Ni allwn wadu ein bod yn gweld mawredd yr amgylchedd gan ei fod yn dod o’r tu mewn i ni yn ogystal ag yn bodoli o’n cwmpas ni. Felly, er mwyn i ni beidio â’i weld, mae’n rhaid i ni fynd ati i’w atal ac i’n dallu ein hunain. Ergyd yr adnodau hyn yw nid bod y greadigaeth yn dweud pethau amwys am fodolaeth rhyw dduw, ond bod ei phregeth am y Duw Byw yn uchel ac yn glir, yn arllwys i mewn o’r tu allan ac yn byrlymu i fyny o’r tu mewn!
Beth yn union mae’r amgylchedd yn ei ddweud? Yn ôl rhai, nid yw’r adnodau hyn yn dweud llawer, dim ond pethau cyffredinol am Dduw. Ond i’r gwrthwyneb, dywed Paul fod yr amgylchedd yn gwneud yr anweledig yn weledig, gan ychwanegu bod yr annealladwy yn cael ei wneud yn eglur! Mae hyd yn oed ei ‘dragwyddol allu a’i dduwdod’ (a ystyrid yn aml yn gyfeiriad at y Drindod gan yr Eglwys Fore) yn cael eu datgan yn glir ynom ni ac yn ein hamgylchedd.
Iesu yw’r Iôr! Y cread sy’n cyhoeddi,
Can’s trwy ei nerth pob llwyn a pherth a ddaeth i fod;
Iesu yw’r Iôr! Cyfanfyd sy’n mynegi,
Haul, lloer a sêr ddatganant mai Iesu yw’r Iôr!
David John Mansell (cyf. Harri Williams)Am hynny rwy’n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd, beth i’w fwyta na’i yfed, nac am eich corff, beth i’w wisgo; onid oes mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i’w gorff na dillad? Edrychwch ar adar yr awyr: nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy? Prun ohonoch a all ychwanegu un funud at ei oes trwy bryderu? A pham yr ydych yn pryderu am ddillad? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu. Ond rwy’n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i’w chymharu ag un o’r rhain. Os yw Duw yn dilladu felly laswellt y maes, sydd yno heddiw ac yfory yn cael ei daflu i’r ffwrn, onid llawer mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd? Peidiwch felly a phryderu a dweud, ‘Beth yr ydym i’w fwyta?’ neu ‘Beth yr ydym i’w wisgo?’ Dyna’r holl bethau y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio; y mae eich Tad nefol yn gwybod fod arnoch angen y rhain i gyd. (Mathew 6:25-32)
Doedd Paul ddim yn pregethu unrhyw beth newydd; mae Iesu yn ystod ei bregeth yn cyfeirio’r bobl eto at yr amgylchedd gan ddweud, ‘onid ydych yn gweld?’ Wrth iddo siarad yn y modd hwn, dywed Iesu wrthym y dylem fod wedi dod i gasgliadau uniongyrchol am Dduw y Tad trwy sylwi ar yr amgylchedd. Nid yw Iesu’n datguddio unrhyw beth newydd yma; yn hytrach mae’n ein cyfeirio at yr hyn y dylen ni fod wedi’i weld yn barod! Mae tystiolaeth yr amgylchedd yn y fan hon, sef bod y Tad yn gwybod ein hanghenion ac yn eu diwallu, eisoes wedi cael ei phregethu i ni, ac yn wir mae eisoes ynom ni, (Rhufeiniaid 1:19).
Ond er ei bod yno, yn yr amgylchedd, ni allwn ac ni fyddwn yn ei gweld. Cofiwch pa mor glir y dywedwyd hynny yn Rhufeiniaid 1:18, ein bod yn atal yr wybodaeth am Dduw wrth iddi arllwys tuag atom ac o’r tu mewn i ni. Yma hefyd, mae Iesu’n cydnabod ein dallineb. Wrth siarad â’r Iddewon mae’n dweud, ‘onid ydych yn gweld?’ Ac am y Cenhedloedd, ‘dydyn nhw ddim wedi ei gweld chwaith’.
Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu? Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae’r Ysgrythur yn dweud: “Mor weddaidd yw traed y rhai sy’n cyhoeddi newyddion da.” Eto nid pawb a ufuddhaodd i’r newydd da. Oherwydd y mae Eseia’n dweud, “Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?” Felly, o’r hyn a glywir y daw ffydd, a daw’r clywed trwy air Crist. Ond y mae’n rhaid gofyn, “A oedd dichon iddynt fethu clywed?” Nac oedd yn wir, oherwydd: “Aeth eu lleferydd allan i’r holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd.” (Rhufeiniaid 10:14-18)
Ysgrifenna Paul at Gristnogion Rhufain er mwyn trefnu cenhadaeth fyd-eang, gan ddweud bod yn rhaid anfon pregethwyr allan i’r byd er mwyn i’r cenhedloedd glywed, credu a galw ar yr Arglwydd Iesu. Mae’n crynhoi’r pwynt hwn yn adnod 17, ‘o’r hyn a glywir y daw ffydd, a daw’r clywed trwy air Crist’. Yna fe ddywed rywbeth rhyfeddol, sef bod y byd eisoes wedi clywed ‘gair Crist’, a dyfynna Salm 19 sy’n dweud bod ein hamgylchedd wedi ei bregethu! Dywed Paul mai cynnwys pregeth yr amgylchedd yw ‘gair Crist’. Ond sut mae hyn yn cyd-fynd â’i ddatganiad am genhadu byd-eang?
Mae’r byd yn ddall i hyn, fel rydym eisoes wedi’i weld, rydym yn atal y gwirionedd. Felly, mae’r Tad yn anfon llafurwyr i’r cynhaeaf, pregethwyr i’r byd, i bregethu gair Crist. Gan ein bod wedi gorchuddio ein llygaid, bydd ef yn pregethu i’n clustiau ni.
Heaven above is softer blue,
Earth around is sweeter green;
Something lives in every hue
Christless eyes have never seen
– George Wade Robinson
Pan fyddaf yn edrych allan drwy ffenestr fy stydi, fe welaf goeden. Sut mae’r goeden hon yn datguddio’r Tri yn Un Duw i mi? Os yw tystiolaeth y greadigaeth mor glir ag y dywed Paul, beth ddylwn i ei weld? Dyma rai enghreifftiau i chi roi cynnig arnynt:
Mae’r enfys yn ein hatgoffa bod y Tad yn cofio’i addewidion. Genesis 9:16
Mae tywyllwch yn ein hatgoffa o fywyd heb y Tad. Genesis 1:1; Exodus 10:22-23; Mathew 27:45
Mae gweld sêr yn gwneud i ni ymddiried bod yr Arglwydd yn cryfhau’r sawl sy’n gobeithio ynddo. Eseia 40:26-31
Mae gweld llysiau yn ein hatgoffa bod y Tad yn diwallu’n holl anghenion. Genesis 1:9
Mae llygaid a chlustiau yn ein darbwyllo bod ein Duw yn gallu gweld a chlywed. Salm 94:9
Dylai gwylio adar ein hatgoffa bod ein Tad yn gofalu amdanom. Luc 12:6-7
Rydym yn ein hamgylchedd arbennig ni er mwyn i ni chwilio am Dduw a dod o hyd iddo. Actau 17:26-27
Mae hadau’n ein hatgoffa o farwolaeth ac atgyfodiad. Ioan 12:24
Bydd yr awyr yn dweud wrthym pryd bydd y dyddiau diwethaf yn cyrraedd. Mathew 24:29-30; Joel 2:30-31
Mae Calfin yn parhau mor gyfoes ac mor uniongred ag erioed: ‘Yn ddiau crëwyd y byd fel y byddai’n theatr i’r gogoniant dwyfol’. Gan fod hyn mor wir yn ein dyddiau ni ag y bu erioed, nid yw ein hamgylchedd i gael ei ddwyfoli na’i gam-drin, ond yn hytrach rydym i fod i wrando arno.