Mynyddoedd y Beibl – Mynydd yr Oen
Nathan Munday
Yn y gyfres hon, rydyn wedi troedio ucheldiroedd Beiblaidd gyda’n gilydd a chyfarfod â nifer o ddringwyr. Mae’n amlwg, erbyn hyn, bod mynyddoedd yn llefydd pwysig yn y Beibl; lleoedd arbennig lle cyfarfu Duw â’i bobl (Exodus 15:17; 19:1-25; Salmau 48 a, 68; Eseciel 28; Micha 4 acynyblaen); mannau oedd yn symbolau i’r hynafiaid fod Duw ‘uwchben’ pechod a’r byd; mannau hyfryd yn y greadigaeth sy’n datgan gogoniant y Creawdwr; mannau lloches; a mannau uchel sy’n helpu rhoi popeth arall mewn persbectif. Rwy’n cael f’atgoffa o eiriau J. Gresham Machen:
There is, far above any earthly mountain peak of vision, a God high and lifted up who, though He is infinitely exalted, yet cares for His children among men.
Geiriau gwerthfawr ar gyfer dyddiau mor ansicr! Mae Duw yn ‘trefnu lluoedd nef’ fel y dywedodd Dafydd Charles, ond mae hefyd yn ‘gwylio llwch y llawr’ o’r ucheldiroedd nefol.
Ar gyfer rhan olaf y gyfres, rwy eisiau tynnu’ch sylw at fynydd uchel sy’n ymddangos ar ddiwedd ein Beiblau. Dewch gyda mi nawr, a gadewch i ni droedio’r llethrau am y tro olaf – llethrau Mynydd yr Oen.
CYRRAEDD Y LLETHRAU
Pan oeddwn yn iau, ac yn teimlo’n isel, rwy’n cofio troi i’r bennod hon. Yn yr hwyrnos, rwy’n cofio dychmygu’r afon a gweld y llu o bobl yn ymgynnull o gwmpas yr orsedd. Mae’r addewid o’r nefoedd yn gallu cynnal y Cristion a, mwy na hynny a dweud y gwir, y ffaith bod ein dyfodol ni (fel Cristnogion) yn sicr o fod yng nghwmni Iesu Grist ein Gwaredwr. Does dim syndod i’r Cristnogion cynnar ddatgan ‘Maranatha!’
Mae Ioan yn disgrifio’r ‘Jerwsalem Newydd’ yma i ni:
Ac aeth â mi ymaith yn yr Ysbryd i fynydd mawr ac uchel, a dangosodd imi’r ddinas sanctaidd, Jerwsalem, yn disgyn o’r nef oddi wrth Dduw, a gogoniant Duw ganddi. Yr oedd ei llewyrch fel llewyrch gem dra gwerthfawr, fel maen iasbis, yn disgleirio fel grisial.
Wrth i ni ddarllen, mae’n anodd deall yr holl ddelweddau hyn. I ddechrau, mae’r Beibl fel arfer yn cysylltu dinasoedd â phechod (Babel, Sodom, Babylon a Rhufain). Ond mae’r ddinas hon yn wahanol; y gair ‘sancteiddrwydd’ sy’n cael ei bwysleisio. Yna, mae’r bennod yn casglu’r holl ddelweddau sy’n gysylltiedig â datguddiadau cynharach; mae’r ddinas sanctaidd (21:10) hefyd yn briodferch bur (21:9), yr ardd berffaith – ‘paradise regained’, ys dywed John Milton (22:1-3) – a’r deml sanctaidd (21:22-3). Mae’r strydoedd euraid yn adlewyrchu gogoniant ein Harglwydd. Does dim pechod na chrio yn y lle hwn, dim ond hapusrwydd ac addoliad sy’n seinio yn eu strydoedd. Does yma ddim tywyllwch a phoen ychwaith. Bu farw fy nhad-cu tua blwyddyn yn ôl a dywedodd ef wrthyf cyn iddo groesi’r Iorddonen ei fod yn ‘clywed canu’. Roedd Tad-cu yn cyrraedd y llethrau hapus…
PRESWYLFA DUW
Yn y bennod, mae Ioan yn clywed llais yr Arglwydd:
Clywais lais uchel o’r orsedd yn dweud, ’Wele, y mae preswylfa Duw gyda’r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt.’
Hyfryd! Oherwydd gwaed dwyfol ein Harglwydd Iesu Grist, mae’r etholedig glân yn gallu nesáu at yr Arglwydd trwy Iesu Grist (Hebreaid 4:16). Mae modd i ni ‘breswylio’ gydag Ef. Ydych chi’n cofio ysgol Jacob yn Genesis 28? Oherwydd yr Aberth, mae modd i ni ddringo. Mae pob bachgen, merch, dyn a menyw sydd wedi credu yn yr Iesu yn esgyn ato ar ôl marw. Beth fydd y canlyniad? Datguddiad 7:9:
Ar ôl hyn edrychais, ac wele dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a’r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, a phalmwydd yn eu dwylo.
Ydych chi’n sylweddoli eich bod chi yno os ydych chi’n Gristion? Fe welodd Ioan ein hwynebau ni yn y dyrfa. Ydyn ni’n dawel neu yn ddiflas gerbron ein Duw? O na:
Yr oeddent yn gweiddi â llais uchel: ‘I’n Duw ni, sy’n eistedd ar yr orsedd, ac i’r Oen y perthyn y waredigaeth!’
Mae’n rhaid i mi gywiro fy ngeiriau uchod: Oherwydd yr Oen, does dim rhaid imi ‘ddringo’ at berffeithrwydd. Does dim modd i mi wneud hynny yn fy nerth fy hunan. Mae’r Salmydd yn ein hatgoffa yn Salm 24:
Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDD
a phwy a saif yn ei le sanctaidd?
Y glân ei ddwylo a’r pur o galon,
yr un sydd heb osod ei feddwl ar dwyll
a heb dyngu’n gelwyddog.
Does dim rhaid i mi wneud dim byd ond ymddiried a chredu yn yr hyn sydd wedi cael ei wneud. Mae rhaid i mi afael yn yr unig Un sydd yn lân ei ddwylo a phur ei galon: yr Arglwydd Iesu Grist yw’r unig un sy’n medru dringo i fynydd yr Arglwydd. Bu fyw’r bywyd perffaith a glân, a bu farw fy marwolaeth i cyn esgyn i baratoi lle ar ein cyfer (Ioan 14:2).
Felly, yr eironi yw, dyma un mynydd nad oes angen i mi ei ddringo gan fod Iesu wedi esgyn a sefyll yn y lle sanctaidd. A phan rwy’n wynebu Duw yn y gogoniant, nid y dringwr budr yma fydd y Tad yn ei weld ond perffeithrwydd ei Unig Fab.
FY MHRESWYLFA I
Yn y weledigaeth, mae’r ddinas a’r mynydd yn disgyn tuag at Ioan. Mae melltith Eden yn cael ei gwrthdroi – does dim angen i Dduw aros yn yr ucheldiroedd mwyach gan fod pechod wedi’i wahardd. Mae amodau gwell nag Eden yn bodoli nawr; nid yn unig bod modd i’r Arglwydd gerdded gyda’r etholedig fel yn amser Adda ac Efa, ond nawr mae modd i ni weld ei wyneb a phreswylio gydag ef am byth. Ar lethrau Sinai, roedd y dringwr enwog yna, Moses, wedi cael cipolwg ar gefn Duw. Roedd rhaid iddo wisgo llen oherwydd roedd y gogoniant yn dallu’r bobl. Wel, i ni sy’n cyrraedd Mynydd yr Oen, mae Duw yn addo ‘preswylio’ gyda ni; dyna ichi rywbeth hyfryd i edrych ymlaen ato:
Dyma babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed,
Dyma noddfa i lofruddion,
Dyma i gleifion feddyg rhad;
Dyma fan yn ymyl Duwdod
I bechadur wneud ei nyth,
A chyfiawnder pur Jehofa
Yn siriol wenu arno byth.
Roedd yr emynyddes Ann Griffiths yn edrych ymlaen at nythu’n nes na’r adar yn Salm 84. Mae’n anodd credu fod pechadur fel fi yn gallu ‘gwneud ei nyth’ ‘yn ymyl Duwdod’. Haleliwia! Mae’n amlwg mai hwn yw’r mynydd gorau ohonynt i gyd!