Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Mynyddoedd y Beibl – Mynydd Horeb

21 Ebrill 2022 | gan Nathan Munday

Mynyddoedd y Beibl – Mynydd Horeb

Nathan Munday

Yn ddiweddar, aeth fy ngwraig a minnau am dro o gwmpas Tŷ Mawr. Yn sydyn, gwelson ni bum dafad yn crwydro heb unrhyw amgyffred o’r hyn a oedd o’u hamgylch. Am weddill y daith roedd y defaid o’n blaen. Teimlais fel bugail Beiblaidd, yn wir yr oeddynt mewn llinell ddel yn ein harwain ni, fel petai, yn ôl i’r caeau ger yr Wybrnant.

Rwy’n dychmygu mai profiad tebyg a gafodd Moses wrth iddo droedio llethrau Horeb yn nhrydedd bennod Exodus. ‘Yr oedd Moses yn bugeilio defaid ei dad-yng-nghyfraith Jethro, offeiriad Midian’. Mae’r Gair yn sôn am Moses yn ‘arwain y praidd ar hyd cyrion yr anialwch’ pan yw’n dod i fynydd sanctaidd Duw – Horeb neu Sinai. Erbyn hyn, roedd Moses wedi trigo ym Midian am 40 mlynedd (Act. 7:30)! Felly roedd y dringwr yma’n 80 blwydd oed! Mae’n amlwg fod Duw wedi cynnal corff Moses er mwyn iddo gyflawni’r swydd bwysig yn yr Aifft. Gwelwn dystiolaeth am hyn ar ddiwedd ei fywyd: ‘Yr oedd Moses yn gant ac ugain oed pan fu farw; nid oedd ei lygad wedi pylu, na’i ynni wedi pallu’ (Deut. 34:7).

Gweld y berth
Pan oeddwn yn ifanc, rwy’n cofio noson tân gwyllt a choeden yng ngardd gefn fy rhieni yn llosgi ar ôl i fflamau’r goelcerth grwydro’n rhy bell! Anhygoel a brawychus – ond, ar ddiwedd y noson, dim ond sgerbwd du oedd yno.
Rwy’n dwlu ar y digwyddiad yma ar lethrau Horeb. Mae’n oruwchnaturiol ond mae’n hyfryd hefyd. Edrychodd yntau a ‘gweld y berth ar dân ond heb ei difa’ (Ex. 3:2). Perth go iawn. Tân yn dynodi presenoldeb a sancteiddrwydd Duw (Heb. 12:29). Theoffani yw hwn; amlygiad gweladwy o Dduw. Ond sylwch, mae rhywbeth mor, mor bersonol a chysurol wrth i Dduw mawr y Cyfamod alw Moses gan ddefnyddio ei enw ddwywaith yn yr union un modd y mae’n galw Samuel yn Shiloh (I Sam. 3): ‘Moses, Moses’. Dyma ddechreuad perthynas arbennig iawn a fodolai rhwng Duw a’r bugail hwn.
Mae ambell beth sy’n fy nharo wrth ddringo Horeb yn fy nychymyg. Y cyntaf yw’r ffordd mae

Duw yn Paratoi
Mor garedig a llawn synnwyr cyffredin yw fy Nuw. Y ffordd orau i baratoi bugail Israel oedd trwy ei arwain ef i’r anialwch ac achosi iddo ef brofi’r pethau y byddai’r gweddill yn gweld ar ôl iddynt adael gwlad y pyramidiau. Roedd angen rhywun a oedd yn deall diwylliant yr Aifft; rhywun oedd yn bechadur, wedi pechu ac edifarhau; a rhywun oedd wedi profi a chwrdd gyda Duw. Nid ar lethrau Horeb y dewisodd Duw Moses. O na! Cyn llunio’r byd. Nid yn y foment honno y cofiodd Duw ei gyfamod â thadau Israel. Nid yn y foment honno y dewisodd Duw wrando ar gri ei bobl. Na, roedd Duw yn dioddef gyda phob chwipiad. Teimlai Duw riddfannau pob mam a straen pob tad yn ystod eu harhosiad yn yr Aifft. Mae Duw yn sofran ac mae yna gysur wrth feddwl am ein Duw fel rhywun sy’n dragwyddol, hollalluog – rhywun sy’n cydymdeimlo â ni. Ie, yn sicr, mae

Duw yn clywed
Mae ein Harglwydd yn dweud yn y seithfed adnod yn Exodus 3: ‘Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau’. Gweld. Clywed. Gwybod. Nid duw euraid na duw afon yw ein Duw ni. Roedd duwiau yr Aifft yn trigo heb symud ger rhodfeydd colofnaidd Luxor, neu yng nghilfachau tywyll Thebes. Dyma Dduw sy’n siarad ac sy’n gweld. Dyma ‘Duw dy dadau’ – yr un Duw a oedd wedi achub Noa ar lethrau Ararat. Yr un Duw a oedd wedi arbed Isaac ar lethrau Moriah. Yr un Duw a oedd yn crwydro gydag Adda ac Efa yng nghysgod Eden. Mae’n symud! Diolch byth. Mae Duw yn ein clywed ni hefyd. Dydy Duw ddim yn newid a phan fo Tad yn clywed cri ei blant mae

Duw yn Achub
‘Yr wyf wedi dod i’w gwaredu’ (Ex. 3:8). Dyma Dduw sy’n dod i lawr. Yng nghyd-destun y bennod, mae angen gwaredigaeth oddi wrth yr Eifftiaid. Beth amdanom ni? Mae angen gwaredigaeth o deyrnas Satan, o bechod, ac o farwolaeth sicr. O, dyna chi gysgod o Galfaria. Yng ngeiriau Pantycelyn:

Ffydd, dacw’r fan a dacw’r pren,
Yr hoeliwyd arno D’wysog nen
Yn wirion yn fy lle;
Y ddraig a sigwyd gan yr Un,
Cans clwyfwyd dau, concwerodd un,
A’r Iesu oedd Efe.

Mae’r hen thema yma o waredigaeth yn werth ei hailadrodd. Ydych chi’n sylweddoli fod y geiriau hyn ar lethrau Horeb yn parhau i fod yn berthnasol? ‘Yr wyf wedi dod’ i Fethlehem fel plentyn bach. ‘Yr wyf wedi dod’ i Israel i fyw bywyd heb bechod ar eich cyfer chi. ‘Yr wyf wedi dod’ i helpu’r rheini sy’n dioddef yn gorfforol ac yn feddyliol gan fy mod i’n cydymdeimlo. ‘Yr wyf wedi dod’ i ardd Gethsemane. ‘Yr wyf wedi dod’ i Galfaria i dalu’r iawn ac i farw yn eich lle. ‘Yr wyf wedi dod’ i’r nefoedd (Salm 24) yn ogoneddus ac yn paratoi lle ar eich cyfer. ‘A’r Iesu oedd Efe’, ‘am mai Ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau’ (Math. 1:21).
Imanuel. Enw pwysig, pwysig iawn. Yn adnod 8, mae’r gair natsal, yn y gwreiddiol, yn dynodi ‘tynnu allan’ – gair ffisegol iawn. Dyma’r un syniad sy’n llenwi’r Salmau: Duw, y Bugail, yn tynnu’r ddafad oddi wrth farwolaeth sicr (Salm 40). Roedd Moses ar fin cynrychioli Duw. Na, mwy na hynny. Roedd Moses fel Duw (Ex. 4:16) i’r Israeliaid – Duw sy’n achub. Y peth anhygoel i ni nad rhywun fel Duw sy’n ein hachub ni. Nid rhywun sy’n dod ar ran Duw chwaith. Mae Duw yn dod ei hun. Yn emyn mawr Pantycelyn mae’n gofyn y cwestiwn ac yn ei ateb:

Ai Iesu mawr, ffrind dynol-ryw,
A welaf fry a’i gnawd yn friw,
A’i waed yn lliwio’r lle,
Fel gŵr di-bris yn rhwym ar bren
A’r gwaed yn dorthau ar ei ben?
Ie f’enaid, dyna fe

Beth am y mynydd?
Roedd yr ucheldir, fel rydyn ni wedi trafod yn gynharach yn y Cylchgrawn, yn symbol o sancteiddrwydd Duw a’r ffaith nad oedd Duw yn gallu bod ar yr un lefel â dynolryw oherwydd Eden. Beth sydd mor arbennig am Horeb yw’r ffaith ein bod ni’n gweld (mor gynnar yn y Beibl) sut mae Duw yn fodlon dod i lawr – ydych chi’n cofio’r hen ysgol yna a welodd Jacob yn ei freuddwyd? (Gen. 28). Mae’r mynydd hwn hefyd yn dangos cymeriad Duw sy’n barod i dorri’r terfyn er mwyn achub ei blant. Dyma’r un ysbryd ag y mae Ann Griffiths yn sôn amdano yn ei hemyn mawr hi:

Pan fo Sinai i gyd yn mygu
A sŵn yr utgorn ucha’ ei radd,
Caf fynd i wledda tros y terfyn
Yng Nghrist y Gair heb gael fy lladd.

Rwy’n gobeithio nad yw Duw yn teimlo’n bell i chi. Does dim angen dringo mynyddoedd sanctaidd i gwrdd â Duw heddiw. Oherwydd y gwaith mawr ar Galfaria, mae dringwr mawr y groes – Iesu Grist – wedi ein galluogi ni i alw Duw’n Dad eto a mwynhau ei gymdeithas. Gristion: cofiwch hynny! Pawb arall: credwch! Dewch i’r Tad trwy’r Mab, ac yn nerth yr Ysbryd Glân.

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf