Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Mynyddoedd y Beibl – Mynydd Carmel

14 Ebrill 2022 | gan Nathan Munday

Mynyddoedd y Beibl – Mynydd Carmel

Nathan Munday

Un o fy hoff ddringwyr yn nhudalennau’r Hen Destament yw Elias. Mae yna rywbeth real iawn am y gŵr rhyfedd a radicalaidd hwn sy’n ymddangos allan o unlle yn dwyn geiriau difrifol ac eithafol gan Dduw – dim glaw na gwlith (1 Brenhinoedd 17:1). Dychmygwch y dyn. Mae’r Beibl yn sôn am ei fywyd gwyllt; roedd e’n yfed dŵr nant ac yn bwyta gyda chymorth y brain (1 Brenhinoedd 17:3-4). Hynny yw, gwelwch ddyn sy’n dibynnu ar Dduw. Pan glyw lais ei Arglwydd yn yr anial, mae’n ymateb i’r llais hwnnw. Dychmygwch y dringwr yn sefyll yn ddiysgog gerbron y brenin dinesig. Dyna ichi wrthgyferbyniad rhwng y ddau!

Dewrder

Nawr, dilynwch y dyn gwyllt tuag at lethrau Carmel – y mynydd mawr ger Jezreel. Ydych chi’n cofio’r stori ym mhennod 18 o lyfr cyntaf y Brenhinoedd? Dychmygwch y sŵn a’r bwrlwm wrth i gannoedd o offeiriaid Baal greu llanast gwaedlyd wrth geisio cael ateb gan dduw na fodolai. Mae Elias yn chwerthin arnynt. Mae’n gofyn a yw Baal yn cysgu neu’n brysur yn y tŷ bach! Yna, mae’r hiwmor sanctaidd yn tawelu.
Dilynwch y proffwyd wrth iddo baratoi ei hun ar gyfer offrymu’r hwyroffrwm. Edrychwch ar y gŵr yma’n awchu am ogoniant YAHWEH. Mae’n cerdded tuag at adfeilion yr allor. Llanast. Olion anghrediniaeth yn Israel (fel ein capeli ni). Tristwch. Roedd y bobl wedi anghofio Duw Abraham, Isaac ac Israel.
Mae’n trwsio’r cerrig (1 Brenhinoedd 18:30) ac yn gorffen paratoi gyda’r dŵr er mwyn dangos nad tric neu ddewiniaeth sy’n achosi’r hyn sydd ar fin digwydd. Mae’n gweddïo:
‘O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, pâr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau’n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd. Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i’r bobl hyn wybod mai tydi, O ARGLWYDD, sydd Dduw, ac mai ti sydd yn troi eu calon yn ôl drachefn.’ Ar hynny disgynnodd tân yr ARGLWYDD ac ysu’r poethoffrwm, y coed, y cerrig, a’r llwch, a lleibio’r dŵr oedd yn y ffos.
Dyna i chi olygfa! Ceisiwch ddychmygu wynebau Elias, Ahab, y bobl, ac yn enwedig offeiriaid Baal! O Arglwydd tyrd eto a phrofa i’r holl anghredinwyr mai ti yw Duw. Amen.
Heddiw, mae mynydd Carmel yn parhau i ymddangos fel bwrdd uchel neu ryw allor naturiol. Ar un ochr mae nifer o goed gwahanol ac ar y copa mae calchfaen, callestr a chreigiau Folcanaidd eraill. Mae’n debyg fod yr Eifftiaid a phobl Canaan wedi defnyddio Carmel yn allor baganaidd cyn, ac ar ôl, y digwyddiad hwnnw. Ond uchafbwynt y mynydd, heb os nag oni bai, oedd ymweliad Duw yn nyddiau Elias. Rwy’n cofio gweld allor wrth gerdded yn Arizona. Cyrhaeddon ni gopa un o’r mesas yn agos i Tuba City yng ngwlad y Navajo. Dim ond llinyn tenau o fwg oedd yn treiddio o’r allor yna ac roedd yn amlwg bod y trigolion yn bwydo’r tân bach yn ddyddiol. Trist oedd gweld pobl (fel yn oes Elias) yn parhau i addoli ysbrydion a duwiau ffug.
Beth allwn ni ddysgu gan hanes Carmel?

Dim ond Elias?

Mae Duw yn defnyddio unigolion. Efallai mai chi yw’r unig Gristion yn eich ysgol? Efallai mai chi yw’r unig un sy’n gwrthod chwerthin ar bethau aflan yn y gwaith? Efallai mai chi yw’r unig un sy’n gwrthod meddwi, peidio rhegi, ac sy’n anwybyddu’r clybiau nos yn y brifysgol? Neu efallai mai chi yw’r unig berson yn eich capel sy’n credu yng ngwaed achubol y groes? Gadewch i Elias eich calonogi.
Dydy Elias ddim yn ymddangos yn ddyn poblogaidd iawn. Yn ôl Ahab, hwn oedd y dyn oedd yn poeni Israel. Pam? Oherwydd dyma’r dyn sy’n dewis byw yn y goleuni. Does dim byd yn aflonyddu cymdeithas yn fwy na Christion sy’n adlewyrchu cyfiawnder a goleuni Duw yn ei fywyd dyddiol. Mae’r Beibl yn ein galw ni i fod yn halen a goleuni (Matthew 5). Golyga hyn fod angen i unigolion sefyll a bod yn gadarn. Gristnogion, dilynwch esiampl Elias. Peidiwch â dibynnu ar gefnogaeth eraill, ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ffyddlon.

Cryfder mewn gwendid

Cofiwch, doedd Elias ddim yn ymddangos yn gryf nac yn hyderus bob tro. Mae’r Beibl yn ein hatgoffa ni sut roedd y proffwyd mawr hwn yn dioddef o iselder a diffyg hyder. Mae hynny’n ddealladwy ac mae Duw yn cynnig cymorth. Mewn un man, rydyn ni’n darllen sut oedd Elias eisiau marw oherwydd ei fod ef wedi cael digon:
Gadawodd ei was yno (Beerseba), ond aeth ef yn ei flaen daith diwrnod i’r anialwch. Pan oedd yn cymryd seibiant dan ryw bren banadl, deisyfodd o’i galon am gael marw, a dywedodd, ‘Dyma ddigon bellach, O ARGLWYDD; cymer f’einioes, oherwydd nid wyf fi ddim gwell na’m hynafiaid.’ (1 Brenhinoedd 19:4)
Mae Duw yn gyrru angel i fwydo’r proffwyd oherwydd ei fod yn flinedig ac yn llwgu. Ond, cofiwch, mae Duw o hyd yn defnyddio’r gwan er mwyn dangos ei ogoniant. Cofiwch eiriau Paul yn 1 Corinthiaid 1:27: ‘Ond pethau ffôl y byd a ddewisodd Duw er mwyn cywilyddio’r doeth, a phethau gwan y byd a ddewisodd Duw i gywilyddio’r pethau cedyrn,’ Rwy’n siŵr, fod Elias yn ofnus ei galon ar lethrau Carmel, – cannoedd o broffwydi drwg gyda chyllyll, y brenin a’i wraig ddieflig, Jesebel, a’r holl bobl yn aros i weld ai gwallgofddyn oedd y gŵr yma o Thisbe.

Ffyddlon

Ond mae Duw yn gwobrwyo ffyddlondeb Elias. Er ei wendid, mae agwedd Elias fel Joshua gynt: ‘Ond byddaf fi a’m teulu yn gwasanaethu’r ARGLWYDD.’(Joshua 24:15) Nid fel y bobl oedd wedi gadael i’r allor dorri. Y bobl oedd yn eistedd ar ffens heb benderfynu pwy i’w ddilyn.
Efallai eich bod chi newydd ddechrau prifysgol a’ch bod chi’n trio gweld pa mor bell sy’n bosib i Gristion fynd heb bechu? Mae Paul yn ein hatgoffa ni yn Rhufeiniad 13 i ‘roi heibio gweithredoedd y tywyllwch, a gwisgo arfau’r goleuni’. Byddwch yn gyson yn ôl eich hunaniaeth newydd sydd yng Nghrist Iesu. Mae Paul yn parhau:
Gadewch inni fyw yn weddus, fel yng ngolau dydd, heb roi dim lle i loddest a meddwdod, i anniweirdeb ac anlladrwydd, i gynnen ac eiddigedd. Gwisgwch yr Arglwydd Iesu Grist amdanoch; a pheidiwch â rhoi eich bryd ar foddhau chwantau’r cnawd. (Rhufeiniaid 13:13)
Felly mae’r Beibl yn glir fel mae’n dweud yn 1 Samuel 2:30: ‘y rhai sy’n f’anrhydeddu a anrhydeddaf’. Peidiwch â chael eich twyllo gan unrhyw un sy’n dadlau bod angen i Gristnogion fod yn fydol er mwyn ennill y colledig. Celwydd yw hynny. Byddwch fel Elias – dringwr Carmel. Y dyn oedd yn gwrando ar Dduw ac nid ar ddynion.

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf