Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Merched y Beibl: Y Wraig Ddienw

21 Ebrill 2022

Merched y Beibl: Y Wraig Ddienw

Catrin Lewis

Dymuniad gwasanaethwyr ffyddlonaf Crist yw ‘Iddo Ef gynyddu, ac i minnau leihau’. Credaf, felly, na fyddai’r wraig sydd gen i mewn sylw yn poeni o gwbl nad ydyn ni hyd yn oed yn gwybod ei henw. Mae ei hanes i’w weld yn Efengyl Mathew, Marc a Luc, mewn cyfanswm o saith adnod yn unig. Dyma ddewis annisgwyl, efallai, am erthygl fach yn sôn am un o’m hoff ferched Beiblaidd.

Crist yn iacháu
Rydyn ni’n gwybod y nesaf peth i ddim amdani, dim ond mai mam yng nghyfraith Pedr oedd hi, a’i bod wedi derbyn iachâd gan Grist. Wyddon ni ddim beth oedd ei salwch hyd yn oed, ond rydyn ni’n gwybod ei bod hi wedi cael y fraint o brofi tosturi, trugaredd a nerth achubol Crist yn ei bywyd. Fe wnaeth hi glywed ei lais yn siarad yn uniongyrchol â hi. Byddai wedi teimlo cyffyrddiad ei law, ac wedi profi nerth y wyrth a gyflawnwyd gan Grist yn dod ag iechyd iddi.
Dyna, mewn gwirionedd, yw profiad pob Cristion. Rydyn ni wedi dod i gysylltiad go iawn ac uniongyrchol â Christ. Rydyn ni wedi clywed ei lais yn siarad â ni trwy’r Ysbryd Glân yn y Beibl. Rydyn ni wedi profi agosrwydd ei bresenoldeb, ac rydyn ni wedi profi ei nerth achubol yn ein hiacháu o’n pechod ac yn rhoi bywyd newydd i ni. Mae Crist ar waith heddiw yn iacháu pobl o ganlyniadau pechod sy’n creu llanast yn eu bywydau. Ydych chi wedi dod wyneb yn wyneb â Christ yn y ffordd hon?
Mae’r angen yn fawr o’n hamgylch, a’n braint a’n cyfrifoldeb ni fel Cristnogion yw adlewyrchu tosturi Crist wrth i ni garu ein cymdogion a dweud wrthyn nhw am y Meddyg Mawr sy’n gallu ymdrin â’n hangen dyfnaf.

Gwasanaethu diolchgar
Rwy’n arbennig o hoff o’r hyn rydyn ni’n ei ddarllen am y wraig ar ôl iddi dderbyn iachâd gan Grist. Roedd y gwellhad yn syth, ac yn llwyr, ac mae hi’n cael digon o nerth i ‘godi a dechrau gweini arno’ [Mathew 8:15]. Mae ymateb y wraig hon yn debyg i’r gorchymyn a gafodd Paul gan Grist adeg ei dröedigaeth. Roedd Paul hefyd wedi profi gwaith achubol Crist yn ei fywyd, ac wedi dod wyneb yn wyneb â disgleirdeb Crist. Mae’n derbyn gorchymyn:
“Cod, a saf ar dy draed; oherwydd i hyn yr wyf wedi ymddangos i ti, sef i’th benodi di yn was i mi.’ Actau 6:16
Mae’r Beibl yn dyrchafu gwasanaeth gostyngedig. Mae Crist ei hun, wrth gwrs, yn dweud ei fod wedi dod, ‘nid i gael ei wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.’ [Mathew 20:28]
Mae hyn wedi bod yn anogaeth ac yn esiampl i mi ar sawl achlysur. Beth yw gweinidogaeth y wraig hon ond gwasanaeth syml, ymarferol, sy’n fynegiant o’i chariad a’i diolchgarwch? A dyna’r agwedd a ddylai nodweddu ein gwaith a’n gwasanaeth ni hefyd. Rwy’n gorfod siarad a mi fy hun yn aml, wrth i mi sylwi bod agwedd feichus a chwynfanllyd yn gallu bod yn rhan o’m gwasanaeth. Rwy’n gorfod atgoffa fy hun o’r hyn sy’n cael ei ddysgu i ni yn 2 Corinthiaid 9:7 – ‘Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw’n ei garu.’ A sut alla i beidio â gwasanaethu yn llawen, ac mewn ffordd hunanaberthol o gofio cymaint rydw i wedi ei dderbyn gan Grist?

Gwasanaethu’n ostyngedig
Gallai’r wraig hon yn hawdd fod wedi ymfalchïo yn yr hyn oedd wedi digwydd iddi, a mynnu ei bod hi’n cymryd y lle blaen a’r sylw. ‘Weloch chi beth ddigwyddodd i fi? Ydych chi eisiau i fi ddweud wrthych chi sut brofiad oedd e? Ydych chi eisiau’r manylion i gyd?’ Ond nid dyna’i hagwedd hi o gwbl. Mae’n barod i gilio i’r cefndir. Mae’n siŵr ei bod wedi mynd ati i ganmol Crist i’w ffrindiau yn y dyddiau dilynol, ac ar hyd ei hoes. Mae’n siŵr ei bod hi wedi rhyfeddu gydag eraill at ei Gwaredwr, ond ar y pwynt hwn, mae’n mynd ati’n syml i wasanaethu’n ymarferol, gan weld anghenion eraill yn bwysicach na’i hanghenion hi ei hun. Mae hi’n dangos agwedd ostyngedig, heb ystyried y dasg o weini yn israddol o gwbl.
Dyledwr i drugaredd Crist ydw i. Dylai’r gwirionedd hwn effeithio ar bob rhan o’m bywyd. Mae esiampl y wraig hon yn fy annog i wasanaethu’n ddidwyll ac yn ostyngedig mewn ffordd sy’n anrhydeddu Crist.

Urddas mewn gwasanaeth
Yn anffodus, mae’n cymdeithas ni yn tueddu gweld gwasanaethu yn rhywbeth israddol, ond nid dyna a welwn ni yn y Beibl. Mae gwasanaethu’n fraint, ac yn beth dyrchafol. Wrth iacháu mam yng nghyfraith Pedr, mae Crist yn rhoi’r fraint iddi i’w wasanaethu. Rydyn ni i gyd wedi cael ein hachub er mwyn gwasanaethu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac mae’r Beibl yn rhoi urddas cyfartal i’n gwasanaeth, beth bynnag yw e. Llestri pridd ydyn ni, yn amrywio’n fawr, ond mae gan Dduw bwrpas neilltuol i ni. Mae Rhufeiniaid 12:4-6 yn ein hatgoffa ni o hyn:
‘Yn union fel y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ond nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith, felly hefyd yr ydyn ni sy’n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i’w gilydd. A chan fod gennym ddoniau sy’n amrywio yn ôl y gras a roddwyd i ni, dylem eu harfer yn gyson â hynny.’
Fel aelodau o gorff Crist, a thrwy drugaredd Duw, mae gennym ni i gyd ddawn ar gyfer gweinidogaeth o ryw fath – i wasanaethu eraill yn ymarferol, i fod yn athrawon neu’n bregethwyr, i fod yn wrandawyr da, i annog a chynghori eraill, i weini ar y gwan, i fod yn weddïwyr ffyddlon yn ein cartref, i amddiffyn y ffydd, i fagu plant yn sŵn y Gair, i amddiffyn y rhai sy’n cael cam, i fod yn efengylwyr ac ati. Diolch i Dduw fod cyfraniad gennym ni i gyd yng ngwaith y deyrnas.

Addoliad mewn gwasanaeth
Gweithred syml o addoliad oedd y weithred o weini ar Grist. Rydyn ni’n aml yn cyfyngu addoliad i rywbeth wnawn ni yn y capel, ac mae tuedd ynom i wneud addoliad yn gyfystyr â chanu. Ond, mae hanes mam yng nghyfraith Pedr yn fy atgoffa fod pob rhan o’m bywyd i fod yn addoliad. Pan fydda i’n paratoi pryd o fwyd ym Mryn-y-groes, neu pan fydda i’n rhoi croeso i rywun, neu’n glanhau, rwy’n trio dweud wrth fy hun am wneud y gwaith yn llawen, gan gofio fy mod yn ei wneud i Grist, mewn addoliad Iddo, am ei fod Ef yn haeddu cael ei addoli ym mhob rhan o’m bywyd.

Mae hanes mam yng nghyfraith Pedr bob amser yn fy annog i weld fy ngwaith a’m gwasanaeth fel gweithred syml o ddiolchgarwch i’r Un sy’n haeddu fy addoliad.