Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Merched y Beibl: Meddwl am Miriam

25 Ebrill 2022 | gan Glenys Davies

Merched y Beibl: Meddwl am Miriam

Glenys Davies

Mae enwau Beiblaidd ar gyfer plant yn dal yn boblogaidd heddiw. Nid ‘Miriam’ yw’r enw mwyaf cyffredin, efallai, ond mae rhyw swyn arbennig iddo. ‘Anwylyd’ neu ‘Cariad’ yw’r ystyr o bosibl, er bod ansicrwydd am hyn; ffurfiau eraill arno yw Mariam a Mair. Chwaer Moses ac Aaron oedd Miriam, ac mae ei hanes ynghlwm wrth exodus hynod yr Israeliaid o’r Aifft.

Cefndir
Gwell dechrau gydag ychydig o’r cefndir. Aeth Jacob a’i deulu at ei fab Joseff yn yr Aifft adeg newyn mawr yng Nghanaan. Bendithiodd Duw nhw yno, a daethant yn genedl fawr. Ond cododd Pharo newydd nad oedd yn cofio cymwynas Joseff, ac oherwydd ei bryder y byddai’r Hebreaid yn drech na’r Eifftiaid cawsant eu cam-drin yn enbyd. Wrth i’w niferoedd gynyddu, rhoddodd Pharo orchymyn fod rhaid boddi pob bachgen a anwyd iddynt yn yr afon Neil (Exodus 1:22). A dyma’r lle y daw Miriam i mewn i’r hanes.

Cynllun Duw
Roedd gan Amram a Jochebed, Israeliaid o lwyth Lefi, dri o blant, sef Aaron, Miriam, a Moses (Numeri 26:59). ‘Pan welodd ei fod yn dlws’, gwrthododd Jochebed foddi’r baban Moses (Exodus 2:2). Cuddiodd ef am dri mis, a phan aeth yn rhy fawr i’w guddio, gosododd ef mewn cawell ymysg y brwyn ar lan y Neil. Arhosodd Miriam gerllaw i weld beth a ddigwyddai.
Pan ddaeth merch Pharo i ymolchi yn y Neil, sylwodd ar y cawell; a phan glywodd y baban yn crio, tosturiodd wrtho. Daeth Miriam ati – cam dewr iawn i ferch ifanc o gaethferch Hebreaidd. Roedd hi’n meiddio nesáu at ferch Pharo, y dyn mwyaf pwerus a pheryglus yn y wlad. Cynigiodd Miriam chwilio am famaeth Hebreaidd i’r baban, daeth â Jochebed, ei mam, at y dywysoges, a gofynnodd honno i Jochebed fagu’r baban drosti. Wedi iddo dyfu, aeth merch Pharo ag ef i’r palas a’i thrin fel ei mab ei hun.
‘Digwyddodd’ y dywysoges ymolchi ar yr amser hwnnw, a ‘digwyddodd’ Miriam fod yno ar yr union adeg honno. ‘Digwyddodd’ hi gynnig ei mam yn famaeth i Moses. Mae rhagluniaeth Duw yn rhyfeddol ac yn berffaith. Pwy fuasai’n meddwl y defnyddiai Duw gaethferch (a thywysoges yr Aifft) i achub y baban a fyddai’n arwain yr Israeliaido’u caethiwed? Defnyddiodd yr Arglwydd un o ‘bethau ffôl y byd’ (1 Corinthiaid 1:27) i gyflawni ei waith – hanes digon tebyg i un morwyn Naaman.
Dyma anogaeth fawr inni: pwy bynnag ydym, mae gennym ran yn nhrefn Duw. Nid oes dim – bach na mawr – yn digwydd trwy ddamwain. Cofiwn am Mordecai’n atgoffa Esther mai ‘ar gyfer y fath amser â hwn y daethost i’r frenhiniaeth’ (Esther 4:14). Roedd Esther, fel brenhines yn ei hachos hi, yn y lle iawn ar yr adeg iawn i arbed ei chenedl rhag ei gelynion. Pa gynllun sydd gan Dduw i ni, tybed?

Cyflawni addewid Duw
Addawodd Duw y byddai’n dwyn yr Israeliaid o’r Aifft yn ôl i Ganaan (Genesis 46:4), ac ym mhenodau agoriadol Exodus gwelwn mai Moses oedd y dyn a ddefnyddiodd i gyflawni ei addewid.
Mae’r hanes a geir yn y penodau hyn yn fwy cyffrous nag unrhyw thriller neu blockbuster:
• Moses yn gorfod ffoi am ei fywyd.
• Duw yn ei anfon yn ôl gyda gorchymyn i Pharo ryddhau’r Israeliaid.
• Pharo’n gwrthod gwrando, er i Dduw anfon cyfres o blâu i flino’r wlad.
• Duw yn taro pob cyntafanedig yn yr Aifft, ond cartrefi’r Israeliaid yn cael eu harbed trwy waed oen.
• Yr Eifftiaid yn ymbil ar Pharo i adael i’r Israeliaid fynd, ac yntau’n cydsynio.
• Pharo’n newid ei feddwl, gan yrru ei fyddin ar ôl yr Israeliaid.
• Moses mewn argyfwng: y Môr Coch o’i flaen, byddin Pharo ar ei ôl, a’r Israeliaid yn y canol.
• Duw yn sicrhau gwaredigaeth ryfeddol trwy agor y môr i’r Israeliaid a’i gau eto ar yr Eifftiaid.
• Moses a’r bobl yn dathlu trwy foli Duw am eu hachub (Exodus 15). Mynega eu cân nerth goruwchnaturiol y Duw gogoneddus a’i drugaredd at ei bobl.

Ac yma am yr ail waith rydym yn cwrdd â Miriam. Hi sy’n arwain y gwragedd i gyd wrth iddynt orfoleddu ym muddugoliaeth Duw o blaid ei bobl. Caiff ei galw’n ‘broffwydes’ (Exodus 15:20) – y wraig gyntaf i ddwyn y teitl yn yr Hen Destament. Cyfeiria Micha 6:4 ati fel un o arweinwyr yr Israeliaid, gyda Moses ac Aaron. Erbyn hyn roedd hi tua 90 oed, ond doedd dim pall ar ei gorfoledd byrlymus. Dyma esiampl ac anogaeth werthfawr i ni: beth bynnag yw ein hoedran – hyd yn oed yn ein henaint – gallwn addoli Duw, rhyfeddu at ei weithredoedd grymus a grasol, a diolch iddo am gyflawni ei addewidion er pob rhwystr.

Cyfiawnder Duw
Hyd yn hyn rhinweddau Miriam sydd wedi eu cofnodi inni yng Ngair Duw. Yn Numeri 12, fodd bynnag, gwelwn fod Miriam yn ddigon tebyg i bawb ohonom. Ar eu taith trwy’r anialwch, cyrhaeddodd yr Israeliaid Haseroth yn anialwch Sin. Yno, dechreuodd Aaron a Miriam gwyno am Moses: ‘Ai trwy Moses yn unig y llefarodd yr Arglwydd? Oni lefarodd hefyd trwom ni?’ Eu hesgus oedd fod Moses wedi priodi merch o Ethiopia, nid Hebrees. Ond balchder oedd gwreiddyn eu hagwedd at Moses, gan ei fynegi ei hun mewn anfodlonrwydd, chwant am fwy o awdurdod, a chenfigen.

Mae’n amhosibl cuddio dim oddi wrth Dduw. Ymddangosodd mewn colofn o gwmwl tu allan i babell y cyfarfod. Ceryddodd Miriam ac Aaron am eu hagwedd haerllug at Moses, arweinydd addfwyn a ffyddlon, yr un y siaradai Duw ag ef wyneb yn wyneb. Yn ei ddigofaint cyfiawn cosbodd Duw Miriam yn llym, gan mai hi oedd y cynllwynydd pennaf a’r cymeriad cryfaf o’r ddau wrthryfelwr. (Roedd Aaron yn gymeriad gwannach, hawdd dylanwadu arno; gweler hanes y llo aur yn Exodus 32:21-4.) Pan gododd y cwmwl roedd croen Miriam yn llawn gwahanglwyf erchyll ac yn wyn fel eira.

Ymbiliodd Aaron ar Moses, ac yn ei dosturi plediodd Moses ar Dduw i’w hiacháu. Atebodd Duw ei bod wedi ymddwyn yn warthus, ond newidiodd y gosb i alltudiaeth o’r gwersyll am wythnos.
Dyma un o’r hanesion trist hynny sy’n dangos inni mor atgas yw pechod – yn enwedig pechodau’r galon fel chwant a chenfigen – yng ngolwg Duw (Exodus 20:17; Effesiaid 4:31). Yn Deuteronomium 24:9 cawn rybudd inni i gyd: ‘Cofiwch yr hyn a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i Miriam wrth ichwi ddod o’r Aifft.’ Pwy ohonom sy’n ddieuog? Diolch fod Duw wedi maddau i Miriam, a’i fod yn barod i faddau i ninnau trwy waed Iesu Grist.

Crynhoi
Yn Numeri 20:1 cofnodir marwolaeth Miriam tua diwedd y daith trwy’r anialwch, a hithau tua 130 oed. Ar wahân i’r rhybudd yn Deuteronomium 24:9, manylion ei hachau yn 1 Cronicl 6:3, a’r cyfeiriad ym Micha 6:4, does dim sôn pellach am Miriam yn y Beibl.
Ond mae’r hyn a ddarllenwn amdani yn Exodus a Numeri’n ddigon i ddysgu gwersi pwysig inni:
• Er anogaeth inni, gwelwn fod ganddi, er yn ferch ifanc ddi-nod, ran werthfawr yng nghynlluniau Duw.
• Er esiampl inni, gwelwn ei brwdfrydedd heintus yn canmol Duw am ei fuddugoliaeth hynod er mwyn cyflawni ei addewid.
• Ac er rhybudd inni, gwelwn gyfiawnder Duw ar waith yn ei chosbi am ei balchder yn ei gwrthryfel yn erbyn Moses.
Er iddi farw filoedd o flynyddoedd yn ôl, mae Miriam yn llefaru wrthym o hyd.