Merched y Beibl – Gomer
Heledd Job
Fe ddown ni ar draws hanes Gomer yn llyfr Hosea, proffwyd yn Israel yn ail hanner yr wythfed ganrif CC. Fel y gwelwn ni yn 2 Brenhinoedd 14-20, roedd hwn yn gyfnod cythryblus yn hanes pobl Dduw. Ar ôl marwolaeth Jeroboam fe aeth teyrnas y Gogledd drwy chwe brenin o fewn 30 mlynedd a phob un cynddrwg â’i gilydd o ran eu perthynas â Duw. Doedd Jwda yn y De ddim ond mymryn yn well gydag ambell frenin da, ond dim un oedd yn gallu delio’n llwyr â chyflwr ysbrydol truenus y genedl. Roedd Asyria y superpower diweddaraf yn bygwth o’r Gogledd, a’r bobl yn pendilio rhwng ffurfio cynghrair efo nhw neu ofyn am help gan yr Aifft i’r De. Roedd eu diffyg ymddiriedaeth yn Nuw yn boliticaidd yn cael ei adlewyrchu yn eu bywyd ysbrydol wrth iddyn nhw gymryd yr hyn roedd ef wedi ei roi iddyn nhw a’i ddefnyddio i addoli Baal. Ar ôl blynyddoedd o wrthod galwad Duw i edifarhau, fe ddisgynnodd barn Duw arnynt ac fe gafodd Israel ei choncro a’i chaethgludo i Asyria. Dyma’r cyfnod roedd Hosea wedi ei alw i bregethu gair Duw i’w bobl ynddo, a dyma pryd y daw Gomer i mewn i’r hanes.
Ym mhennod gyntaf llyfr Hosea daw gair Duw at Hosea;
‘Dwi wedi dod o hyd i wraig i ti, dwi am i ti briodi Gomer. Ond mae yna rywbeth rwyt ti angen ei wybod… fydd dy briodas di ddim yn un hawdd oherwydd fe fydd Gomer yn anffyddlon i ti.’
Tydi’r llyfr ddim yn dweud wrthon ni beth yn union roedd Hosea’n ei feddwl o’r gorchymyn annisgwyl hwn, ond mae’n ufuddhau. Mae’n priodi Gomer ac i ddechrau, o leia, mae Gomer fel petai hi’n ffyddlon iddo. Mae nhw’n cael plentyn ac yn ei alw’n Jezreel. Ond yna mae pethau’n troi’n chwerw. Mae Gomer yn cael dau blentyn arall ac mae tipyn o amheuaeth ynglŷn â phwy yw’r tad. Mae nhw’n cael yr enwau Lo-Ruhama (dim trugaredd), a Lo-Ammi (dim fy mhobl) ac mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth. Mae Hosea wedi rhoi ei hun i Gomer ac yn pledio arni i roi’r gorau i’w godineb, ond mae hi’n ei wrthod ac yn benderfynol o fynd ar ôl ei chariadon. Mae hi’n anghofio Hosea ac mae’n ymddangos mai ysgariad yw’r unig opsiwn i’r ddau.
Ond yna, os oedd pennod gyntaf y llyfr yn annisgwyl, mae pennod tri yn amhosib. Mae Duw yn dychwelyd at Hosea ac yn dweud wrtho:
‘Dos ar ôl Gomer.’
Unwaith eto, allwn ni ddim ond dychmygu sut y byddai Hosea’n teimlo wrth fynd i chwilio am Gomer. Mae’n dod o hyd iddi ar werth mewn rhyw farchnad caethweision, mae’n debyg. Mae’n talu’r pris amdani ac yn dod â hi nôl adre, nid i fod yn gaethferch, ond yn wraig. Dyma’r cwbl gawn ni o stori Gomer, wyddom ni ddim beth oedd ei hymateb hi na beth ddigwyddodd wedyn. Ond does dim rhaid i ni ddefnyddio llawer o ddychymyg i wybod gymaint y byddai hyn wedi costio i Hosea. Fyddai dim posib cadw hyn yn dawel. Byddai pawb yn gwybod beth roedd Gomer wedi ei wneud. Mae’n hawdd dychymygu’r cymdogion yn sibrwd am y fath sgandal, yn edrych gyda dirmyg ar Gomer ac yn pitïo Hosea wrth eu gweld yn dod adref.
Beth amdanom ni? Sut ydyn ni’n teimlo wrth glywed hanes Gomer? Mae’n rhaid dweud fod y stori yma yn anodd. Mae rhai yn ei chael hi’n gymaint o brobem fel eu bod yn ceisio dweud na all fod yn hanesyn go iawn. Mae’n rhaid mai stori symbolaidd ydi hi. All Duw ddim fod wedi gofyn i’w broffwyd wneud peth fyddai’n codi gymaint o gywilydd arno, rhywbeth y gallai rhai ddadlau ei fod bron yn anfoesol. Mae’r peth yn eithafol! Os mai felly rydyn ni’n teimlo, efallai ein bod ni’n dod yn agos at ddeall pam gofynnodd Duw i Hosea wneud hyn i ddechrau, ac eto rydyn ni wedi methu’r pwynt.
Ym mhennod tri a’r adnod gyntaf mae Duw yn dweud:
’Dos, a dangos gariad at dy wraig eto, er bod ganddi gariad arall a’i bod yn anffyddlon i ti. Dyna’n union fel mae’r Arglwydd yn caru pobl Israel, er eu bod nhw’n troi at eilunod…’
Fe ofynnodd Duw i Hosea wneud hyn am ei fod am ddysgu gwers i’w bobl. Ac mae’n rhoi ei neges mewn ffordd eithafol am eu bod nhw mor fyddar fel na wnawn nhw wrando mewn unrhyw ffordd arall.
Yn gyntaf, mae Duw am i’w bobl, ac i ni hefyd, ddeall fod pechod yn eithafol. Rydyn ni weithiau’n gallu meddwl am bechod fel torri rheolau Duw, peidio â chyrraedd y marc. Ac wrth gwrs, mae hynny’n wir ar un ystyr. Ond neges Duw trwy hanes Gomer yw fod pechod yn gymaint mwy na hynny. Nid dim ond torri rheolau Duw yr ydyn ni wedi ei wneud, ond bradychu ei gariad. Dydi Duw ddim wedi’n dewis ni i fod yn bobl iddo am ei fod am i ni gadw rheolau. Mae o eisiau’n calonnau. Mae o wedi rhoi ei hun i ni ac mae am i ni ein rhoi ein hunain iddo ef. Perthynas o gariad mae Duw ei heisiau. Pechod yw taflu ei gariad yn ôl yn ei wyneb, ei anghofio a mynd ar ôl cariadon eraill.
Ond os yw ein pechod ni yn eithafol, mae yna rywbeth arall sydd hyn yn oed yn fwy tu eithafol; sef cariad Duw. Pe bai Hosea wedi gadael Gomer yn ei chywilydd i ddioddef canlyniadau ei godineb, fyddai neb wedi dadlau. Dyna roedd hi’n ei haeddu. A dyna rydyn ninnau’n ei haeddu. Ond dydi Duw ddim wedi’n gadael yn ein cywilydd. Dydi Duw ddim yn gofyn i Hosea wneud dim nad ydy o wedi ei wneud ei hun. Yr un Duw a ofynnodd i Hosea fynd ar ôl Gomer i’w phrynu’n ôl yw’r Duw ddaeth ar ein hôl ni i’n prynu ni yn ôl yn ei Fab, Iesu. Ef yw’r bugail ddaeth ar ôl y ddafad golledig. Y tad redodd i gofleidio ei fab gwrthryfelgar. Ac ef yw’r priodfab roddodd ei hun yn aberth dros ei briod, yr eglwys, i’w chysegru a’i gwneud hi’n lân, a dod â hi adref ato ef ei hun.
Mae cariad Duw tuag atom ni y tu hwnt i unrhyw beth y gallwn ni ei ddychmygu. Y cariad aeth ar ôl Gomer yw’r cariad sydd wedi dod ar ein hôl ni. Mae’n ein galw nôl adref, nid i ddyletswydd, ond i berthynas; perthynas o gariad dwfn, cadarn fydd yn para am byth.