Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Merched y Beibl: Abigail

26 Ebrill 2022 | gan Iola Alban

Merched y Beibl: Abigail

Iola Alban

 

Pe bai rhywun yn gofyn i chi enwi merched y mae eu hanes i’w gael yn yr Hen Destament, pwy fyddai’n dod i’ch meddwl gyntaf, tybed? Efa? Sara? Ruth? Naomi? Esther? Ie, yn sicr iawn. Dyma enwau amlwg iawn. Ond beth am rywun llai amlwg fel Abigail? Fe glywais ambell un yn gofyn: Pwy oedd hi? Dyma un o’r merched nad ydyn ni’n clywed amdani yn aml ond sydd, er hynny, yn ferch bwysig. Mae ei hanes hi yn 1 Samuel 25. Gaf i eich annog i ddarllen y bennod cyn i chi fynd ymhellach?

Y Cefndir
Roedd Samuel, gŵr Duw a barnwr mawr olaf Israel, wedi marw a’i gladdu yn Rama ac roedd Dafydd a’i ddynion (chwe chant ohonyn nhw) wedi’r claddu, wedi teithio o Rama i ddiffeithwch Maon, oedd tua 30 milltir fel yr hed y frân i’r de o Rama. Bwriad Dafydd oedd ceisio diogelwch rhag bygythiadau Saul ar ei fywyd. Yn ardal Maon fe ddaeth i gysylltiad â thri pherson sy’n ganolog i’r hanes dan sylw sef Nabal ei hun, gwas Nabal na chawn ei enw, ac Abigail, gwraig Nabal.

Yn unol â’i natur galed ac anghwrtais (25:3) fe wrthododd Nabal rannu ei fwyd â Dafydd a’i ddynion er eu bod nhw wedi bod yn garedig wrth fugeiliaid Nabal yn y gorffennol (25:4-11). Roedd hyn yn hollol groes i’r arfer oherwydd roedd croesawu dieithriaid yn un o arferion da y bobl (cymharer croeso Abraham i ymwelwyr a’r fendith a ddaeth iddo ef o hynny yn Genesis 18:1-5). Enynnodd y gwrthodiad lid Dafydd; casglodd 400 o’i ddynion a chychwyn ar frys gyda’r bwriad o ymosod ar Nabal (25:12-13; 21-2). Gwelwn ymateb gwahanol iawn ganddo yn yr hanes yn (1 Samuel 24).

Diolch i feddylgarwch y gwas a aeth i hysbysu Abigail o fwriad Dafydd ac i’w chyngori sut i ymateb i’r sefyllfa (25:14-20) ac iddi hithau dderbyn ei gyngor (25:32-4) fe arbedwyd llawer o fywydau.

Cwblheir yr hanes gyda marwolaeth ddisyfyd Nabal ac wedyn Dafydd yn cymryd Abigail yn wraig (25:36-42).
Dyma hanes sy’n gyfuniad o’r trist a’r arwrol ond a oes yma rywbeth mwy na hanes wedi’i adrodd yn gyffrous ac yn dda?

Cymeriad Abigail
Fe gawn yr ateb i’r cwestiwn uchod wrth i ni feddwl am y math o berson oedd Abigail a pha ddefnydd a wnaeth Duw ohoni yn y sefyllfa y cafodd hi ei hun ynddi. Mae hi’n gymeriad i’w hedmygu ac i ddiolch i Dduw amdani.
Yn ôl y drydedd adnod roedd hi’n ‘ddeallus a golygus’ – mor wahanol i’w gŵr Nabal oedd yn ‘galed ac anghwrtais’, a hefyd, yn ôl Abigail, yn ddihiryn a ffŵl (25:25). Mae’n syndod i ddau mor wahanol briodi, meddai rhai. Tybed a ‘drefnwyd’ y briodas gan y rhieni, neu a gipiwyd Abigail gan Nabal yn erbyn ei hewyllys? Wyddon ni ddim, ond mae’n dda sylweddoli bod gan Dduw bwrpas arbennig ar gyfer Abigail yn y briodas.

Fe ddengys yr hanes yn glir iawn fod Abigail yn ferch ddeallus a doeth, yn fentrus ond gwylaidd ei natur ac yn offeryn yn llaw Duw.

  • Daw ei doethineb yn amlwg iawn wrth iddi ymateb yn gadarnhaol i awgrym y gwas y dylai hi weithredu i leddfu llid Dafydd (25:16) ac i’r diben hwnnw fe baratôdd fwyd i’w gyflwyno iddo ef a’i ddynion (25:18).
  • Gan nad oedd ganddi syniad sut dderbyniad a gâi hi gan Ddafydd, gallai fod yn mentro’i bywyd wrth fynd i’w gyfarfod, ond roedd hi’n barod i wneud hynny i geisio osgoi sefyllfa lle y gellid colli llawer bywyd.
  • Pan gyfarfu hi â Dafydd, fe ddaeth ei doethineb i’r amlwg eto, oherwydd fe siaradodd yn wylaidd ag ef gan gymryd y bai am weithred Nabal arni hi ei hun cyn egluro iddo sut berson oedd Nabal (25:23-5). Trwy ei gwyleidd-dra fe enillodd ffafr Dafydd a thawelu ei ddicter. Roedd Abigail am sicrhau cadw’r heddwch. Dyna ddylai fod yn un o ddyheadau’r Cristion bob amser. Mae Iesu wedi cynghori ei ddisgyblion i fod yn heddychlon â’i gilydd (Marc 9:50) a dyna un o gynghorion cyson arweinwyr yr Eglwys Fore i’r Cristnogion yn eu perthynas â’i gilydd (e.e., Rhufeiniaid 12:18; 1 Thesaloniaid 5:13; Hebreaid 12:14).
    Sylwn yma fod Abigail yn gweithredu’n gyfryngwr rhwng Dafydd a Nabal yn union fel y mae Iesu Grist yn gweithredu yn gyfryngwr i’n hachub ni – sydd yr un mor ddihaeddiant â Nabal – rhag digofaint Duw (1 Timotheus 2:5)
  • Roedd hi’n ddigon craff hefyd i wybod nad oedd diben trafod dim gyda Nabal ac yntau yn feddw. Penderfynodd ddisgwyl hyd drannoeth cyn dweud wrtho beth oedd wedi digwydd a pha mor drychinebus y gallai’r canlyniadau fod wedi bod (25:36-8).
    Roedd angen cymeriad mentrus a chryf i weithredu fel hyn gan na wyddai hi beth fyddai ymateb Dafydd yn ei ddig nac ymateb Nabal, y dyn ‘caled ac anghwrtais’, i’w newyddion.
  • Nid rhywbeth arwynebol oedd ei dealltwriaeth o’r sefyllfa chwaith oherwydd roedd hi fel pe bai yn synhwyro mor bwysig oedd atal Dafydd rhag gwneud unrhyw beth a fyddai yn peri poen cydwybod iddo yn y dyfodol (25:31). Roedd hi’n ymwybodol o’r ffaith fod gan Dduw fwriad arbennig ar gyfer Dafydd ac roedd hi am ei ddiogelu er mwyn iddo fedru gwireddu’r bwriad hwnnw (25:28-30).

 

Trwy ei geiriau a’i gweithredoedd fe wnaeth Abigail argraff ddofn ar Ddafydd. Gwelwn hyn yn ei ymateb ef iddi hi gan ei fod yn barod iawn i ddiolch i’r Arglwydd amdani (25:32-4). Wedi clywed am farwolaeth ddisyfyd Nabal, y gŵr ymddangosiadol galed a gafodd gymaint o fraw o sylweddoli ei sefyllfa beryglus nes cael rhyw drawiad a barodd iddo farw o fewn dyddiau, teimlai Dafydd y gallai ofyn i Abigail fod yn wraig iddo ef (25:39). Fel gwraig weddw a fyddai’n ddi-gefn fe dderbyniodd hithau’r cynnig 25:41-2).

Fy ymateb i
Wedi sylwi ar nodweddion canmoladwy Abigail ac ystyried ei hymateb, caf fy herio i ofyn ambell gwestiwn i mi fy hun:

  • Sut ddylwn i fel Cristion ymateb mewn sefyllfa anodd?
  • Ydw i’n ymarfer doethineb a gwyleidd-dra ynteu yn ymateb yn arwynebol fyrbwyll a thrwy hynny yn achosi helynt yn hytrach na heddwch?
  • Ydw i’n rhoi cyfle i Dduw fy nefnyddio i ddwyn clod i’w enw ef nid mewn sefyllfa anodd yn unig ond wrth wynebu sefyllfaoedd cyffredin bywyd o ddydd i ddydd?
    Bydded i bawb ohonom weddïo am ddoethineb, gwyleidd-dra a dewrder mentrus i ni fedru byw i ogoneddu Duw bob amser.
    Cofiwn eiriau Yr Arglwydd Iesu : ‘Felly boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd’ (Mathew 5:16).