Mararnatha
Goronwy Prys Owen
Yr wyf am dynnu’ch sylw at air o’r Beibl sy’n dra anghyffredin, sef maranatha. Nid gair Groeg y Testament Newydd mohono, na chwaith o hen iaith yr Iddewon, yr Hebraeg. O graffu ar wahanol fynegeion a geiriaduron Beiblaidd, gwelir mai unwaith yn unig yr ymddengys yn y Beibl, sef yn 1 Corinthiaid 16:22. Gair ydyw o’r iaith Aramaeg, yr iaith a leferid gan werin Palestina yn ystod y ganrif gyntaf. Dyma’r iaith a lefarai’r Arglwydd Iesu wrth gyfarch ei ddisgyblion a phregethu i’r torfeydd. Esblygodd yr iaith hon yn ystod ton ar ôl ton o ddioddefaint yr Iddewon, yn arbennig yn ystod blynyddoedd y gaethglud ym Mabilon a Phersia yn y bumed a’r bedwaredd ganrif cyn Crist, a dilynwyd hynny gan oresgyniadau eraill gan y Groegiaid a’r Rhufeiniaid. Dylanwadodd y digwyddiadau hyn ar yr heniaith nes creu (i bob pwrpas) iaith newydd, yr Aramaeg, ac ohoni hi y datblygodd y gwahanol fersiynau o’r Arabeg a siaredir yn gyffredinol yn y Dwyrain Canol hyd heddiw.
Gwyddom fod i bob iaith gyfoeth o dafodieithoedd. Cawn hanes Pedr yn gwadu ei Arglwydd o’r tu allan i lys yr Archoffeiriad, ac un o forynion y tŷ yn dweud wrtho, ’Yn wir, yr wyt ti yn un ohonynt, canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo’. Tafodiaith Galilea ei fagwraeth fuasai ar wefusau Pedr. Gair sy’n perthyn i dafodiaith Jerwsalem tua chanol y ganrif gyntaf yw maranatha. Mae’r gair hwn, felly, yn mynd â ni’n ôl at galon y cwmni bychan o ddilynwyr Crist, wrth iddynt addoli yn yr Oruwch Ystafell yn Jerwsalem.
Beth am ystyr y gair? Mae iddo ddwy elfen, sef yr enw maran, y gair Aramaeg am ‘Arglwydd’, a’r ffurf ferfol atha, sy’n tarddu o’r ferf ‘dyfod’. Eithr wedi dweud hynny, mae’r union ystyr yn dibynnu ar yr ynganiad. Yngenid y gair maranatha, mewn tair ffordd wahanol, a dyry hyn dair ystyr wahanol i’r gair.
- Amser Gorffennol
Gellir ynganu’r gair maranatha yn y fath fodd ag sy’n cyfleu amser gorffennol y ferf, gan gyfeirio at rywbeth sydd wedi digwydd. Byddai hyn yn rhoi’r ystyr ‘Mae’r Arglwydd wedi dod!’ Dyma oedd cenadwri fawr yr Eglwys Fore, mae’r Meseia hirddisgwyledig wedi dod. Bu’r disgwyl amdano’n hir,
Darfu Moses a’r proffwydi
Ddweud amdano cyn ei ddod.
Mae Moses yn cofnodi’r addewid a roddwyd i Adda yng Ngardd Eden, (Genesis 3:15). Meddai Duw wrth y sarff: ‘Gosodaf elyniaeth rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau. Bydd ef (sef yr Arglwydd Iesu) yn ysigo dy ben di, a thithau (y sarff) yn ysigo’i sawdl ef.’ Proffwydodd Eseia (9:2 a 6), ‘Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr, y rhai a fu’n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau…. Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.’ Ym mhennod y Gwas Dioddefus, mae Eseia’n rhagfynegi dioddefaint y Meseia, (53: 3-5). ‘Roedd wedi ei ddirmygu a’i wrthod gan eraill, yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur… Eto, ein dolur ni a gymerodd, a’n gwaeledd ni a ddygodd, … Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a’i ddryllio am ein camweddau ni, … a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd.”
Yr oedd holl seremonïau ac aberthau Pumllyfr Moses yn ganolog i grefydd yr Israeliaid, a’u diben drwy’r cenedlaethau oedd cyfeirio meddyliau’r addolwyr tuag at ddioddefaint Oen Duw. Ymwelodd ein Harglwydd â’r synagog yn Nasareth fel yr adroddir yn Luc 4:18, a darllenodd, ‘Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f’eneinio i bregethu’r newydd da i dlodion…i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion…i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.’ Yna dychwelodd y sgrôl i swyddog y synagog, ac meddai, ‘Heddiw yn eich clyw chwi mae’r Ysgrythur hon wedi ei chyflawni.’
Dyma oedd neges yr Eglwys Fore. Bu Duw yn ffyddlon i’w addewidion: mae’r Meseia wedi ymgnawdoli ac wedi dod yn faban i Fethlem Jwda yn nyddiau Herod Frenin. Y baban hwn yw Gwaredwr y byd. Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall. Yn wir, daeth Crist Iesu i’r byd i achub pechaduriaid.
Neges yr efengyl ym mhob oes yw bod Duw wedi dod yn ddyn, gan gyrraedd ein byd ni ym mherson ei Fab. Meddyliwch,
Daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd,
Er symud ein penyd a’n pwn…
Ynddo ef y mae cyfiawnder Duw a’i gariad yn cydgyfarfod mewn byd gelyniaethus. Daeth y Mab er mwyn dwyn cosb ein pechod ni yn ei gorff ei hun ar groes Calfaria.
Dyma oedd yn newydd yn yr efengyl. Yn lle ymdrech dyn i fodloni Duw drwy aberthau, y mae Duw ei hun yn cynnig cymod, yn cynnig bywyd tragwyddol i ni yn haeddiant Iesu Grist. Ein braint ninnau mewn oedfa, ac yn arbennig pan gofiwn ‘yr ing, yr Iawn a’r gwaedlyd chwys’ yw atseinio’r gair maranatha yn ein calon: ‘Mae’r Arglwydd wedi dod.’ - Amser Presennol
Mae’r ail ffordd o ynganu maranatha yn gosod y ferf yn yr amser presennol, sy’n cyfleu’r ystyr ‘Mae’r Arglwydd yma yn bresennol.’ Dyma oedd cyfrinach addoli yn yr Eglwys Fore, sef mynegiant o’u profiad fod yr Iesu byw yn eu plith.
Dewch i’r Oruwch Ystafell rhwng atgyfodiad ein Harglwydd a’i esgyniad. Roedd yr Arglwydd Iesu’n mynd a dod ymhlith ei ddisgyblion. Ar un achlysur nid oedd Tomos yn bresennol, ac fe gollodd y profiad, ond cyn gynted ag y dychwelodd, rhannodd gweddill y disgyblion eu llawenydd ag ef. Methai Tomos yn lân â chredu’r hanes, gan ddatgan y byddai’n rhaid iddo weld briwiau corfforol yr Arglwydd, a gosod ei law ynddynt, cyn y byddai’n credu. Dychwelodd yr Arglwydd eilwaith i’r ystafell, a chymell Tomos i estyn ei law i’w ddoluriau. Do, bodlonwyd Tomos, ac meddai, ‘Fy Arglwydd a’m Duw.’
Gyda’i esgyniad gadawodd yr Arglwydd y disgyblion, a dychwelodd i’r nefoedd a mwynhau’r gogoniant oedd iddo gyda’r Tad ers tragwyddoldeb. Ond profiad y disgyblion oedd bod yr Arglwydd yn parhau gyda hwy. Oni addawodd, ‘Yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd y byd’? Ac wrth edrych yn ôl dros ysgwydd y blynyddoedd, ysgrifennodd y Disgybl Annwyl, ‘Ein cymdeithas ni sydd gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef, Iesu Grist’ (1 Ioan 1:3). Dyma wefr yr addoli yn yr Oruwch Ystafell: profi presenoldeb yr Arglwydd, ‘Mae’r Arglwydd yma, mae’r Arglwydd yn bresennol!’ Meddyliwch amdanynt o gwmpas y bwrdd swper. Ni allent lai na chofio’r noson y bradychwyd Iesu. Maent yn torri bara ac yn yfed o’r cwpan. Ac wrth wneud hyn maent mewn cymundeb â’u Harglwydd atgyfodedig ac esgynedig, a theimlant rym a gwres ei gariad yn eu calon. Dyma a roddai ystyr i’r sacrament: presenoldeb ysbrydol yr Arglwydd Iesu o gwmpas y bwrdd.
Yn y Gymru sydd ohoni, mae’n bryd gwyntyllu’r cwestiwn, ‘Beth yw gwerth addoli cyhoeddus?’ Siom yw sylweddoli nad oes dim ond tua thri deg y cant o blith y ‘gweddill’ sy’n dal yn aelodau eglwysig yn addoli’n gyson. Rhaid gofyn beth sy’n cyfrif am y difaterwch hwn tuag at weithred ganolog ein haddoliad, sef oedfaon y Sul? A ninnau’r ffyddloniaid, beth sy’n rhoi gwerth ar oedfa i ni? Ai’r lle?… ‘Yma mae beddrodau’n Tadau, / Yma mae ein plant yn byw…’ Ai’r nifer sy’n bresennol? Ai dawn a dysg y pregethwr? Ac ar ôl mynd adref, cwyd y cwestiwn, ‘Pwy oedd yn yr oedfa heddiw?’ Atebwn, ‘Roedd hwn a hwn yno, roedd hon a hon yno.’ O! na byddem yn medru ateb, ‘Roedd yr Arglwydd yno!’ Ei bresenoldeb ef sy’n rhoi grym yn y mawl a gwefr yn yr addoli. Ei arddeliad ef sy’n rhoi eneiniad ar y pregethu nes bod yr Haleliwia a’r Amen yn codi o’r galon.
Mewn gair, os ydym am weld ein pobl yn dychwelyd i addoli, rhaid i’r holl achlysur droi o gwmpas presenoldeb y Crist byw, yna gallent weiddi gydag argyhoeddiad, ‘maranatha! Mae’r Arglwydd yma!” - Y Modd Gorchmynnol
Mae’r drydedd ffordd o ynganu’r gair maranatha yn gosod y ferf yn y modd gorchmynnol. Yn ein bywyd beunyddiol, yr ydym yn dra chynefin â modd gorchmynnol y ferf. Pan oeddem yn blant clywem ebychiadau’n rhieni a’n hathrawon, ‘Paid, ’‘taw,’ ‘rhed,’ ‘tyrd yma,’ ‘dos o ‘ma!’ Mae llawer emyn yn cynnwys modd gorchmynnol y ferf ar ei ddechrau, er enghraifft, ‘Tyred, Iesu, i’r anialwch,’ ’O! tyred, Iôr tragwyddol,’ ‘Tyrd, Ysbryd Glân, i’n c’lonnau ni,’ ‘O! anfon di yr Ysbryd Glân,’ ‘Cofia’n gwlad, Benllywydd tirion.’ Mae’r ffin rhwng gorchymyn a deisyfiad ar adegau yn gallu bod yn denau.
Llyfr a ysgrifennwyd er cysur yr Eglwys dan erledigaeth greulon yr Ymerodraeth Rufeinig yw Datguddiad Ioan. Profiad cyffredin i’r Cristnogion cynnar oedd cael eu taflu’n ysglyfaeth i lewod ac eirth er difyrrwch crachach Rhufain: nid rhyfedd mai o’r gair Groeg am ‘dyst’ y tarddodd y gair ‘merthyr’ yn y Gymraeg. Cri calon yr aelodau hyn a’u gweddi gyson oedd y geiriau a welir ar ddiwedd Llyfr y Datguddiad, ‘Tyrd, Arglwydd Iesu!’
Arferai’r Arglwydd Iesu sôn llawer am ei ailddyfodiad yn ystod ei weinidogaeth. Ym Mathew 24:44, darllenwn, ‘Am hynny, chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.’ Yn Ioan 14:3 gwelwn, ‘Ac os af a pharatoi lle ichwi, fe ddof yn ôl, a’ch cymryd chwi ataf fy hun.’ Yn dilyn adroddiad Luc am yr esgyniad, (Actau 1:11), â rhagddo i ddiogelu’r geiriau a lefarodd dau ŵr mewn dillad gwyn wrth yr apostolion, ‘Wŷr Galilea, pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua’r nef? Bydd yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i’r nef, yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i’r nef.’ Priodol yw sylwi fod y pum apostol a gyfrannodd lythyrau i’r Testament Newydd yn mynegi’r disgwyl hwn am yr ailddyfodiad. Mae’r Apostol Paul, wrth sôn am sefydlu sacrament Swper yr Arglwydd, (1 Cor, 11:26), yn gorchymyn torri’r bara ac yfed o’r cwpan er mwyn ‘cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd hyd nes y daw.’ Drachefn, wrth ysgrifennu at ei gyfeillion yn Thesalonica (1 Thes. 4:6), sonia’r Apostol ‘am yr archangel yn galw ac y bydd utgorn Duw yn seinio, a bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o’r nef.’ Cofiwn fod Iago, hanner brawd yr Arglwydd, yn cynghori’i ddarllenwyr, ‘Byddwch chwithau hefyd yn amyneddgar, a’ch cadw eich hunain yn gadarn, oherwydd y mae dyfodiad yr Arglwydd wedi dod yn agos,’ (Iago 5:8). Ysgrifennodd Pedr y deuai ‘Dydd yr Arglwydd fel lleidr, a’r Dydd hwnnw bydd y nefoedd yn diflannu â thrwst, a’r elfennau yn ymddatod gan wres, a’r ddaear a phopeth sydd ynddi yn peidio â bod,’ (2 Pedr 3:10). A gwyddom mai argyhoeddiad Ioan, y disgybl annwyl, oedd hyn, ‘Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae,” (1 Ioan 3:2). Ac yn olaf, mae Jwdas (1:14-15) yn dyfynnu Enoch, ‘Wele, y mae’r Arglwydd yn dod gyda’i fyrddiynau sanctaidd i weithredu barn ar bawb, i’w condemnio i gyd am annuwioldeb eu holl weithredoedd ysgeler…’
Gyda chymaint o sôn drwy’r Testament Newydd oll am ailddyfodiad ein Harglwydd, mae’n drist fod yr athrawiaeth hon yn ddieithr ers cenedlaethau i ni yng Nghymru, yn ogystal ag i fwyafrif eglwysi traddodiadol Gorllewin Ewrop. Y mae un rheswm eglur am hyn, sef ein diffyg profiad o erledigaeth dros yr efengyl. At ei gilydd, mae’n deg dweud mai’r rhannau o’r byd lle gwerthfawrogir ac y coleddir yr athrawiaeth hon yw’r mannau sy’n gwybod o brofiad am erlid blin a chreulon. Meddyliwch am Gristnogion Rwsia yn ystod y Rhyfel Oer, heb sôn am yr Eglwys danddaearol yn China. Ac mae Cristnogion Tibet a Nepal yn dioddef yn yr un modd, yn ogystal â’r erlid sy’n digwydd mewn rhai taleithiau o India oherwydd ymchwydd Hindŵaeth. Ychwanegwch at hyn y miloedd sydd wedi ffoi o wledydd y Dwyrain Canol, megis Affganistan, Iran ac Irac, oherwydd helyntion y deng mlynedd diwethaf.
Ond beth am Brydain a Chymru fach? Mae ymosodiadau ar eglwysi a chapeli ar gynnydd. Ychydig dros ugain mlynedd yn ôl bu saethu at rai o ffenestri Capel Heol Sgotland, Llanrwst, ac amharchwyd beddau a’u difrodi ym Mynwent Coetmor, Bethesda. Gwyddom fod cynghorau rhai o ddinasoedd mawr Lloegr wedi disodli Gŵyl y Geni â Gŵyl y Goleuni. Mae’n bryd inni, Gristnogion Cymru, ddeffro, a meddwl sut fyd fydd hi ar ein plant a phlant ein plant.
Mae’n ddyletswydd arnom i ddiwyllio’n hunain ac ymgyfarwyddo â dysgeidiaeth y Beibl am ailddyfodiad ein Harglwydd.
Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain,
Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr.
Daw ein Harglwydd eto i farnu’r byw a’r meirw, ac i waredu ei bobl oddi wrth orthrwm eu gelynion. Bryd hynny, bydd yr addfwyn yn etifeddu’r ddaear, ac ewyllys ein Harglwydd yn cael ei gweithredu’n gyflawn. Bydd ei elynion, gan gynnwys gelynion ei bobl, yn cael eu diddymu oddi ar wyneb y ddaear. A bydd yr Oen yn ogoneddus fyth.
Dyna’r bore dedwydd a’r gwynfyd yr hiraethai Ann Griffiths amdano,
Henffych fore,
Y caf ei weled fel y mae.
Mae’n gyfrifoldeb arnom i gydsefyll â’n brodyr a’n chwiorydd yn y ffydd sy’n cael eu herlid o achos cyfiawnder, a gweddïo, maranatha, ‘Tyred, Arglwydd.’ Er gogoniant i’w enw.