Llestri Pridd
Arwel a Lowri Jones
Mae gan bob Cristion drysor yn yr efengyl, ond ‘trysor mewn llestri pridd’ (2 Cor. 4:7) ydyw oherwydd ein gwendid. Y perygl o hyd yw syllu’n ormodol ar y llestr a cholli golwg ar y trysor. Gobeithio, felly, y bydd y gyfres hon o sgyrsiau â gwahanol Gristnogion yn gymorth i ni werthfawrogi’n well drysor efengyl Iesu Grist sydd ar waith yn eu bywydau nhw. Diolch i Lowri ac Arwel Jones am ddechrau’r gyfres.
Dywedwch rywbeth wrthym am eich magwraeth, eich cefndir a’ch taith i ffydd.
Cawsom ein magu mewn capeli Cymreig traddodiadol, un Presbyteraidd ac un Bedyddiedig. Buom yn mynd i’r capel bron iawn o’r crud, yn mynychu oedfaon a mynd i’r Ysgol Sul ac ati. Fodd bynnag, daeth y ddau ohonom i ffydd gyflawn mewn llefydd gwahanol iawn, un mewn ymgyrch gan y Parch. David Watson a’r llall mewn Undeb Cristnogol Saesneg ei iaith yn y Brifysgol. Mae dau beth trawiadol yn hynny. Yn gyntaf, gwelsom yr Arglwydd yn gweithio mewn cyd-destunau anghyfarwydd, trwy Ficer Anglicanaidd a phobl nad oedden nhw’n siarad yr un iaith gyntaf â ni! Mae’n bwysig cofio mai Duw, nid ni, sy’n dewis pa gyfrwng y mae am ei ddefnyddio. Yn ail, nid yw hynny wedi’n harwain i ddifrïo’n magwraeth. Rydym yn edrych yn ôl gydag anwyldeb a diolchgarwch i’n teuluoedd ac i Dduw am ein gosod lle y gwnaeth a’i fod wedi defnyddio hynny i’n paratoi ar gyfer ei waith yn ein bywydau.
Beth yw’r pethau sydd wedi bod fwyaf o help yn eich bywyd ysbrydol?
Yn gyntaf, dysgu o Air Duw, wrth iddo gael ei gyhoeddi a hefyd ei drafod mewn cymdeithas â’n gilydd. Mae’r ffaith fod Duw yn siarad â ni heddiw trwy ei Air yn rhoi gobaith a chysondeb mewn byd cyfnewidiol ac ansicr. Wedyn, cymdeithas brodyr a chwiorydd yng Nghrist o fewn ein heglwys yng Nghaersalem a thu hwnt. Mae’r bywyd newydd yr ydym yn ei dderbyn yn bersonol yn un yr ydym hefyd yn cael ei rannu ag eraill. Mae hynny’n wych – ‘Mae mor hyfryd pan mae pobl Dduw yn eistedd gyda’i gilydd’ (Salm 133:1).
Mae canu mawl yn bwysig. Mae’r cyfle i addoli mewn oedfa (hyd yn oed mewn pandemig) yn fwy na rhywbeth i’w wneud tra ‘da ni’n disgwyl am y bregeth. Mae Duw yn ein gwahodd i dreulio amser yn ei gwmni, yn myfyrio amdano a datgan ein diolch Iddo a’n cariad tuag ato. Rhaid dweud hefyd fod gweld arwyddion o fendith ymysg ei bobl, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn, wedi bod mor dda. Mae gweld pobl yn dod i ffydd, ffydd eraill yn dyfnhau ac atebion clir i weddi wedi’n hatgoffa o eiriau Iesu, ‘Mae fy Nhad yn dal i weithio drwy’r amser’ (Ioan 5:17).
Rydych newydd orffen cyfnod o reoli Banc Bwyd Arfon. Beth oedd yr heriau a’r bendithion yn y gwaith hwnnw?
Mae cael gwneud y gwaith yn fraint ac fe ddysgodd Duw bethau pwysig iawn i ni. Yn gyntaf, gwelsom cyn lleied yr oeddem yn nabod ein cymuned – yn byw mewn bybl cyfforddus dosbarth canol heb ddeall pa mor heriol yw bywyd i nifer sy’n yr un ardal â ni; mae angen ymarferol real o’n cwmpas ac roeddem yn ddall iddo. Yn ail, mae wedi bod yn fraint gweld haelioni rhyfeddol mewn ymateb i’r angen a hefyd cael cydweithio â phobl wahanol, Cristnogion o draddodiadau gwahanol a hefyd rhai sydd heb ffydd. Roedd yn wers bwysig bod modd cydweithio â phobl na fyddem yn cytuno efo nhw ar sawl peth, i gwrdd ag anghenion o’n cwmpas heb i neb gyfaddawdu.
O ran heriau, gwelsom gynnydd mawr yn y galw a dirywiad a dioddef real mewn cymdeithas. Yn ystod y pandemig, gwelsom hefyd pa mor fregus yw sefyllfa cymaint o bobl gyda’r ‘clo’ yn gorfodi rhai na fyddai wedi breuddwydio ceisio help i wneud hynny. Un her gyson yw delio â phobl â’r un gras ag y mae Duw yn ei ddangos tuag atom ni. Mae’n anodd gweld pobl yn gaeth mewn cylch niweidiol ond mae Duw yn ein hatgoffa’n aml mai ar sail gras nid rhinwedd y mae yn delio â phobl. Dylem ni, fel ei blant, ei efelychu.
Sut ydych chi wedi dod i ben â bywyd yn ystod cyfnod y pandemig?
Ni fu’r pandemig yn gyson ei effaith. Mae bod yn gaeth i’n heiddo wedi bod yn haws i ni, yn byw yng nghefn gwlad Arfon nag i rywun mewn fflat mewn tref neu ddinas. Fodd bynnag, mae’r teimlad o gael ein hynysu wedi effeithio ar bawb, a methu treulio amser clos gyda theulu a ffrindiau wedi bod yn anodd. Mae llawer hefyd wedi profi salwch a cholli teulu a ffrindiau. Ar ddechrau’r ’clo’, bu farw ein ffrind annwyl Joan Hughes ac roedd yn swreal bod ar lan y bedd gyda Rhys yn gweinidogaethu a chwmni neb ond staff y Trefnwr Angladdau. Rhyfedd iawn o feddwl am y llond capel o ffrindiau fyddai wedi dod i ddathlu a diolch i Dduw am fywyd Joan mewn amgylchiadau arferol.
Mae bod yn rhan o waith eglwys wedi bod yn heriol, ond mae Duw wedi bendithio. Gwelsom fywyd gweddi’r eglwys yn dyfnhau ac ymdrechion ar draws yr eglwys i gynnal cymdeithas ac ymdeimlad o gymuned yn ein plith. Bu hefyd yn fendith cael ein harwain gan Rhys a Menna sydd, ymysg llawer o bethau sy’n rhy niferus i’w nodi, wedi’n galluogi i ddefnyddio technoleg i barhau i weinidogaethu hyd yn oed yn ystod y ‘clo’ llymaf. Mae medru cyrraedd pobl a fyddai efallai yn rhy swil neu nerfus i ddod i oedfa yn yr adeilad od yna sy’n cael ei alw’n gapel wedi profi’n fendith. Wrth gwrs, mae mwy i addoli a gwrando ar Air Duw na gwylio adre’ fel cwsmer Netflix ond mae’n fan cychwyn, ac rydym yn diolch i Dduw am bob cyfle i‘w addoli a rhannu amdano drwy’r cyfryngau technolegol sydd ar gael.
Beth yw eich hoff emyn? Pam?
Er bod tueddiad i feddwl mai mewn ‘emynau go iawn’ y mae gwirioneddau Duw yn cael eu mynegi orau, mae geiriau amryw o ganeuon addoli mwy modern yn fendith ryfeddol. Yn ddiweddar, bu ‘Mor Fawr yw cariad Duw y Tad, ni ellir byth ei fesur’ (cyfieithiad Arfon Jones o ‘How Deep the Father’s Love’) yn serio dyfnder a chost cariad Duw ar ein calonnau. Hefyd, cawsom ein cyffwrdd eto gan eiriau ‘Angor’ (cyfieithiad Cynan Llwyd o ‘Cornerstone’) sy’n gysur pan mae bywyd yn heriol – ‘Pan rwyf yn baglu yn y ras, mi godaf eto drwy ei ras’. Fel dywedodd Paul, ‘Dw i’n hollol sicr y bydd Duw, sydd wedi dechrau gwneud pethau mor wych yn eich plith chi, yn dal ati nes bydd wedi gorffen ei waith ar y diwrnod y bydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl’ (Philipiaid 1:6). Mae dwy neges bwysig yma. Rhaid i ni fyth anghofio am gariad Duw na’i gymryd yn ganiataol ac un rhan o hynny yw bod ganddo waith i’w wneud ynom a thrwom, ie hyd yn oed ni – yn ein gwendid, er mwyn ymestyn ei Deyrnas.