Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

I beth mae’r ymgnawdoliad yn dda?

22 Ebrill 2022 | gan Geraint Lloyd

I beth mae’r ymgnawdoliad yn dda?

Geraint Lloyd

 

Faint o dadau’r Eglwys Fore y gallwch chi eu henwi? Awstin a phwy arall? Faint o weithiau’r tadau rydych chi wedi eu darllen? Ble dylech chi ddechrau? Hoffwn i awgrymu y byddai’n werth i bawb ddarllen un gwaith, sef Ynghylch yr Ymgnawdoliad gan Athanasiws. Gallech chi wneud rhywbeth llawer gwaeth yn ystod y Nadolig tawel sydd o’n blaenau ni. Llyfryn o ryw hanner cant o dudalennau yw hwn, ac mae digonedd o fersiynau ohono ar gael ar-lein – ond am fudd ysbrydol! Yma cewch chi olwg hen a newydd ar Iesu Grist, golwg a allai eich trawsnewid.

Roedd Ynghylch yr Ymgnawdoliad yn rhan o waith helaethach a ysgrifennwyd, yn ôl pob tebyg, tua 318 pan oedd Athanasiws newydd ei urddo yn ddiacon yn eglwys Alecsandria (yn yr Aifft erbyn hyn). Roedd canrifoedd o erlid ar yr Eglwys yn yr Ymerodraeth Rufeinig (yn ddyn ifanc, gwelodd Athanasiws esgob Alecsandria yn cael ei ferthyru) newydd ddod i ben. Nid oedd y dadleuon athrawiaethol a fyddai’n sugno cymaint o egni’r Eglwys yn ystod y canrifoedd dilynol wedi dechrau eto chwaith, ac nid oedd yr Eglwys wedi datblygu’r grym gwleidyddol a fyddai’n > fagl i’w thystiolaeth yn ddiweddarach. Gwelai Athanasiws a’i gyd-gredinwyr, a oedd wedi bod trwy felin gorthrymder, gyfle gyda’r rhyddid newydd i gyhoeddi’r efengyl Gristnogol i bawb. Yn ganolog i’r neges hon roedd Person Iesu Grist.

Byddai’n dda oedi ychydig, felly, gyda’r gwaith hwn er mwyn cadw’n llygaid ar Dywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni. Wrth wneud hynny, rhaid gwylio rhag dau eithaf: naill ai diystyru Athanasiws neu ei ddarllen yn anfeirniadol. Ydy Athanasiws yn dweud y cyfan? Nac ydy, a rhaid gwneud yn fawr o bob cymorth er mwyn adnabod Iesu’n well. Pwy all ddweud y cyfan am ‘anchwiliadwy olud Crist’? Ydy Athanasiws yn anffaeledig? Nac ydy. Rhaid ystyried ei eiriau yng ngoleuni’r Testament Newydd a chyda thystiolaeth Cristnogion yr oesoedd i Grist (1 Thes. 5:21; Actau 17:11). O wneud hynny, daw rhai pethau gwerthfawr i’r amlwg, y mae’n werth i ni graffu arnynt dros y Nadolig wrth ddathlu dyfodiad Crist i’r byd.

Pam y daeth Iesu Grist yn ddyn? Gyda ni, mae Athanasiws yn pwysleisio iddo wneud hyn I’n hachub oddi wrth ein pechodau:
… trigodd [y Gair] yn ein plith ni … er mwyn, ar ôl profi ei Dduwdod trwy ei weithredoedd, y gallai offrymu aberth dros bawb, gan ildio ei deml ei hun i farwolaeth yn lle pawb, i ddileu dyled dyn i farwolaeth a’i ryddhau rhag y drosedd wreiddiol (paragraff 20).
Nodwedd ein cyflwr pechadurus, colledig, yw ein tuedd i greu eilunod a’u haddoli yn hytrach na Duw (cf. Rhuf. 1:19-23). Daeth Mab Duw i fyd felly, ac wrth wneud hynny, mae’n datguddio pedwar peth pwysig amdano ei hun:

  1. Crist yw’r Bywhawr
    Cefndir myfyrdodau Athanasiws yw Ioan 1:1-18, Iesu y Gair tragwyddol a ddaeth yn ddyn. Crist yw awdur bywyd. Oddi yno mae’n edrych at ddechrau’r Beibl, ac yn gweld mai darlun o Grist yw Pren y Bywyd, a gwrthod bywyd Crist a wnaeth Adda ac Efa wrth fwyta’r ffrwyth gwaharddedig.
    … y Gair trwy ei bresenoldeb a’i gariad at ddynoliaeth a alwodd bobl i fywyd, o’r herwydd, o gael eu hamddifadu o fywyd Duw, collasant hefyd fodolaeth … (4).
  2. Crist yw’r Iachawdwr
    Gydag Adda, cwympodd dynoliaeth i bechod a marwolaeth. Er mwyn dadwneud hyn, roedd angen mwy na gair o faddeuant gan Dduw, gan na fyddai hynny’n dileu ei chyflwr marw. Roedd angen mwy nag edifeirwch ar ein rhan ni, hefyd, i roi bywyd i eneidiau meirw. Roedd rhaid i’r Gair ddod yn ddyn a marw er mwyn bywhau dynoliaeth. Dyma’r rheswm, felly, iddo gymryd corff a oedd yn gallu marw:
    Deallai’r Gair na ellid dileu’r llygredigaeth ond trwy farwolaeth; ond ni allai’r Gair farw am ei fod yn anfarwol ac yn Fab y Tad. Dyma paham, felly, y cymerodd gorff a oedd yn gallu marw … er bod yn iawn digonol dros bawb … a rhoi diwedd ar lygredigaeth pawb, trwy ras yr atgyfodiad (9).
  3. Crist sy’n adfer y ddelw
    Daw’r Gair â maddeuant, ond hefyd â bywyd newydd am fod Crist wedi dod yn ddyn ac wedi marw:
    Ni allai dynion [adfer y ddelw] … Daeth Gair Duw ei Hun am mai dim ond Efe a allai ail-greu dyn ar ei ddelw ei hun (13)
    Nod Crist, yn hyn o beth, yw adfer gwir addoliad trwy fynd i’r afael ag eilunaddoliad:
    Roedd dynoliaeth wedi troi o fyfyrio ar Dduw uwchlaw i chwilio amdano … ymhlith pethau creedig a’r synhwyrau. O’i gariad mawr, cymerodd yr Iachawdwr gorff a symud yn ddyn yn ein plith … Daeth yn wrthrych synhwyrau er mwyn i’r rhai a oedd yn ceisio Duw trwy’r synhwyrau ganfod y Tad trwy’r gweithredoedd a wnaeth Gair Duw yn y cnawd (15).
    Trwy ei atgyfodiad, dangosodd Crist ei fod yn drech na marwolaeth gan gynnig bywyd annherfynol i’w bobl (20).
  4. Crist yw canolbwynt y Beibl a sail ein bywydau
    Efallai y byddai llawer ohonom yn cytuno â’r gosodiadau uchod, ond yn dal i deimlo, yn dal i ddyheu, am gael adnabod Crist yn well, gan weiddi bron mewn anobaith:
    ‘O! na chawn ni olwg hyfryd
    Ar ei wedd, Dywysog bywyd…’
    Sut y gallwn ni wneud hynny? Unwaith eto, gall Athanasiws fod o gymorth. Mae ganddo ddau grŵp penodol mewn golwg yn ei waith: yr Iddewon a’r Paganiaid. Pobl grefyddol oedd yr Iddewon, pobl yr Ysgrythurau. Beth oedd apêl Athanasiws atynt? Iddynt chwilio’r Gair, a gweld y Meseia a addawyd yn ei ddioddefaint a’i fuddugoliaeth. Dyna’r wers gyntaf i ni. Os ydym am ddod i adnabod Iesu Grist yn well, bydd angen myfyrio yn y Beibl, yr Hen Destament a’r Newydd, i wneud hynny.
    Ond mae Athanasiws yn cyfarch grŵp arall o bobl, un mwy perthnasol i ni, o bosibl, yn ein sefyllfa secwlar. Roedd dinas ddiwylliedig Alecsandria a’i llyfrgell fyd-enwog, yn un o brif ganolfannau dysg yr hen fyd ac roedd digon o bobl yno yn barod i wfftio neges Athanasiws, fel y gwnaeth eraill i Paul yn Athen (Actau 17:32a). Beth sydd i’w wneud yn wyneb y rhain? Yn sicr, dylem wrando’n ofalus ar y dadleuon a cheisio eu hateb, er mwyn rhoi rheswm am y gobaith sydd ynom. Dyna a wna Athanasiws yn gynnar yn ei draethawd, wrth resymu ynghylch creadigaeth y byd, a dangos gwendidau’r esboniadau athronyddol (paragraffau 2-4). Beth bynnag, wrth gloi ei ymdriniaeth, â i gyfeiriad arall. Mae’n galw ar ei ddarllenwyr dysgedig i gydnabod, er eu holl glyfrwch, eu bod yn addoli eilunod gwag. Fe’u cyfeiria hefyd at gredinwyr yng Nghrist, er mwyn tynnu sylw at effaith Crist ar fywydau’r rhain, sydd wedi eu cystuddio a’u rhoi i farwolaeth yn llawen (roedd erchyllterau cyfnod yr erlid cyn 313 OC yn fyw ar gof pobl o hyd). Bydd adnabod Crist yn golygu cydnabod ôl ei ras ar fywydau eraill. Dyna her, wrth gwrs, yn gyntaf i fyw bywydau sy’n adlewyrchu goleuni Crist (Math. 5:16). Fodd bynnag, dyna anogaeth hefyd i dreulio amser gyda phobl Crist er mwyn gwerthfawrogi’r effaith hon ar eu bywydau, a gweld rhywfaint o ras Crist ynddynt (Eff. 4:11-16; 1 Cor. 12:12-27; Rhuf. 12:3-13). Nid profiad cyfriniol, unigolyddol yw adnabod Crist y Gair sy’n rhoi bywyd, ond un sy’n ein dwyn yn nes at ein gilydd wrth ein dwyn ni ato ef, ac sydd wedyn yn ein gyrru i’r byd yn ei enw ef.