‘…Hyd nes y daw’
Trystan Hallam
‘Ond fel wyt ti’n gwbod ei fod E’n mynd i ddod nôl?’ Cwestiwn Siwan, fy merch wyth mlwydd oed. Onid rhyfedd fel mae plant yn gofyn y cwestiynau y gwnawn ni, fel credinwyr, droi a throsi yn ein meddwl ambell dro. ‘Wel Siwan, mae’r Arglwydd Iesu Grist wedi addo ei fod yn dod yn ôl.’ ‘Ie, fi’n gwbod hynny dad, ond mae cymaint o amser wedi bod.’
Diolch Iddo, tra ar y ddaear, roedd yr Arglwydd Iesu’n deall nid yn unig feddwl petrus plentyn wyth mlwydd oed, ond hefyd yn gwybod am amheuon ei ddilynwyr. Felly, wrth i’r Arglwydd Iesu wynebu’r groes, gan wybod am ansicrwydd ei ddisgyblion mae’n sefydlu Swper yr Arglwydd: bara sy’n arwydd o’r corff a dorrwyd ar Galfaria, gwin sy’n arwyddo’r gwaed. Ond, fel mae’r apostol Paul yn ei ddatgan, nid dim ond edrych ar ddigwyddiad hanesyddol marwolaeth yr Arglwydd Iesu mae’r Swper neu’r Cymun yn ei wneud. Mae’n mynnu ein bod yn edrych ymlaen at y dydd pan fydd yr Arglwydd yn dychwelyd. ‘Oherwydd bob tro y byddwch yn bwyta’r bara hwn, yr ydych yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes y daw.’ 1 Corinthiaid 11:12
Y Cofio Byw
Ydych chi’n berson anghofus? Dwi i wedi colli cyfrif o’r cotiau, bagiau, a’r sawl ymbarél sydd wedi’u gadael ar ôl gen i! Ar ôl i mi adael ystafell mae ’na rywun arall, Katherine fy ngwraig, yn gadael yr ystafell ar fy ôl, i neud yn siŵr fy mod i heb anghofio dim byd! Ond un peth yw anghofio ambell ymbarél, peth arall yw anghofio pwysigrywdd a gwefr croes yr Arglwydd Iesu Grist. Mae’r Arglwydd Iesu’n adnabod ei blant, yn gwybod ein bod ni’n anghofus, a hyd yn oed yn anghofio grym a gwerth ei farwolaeth ar Galfaria. Yn ei ofal drosom ni, fe sefydlodd Swper yr Arglwydd. Wrth gymryd y bara a’r gwin – yn ôl gorchymyn yr Arglwydd Iesu, rydym yn gwneud hyn ‘er cof’ amdano. Yn y swper rydym yn cofio aberth yr Arglwydd Iesu Grist drosom ni sy’n bechaduriaid.
Yn gyffredinol, dyma sut y byddai’r mwyafrif ohonom yn gweld Swper yr Arglwydd, fel cyfle i gofio am farwolaeth yr Arglwydd Iesu Grist. A da yw hynny.
Ond mae ’na gofio a chofio onid oes? “Wnei di gofio rhoi’r golch mlaen? Powdwr ar 40 a swits ymlaen. Gofi di nawr?” Pan fydd fy ngwraig yn gofyn i mi gofio tasgau felly, rhaid i mi gyfadde nad yw’r cofio hwnnw yn fy llanw â brwdfrydedd. Rhyw gofio mecanyddol yw e, rhyw dic mewn bocs ar restr tasgau’r dydd. Blwch dwi’n aml yn methu ei dicio gan fy mod yn aml yn anghofio rhoi’r golch ymlaen! Yn ein traddodiad diweddar efenyglaidd, ai rhyw gofio felly wnawn ni wrth fwrdd y Cymun? Mae’r Cymun yn weithred a gyflawnwn yn ein gweithgaredd eglwysig. Yn ein hawydd cywir i gadw draw rhag gau athrawiaeth Babyddol, sy’n mynnu bod y bara a’r gwin yn ‘troi’ i fod yn gorff a gwaed Crist, rydym wedi setlo mai cofio, a dim ond cofio, a wnawn wrth fwrdd y cymun. Ond a ydym yn euog o droi’r cofio hwn, yn gofio sych, mecanyddol, sydd ar restr ‘gwneud – to-do list’ bywyd yr Eglwys. Gallwn roi tic yn y bocs, rydym wedi cael cymun, ac eto a ydym wedi cofio gwaith yr Arglwydd Iesu Grist go iawn?
Mae ’na fath arall o gofio. Maddeuwch feddwl bachgennaidd/plentynnaidd am funud. Dwi’n cofio tîm rygbi Llanelli, y Sgarlets, yn curo Awstralia yn Nhachwedd 1992. Ys dywed Max Boyce – ‘I was there!’ Bob tro dwi’n cofio’r gêm honno, gyda Ieuan Evans yn croesi am y cais – dwi nôl ym Mharc y Strade, yng nghanol asbri a iâs y dorf. Mae’r cofio yna’n bur wahanol i gofio (neu anghofio!) troi’r golch ymlaen. Yn wir, mae cofio Llanelli yn curo Awstralia yn 1992 yn effeithio ar fy heddiw i. Dwi’n gefnogwr brwd o’r Sgarlets heddiw, ac yfory a thra fydda i ar y ddaear yma, o achos buddugoliaeth ’92. Yn y dyfodol, dwi’n disgwyl ymlaen at wylio gemau’r Sgarlets wrth gofio buddugoliaethau’r gorffennol. Mae’r cofio yn gofio byw, mae’n effeithio ar fy heddiw, ac mae’n effeithio ar fy yfory.
Wrth ddod at fwrdd y Cymun, dydyn ni ddim yn dod at ryw dîm rygbi ceiniog a dime – ond at Fab perffaith Duw a ufuddhaodd i’r Tad wrth farw ar y groes dros bechaduriaid. Rydym yn cofio digwyddiad hanesyddol go iawn. Fe fu farw ar Galfaria. Rydym yn bwyta bara go iawn, yn ei deimlo yn ein dwylo, rydym yn dal cwpan ac yn yfed gwin. Yn y Cymun, wrth fyfyrio ar aberth yr Arglwydd Iesu, drwy rym yr Ysbryd Glân, mae’r cofio yna’n effeithio ar fy mywyd. Mae’n gofio byw. Caf fy atgoffa o’r cariad cyntaf pan wnes i sylweddoli fod yr Arglwydd Iesu wedi marw drosof fi. Caf fy atgoffa bod grym croes yr Arglwydd Iesu’n ddigonol ar gyfer brwydro fel Cristion ddydd Llun, ddydd Mawrth, ddydd Mercher a gweddill yr wythnos. Wrth ddal y bara a’r cwpan o win yn fy llaw, rwy’n cofio nid yn unig i gorff fy Ngwaredwr gael ei dorri ac iddo farw, ond i’w gorff gael ei gyfodi o’r bedd ac iddo esgyn i’r nefoedd yn ogystal. Gan fod y bara a’r gwin yn tystio i gorff toredig, atgyfodedig, esgynedig yr Arglwydd Iesu – gallaf fod yn sicr ei fod yn mynd i ddod yn ôl. Rydym yn bwyta’r bara, yn yfed y cwpan – gan gyhoeddi holl rym marwolaeth yr Arglwydd Iesu – hyd nes y daw. Nid rhyw gofio i dicio bocs, i’w wasgu i mewn i bum munud olaf oedfa yw Swper yr Arglwydd. Drwy rym yr Ysbryd Glân, mae’n gofio byw, yn edrych yn ôl er mwyn edrych ymlaen. Rydym yn edrych yn ôl i Galfaria at yr hwn a’n carodd ac a roddodd ei hun drosom, ac wrth edrych yn ôl, oni ddylem fod ar bigau’r drain, wrth edrych ymlaen at yr Ailddyfodiad i gael ei weld E fel ag y mae.
Realiti’r Ailddyfodiad
Fe gaiff y Cristion weld yr Arglwydd Iesu Grist fel ag y mae. Sut allwn ni fod mor siŵr? Oherwydd mai symbolau sydd yma – ond maent yn symbolau go iawn! Wrth fwrdd y Cymun dyma fara a gwin go iawn, sy’n pwyntio at gorff a gwaed go iawn yr Arglwydd Iesu Grist. Sut mae’r Arglwydd Iesu am i ni brofi a dyfnhau ein profiad o fuddugoliaeth Calfaria? Drwy rym yr Ysbryd wrth i ni wrando ar Air Duw. Ond yn ogystal wrth i’w bobl fyfyrio wrth fwrdd y Cymun. Yno, mae realiti gwaith yr Arglwydd Iesu Grist yn cael ei arddangos o flaen fy llygaid – bara go iawn, cwpan go iawn yn arwyddo buddugoliaeth go iawn dros bechod ar Galfaria. Ond mae Crist yn mynnu mwy gennym wrth i ni ddod at ei fwrdd. Dwi’n profi, yn gweld realiti gwaith y groes wrth ddod at fwrdd y Cymun, ond yn ogystal wrth fwyta bara, wrth yfed gwin – mae realiti’r Ailddyfodiad yn gwawrio o’r newydd arnom. Efallai ein bod yn fodlon gyfforddus wrth edrych yn ôl ar realiti gwaith Crist ar y groes – ond mae realiti gwaith Crist ar y groes yn mynnu ein bod yn edrych ymlaen i sicrwydd a realiti ei Ailddyfodiad. Mae’r bara a’r cwpan go iawn yn tystio i’r realiti go iawn fod yr Arglwydd yn mynd i ddychwelyd. Mae’r Swper ‘..yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes y daw.’ Mae Ef am i ni fwyta a chofio gan edrych ymlaen i weld ein Gwaredwr yn dychwelyd.
‘Ond dad, fel wyt ti’n gwybod ei fod yn mynd i ddod yn ôl?’
‘Siwan fach, edrych ar y bara, edrych ar y gwin. Ydyn nhw yma go iawn? Mae e’n dod yn ôl.’